Hydref Aflonydd

Cafwyd peth cynnwrf yng Nghymru dros y mis diwethaf. Dyma grynodeb anarchwaethus.

Solidariaeth â Chatalwnia

Yn dilyn ymgais gwladwriaeth Sbaen i sathru protestiadau a refferendwm annibyniaeth Catalwnia dangoswyd solidariaeth ar hyd Gymru. Hyd a wyddwn ni, cynhaliwyd ralïau yn Llangefni, Caernarfon, Aberystwyth, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd, y rhan fwyaf wedi trefnu gan y grŵp annibyniaeth YesCymru. Wrth i’r llywodraeth ganolog anfon llongau o heddlu arfog tra bo gangiau o ffasgiaid Sbaeneg yn crwydro’r strydoedd, galwyd am streic gyffredinol ar y 3ydd o Hydref gan undeb anarchaidd y CNT ac eraill. Chwifiwyd baner anarchiaeth a baner Chatalwnia o brifysgol Abertawe mewn solidariaeth gan yr IWW, chwaer undeb i’r CNT.

Braf gweld cynifer o bobl ar strydoedd Cymru, yn enwedig yn nhrefi lle ni chafwyd protest ers slawer dydd. Eto i gyd, rhaid cofio taw arf, nid gair, yw solidariaeth. Trwy weithredu uniongyrchol, nid gwrando ar wleidyddion, cawn ddadwladychu a thrawsnewid ein bywydau.

Coffáu’r Frigâd Ryngwladol

Wrth i ffasgiaeth Sbaen sleifio o’u cuddfannau unwaith eto, cafwyd digwyddiad yng Nghaerdydd ar y 14eg o Hydref i gofio’r gwirfoddolwyr a aeth i’w brwydro yn y 30au. Teithiodd sawl Gymro a Chymraes i gwffio ffasgiaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936-1939), gyda’r Frigâd Ryngwladol ond hefyd gyda’r milisiais Trotsgïaidd ac anarchaidd yn ogystal. Trefnwyd y digwyddiad ger y gofeb yng Ngerddi Alexandria gan Ymddiriedolaeth Coffa’r Brigadau Rhyngwladol, a mynychwyd y digwyddiad gan ddisgynyddion rhai o’r gwirfoddolwyr, Côr Cochion Caerdydd, undebau llafur ac eraill.

Yn ôl undeb yr IWW, “Croesawyd rhandaliad y Gangen Aelodau Cyffredinol IWW Cymru ar y diwrnod gyda theimlad o undod go iawn, ynghyd â’r gydnabyddiaeth, er bod y frwydr yn erbyn Franco bellach yn hanes, bod y frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn ei ffurfiau niferus yn parhau lle mae gan pawb ohonom rhan i’w chwarae!”

Digwyddiad Coffáu’r Frigâd Ryngwladol, Gerddi Alexandria, Caerdydd

Hillary Cer i grafu

Cafwyd mwy o anghydfod ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe ar y 14eg o Hydref. Daeth Hillary Clinton, cyn-weinidog cartref yr UDA, i dderbyn anrhydedd am ei chefnogaeth o “Hawliau Dynol” – er gwaethaf ei rôl amlwg mewn rhyfeloedd imperialaidd, bomiau “drones” a’i gomplisitrwydd mewn arteithio. Er bod Trwmp yn fwy o gachwr amlwg, ochr arall yr un geiniog ormesol yw Clinton wedi’r cyfan. Ond mae nifer, gan gynnwys y Brifysgol, yn fodlon anwybyddu hyn (er budd ei hun) – yn wir, aeth un academydd mor bell a gweld hi fel un o’r gorthrymedig (!).

Er gwaethaf ymdrechion yr heddlu a’r gwarchodlu diogelwch, protestiwyd ei phresenoldeb gan dorf fawr o fyfyrwyr, gan gynnwys grwpiau’r Ffederasiwn Anarchaidd De Cymru, Myfyrwyr Sosialaidd Abertawe, y Marxist Student Federation ac eraill. O ganlyniad cyrhaeddodd Clinton yn hwyr, a hynny i hwtio a bloeddiadau. Cafodd Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones, ac arweinydd Cyngor Abertawe Rob Stewart croeso tebyg. Ie wir.

Unoliaeth yn erbyn militariaeth

Ar 23ain o Hydref, nid nepell o’r gofeb gwrth-ffasgaidd, cafwyd protest yn erbyn militariaeth a ffair arfau Caerdydd. Daeth dorf i brotestio ar risiau llys y goron Caerdydd i ddangos eu solidariaeth â phrotestwraig, D., oedd yn cael eu herlid am ei gwrthwynebiad taer i ffair arfau’r “DPRTE” ym mis Mawrth eleni. Mae’r “Defence Procurement, Research, Technology and Exportability“, a gynhaliwyd yn arena’r Motorpoint, yn “gyfle i’r diwydiant arfau a chynryciolwyr o’r llywodraeth gynnal eu diwydiant ffiaidd, yn hwyluso diwydiant sydd yn arfu gladwriaethau sydd yn lladd eu pobl gyda’r teclynau diweddaraf ar gyfer gorthwm a rhyfel.”

Protest mewn solidariaeth tu allan i lys y goron, Caerdydd

Bu’r galeri cyhoeddus yn llawn cefnogwyr y protestwraig trwy gydol yr achos. Wedi tri diwrnod roddwyd iddi ddedfryd o 3 mis wedi’u gohirio am 18 mis. Dywedodd D. bod ei “phenderfynolrwydd wrth wrthwynebu’r Fasnach Arfau ond wedi’i gryfhau gan y profiad a gobeithiaf weld protest anferth tu allan i Ffair Arfau’r “DPRTE” yn arena Motorpoint Caerdydd blwyddyn nesaf”.

Protest gwrth-ffwr yn y Fenni

Cafwyd protest yn erbyn ecsploetio ffwr anifeiliaid yn y Fenni ar yr 21ain o Hydref. Protestiodd Cardiff Vegan Action tu allan i siopau Extons, Ruby Redz a Alison Tod Couture Milliner. Codwyd ymwybyddiaeth o’r mater a rhoddwyd pamffledi i’r cyhoedd. Dywedodd siaradwr ar ran Alison Tod eu bod wedi achosi “anghydfod ac aflonyddwch“. Da iawn.

Cymdeithas yn blocio swyddfa AC

Rhwystrodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith mynediad i swyddfa’r AC Alun Davies ym Mrynmawr, Blaenau Gwent ar y 26ain o Hydref. Trwy ddefnyddio cadwyni a biniau, blociwyd y fynedfa gan brotestwyr a alwodd i’r gweinidog “roi ei gynlluniau am ddeddfwriaeth newydd am y Gymraeg ‘yn y bin'”. Barnwyd bil newydd y gweinidog yn hallt gan ei fod yn lleihau hawliau’r Gymraeg ac “er lles y biwrocratiaid” yn unig. Yn gynharach yn y mis ar y 7fed o Hydref fe gafodd Gymdeithas rali “Addysg Gymraeg i Bawb!” yng Nghaerdydd.

Cymdeithas yr Iaith yn blocio mynedfa’r AC Alun Davies ym Mrynmawr

Solidariaeth â phobl LHDT+ yn yr Aifft

Cafwyd protest yng Nghaerdydd ar y 24ain o Hydref i ddangos solidariaeth â phobl LHDT+ yn yr Aifft. Carcharwyd dros 57 person wedi i faneri enfys cael eu chwifio yng nghyngerdd yn Cairo ar ddiwedd mis Medi. Yn dilyn hyn mae gormes yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws ac eraill wedi gwaethygu yn yr Aifft, gormes a gefnogwyd gan wladwriaethau’r Gorllewin sydd yn cefnogi’r Aifft yn ariannol ac yn gwerthu’r teclynnau gwyliadwriaeth sy’n targedu pobl LHDT+. Braf gweld nifer yng Nghaerdydd dangos solidariaeth LHDT+ rhyngwladol felly. Yn ein hoes dyrys, mae angen hunan-amddiffyniad cwiâr arnom cymaint ag erioed.

Os oes gennych chi newyddion am brotest neu anghydfod yng Nghymru, gyrrwch e mlan!

Advertisements

“Taith Na i Garchardai Gwenwynig”

https://noprisonsdecymru.noblogs.org/post/2017/09/15/end-toxic-prisons-tour-taith-na-i-garchardai-gwenwynig/

“Dros yr Hydref bydd Campaign to Fight Toxic Prisons o’r UDA yn teithio’r DU gyda Community Action on Prison Expansion.

Ledled y byd mae carchardai yn niwediol yn gymdeithasol ac ecolegol. Bu pobl gyffredin o’r UDA yn trefnu gwrthwynebu carcharu torfol a difrod amgylcheddol fel ei gilydd, gan lwyddo i ohirio adeiladu’r unig garchar ffederal am dros ddwy flynedd!

Trwy drefnu ar lawr gwlad, dadlau a gweithredu’n uniongyrchol maen nhw wedi herio’r system garchardai, system sy’n rhoi carcharorion mewn amodau amgylcheddol peryglus, ac sydd hefyd yn ergyd i gymunedau ac ecosystemau cyfagos, wrth eu hadeiladu a’u gweithredu.

Dewch i ddysgu am eu strategaeth a’u tactegau, yn ogystal ag am y brwydrau ehangach i ddymchwel y carchardai, gwrth-hiliaeth, y frwydr ddosbarth a chyfiawnder amgylcheddol.

Yn dilyn hyn rhennir gwybodaeth am wrthwynebiad i’r chwech arch-garchar newydd yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys yr arch-garchar newydd sydd yn cael ei gynllunio ar gyfer Port Talbot. Cynllunnir y carchardai yma yn y DU ar gyfer safleoedd gwenwynig, rhai’n cynnwys llygredd ymbelydrol a llygredd asbestos, a bydd cynefinoedd anifeiliaid yn cael eu dinistrio ar bob safle yn ogystal.

Dewch i glywed sut i gymryd rhan!

Digwyddiadau:

Caerdydd – 29ain o Fedi 2017

7pm-9pm
Connect Language School
Llawr gyntaf, 26-28 Churchill Way, Caerdydd CF10 2DY
Digwyddiad Facebook: https://www.facebook.com/events/129793397664005/

Port Talbot – 30ain o Fedi 2017

10.30pm-12.30pm
Aberavon Beach Hotel, SA12 6QP
Digwyddiad Facebook: https://www.facebook.com/events/116023012410416/

Abertawe – 30ain o Fedi 2017

7pm-9pm
Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, SA1 1RY
Digwyddiad Facebook: https://www.facebook.com/events/115834292452554/

“Pride Caerdydd: Cwiariaid yn meddu’r strydoedd”

https://angryqueerantifascists.wordpress.com/2017/09/13/cardiffpride/

Anerchiad dwy-ieithog ar y wefan newydd Gwrthffasgiaid Cwiâr a Grac, yn disgrifio cwiariaid a gweithwyr eraill LHDT+ yn ymuno a Bloc Radical yr IWW yn Pride Caerdydd!

“Yr orthrymedig sy’n meddu Pride, nid y bosys, yr heddlu a’r rhai sy’n ceisio ein malu’n fan ddarnau. Ma’r cwiariaid ‘ma’n dal eu tir.”

Unoliaeth o Gymru i Charlottesville

Ar y 12fed o Awst laddwyd protestiwr, Heather Heyer, gan ffasgydd wrth iddi hi wrthwynebu rali goruchafol gwyn yn Charlottesville, UDA. Anafwyd nifer mwy o wrthffasgiaid wrth iddynt frwydro a dal tir yn erbyn trais y ffasgiaid a’r heddlu fel ei gilydd.

Yn dilyn y brwydr cafwyd protestiadau gwrthffasgaidd a gweithredoedd mewn unoliaeth led-led y byd. Bu wylfa am Heather Heyer yng Nghaerdydd a gwelwyd neges o unoliaeth yng Nghasnewydd ger enw Antiffa’r Cymoedd.

Llun o dudalen facebook Rhwydwaith Anarchaidd Caerdydd

Cofiwn mai hunanamddiffyniad yw gwrthffasgiaeth oll. Cydsafwn!

Protest yn erbyn IPP a cham-drin carcharwr: Caerdydd, Dydd Sadwrn

Cwrdd tu allan i garchar Caerdydd, am 3 o’r gloch ar Ddydd Sadwrn y 1af o Orffennaf.

Bydd protest yn erbyn dedfrydiau gorthrymus IPP a cham-drin carcharwr ar ddydd Sadwrn. Galwyd am y brotest gan yr ymgyrch Smash IPP ac IWOC Gweithwyr Diwydiannol y Byd.

Dolen digwyddiad facebook:
https://www.facebook.com/events/276579582745822/

Galwyd hefyd am bythefnos o weithredu yn erbyn IPP rhwng y 9fed a’r 23ain o Orffennaf.

Chawlch IPP! Chawlwch bob caets!

Calan Mai Cymru Lonydd

Difeth irgyrs a dyfai / dyw Calan mis mwynlan Mai.

Mis Mai, Dafydd ap Gwilym

Ers terfysgoedd Haymarket bu’r Cyntaf o Fai, May Day, yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Anarchyddion oedd merthyron helynt yr Haymarket, Chicago 1886, ond dathlir gan fudiad y gweithwyr yn ei grynswth.

Mae gan Galan Mai arwyddocâd fel gŵyl Gymreig werinol yn ogystal wrth gwrs. Dyma ddechrau’r Haf a nodwyd gan ddawnsio a cherddoriaeth stwrllyd. Cafwyd “full week of Noise and Riots” yn Sain Ffagan yn ôl dyddiadur un Williams Thomas o’r 18fed ganrif, wrth i frodorion hwylus amddiffyn eu Bedwen Fai rhag pentrefi eraill â drylliau a chlybiau![1] Dyma hefyd diwrnod y Gadi Haf, fath o drawswisgwyr i’n golwg ni oedd yn “troi y byd ar ei ben” yn y rhialtwch – traddodiad a gysylltir hefyd i wrthryfel o Ferched Beca hyd at anghydfodau gweithwyr diwydiannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.[2] Dyma ŵyl y gweithwyr a’r werin felly, gŵyl ryngwladol a Chymreig.

 

Y Fedwen Fai yn Llangwm, 1920. Lle na laddwyd y traddodiad gan y Capeli, fe laddwyd yr elfennau cythryblus gan ei droi yn ŵyl barchus, fel tystia’r llun uchod. Yn debyg, ceisia’r pwerau y sydd tawelu aflonyddwch May Day. Yn wir – cynigodd y Torïaid disodli Gŵyl y Banc May Day am ddiwrnod o “Brydeindod”.

 

Ar Galan Mai pob blwyddyn ceir gorymdeithiau a therfysgoedd, anghydfod a streiciau ar hyd y byd grwn, ac nid oedd 2017 yn wahanol. Ond eleni cymharol lan a lonydd oedd Cymru fach.

Cafwyd rali a drefnwyd gan y Cardiff Trades Council yng Nghaerdydd dydd Sadwrn. Ymunwyd yr undebau sefydliadol am gyfnod gan “bloc syndicalaidd” undeb radical yr IWW, ond dawel a chymharol bychan oedd yr orymdaith o ryw gant o bobl heb fawr yn digwydd tu hwnt i areithiau. (Cyfraith a threfn, wedi’r cyfan, yw nôd trefnwyr y TUC, uwch gyfundrefn Cardiff Trades Council.) Yn hwyrach yn y prynhawn cafwyd protest mwy – miloedd yn ôl yr Wales Online – dros yr ymgyrch Save Womanby Street. Wedi i Dempseys a’r Full Moon cau a chynlluniau ymddangos dros ddatblygu gwesty Wetherspoons a fflatiau mae stryd gerddorol Womanby (sy’n gartref i Glwb Ifor Bach) dan fygythiad. Ond eto, areithiau gan wleidyddion oedd prif ffocws yr orymdaith i bob golwg, a’i lobio nhw yw prif dacteg yr ymgyrch. Yn y pen draw, boneddigeiddio sydd yn bygythio diwylliant Caerdydd a’u trigolion dosbarth-gweithiol a lleiafrifoedd ethnig. Er gwaetha eu smalio popiwlaidd, complisit yw’r gwleidyddion yn y broses hon. Gall ofyn gwleidyddion yn serchus a gorymdeithio’n taeog “achub” un stryd neu’r llall (a’u “achubiaeth” bydd Womanby costus, upmarket?), ond ni fydd yn atal boneddigeiddio.

Ar y dydd Llun cafwyd rali May Day hynod o fach yn Abertawe a drefnwyd gan Socialist Appeal, un o’r sawl holltyn Trotscïaidd. Mynychwyd gan rai o’r holltau eraill Trotscïaidd (gan gynnwys yr SWP, ymddiheurwyr trais rhywiol), Momentum a rhai eraill. Unwaith eto, areithiau, a chyfle gwerthu papurau oedd crynswth y digwyddiad. Fel arfer gorymdeithia’r undebau llafur trwy Abertawe a ddaw gannoedd i’r strydoedd, gan ddangos eu grym yn symbolaidd – os nad mewn unrhyw ffordd arall. Ond eleni ni welwyd digon o fygythiad i’r drefn i anfon dim un heddwas.

Yn y gorffennol diweddar bu heddlu Caerdydd yn hynod o dreisgar yn erbyn protestwyr ar Galan Mai. Eto, mae’n debyg mae’r etholiadau sydd ar fai am ddenu nifer o’r strydoedd eleni, wrth i undebwyr troi at ganfasi etholiadol a phawb gohirio gobaith am newid tan ar ôl yr etholiad. Sugno egni mudiadau radical wna’r system etholiadol, fel gwnaeth pleidiau Syriza a Podemos yng ngwlad Roeg a Sbaen yn dilyn yr anghydfod mawr. Buddsoddwyd cymaint o lafur, cymaint o obaith emosiynol yn y system bleidleisiol sydd yn ein ffaelu tro ar ôl tro. Dyma siom mawr. Mae gennym fwy o bŵer na ryw groes ar ddarn o bapur, ac mae’n hen bryd i ni sylwi hyn. Colled yw ceisio ennill pleidleisiau yn lle ymdrefnu a brwydro. Na. Mae angen gweithredu uniongyrchol ysbryd Haymarket arnom gymaint ag erioed. I’r gad!

 

Nodiadau

[1] Diwylliant Gwerin Morgannwg, Allan James.

[2] Am y Gadi Haf, gwelwch Geiriadur Prifysgol Cymru, neu waith Twm o’r Nant. Am barhad arfer gwisgoedd Beca, gwelwch rhai o streiciau Cwmtawe yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif.

Protest Na i Ffair Arfau Caerdydd: Mawrth 28ain

Wythnos nesaf bydd ffair arfau “DPRTE” yn dychwelyd i’r Motorpoint Arena yng Nghaerdydd. Bydd diwrnod o brotest yn eu herbyn, rhwng 8 y bore a 5.30 y prynhawn, gan gwrdd tu allan i’w drysau.

Cyfarfod o gwmnïau mawr a’r Ministry of Defence sydd yn cynhyrchu, gwerthu a defnyddio offer milwrol yw’r DPRTE. Mae’r dechnoleg hon yn lladd miloedd dros y byd yn rhyfeloedd imperialaidd. Maent yn creu elw trwy lofruddio pobl gyffredin.

Man hysbysebu gorsaf bws a fachwyd gan brotestwyr llynedd

Gyrrwyd ffair arfau DPRTE allan o Fryste gan brotestiadau llwyddiannus. Llynedd cafwyd protestiadau mawr yn eu herbyn yng Nghaerdydd, er gwaetha trais yr heddlu oedd yn amddiffyn y masnachwyr. Nid oes croeso i’w masnach angau yng Nghymru. Dewch i’w hatal!

“Pan mae’r cyfoethog yn ryfela, y tlawd sy’n marw.

Ar y 28ed o Fawrth mae un o ffeiriau arfau mwyaf Gwledydd Prydain yn dod i Gaerdydd.

Rydym ni am eu herlid o ‘ma.”


Gwybodaeth pellach:

Dolen digwyddiad facebook

Tudalen riseup Na i Ffair Arfau Caerdydd
Blog Campaign Against the Arms Trade
Blog Winter Oak

“Y Gwahanfur”, Boneddigeiddio a Phrydeindod

boneddigeiddiocaerdydd
Cynllun dystopiaidd “datblygu” Caerdydd. [1]

Difrod Cyfalafiaeth

Mae “Y Gwahanfur: Trebiwt a Difrod Cyfalafiaeth” gan Morgan Owen yn anerchiad diweddar yn erbyn boneddigeiddio (“gentrification”) yng Nghaerdydd. Mae’n llawn angerdd barddonol a gwrth-gyfalafol, ac yn werth ddarllen.

Disgrifia’r erthygl rhwyg ar hyd Drebiwt, Caerdydd, y gwagle wedi hollti’n “ddwy wlad” gan wahanfur y rheilffordd [2]. Mae’r ochr Dwyreiniol wedi’u boneddigeiddio’n bwt – “fflatiau newydd (‘moethus’ ys dywed y datblygwyr gwancus) y Bae”. Dyma oedd ardal y dociau, ond wedi “troi’n ddiffeithwch ar ôl sugno pob diferyn o faeth ohonynt a gwasgaru’r hen drigolion i’r pedwar gwynt” codwyd “trefedigaeth o fflatiau drud o’r ulw” [3]. Yr ochr draw i’r rheilffordd mae’r ochr Gorllewinol, dosbarth gweithiol, aml-ethnig, wedi’u harwahanu o’r “ynys gaeedig” a’u “gwthio i’r ymylon”. Mae’r gymuned hon nawr dan y bygythiad y lleda’r boneddigeiddio gan eu halltudo nhw o’u hardal. Traetha “am y perygl penodol i ni Gymry yn yr arwahanu” a achosir gan foneddigeiddio. Mae’r Gymraeg, sy’n lleiafrif, yn gryfach “pan fo lleiafrifoedd eraill, a phan nad oes gafael hegemonig gan y mwyafrif”, gan wrthsefyll y pwysau ar y lleiafrifoedd ‘oll i “gymathu” [4]. Ie wir.

Erthyglau Diweddar ar (Gwrth-)Foneddigeiddio a Lleiafrifoedd

Braf iawn yw gweld erthygl, yn Gymraeg, sy’n ymosod ar foneddigeiddio Caerdydd. Braf yn ogystal yw gweld erthygl sy’n cysylltu boneddigeiddio i orthrwm lleiafrifoedd ethnig ac i dranc yr iaith.

Brafiach byth yw hyn ‘oll wrth ystyried rhai o’r elfennau hiliol a gwrth-fudwyr sydd wedi ymddangos yn rhannau o’r disgwrs gwrth-foneddigeiddio yn Ewrop. Mae rhai, gan gynnwys Class War yn Llundain, wedi ymylu ar feio cyfoethogion o dramor am foneddigeiddio, yn hytrach na chyfalafwyr ‘oll a chyfalafiaeth fel proses strwythurol, amhersonol, sydd wir ar fai [5]. Am feirniadai craff o’r elfennau hyn mae’n werth bwrw golwg dros yr erthyglau Saesneg diweddar:

Boneddigeiddio / Seisnigeiddio

Yn hytrach na feio lleiafrifoedd o dramor, rhaid deall ac ymosod ar foneddigeiddio Cymru yn eu cyd-destun o Brydeindod a Seisnigeiddio. Mae Morgan Owen wedi dechrau’r dasg, ond wedi gadael yr anghenfil yn ddienw fel petai [6]. Mae’n sôn am y bygythiad mae’r Cymry Cymraeg a lleiafrifoedd eraill yn gwynebu o “gymathu”, o gael “ein llyncu’n llwyr” – ond ein cymathu i beth? I’r “unffurfrwydd dienaid” mae’n siŵr – a heb os, rhywbeth gwag, estronol yw datblygiad sgleiniog cyfalafiaeth [7]. Ond eto, nid yw’n hollol wag o “ddiwylliant” – yn hytrach, mae ganddi ddiwylliant gwag. Prydeindod yw enaid yr unffurfrwydd dienaid, Saesneg yw’r iaith sy’n llyncu’r lleill i’w mudandod. [8]

Wrth gwrs, mae’n bosib gall ynysoedd bach Cymraeg (neu Gymreig-Prydeinig) goroesi yn “ein” dinasoedd yn ystod y broses o foneddigeiddio, wrth i ychydig o grachach fforddio byw yn y tai newydd costus, neu elwa fel landlordiaid ac yn y blaen [9]. Ond nid er lles yr iaith na chwaith y mwyafrif, llai-gefnog o siaradwyr Cymraeg fydd hyn [10][11]. Iaith cymuned yw’r iaith Cymraeg, ac wrth i gymunedau cael eu gwthio i’r ymylon a’i hollti gan foneddigeiddio daw’r iaith dan fygythiad. Iaith hanner-farw yw iaith a siarader o enau rhai gwleidyddion, siwtiau busnes a chyfryngis yn unig. Rhaid gwrthwynebu boneddigeiddio yn drylw felly. Nid ydym yn mynnu i foneddigeiddio derbyn Cymreictod. Mynnwn ddiwedd i foneddigeiddio. Y Gymraeg yn erbyn boneddigeiddio.

Ar y Gymraeg a’r frwydr am y ddinas, gwerth darllen yr erthygl isod (a’r cyfathrebiad fideo Cymraeg gan sgwatwyr sydd ynddi):

Brwydrau gwrth-foneddigeiddio diweddar yn Llundain

Yn olaf, i gwnnu’n calonnau ac i ddysgu tactegau am y brwydrau sydd o’m blaenau, mae’n werth edrych ar y llu o wrthdrawiadau gwrth-foneddigeiddio a thebyg [12] sydd wedi ymddangos yn Llundain yn ddiweddar:

I’r gad!

 

gwahanfuraylesbury
Chwalu gwahanfur Aylesbury oedd yn cau mewn meddiant yr ystâd.

 

 

Nodiadau

1″This is what Cardiff will look like in 10 years“, Wales Online.

2 Tybed a’i gyfeirio at ddyfyniad enwog Benjamin Disraeli mae Owen? (“Two nations; between whom there is no intercourse and no sympathy; who are as ignorant of each other’s habits, thoughts, and feelings, as if they were dwellers in different zones, or inhabitants of different planets … the rich and the poor.”) Ta beth, mae’r trosiad (a’i ddefnydd o’r term “trefedigaeth” ychydig yn hwyrach) yn un diddorol wrth ystyried y cymhlethdodau a’r rhyngblethiadau rhwng dosbarth a chenhedloedd y trafodwn yn hwyrach.

3 Mae disgrifiad Owen o gyfalafiaeth yn “sugno pob diferyn” yn ein hatgoffa am y disgrifiad o “Hydraulic Capitalism” yn “Logistics, Counterlogistics and the Communist Prospect, Endnotes #3” gan Jasper Bernes.

4 Mae hyn yn dwyn i gof ymdrechion Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith i gysylltu brwydr yr iaith Gymraeg â brwydrau ieithoedd lleiafrifol arall yn y ddinas.

5 Rhaid cofio hanes gwrth-Semitiaeth, lle erlidiwyd Iddewon a ragfarnwyd yn aml i fod yn gyfoethog oll, gan ddileu’r gwirionedd mae dosbarth gweithiol oedd y mwyafrif o Iddewon Ewrop a gan “anghofio” am y cyfoethogion eraill.

Mewn cyd-destun ac ar raddfa wahanol iawn, weithiau gwelwn ragfarn debyg yn ymddangos yn erbyn y Cymry Cymraeg – y cyhuddiad ffals ein bod ni i gyd yn elît cyfoethog! Mae hoywon hefyd wedi dioddef gan ragfarn popiwlaidd tebyg – cyhuddiadau o “bourgeois decadence” ac yn y blaen (gwelwch yr erthygl ar “Hipsterphobia” a rhywedd uchod). Mae’r rhain ‘oll yn esiamplau o bŵer yn bachu ac yn gwyrdroi disgwrs y frwydr ddosbarthiadol at ddibenion adweithiol, gan atgyfnerthu gormesau gwahanol a gan atgyfnerthu gormes y dosbarth gweithiol yn ogystal. Hynny yw, er iddynt honni ymosod ar yr elît a’r cyfoethog, mewn gwirionedd maent yn amddiffyn y cyfoethog ac yn ymosod ar leiafrifoedd gorthrymedig. (Gwelwch Trump neu Farage er enghraifft – yr elît yn honni nad ydynt yn elît ac eu bod nhw yn erbyn yr elît!) Ych a fi.

6 Mae erthygl Morgan Owen yn nodi (ac anarchwaethus yn lled gytuno) “Nid yw cyfalafiaeth yn parchu cymunedau na chenhedloedd nac ieithoedd: bwrir hwynt heibio fel pob rhwystr arall i’r farchnad, oni bai am yr achlysuron hynny lle y gellir eu defnyddio at ddibenion masnachol.” Ond yn y geiriau olaf gwelwn agoriad holl bwysig: pa genhedloedd, a pha ieithoedd, ac at ba ddibenion masnachol? Trwy Brydeindod daeth cyfalaf i reibio Cymru, trwy Brydeindod y allforiwyd – a gorfodwyd – cyfalafiaeth dros rannau helaeth o’r byd. Eto, ni fydd cyfalafiaeth Gymreig na Chymraeg yn atal tranc yr iaith na chwaith yn rhyddhau Cymru.

7 Yn dilyn cysyniad y Karl Marx ifanc o “entfremdung” (“alienation“) defnyddiwn “estronol” fanyn. Roedd defnydd Marx o’r gair yn ddiddorol canys y gwelwyd ac erlidiwyd ef trwy ei oes am fod yn lleiafrif “estron” o dras Iddewig (er iddo gymathu). Yn ei ddull arferol trodd Marx pethe ben i waered fel petai, gan gyhuddo cymdeithas cyfalafiaeth o fod yn estroniedig. Mae cyfalaf yn bŵer estron, diarth, amhersonol, sydd yn estroneiddio‘r gweithiwr oddi wrth gynnyrch ei lafur, oddi wrth ei waith, oddi wrth ei gyd-weithwyr, oddi wrth ei hun ac oddi wrth natur.

8 Onid yw dadl anarchwaethus nawr yr un peth a’r rhai beirniadwyd ychydig yn gynt, un sydd yn beio Saeson cyfoethog am foneddigeiddio? Nac ydi, am sawl rheswm. Yn gyntaf, Prydeindod a Seisnigeiddio, yw’r broblem, ac er bod y rhain yn gysylltiedig i’r Saeson fel cenedl, ac i Saeson fel unigolion, nid ydynt yr un peth. Mae’r gwahaniaeth yn un bwysig. Gall Cymry (gan gynnwys Cymry Cymraeg) hybu Prydeindod a Seisnigeiddio, neu fod yn rhan digon bodlon o broses sydd yn gysylltiedig i’r pethe hyn, fel dadleuwn uchod. Mae hefyd yn bosib i Saeson bradu eu Prydeindod a gwrthwynebu Seisnigeiddio, fel mae sawl wedi ar hyd ein hanes. Yn ail, rhaid deall y perthynas rhwng y Saeson a’r Cymry o fewn hanes ein gwladychiad. Nid lleiafrif (yn yr ystyr meintiol nac ansoddol) erlidiedig yw cenedl y Saeson, na chwaith cydgenedl gydradd, ond cenedl sydd mewn perthynas o ddominyddu’r Cymry. Nid cenedl orthrymedig yw’r Saeson. (Nodwch fanyn y defnydd o’r gair cenedl, nid unigolyn – gwahaniaeth arall tra phwysig.) Mae nifer ohonynt wedi eu gorthrymu, wrth gwrs, o ran dosbarth, rhywedd, ac yn y blaen, ond nid o ran eu cenedligrwydd Saesneg. (O reidrwydd dyma ddarlun syml – nid yw Cymreictod na Seisnigrwydd wastod yn dermau diffiniedig na chwaith yn rhai sydd yn cau allan hunaniaethau cenedlaethol arall.)

Yn sicr rhaid gwrthwynebu cenedlaetholdeb cul, adweithiol, sydd yn beio Saeson (neu Brydeindod) uwchben popeth, gan anwybyddu (ac felly atgyfnerthu) gormes gan y Cymry.

9 Cofiem yr uchelwyr Cymreig a “wnaeth yn dda” o’r Deddfau Uno, gan symud o Gymru i fwyta ger bordydd Saeson mawr yn Llundain.

10 A hyd yn oed pe fydde hi’n llesol i’r iaith Gymraeg, fydde rhaid eu gwrthwynebu gan eu bod yn… foneddigeiddio.

11 ‘Drychwch ar y sefyllfa tai haf yng Nghymru heddiw er enghraifft. Ers dyddiau bri Meibion Glyndŵr mae nawr ychydig mwy o dai haf sy’n berchen i Gymry Cymraeg cyfoethog – rhai sydd wedi “gwneud yn dda”. Eistedda‘r rhain wrth ymyl y gweddill sy’n berchen i Saeson cyfoethog. Mae’r tai haf Cymreig a Chymraeg hyn yn dal i niweidio‘r cymunedau brodorol Cymreig a’r iaith Gymraeg, yn yr un modd ag y mae’r tai haf Saesneg. Nid yw’r datblygiad hwn yn golygu bod y frwydr ddosbarthiadol a diwylliannol yn erbyn tai haf wedi’u troi yn un dosbarthiadol yn unig felly. Yn hytrach, mae tai haf sy’n bia i Gymry Cymraeg yn wedd newydd i’r Seisnigeiddio. Mae gormes yn gymhleth, yn esblygu, ac yn rhyngblethol.

12 Wrth gwrs, mae’n bosib cysylltu sawl math o frwydr arall i’r brwydr eang yn erbyn boneddigeiddio (nid yw anfodlonrwydd na gwrthdystiadau terfysglyd yn codi prisiau tai!), ond cyfyngwn y dewis fanyn.

13 Rhannau o ddisgwrs Class War a sbardunodd feirniadaethau pwysig yn erthyglau uchod. Er gwaethaf hyn, maent wedi frwydro’n gyson yn erbyn boneddigeiddio ac ni ddylid diystyru hyn.