Streiciwch, Meddiannwch, Gwrthsafwch!

Cafwyd tipyn o weithgarwch a phrotest yn Ne Cymru dros yr wythnos diwethaf – digon i warantu crynodeb radical arall!

Streic y Fenyw yn picedi

Ar ddydd Gwener yr 8fed o Fawrth, Diwrnod Rhyngwladol y Fenyw cafwyd piced tu allan i’r ganolfan swyddi ac yna rhaglen o weithgareddau a pherfformiadau radical gan Streic y Fenyw yng Nghaerdydd. Mae Streic y Fenyw yn fudiad sydd yn brwydro cyfalafiaeth a phatriarchiaeth fel ei gilydd. Gan fod llafur di-dâl menywod ac eraill “di-waith” yn rhan annatod o’r system elw, gall streic gan fenywod gwrthdroi’r system. Targedwyd y ganolfan swyddi am fod bolisiau crintachlyd megis “universal credit” yn cwtogi arian y di-waith, gan greu dlodi, dyled a phoen.

StreicyFenywCaerdydd2019
Piced Streic y Fenyw tu allan i’r ganolfan swyddi, Caerdydd

“XR” Caerdydd ar y strydoedd

Y diwrnod nesaf, Sadwrn , dyma “Extinction Rebellion” Caerdydd yn denu nifer i’r strydoedd i blocio hewlydd mewn protest dros yr amgylchedd. Bu dipyn o feirniadaeth o hierarchiaeth XR yn ddiweddar oherwydd eu cydweithrediad naïf â’r heddlu ac am eu… hierarchiaeth. Eto, da gweld y fath weithredu uniongyrchol gan gynifer o bobl frwdfrydig.

XRCaerdyddMawrth2019.jpg
XR Caerdydd yn cymryd stryd y Santes Fair, Caerdydd

 

Protestwyr yn meddiannu swyddfa’r BBC

Ar ddydd Llun yr 11eg dyma ymgyrchwyr dros ryddid Cwrdaidd, a rhyddid i’r carcharwr gwleidyddol Abdullah Öcalan, yn meddiannu mynedfa swyddfa’r BBC yn bae Caerdydd am rai oriau yn dilyn protest tu allan i’r Senedd. Cyflawnwyd y gweithred i brotestio’r diffyg sylw llwyr gan y BBC i frwydrau’r ymgyrchwyr yn ddiweddar, yn enwedig ympryd Imam Sis. Bu Imam Sis, Cwrd yng Nghasnewydd ar streic newyn ers dros 90 diwrnod nawr. Ar ddiwedd mis Chwefror ymunodd nifer eraill gydag ef – rhai yn y ganolfan Cwrdaidd yng Nghasnewydd ac eraill o bell – am ympryd o 24awr mewn solidariaeth.

MeddiannuSwyddfaBBCyBaeMawrth2019
Yr heddlu yn ceisio yn ofer i symud y protestwyr o swyddfa’r BBC yn y Bae

Gwerin Guildford: trech sgwotio na foneddigeiddio!

Ar ddydd Iau cyhoeddodd anarchiaid “Gwerin Guildford” eu bod wedi meddiannu hen bar y Gwdihw ac adeiladau cysylltiedig yng nghanol Caerdydd. Ar ddiwedd mis Ionawr fe drowyd y bar amgen, bwytai teuluol allan o’r Guildford Crescent gan y perchnogion, sydd am ddymchwel y cilgaint (teras hyna Gaerdydd) er mwyn creu fflatiau costus ac elw hawdd. Bu brotestiadau mawr dan faner #SaveGuildfordCrescent yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae cais i restru’r adeiladau hanesyddol gyda Cadw. Er i’r datblygwyr, addo i’r cyngor y fyddant yn gohirio dymchwel y cilgaint, dengys cyfathrebiad llys yn sgil y meddiant eu bod mewn gwirionedd ar fin eu dymchwel. Nid yw’n syndod bod landlordiaid am ennill arian heb os am ein hetefeddiaeth nag anghenion cyffredin. Dim ond gweithredu uniongyrchol gall atal boneddigeddio ein dinasoedd, sicrhau bod tai i bawb ac amddiffyn ein diwylliant.

GuildfordPeasants
Anarchiaid Gwerin Guildford yn ei sgwot newydd

Bydd achos llys y sgwot ar Ddydd Iau y 21ain. Galwyd am brotest dros gadw ‘r cilgaint ar yr un diwrnod, Guildford Crescent, am 11.30am. Solidariaeth!

Yr ifanc yn streicio eto

Yn olaf, dydd Gwener diwetha cafwyd streic addawol arall dros yr hinsawdd. Gadawodd plant a phobl ifanc eu hysgolion led-led Cymru a’r byd, llaw yn llaw gyda myfyrwyr a chefnogwyr, gan brotestio tu allan i adeiladau llywodraethol. Buon nhw’n galw unwaith eto i’r wladwriaeth cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifri ac atal tranc ein byd. Yng Nghaerdydd martsiodd dros 600 o bobl ifanc o Neuadd y Ddinas i’r Senedd, yn Abertawe martsiodd dros 100 i Neuadd y Cyngor, a chafwyd hefyd protestiadau angerddol er gwaetha’r tywydd yn Llangefni, Machynlleth, Aberystwyth, Llandrindod a Hwlffordd. Megis streic y fenyw, mae streic yr ifanc yn dangos sut gall weithredu amgen mentro trawsnewid ein byd.

StreicyrifancAberystwythMawrth2019
Streic yr ifanc dros yr hinsawdd yn Aberystwyth

Os oes gennych chi newyddion, digwyddiad, stori neu glecs i anarchwaethus rhannu, cysylltwch! Da ni’n chwilio yn enwedig am fwy o adroddiadau radical o Ogledd a Gorllewin Cymru.

Dydd Gwener o Gynnwrf: peth newyddion diweddar

Cafwyd tipyn o gynnwrf yn Ne Cymru Dy’ Gwener diwethaf. Dyma golwg bach (a barn anarchwaethus, wrth reswm!).

Cwrdiaid yn martsio er gwaetha hiliaeth

Prynhawn y 15fed o Chwefror cyrraeddodd gorymdaith o bobl Cwrdaidd a’i chefnogwyr De Cymru. Martsiant o Fryste y diwrnod hwnnw, ac o Lundain dros y dyddie cynt, er mwyn ymweld ag Imam Sis, un o drigolion Casnewyd. Bu Imam Sis yn ymprydio ers sawl wythnos, mewn protest yn erbyn carchariad a chamdriniaeth yr arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan gan y wladwriaeth Dwrcaidd.

HeddluymosodCwrdiaidCasnewyddChwefror2019
Yr heddlu yn ymosod yn dreisgar ar brotestwyr Cwrdaidd yng Nghasnewydd

Wrth gyrraedd y dre, cafwyd croeso tresigar gan heddlu De Cymru, a ymosododd yn ddi-rybudd ar y dorf. Cymhellwyd eu gweithredoedd gan hiliaeth amlwg yn ôl protestwyr. Er gwaetha’r orthrwm, cyrraeddodd y dorf eu cyrchfan lle areithiodd Imam Sis ac eraill.

Mae hyn yn dilyn protest mawr gan ymgyrchwyr Cwrdaidd tu allan i’r Senedd ar y 5ed o Fawrth.

Plant yn streicio yng Nghaerdydd ac Abertawe

Ar yr un Gwener fe gafwyd streic rhyngwladol dros yr hinsawdd gan blant a phobl ifanc. Gadawodd plant ysgol a myfyrwyr coleg a phrifysgol eu hastudiaethau mewn protest yn erbyn niwed cyfalafiaeth i’n byd a’r hinsawdd. Fel pob camdriniaeth, mae’r niwed hyn yn gysylltiedig i bwer hierarchaidd oedolion dros blant – system oedolion, a’r hen genedlaethau, sydd yn lladd ein cartref naturiol. Braf gweld plant wrth flaen y gad felly yn herio’r drefn. Cronnodd cannoedd o blant a’u cefnogwyr i brotestio tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd; protestiodd eraill ar draeth Abertawe ac ar Gampws Singleton y prifysgol.

Da i glywed am ddoethineb cymaint o’r plant wrth iddynt ddewis beidio siarad na chyd-weithio â’r heddlu. Yn Llundain, cafwyd digwyddiadau treisgar wrth i’r heddlu arestio plant am brotestio a gyrru fan i mewn i’r dorf. Fel dengys hyn a phrofiad y Cwrdiaid yng Nghasnewydd, ni ellid ymddiried yn y fath sefydliad haerllug, ac nid ydynt yn ffrindiau i neb sydd yn brwydro dros ryddid.

Gigio dros Gymru rydd yng Nghaerdydd

Ar noswaith yr un Gwener cafwyd gig dros Gymru annibynnol, radical, yng Nghaerdydd, dan faner GellirGwell gan sawl artist blaengar. Yn debyg i lawnsiad mudiad neywdd Undod, mae’n braf i glywed mwy o son am ba fath o Gymru rydd rhydym am ei gweld – un gwrthffasgaidd, un gwrth-gyfalafol, un ffeminyddol. Datganiad gwag yw “annibyniaeth” heb sylwedd radical. Hebddi, fel rhybuddiodd y chwyldroadwr Gwyddelig James Connolly, cawn ein dal gan dannau imperialaeth yr un fath.

Yn ôl pob son roeddd hi’n gig gwerth chweil. Wrth gwrs, mae angen y fath cwnnwrf diwylliannol dros Gymru gyfan, yn ein cymunedau – ac heb docynnau prin na chostus.

Digwyddiadau ar y gweill

  • Mae Streic y Fenyw Cymru yn trefnu llond ddwrn o ddigwyddiadau radical ar yr 8fed o Fawrth, Dydd Rhyngwladol y Fenyw, yng Nghaerdydd.
  • Ar yr 12fed o Fawrth yn Abertawe, a’r 14eg o Fawrth yn Llandudno, mi fydd y llywodraeth yn ceisio cynnal cyfarfod am dwmpio gwastraff niwclear yn ein cymunedau. Mi fydd brotestiadau!
  • Galwyd am streic arall gan yr ifanc yn erbyn newid hinsawdd ar y 15fed o Fawrth.

Cofiwch, os oes gennych chi newyddion am digwyddiad radical a fu neu a fydd, rhowch wybod!

Chwalwch drawsffobia

Diwedd mis Ionawr ceisiodd ymgyrchwyr gwrth-draws “ReSisters” lledu casineb yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Tonypandy a Sir Gâr. Gosodwyd crysau-T ar gerflunnau gyda neges oedd yn ceisio mynnu nad yw menywod-traws yn fenywod “go-iawn”.

Dyma ideoleg Ffeminyddion Trawsffobaidd [“Trans Exclusionary Radical Feminsts“], sydd yn cam-gyhuddo menywod-traws o fod yn ddynion ac yn dreiswyr peryglus. Yn wir, mae nifer o Ffeminyddion Trawsffobaidd yn diffinio trawsnewid rhyw fel fath o “drais” rhywiol yn ei hun. Maent yn ceisio atal pobl draws rhag derbyn y gwasanaethau meddygol sydd eu hangen arnynt, ac yn ceisio anfon carcharwyr sydd yn fenywod traws i garchardai gwrywaidd lle gaiff nifer uchel ohonynt eu lladd. Maent hefyd yn hiliol anwybyddu bodolaeth pobl brodorol nad ydynt yn rhan o ddiffiniadau untu [“cis”] Gorllewinol o rywedd, yn gormesu pobl rhyngrywiol [“intersex“] nad ydynt wedi eu geni gyda organau rhyw “normal” ac o blaid carcharu gweithwyr rhyw. Yn fyr, dyma bobl untu breintiedig sydd yn ceisio amddiffyn eu braint. Nid ydynt yn ffeminyddion na chwaith yn radical, ac nid oes lle amdanynt yng Nghymru.

Mewn gwirionedd, mae pobl draws, a menywod traws yn enwedig, yn dioddef erlyn ac ymosodiadau dyddiol ar y stryd, y cartref, y gweithle, wrth geisio defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ac wrth groesi ffiniau. Roedd menywod traws, megis Sylvia Rivera a Marsha P. Johnson ar flaen-gad terfysg Stonewall yn 1968 a’r mudiad dros hawliau hoyw a lesbiaidd, er i’r mudiad hynny ceisio eu di-arddel yn y ’70au. Erys pobl draws ar flaen-gad y brwydr yn erbyn patriarchiaeth. Ers terfysg Stonewall bu rhai buddugoliaethau i bobl draws yn y Gorllewin, ond yn ddiweddarach gwelwyd atgasedd trawsffobaidd (yn debyg i drais asgell-dde) ar gynydd. Nid yw’r brwydr ar ben.

Ta beth, yn ôl llun a anfonwyd at anarchwaethus, ni pharodd y rwtsh am hir.

Chwalwchdrawsffobia
Llun o faner a chrys-T, oedd yn ceisio cyfleu neges trawsffobaidd, a anfonwyd at anarchwaethus

Chwalwch drawsffobia, chwalwch batriarchaeth x

Eich Newyddion Gwrth-ffasgaidd Lleol

Gwelwyd tipyn o weithredu ffasgaidd a gwrth-ffasgaidd yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf. Dyma’r diweddara i chi gyd.

Ffeministiaid yn cwffio’r DFLA

Ar y 13eg o Hydref, teithiodd ffeministiaid Streic y Fenyw Cymru o Gaerdydd i wrthwynebu gorymdaith y DFLA hiliol yng nghanol Llundain.

Mae’r “Democratic Football Lads Alliance” yn grwp newydd Islamoffobaidd, hiliol, asgell-dde-pell. Maent yn ymosod ar Fwslemiaid yn rethregol ac yn ffisegol, ac yn cynnwys nifer o ffasgiaid craidd-galed – fath o English Defence League newydd. Mae ganddynt grŵp yng Nghaerdydd ac Abertawe – a deithiodd i’r gorymdaith yn Llundain.

DraigGwrthffasgaidd
Yr “Unity Demo”: gwrth-brotest effeithiol yn erbyn y DFLA yn Llundain, Hydref 2018

Llwyddodd y gwrth-brotest, a arweiniwyd gan fenywod a phobl di-ddeuaidd, i rwystro llwybr y ffasgiaid am gyfnod. Roedd y “bloc” o dros fil o bobl llawn bywiocrwydd bomiau mwg, systemau sain a bwyd rhad ac am ddim, wedi’u amddiffyn gan faneri chadarn ar bob ochr. Talwyd y pwyth yn nol i’r DFLA am y tro gyntaf a difethwyd ei honiad ei bod yn “amddiffyn menywod”.

Generation Identity yn ffoi rhag pêl-droedwyr sosialaidd Wrecsam

Tra bo’r DFLA yn ceisio ennill aelodau o gefnogwyr (gwrywaidd) pêl-droed, mae PartisansWrecsam yn llwyddo i fagu ysbryd tra-wahannol yn y standiau. Dyma grwp gweriniaethol, sosialaidd a Chymreig sydd am weld pel-droed go-iawn a Chymru rydd. Yn ddiweddar gwelwyd grwpiau newydd o gefnogwyr dros annibyniaeth yng Nghymru – ond PartisansWrecsam sydd yn arwain y ffordd a’u safiad gwrth-gyfalafol a gwrth-ffasgaidd.

CefnogwyrWrecsamynerbynFfasgaeth
Cefnogwyr Wrecsam yn arwain y ffordd

Ar y 27ain o Hydref ceisiodd “Generation Identity”, grŵp newydd o ffasgiaid ifanc, ymweld a Wrecsam. Tu ol i’w geirfa rhyfedd, dyma gyfundrefn goruchafol-wen sydd am droi Ewrop yn ardal i wynion yn unig. Roeddent am fachu cefnogaeth trwy roi bwyd i’r di-gartref gwyn eu croen (ceisiodd y DFLA dric propaganda tebyg yng Nghastell Nedd yn ddiweddar). Dyma weithred unigol, di-sylwedd, sydd yn ecsbloetio’r di-gartref er mwyn smalio eu bod yn waredwyr. Wrth reswm, maent yn ymosod ar ffoaduriaid di-gartref ac yn bwrpasol anwybyddu gwraidd y broblem: y landlordiaid sy’n ein ecsbloetio, y torriadau i’n wasanaethau cyhoeddus a benefits a’r cynifer o dai gwag (gan gynnwys tai haf) sydd yng Nghymru.

Ta beth, nid oedd Generation Identity yn y dre am hir. Cawsant eu gwrthwynebu gan werinos o BartisansWrecsam a thrigolion asgell-chwith eraill – ac i bob golwg gadawyd iddynt dosbarthu eu bwyd pitw cyn eu di-arddel o’r fan. Da iawn!

Prydeinwyr unig “UK Unity”

Ar y 10fed o Dachwedd ceisiodd y grwp “UK Unity” cynnal protest yng nghanol Caerdydd. Ar y golwg gyntaf dyma gyfundrefn o Brydeinwyr rhonc sydd yn obsesiynnu am Brecsit. Ond os grafwch ychydig fe welwch eu bod yn barhaol lladd ar fewnfudwyr a Mwslemiaid ac yn arddel eithafwyr fel Tommy Robinson. Maent yn debyg iawn felly i’r “People’s Charter” (a gynhaliodd “rali” o ryw deuddeg yn y Bae ym mis Ionawr) a’r “Democratic Veterans Party” (sydd yn denu cyn-gwleidyddion UKIP yn Ne Cymru) a “For Britain” (a ddosbarthodd deunydd yn Abertawe ym mis Medi).

Er nad ydynt yn ffasgiaid plwmp a phlaen, mae’r fath gyfundrefnau newydd yn adlewyrchu y symudiad gyffredinnol at yr asgell dde, at Brydeindod, Islamoffobia a hiliaeth. Wedi’r cyfan, mae nifer o bwyntiau maniffesto y BNP nawr yn bolisiau swyddogol y llywodraeth (a dydi Llafur ddim yn bell tu ôl). Pryder arall yw bod y fath grwpiau’n gallu creu gwagle unedig rhwng yr asgell dde galed  a ffasgiaid eithafol – gwelwyd rhain oll ar rai o orymdeithiau y DFLA yn Llundain, er enghraifft.

Peth braf oedd gweld cyn-lleied ohonynt yng Nghaerdydd felly, a neb o’r grwpiau fwy eithafol – efallai o ganlyniad i dorf mawr o gwrth-ffasgiaid yn dwyn lleoliad ei rali. Roedd yr hen unigolion yn llai eithafol na rethreg y wefan ganolog, ond dilynwyd nhw trwy’r ddinas beth bynnag gan ymyrru ar ei allu i ledu propaganda. Arbennig.

“Tommy Robinson” yn bwlio athrawon ysgol yn Abertawe

Yng nghanol mis Tachwedd, ceisiodd Stephen Yaxley-Lennon (a adwaenir fel “Tommy Robinson”) a’i mêts bygythio athrawon Ysgol Gyfun Gellifedw. Honnodd Lennon i’w enw cael ei gymryd oddi ar boster gwrth-fwlio yn yr ysgol. Brifwyd Tommy druan, ac annogodd ei gefnogwyr i erlid athrawon a chyfryngau cymdeithasol yr ysgol, gyda nifer ohonynt wedyn yn postio bygythiadau o drais arlein. Gadawyd arwydd o blaid Lennon tu fas i’r ysgol.

Tommydrist
Tommy Robinson ar ôl iddo glywed ni fydd ei enw ar boster gwrth-fwlio Ysgol Gyfun Gellifedw

Mae Yaxley-Lennon yn gyn-aelod o blaid Natsiaidd y BNP, yn gyn-arweinydd yr English Defence League hiliol ac nawr ar gyflog UKIP. Chware teg i safiad yr athrawon – does dim lle iddo ef na’i syniadau hiliol yn ysgolion Cymru. Tommy cer i grafu!

Ffasgiaid eithafol, Gwrth-ffasgiaeth Gymunedol

Yn olaf, mae’n bwysig i nodi bod ffasgiaid eithafol yn byw ac yn cynllunio yng Nghymru fach. Arestiwyd rhai o “System Resistance Network” eleni am bosteri a graffiti yng Nghaerdydd ac ymgais Austin Ross i losgi ysgol yng Nghasnewydd. Datguddiodd y cyfryngau fod Ben Raymond (a than yn ddiweddar, Alex Davies), cyn-arweinwyr “National Action” – grwp treisgar Neo-Natsïaidd – yn byw yn Abertawe. Rhai misoedd yn ol carcharwyd Mikko Vehvilainen, aelod arall o “National Action” a milwr yng ngwersyll Pontsenni oedd yn berchen ar arfau a maniffesto y llofruddiwr ffasgaidd Anders Brevik. Bwriad Vehvilainen oedd creu pencladys i wynion yn unig yn Llansilyn, lle mae’n berchen tŷ. Ym mis Mehefin postiodd dyn o’r enw David Lewis o Gaerdydd bygythiadau gwrth-Fwslemaidd a llun o sawl gyllell gerllaw pamffled “Britain First”. Mae’n debyg nid ef yw’r unig dyn yng Nghymru sy’n agos i efelychu gweithredoedd erchyll Darren Osbourne, y dyn o Gaerdydd a fu’n gyfrifol am ladd sawl Fwslim yn Llundain llynedd.

ArfauVehvilainen
Rhai o’r arfau a darganfuwyd mewn tai y ffasgydd Mikko Vehvilainen

Ni fydd yr heddlu na’r garchardai yn atal ffasgiaeth . Dyma sefydliadau sydd, wedi’r cyfan, yn systemataidd hiliol yn ei ffordd ei hun, ac sy’n ddigon barod i ddefnyddio grwpiau ffasgaidd i’w dibenion. Gall ffasgiaid parhau i drefnu a chynllunio yn y carchar, a fyddant ar y strydoedd eto ymhen rhai blynyddoedd. Magu ffasgiaeth wna’r wladwriaeth “ryddfrydol” a’r system gyfalafol. Ni allwn eu defnyddio am y dasg sydd o’n blaen – na, rhaid creu mudiad gwrth-ffasgaidd yn ein cymunedau. Rhaid hefyd creu mudiadau gwrth-gyfalafol, gwrth-hiliol a gwrth-Brydeinig, i ddatrys y problemau mae ffasgiaid yn ecsbloetio a chwalu’r sefydliadau sydd yn sylfaen i’w nerth. Dyma’r her i bawb sydd am Gymru rydd.

GwrthffasgiaidCymru

Os oes gennych chi wybodaeth ar weithgaredd ffasgaidd yng Nghymru, cysylltwch ag anarchwaethus.

Streic y Cludwyr a Streic y Fenyw!

StreicyCludwyrCaerdydd
Streic y Cludwyr yng Nghaerdydd, 4ydd o Hydref

Â’r Hydref yn ei anterth, dyma gwmnïau cludo UberEats a Deliveroo yn medi’r hyn a heuant.

Rhaid i weithwyr y cwmnïau hyn, sydd yn cludo prydiau bwyd-barod o fwytai i gwsmeriaid, gweithio am gyflogau isel (yn aml ‘mond £3-4 yr awr), oriau bregus ac amodau danderus. Trwy honni bod eu gweithwyr yn hunan-gyflogedig mae’r cwmnïau (sydd yn cyflogi trwy apiau ffôn symudol) yn ceisio osgoi talu aswyriant a phensiwn drostynt ac atal hawliau undebol, fel rhan o’r hyn a elwir yr “economi gig”. Ond mae gweithwyr cludo yng Nghaerdydd wedi codi stwr am eu problemau dros y fisoedd diwethaf.

Ar ddiwedd mis Awst, dechreuodd rhai o gludwyr Romanaidd Caerdydd ar streic wyllt (wildcat, sef streic digymell, answyddogol) dros amodau a diffyg gwaith ac ymunodd eraill yn gloi. Ar y 3ydd o Fedi, ceisiodd UberEats cynnal cyfarfod a’r gweithwyr. Wedi cael hen digon o drafod di-bwynt ac yn gweld y cynnig gwag fel yr hyn yr oedd, sef ymgais i gostegu’r aflonyddwch, aeth ddim un gweithiwr i’r cyfarfod. Yn lle, ymgasglodd y gweithwyr, trwy Couriers Network Cymru, tu allan i swyddfa UberEats yn Neptune Court, Caerdydd. Mae’r Couriers Network Cymru yn rhwydwaith o gludwyr sydd wedi bod yn weithgar dros y misoedd diwethaf, ac wedi’u cefnogi gan undeb Gweithwyr Diwydiannol y Byd (yr IWW). Cafwyd protest llawn angerdd a bomiau mwg lliwgar, a mynnodd y cludwyr i’w cynrychiolydd o’r IWW gael rhoi eu gofynion i’r goruchwylwyr. Bu warchodwyr diogelwch preifat yn bresennol o’r dechrau, ac hwyrach gawlyd heddlu arfiog i’r fan, ond ar ôl sylwi na fydd y gweithwyr yn symud, caniatawyd o’r diwedd i’r cynrychiolydd dod i mewn i siarad

DeliverooGweithwyrRhyw
Cwmni rhagfarnllyd Deliveroo yn ceisio (ond yn methu) atal gweithwyr rhyw rhag defnyddio’r gwasanaeth

Yn hwyrach ym mis Medi, dyma gwmni Deliveroo yn ceisio atal eu gweithwyr rhag cludo bwyd i weithwyr rhyw – ond yn dilyn pwysau o weithwyr trwy yr IWW ac undeb United Voices of the World llwyddwyd i wrthdroi y gofyniad rhagfarnllyd. Yn y cyfamser, ni welwyd dim gwelliant i sefyllfa gwaith y cludwyr – i’r gwrthwyneb, roedd “algorithmau” UberEats yn rhoi llai o dâl, oedd i bob golwg yn ymgais i gosbi’r gweithwyr am geisio ymdrefnu. Bu weithgaredd cyffroes Couriers Network Cymru yn sbardun i gludwyr mewn dinasoedd eraill. Galwyd felly am streic dros yr ynys ‘oll ar y 4ydd o Hydref, â chludwyr Caerdydd ar flaen y gad.

Roedd y streic yn esiampl o weithgaredd pwerus ac unedig gan weithwyr ac undebau ar lawr gwlad, gyda chludwyr mewn 10 dinas yn y DU yn ymuno. Bu gynnwrf a streiciau eisoes gan gludwyr Deliveroo ac UberEats, yn y DU a thu hwnt, ond dyma ddigwyddiad hanesyddol o ran cyd-streicio mewn amrywiaeth o ddinasoedd. Trefnwyd streic y cludwyr i gyd-fynd â streicio mewn bwytai McDonalds, Wetherspoons a TGI Fridays yn Lloegr, a gydlynnwyd gan weithwyr annibynnol, War on Want, McStrike ac undebau Unite, IWGB, yr IWW a BFAWU (undeb y pobyddion). Dyma streic #FFS410 (Fast Food Shut Down) felly, oedd yn mynnu £5 am bob gludiant ac £1 y milltir i’r cludwyr, a £10 yr awr i’r gweithwyr bwytai. Yng Nghymru, cafwyd protestiadau mewn solidariaeth yn Wrecsam ac Abertawe, a gorymdaith stwrllyd gan gludwyr yng Nghaerdydd. Mae’r brwydr yn parhau!

Os ydych yn gluduwr gydag UberEats neu Deliveroo yng Nghymru, neu eisiau cyfrannu i’r brwydr, cysylltwch â couriers.cymru[at]iww[dot]org[dot]uk

 


Tra bo cludwyd yn streicio, bu gyfundrefn newydd yng Nghaerdydd yn streicio nôl yn erbyn ffasgiaeth.

Mae Streic y Fenyw Cymru yn fudiad ffeminyddol newydd, sydd yn adeiladu am streic cymdeithasol rhyngwladol ar yr 8fed o Fawrth (diwrnod rhyngwladol y fenyw) ac yn sefyll dros ryddid i bobl draws a gweithwyr rhyw. Maent wedi bod yn brysur trefnu coets o Gaerdydd i Lundain i brotestio yn erbyn gorymdaith gan y DFLA hiliol ar y 13eg o Hydref.

Mae’r Democratic Football Lads Alliance, sef grŵp asgell-dde eithafol, Islamoffobaidd, yn ceisio ennill troedle yn Ne Cymru. Mae ganddynt grwpiau yn Abertawe a Chaerdydd, a chynaliant gyfarfod cudd gydag Anne Marie Waters, goruchafwr gwyn ac arweinydd ForBritain, yn Abertawe ar y 30fed o Awst. Er gwaethaf ei smalio, dyma fath o EDL 2.0 – grŵp treisgar sydd wedi ymosod yn ffisegol ar unigolion ac adeiladau Mwslemaidd, undebwyr llafur a siopiau llyfrau asgell chwith. Wrth i Frecsit cerdded ymlaen ac ymosodiadau y llywodraeth ar ffoaduriaid, mewnfudwyr a’r cenhedlaeth Windrush parhau, mae’r ffasgiaid yn ymhyderu. Roedd gorymdeithiau y DFLA a “Free Tommy Robinson” (cyn arweinydd yr EDL, ac un o arweinwyr newydd y DFLA) yn Llundain dros yr haf yn y digwyddiadau asgell-dde pell mwyaf yn y DU ers yr ail ryfel byd. Rhaid eu gwrthwynebu, a gwych yw gweld ffeminyddion yn arwain y ffordd.

Bydd coets Streic y Fenyw yn gadael Caerdydd bore dydd Sadwrn, ac mae llefydd ar gael o hyd. Dewch yn llu!

Digwyddiad facebook fan hyn: https://www.facebook.com/events/305464676915423/

Am fanylion pellach ebostiwch: womensstrikecymru[at]riseup[dot]net

 

WSTrilingualFront

WSTrilingualBack

 

“Taith Na i Garchardai Gwenwynig”

https://noprisonsdecymru.noblogs.org/post/2017/09/15/end-toxic-prisons-tour-taith-na-i-garchardai-gwenwynig/

“Dros yr Hydref bydd Campaign to Fight Toxic Prisons o’r UDA yn teithio’r DU gyda Community Action on Prison Expansion.

Ledled y byd mae carchardai yn niwediol yn gymdeithasol ac ecolegol. Bu pobl gyffredin o’r UDA yn trefnu gwrthwynebu carcharu torfol a difrod amgylcheddol fel ei gilydd, gan lwyddo i ohirio adeiladu’r unig garchar ffederal am dros ddwy flynedd!

Trwy drefnu ar lawr gwlad, dadlau a gweithredu’n uniongyrchol maen nhw wedi herio’r system garchardai, system sy’n rhoi carcharorion mewn amodau amgylcheddol peryglus, ac sydd hefyd yn ergyd i gymunedau ac ecosystemau cyfagos, wrth eu hadeiladu a’u gweithredu.

Dewch i ddysgu am eu strategaeth a’u tactegau, yn ogystal ag am y brwydrau ehangach i ddymchwel y carchardai, gwrth-hiliaeth, y frwydr ddosbarth a chyfiawnder amgylcheddol.

Yn dilyn hyn rhennir gwybodaeth am wrthwynebiad i’r chwech arch-garchar newydd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys yr arch-garchar newydd sydd yn cael ei gynllunio ar gyfer Port Talbot. Cynllunnir y carchardai yma yn y DU ar gyfer safleoedd gwenwynig, rhai’n cynnwys llygredd ymbelydrol a llygredd asbestos, a bydd cynefinoedd anifeiliaid yn cael eu dinistrio ar bob safle yn ogystal.

Dewch i glywed sut i gymryd rhan!

Digwyddiadau:

Caerdydd – 29ain o Fedi 2017

7pm-9pm
Connect Language School
Llawr gyntaf, 26-28 Churchill Way, Caerdydd CF10 2DY
Digwyddiad Facebook: https://www.facebook.com/events/129793397664005/

Port Talbot – 30ain o Fedi 2017

10.30pm-12.30pm
Aberavon Beach Hotel, SA12 6QP
Digwyddiad Facebook: https://www.facebook.com/events/116023012410416/

Abertawe – 30ain o Fedi 2017

7pm-9pm
Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, SA1 1RY
Digwyddiad Facebook: https://www.facebook.com/events/115834292452554/

Calan Mai Cymru Lonydd

Difeth irgyrs a dyfai / dyw Calan mis mwynlan Mai.

Mis Mai, Dafydd ap Gwilym

Ers terfysgoedd Haymarket bu’r Cyntaf o Fai, May Day, yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Anarchyddion oedd merthyron helynt yr Haymarket, Chicago 1886, ond dathlir gan fudiad y gweithwyr yn ei grynswth.

Mae gan Galan Mai arwyddocâd fel gŵyl Gymreig werinol yn ogystal wrth gwrs. Dyma ddechrau’r Haf a nodwyd gan ddawnsio a cherddoriaeth stwrllyd. Cafwyd “full week of Noise and Riots” yn Sain Ffagan yn ôl dyddiadur un Williams Thomas o’r 18fed ganrif, wrth i frodorion hwylus amddiffyn eu Bedwen Fai rhag pentrefi eraill â drylliau a chlybiau![1] Dyma hefyd diwrnod y Gadi Haf, fath o drawswisgwyr i’n golwg ni oedd yn “troi y byd ar ei ben” yn y rhialtwch – traddodiad a gysylltir hefyd i wrthryfel o Ferched Beca hyd at anghydfodau gweithwyr diwydiannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.[2] Dyma ŵyl y gweithwyr a’r werin felly, gŵyl ryngwladol a Chymreig.

 

Y Fedwen Fai yn Llangwm, 1920. Lle na laddwyd y traddodiad gan y Capeli, fe laddwyd yr elfennau cythryblus gan ei droi yn ŵyl barchus, fel tystia’r llun uchod. Yn debyg, ceisia’r pwerau y sydd tawelu aflonyddwch May Day. Yn wir – cynigodd y Torïaid disodli Gŵyl y Banc May Day am ddiwrnod o “Brydeindod”.

 

Ar Galan Mai pob blwyddyn ceir gorymdeithiau a therfysgoedd, anghydfod a streiciau ar hyd y byd grwn, ac nid oedd 2017 yn wahanol. Ond eleni cymharol lan a lonydd oedd Cymru fach.

Cafwyd rali a drefnwyd gan y Cardiff Trades Council yng Nghaerdydd dydd Sadwrn. Ymunwyd yr undebau sefydliadol am gyfnod gan “bloc syndicalaidd” undeb radical yr IWW, ond dawel a chymharol bychan oedd yr orymdaith o ryw gant o bobl heb fawr yn digwydd tu hwnt i areithiau. (Cyfraith a threfn, wedi’r cyfan, yw nôd trefnwyr y TUC, uwch gyfundrefn Cardiff Trades Council.) Yn hwyrach yn y prynhawn cafwyd protest mwy – miloedd yn ôl yr Wales Online – dros yr ymgyrch Save Womanby Street. Wedi i Dempseys a’r Full Moon cau a chynlluniau ymddangos dros ddatblygu gwesty Wetherspoons a fflatiau mae stryd gerddorol Womanby (sy’n gartref i Glwb Ifor Bach) dan fygythiad. Ond eto, areithiau gan wleidyddion oedd prif ffocws yr orymdaith i bob golwg, a’i lobio nhw yw prif dacteg yr ymgyrch. Yn y pen draw, boneddigeiddio sydd yn bygythio diwylliant Caerdydd a’u trigolion dosbarth-gweithiol a lleiafrifoedd ethnig. Er gwaetha eu smalio popiwlaidd, complisit yw’r gwleidyddion yn y broses hon. Gall ofyn gwleidyddion yn serchus a gorymdeithio’n taeog “achub” un stryd neu’r llall (a’u “achubiaeth” bydd Womanby costus, upmarket?), ond ni fydd yn atal boneddigeiddio.

Ar y dydd Llun cafwyd rali May Day hynod o fach yn Abertawe a drefnwyd gan Socialist Appeal, un o’r sawl holltyn Trotscïaidd. Mynychwyd gan rai o’r holltau eraill Trotscïaidd (gan gynnwys yr SWP, ymddiheurwyr trais rhywiol), Momentum a rhai eraill. Unwaith eto, areithiau, a chyfle gwerthu papurau oedd crynswth y digwyddiad. Fel arfer gorymdeithia’r undebau llafur trwy Abertawe a ddaw gannoedd i’r strydoedd, gan ddangos eu grym yn symbolaidd – os nad mewn unrhyw ffordd arall. Ond eleni ni welwyd digon o fygythiad i’r drefn i anfon dim un heddwas.

Yn y gorffennol diweddar bu heddlu Caerdydd yn hynod o dreisgar yn erbyn protestwyr ar Galan Mai. Eto, mae’n debyg mae’r etholiadau sydd ar fai am ddenu nifer o’r strydoedd eleni, wrth i undebwyr troi at ganfasi etholiadol a phawb gohirio gobaith am newid tan ar ôl yr etholiad. Sugno egni mudiadau radical wna’r system etholiadol, fel gwnaeth pleidiau Syriza a Podemos yng ngwlad Roeg a Sbaen yn dilyn yr anghydfod mawr. Buddsoddwyd cymaint o lafur, cymaint o obaith emosiynol yn y system bleidleisiol sydd yn ein ffaelu tro ar ôl tro. Dyma siom mawr. Mae gennym fwy o bŵer na ryw groes ar ddarn o bapur, ac mae’n hen bryd i ni sylwi hyn. Colled yw ceisio ennill pleidleisiau yn lle ymdrefnu a brwydro. Na. Mae angen gweithredu uniongyrchol ysbryd Haymarket arnom gymaint ag erioed. I’r gad!

 

Nodiadau

[1] Diwylliant Gwerin Morgannwg, Allan James.

[2] Am y Gadi Haf, gwelwch Geiriadur Prifysgol Cymru, neu waith Twm o’r Nant. Am barhad arfer gwisgoedd Beca, gwelwch rhai o streiciau Cwmtawe yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif.