Dydd Gwener o Gynnwrf: peth newyddion diweddar

Cafwyd tipyn o gynnwrf yn Ne Cymru Dy’ Gwener diwethaf. Dyma golwg bach (a barn anarchwaethus, wrth reswm!).

Cwrdiaid yn martsio er gwaetha hiliaeth

Prynhawn y 15fed o Chwefror cyrraeddodd gorymdaith o bobl Cwrdaidd a’i chefnogwyr De Cymru. Martsiant o Fryste y diwrnod hwnnw, ac o Lundain dros y dyddie cynt, er mwyn ymweld ag Imam Sis, un o drigolion Casnewyd. Bu Imam Sis yn ymprydio ers sawl wythnos, mewn protest yn erbyn carchariad a chamdriniaeth yr arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan gan y wladwriaeth Dwrcaidd.

HeddluymosodCwrdiaidCasnewyddChwefror2019
Yr heddlu yn ymosod yn dreisgar ar brotestwyr Cwrdaidd yng Nghasnewydd

Wrth gyrraedd y dre, cafwyd croeso tresigar gan heddlu De Cymru, a ymosododd yn ddi-rybudd ar y dorf. Cymhellwyd eu gweithredoedd gan hiliaeth amlwg yn ôl protestwyr. Er gwaetha’r orthrwm, cyrraeddodd y dorf eu cyrchfan lle areithiodd Imam Sis ac eraill.

Mae hyn yn dilyn protest mawr gan ymgyrchwyr Cwrdaidd tu allan i’r Senedd ar y 5ed o Fawrth.

Plant yn streicio yng Nghaerdydd ac Abertawe

Ar yr un Gwener fe gafwyd streic rhyngwladol dros yr hinsawdd gan blant a phobl ifanc. Gadawodd plant ysgol a myfyrwyr coleg a phrifysgol eu hastudiaethau mewn protest yn erbyn niwed cyfalafiaeth i’n byd a’r hinsawdd. Fel pob camdriniaeth, mae’r niwed hyn yn gysylltiedig i bwer hierarchaidd oedolion dros blant – system oedolion, a’r hen genedlaethau, sydd yn lladd ein cartref naturiol. Braf gweld plant wrth flaen y gad felly yn herio’r drefn. Cronnodd cannoedd o blant a’u cefnogwyr i brotestio tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd; protestiodd eraill ar draeth Abertawe ac ar Gampws Singleton y prifysgol.

Da i glywed am ddoethineb cymaint o’r plant wrth iddynt ddewis beidio siarad na chyd-weithio â’r heddlu. Yn Llundain, cafwyd digwyddiadau treisgar wrth i’r heddlu arestio plant am brotestio a gyrru fan i mewn i’r dorf. Fel dengys hyn a phrofiad y Cwrdiaid yng Nghasnewydd, ni ellid ymddiried yn y fath sefydliad haerllug, ac nid ydynt yn ffrindiau i neb sydd yn brwydro dros ryddid.

Gigio dros Gymru rydd yng Nghaerdydd

Ar noswaith yr un Gwener cafwyd gig dros Gymru annibynnol, radical, yng Nghaerdydd, dan faner GellirGwell gan sawl artist blaengar. Yn debyg i lawnsiad mudiad neywdd Undod, mae’n braf i glywed mwy o son am ba fath o Gymru rydd rhydym am ei gweld – un gwrthffasgaidd, un gwrth-gyfalafol, un ffeminyddol. Datganiad gwag yw “annibyniaeth” heb sylwedd radical. Hebddi, fel rhybuddiodd y chwyldroadwr Gwyddelig James Connolly, cawn ein dal gan dannau imperialaeth yr un fath.

Yn ôl pob son roeddd hi’n gig gwerth chweil. Wrth gwrs, mae angen y fath cwnnwrf diwylliannol dros Gymru gyfan, yn ein cymunedau – ac heb docynnau prin na chostus.

Digwyddiadau ar y gweill

  • Mae Streic y Fenyw Cymru yn trefnu llond ddwrn o ddigwyddiadau radical ar yr 8fed o Fawrth, Dydd Rhyngwladol y Fenyw, yng Nghaerdydd.
  • Ar yr 12fed o Fawrth yn Abertawe, a’r 14eg o Fawrth yn Llandudno, mi fydd y llywodraeth yn ceisio cynnal cyfarfod am dwmpio gwastraff niwclear yn ein cymunedau. Mi fydd brotestiadau!
  • Galwyd am streic arall gan yr ifanc yn erbyn newid hinsawdd ar y 15fed o Fawrth.

Cofiwch, os oes gennych chi newyddion am digwyddiad radical a fu neu a fydd, rhowch wybod!

Advertisements

Gweithdy Dad-Goloneiddio! Bethesda, 25/042018

“A chyffro mae Tyfu nid Torri mewn partneriaeth a Fforwm yr Eliffant Binc yn cyflwyno sesiwn dad-goloneiddio gan criw Radio Beca. Prif ffocws bydd adnabod sut y gallwn droi diffyg ddoe yn gryfder a chyfoeth i’r dyfodol.

Medd Euros Lewis, a fydd yn hwyluso’r gweithdy hon:

‘Mae cymaint ohonom yn gorfod gweithio o fewn meddylfryd Prydeinig – meddylfryd Seisnig, mewn gwirionedd. Meddylfryd a seiliwyd ar rym y canol; ar drefn sy’n gwahaniaethu rhwng pobl o ran cyfle, cefndir, cyfoeth a statws. Rheolaeth – o’r brig i’r godre – yw hanfod y meddylfryd hwn. Mae cynefin y Gymraeg yn wahanol. Gellir ei grynhoi mewn gair: cymdeithas, sef cydweithio, cyd-ddadlau, cyd-ddychmygu a phob ‘cyd’ arall. Ein helpu i dorri’n rhydd o afael y naill a rhyddhau potensial y llall yw nod y gweithdy hon.’

Yn ogystal â chyflwyniadau mi fydd y gweithdy dad-goloneiddio yn cynnwys ymarferiadau ac mi fydd pawb sy’n mynychu yn cael copi o’r Llawlyfr Dad-goloneiddio i fynd adref gyda nhw.

‘Mae’n bwysig fod y gweithdy yn gwneud gwahaniaeth – i bawb ohonom sydd yno ac i’n lleoedd gwaith a’n cymdogaethau’ medd Euros. ‘Wrth waelod pob newid er gwell mae criw bach o bobol sydd wedi cwestiynu; wedi gwrthod cydymffurfio; wedi gafael yn yr awenau.’

GWEITHDY SUT MAE DAD-GOLONEIDDIO’N HUNAIN?

Neuadd Ogwen, Bethesda, Nos Fercher y 25ed o Ebrill am 7yh. Croeso i bawb!”

Digwyddiad facebook: https://www.facebook.com/events/608647742846442/

Ffair Lyfrau Radical, Abertawe, 20/01/2018

https://ffairlyfrauradical.wordpress.com/

Ar Ddydd Sadwrn yr 20fed o Ionawr bydd Ffair Lyfrau Radical yn Abertawe! Dyma “wagle dan-dô dros-dro i radicaliaid, mudiadau cymdeithasol, grwpiau ymgyrch, dosbarthwyr tanddaearol, cyhoeddwyr amgen ac unrhyw un sydd gyda diddordeb cael dod ynghyd.” Bydd mynediad yn rhad ac am ddim, a’r Gymraeg yn brif-iaith y digwyddiad. Ac yn well fyth, mi fydd deunydd anarchwaethus yno!

“Mynnwn fod y Gymraeg – ei pharhad a’r frwydr drosti – yn radical.”

Cynhelir y ffair yng nghanolfan Gymraeg Tŷ Tawe yng nghanol Abertawe. Bydd y ffair yn dechrau am 11am a gig amgen gyda’r nos am 7pm. Arbennig.

Mae’n werth nodi hefyd y fydd Ffair Lyfrau Radical Derry yn digwydd ar ddiwedd y mis.

Yn dilyn problemau gwarthus Ffair Lyfrau Anarchaidd Llundain gyda thrawsffobia a materion eraill, braf yw gweld ffeiriau eraill ‘ryd lle. Mae angen gwagleoedd radical a gwrth-wladychol arnom ni nawr cymaint ag erioed. I’r ffycin gad!

“Arfogwch eich hunain gyda syniadau.”

1400, 1979

“I raddau helaeth, protest haenau isa’r gymdeithas oedd Gwrthryfel Glyn Dŵr. Yn 1401, cofnododd Senedd Lloegr fod taeogion Cymreig a weithiau yn Lloegr wedi dychwelyd adref i gymryd rhan ynddo, a bu’r difrod helaeth a briodolir i derfysg gwerinol yn nodwedd ar y Gwrthryfel … Yr oedd disgwyl ar led y byddai’r byd yn dod i ben yn y flwyddyn 1400 …”

Hanes Cymru, John Davies

Anos esbonio i Saeson pam cofir tywysogion gan weriniaethwyr Cymru. Ond eto, does dim angen.

Cofiwn wrthryfel, daroganwn ddrygioni!

 

Gwnewch Bopeth yn Gymraeg

Frwydrwn dros fywyd yr iaith ond pa fath o fywyd ddymunwn canys problem yw bywyd bywyd hanner-fyw yn llusgo’i gelain trwy’r byd ma yn para mlan dan oblygiad dyletswydd barchus wrth lithro ara deg i’n hangau heb ei wynebu’n llawn gan farw fwy fwy heb fyth cweit marw ond heb fyth fyw

 

 

A’i drwy rifau mesurwn 19% fywyd 1 miliwn o siaradwyr 0 [The Welsh language is dead] 1 [Mae’r iaith yn fyw da iawn pawb] neu a deimlwn hi trwy ansawdd ein bod

 

 

 

 

 

A’i drwy hetero-berthynas priodas a phlant a commuting am weddill oes y mesurwn fywyd neu

 

 

 

 

 

 

Os ystyrir iaith yn farw gan nifer o’i genedl pa fywyd sydd ganddi Os ystyrir iaith yn farw gan nifer o’i siaradwyr pa fywyd sydd ganddi Os ystyrir iaith yn iaith y nefoedd pa le sydd iddi yn y pridd a’r baw a’r cig a’r gwaed a’r dod didiwedd

a’r tân yn y strydoedd

 

 

 

 

Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae joio

 

 

 

 

 

Protest “Dymchwel y DUP” ym Mangor a bradychu Prydeindod

Ar ddydd Llun y 19eg o Fehefin cafwyd protest bywiog yn erbyn y DUP ym Mangor. Fel plaid deyrngarol a Phrydeinllyd, mae’r DUP yn gwrth-Wyddelig, yn gwrth-LHDT+, yn gwrth-wyrdd, yn batriarchaidd ac yn hiliol (ymysg pethau eraill). Trefnwyd y protest “Dymchwel y DUP” gan Gymdeithas yr Iaith felly ac mae’n debyg daeth dorf o ryw gant a hanner i ddangos eu hunoliaeth. Cafodd politishens ddweud eu dweud, ond fe areithiodd eraill yn ogystal – yn erbyn gorthrwm ffoaduriaid, menywod a’r iaith – a chafwyd anerchiad cryf gan ymgyrchydd iaith Wyddeleg. Bu hefyd cerddoriaeth, barddoniaeth a pheth canu pastwn bloeddgar a stwrllyd.

 

Canu Pastwn chwyldroadol ym mhrotest “Dymchwel y DUP”

 

Mae’r DUP wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar yn sgil cyfeillgarwch y Torïaid. Er i nifer cysylltu eu tebyg i Ogledd Iwerddon, nid yw Cymru’n rhydd o’i deyrngarwch. Mae gan yr Orange Order loj yng Nghaerdydd, a ailsefydlwyd yn 2012. Ym mis Medi 2015 fe orymdeithiant trwy’r ddinas gyda chydweithrediad yr heddlu. Fel y DUP, dyma gyfundrefn warthus a rhagfarnllyd, ac nid oes croeso iddynt martsio yn ein gwlad. Yn debyg, wedi i’r EDL Islamoffobaidd ail-ymddangos yn niferoedd uchel (a rhai ohonynt ag arfau) ar strydoedd Manceinion, rhaid i ni fod yn barod i amddiffyn ein cymunedau rhag ymosodiadau treisgar. Dau frawd yw teyrngarwch a ffasgiaeth Prydeinllyd. Yn yr oriau dyrys hyn hollbwysig yw trefnu yn eu herbyn.

 

Cyfundrefn gwladychol yr Orange Order yn martsio yng Nghaerdydd, Medi 2015

 

Blaengadwyr Prydeindod yw’r DUP, yr Orange Order a’r EDL. Eto rhaid cofio bod teyrngarwch yn rhan hanfodol o drefn yr awdurdodau yn gyffredinol (ta beth yw lliw llywodraeth San Steffan). Rhaid gwrthwynebu Prydeindod amlwg ar y strydoedd, ond rhaid hefyd eu gwrthwynebu yn ein bywydau pob dydd – neu ofer fydd ein hymdrechion oll.

Lle mae ysbryd Cymru yn rhydd o hyd, rhaid dal ein tir. Lle mae Prydeindod wedi ein cymathu, rhaid ei bradychu. I’r gad!

Calan Mai Cymru Lonydd

Difeth irgyrs a dyfai / dyw Calan mis mwynlan Mai.

Mis Mai, Dafydd ap Gwilym

Ers terfysgoedd Haymarket bu’r Cyntaf o Fai, May Day, yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Anarchyddion oedd merthyron helynt yr Haymarket, Chicago 1886, ond dathlir gan fudiad y gweithwyr yn ei grynswth.

Mae gan Galan Mai arwyddocâd fel gŵyl Gymreig werinol yn ogystal wrth gwrs. Dyma ddechrau’r Haf a nodwyd gan ddawnsio a cherddoriaeth stwrllyd. Cafwyd “full week of Noise and Riots” yn Sain Ffagan yn ôl dyddiadur un Williams Thomas o’r 18fed ganrif, wrth i frodorion hwylus amddiffyn eu Bedwen Fai rhag pentrefi eraill â drylliau a chlybiau![1] Dyma hefyd diwrnod y Gadi Haf, fath o drawswisgwyr i’n golwg ni oedd yn “troi y byd ar ei ben” yn y rhialtwch – traddodiad a gysylltir hefyd i wrthryfel o Ferched Beca hyd at anghydfodau gweithwyr diwydiannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.[2] Dyma ŵyl y gweithwyr a’r werin felly, gŵyl ryngwladol a Chymreig.

 

Y Fedwen Fai yn Llangwm, 1920. Lle na laddwyd y traddodiad gan y Capeli, fe laddwyd yr elfennau cythryblus gan ei droi yn ŵyl barchus, fel tystia’r llun uchod. Yn debyg, ceisia’r pwerau y sydd tawelu aflonyddwch May Day. Yn wir – cynigodd y Torïaid disodli Gŵyl y Banc May Day am ddiwrnod o “Brydeindod”.

 

Ar Galan Mai pob blwyddyn ceir gorymdeithiau a therfysgoedd, anghydfod a streiciau ar hyd y byd grwn, ac nid oedd 2017 yn wahanol. Ond eleni cymharol lan a lonydd oedd Cymru fach.

Cafwyd rali a drefnwyd gan y Cardiff Trades Council yng Nghaerdydd dydd Sadwrn. Ymunwyd yr undebau sefydliadol am gyfnod gan “bloc syndicalaidd” undeb radical yr IWW, ond dawel a chymharol bychan oedd yr orymdaith o ryw gant o bobl heb fawr yn digwydd tu hwnt i areithiau. (Cyfraith a threfn, wedi’r cyfan, yw nôd trefnwyr y TUC, uwch gyfundrefn Cardiff Trades Council.) Yn hwyrach yn y prynhawn cafwyd protest mwy – miloedd yn ôl yr Wales Online – dros yr ymgyrch Save Womanby Street. Wedi i Dempseys a’r Full Moon cau a chynlluniau ymddangos dros ddatblygu gwesty Wetherspoons a fflatiau mae stryd gerddorol Womanby (sy’n gartref i Glwb Ifor Bach) dan fygythiad. Ond eto, areithiau gan wleidyddion oedd prif ffocws yr orymdaith i bob golwg, a’i lobio nhw yw prif dacteg yr ymgyrch. Yn y pen draw, boneddigeiddio sydd yn bygythio diwylliant Caerdydd a’u trigolion dosbarth-gweithiol a lleiafrifoedd ethnig. Er gwaetha eu smalio popiwlaidd, complisit yw’r gwleidyddion yn y broses hon. Gall ofyn gwleidyddion yn serchus a gorymdeithio’n taeog “achub” un stryd neu’r llall (a’u “achubiaeth” bydd Womanby costus, upmarket?), ond ni fydd yn atal boneddigeiddio.

Ar y dydd Llun cafwyd rali May Day hynod o fach yn Abertawe a drefnwyd gan Socialist Appeal, un o’r sawl holltyn Trotscïaidd. Mynychwyd gan rai o’r holltau eraill Trotscïaidd (gan gynnwys yr SWP, ymddiheurwyr trais rhywiol), Momentum a rhai eraill. Unwaith eto, areithiau, a chyfle gwerthu papurau oedd crynswth y digwyddiad. Fel arfer gorymdeithia’r undebau llafur trwy Abertawe a ddaw gannoedd i’r strydoedd, gan ddangos eu grym yn symbolaidd – os nad mewn unrhyw ffordd arall. Ond eleni ni welwyd digon o fygythiad i’r drefn i anfon dim un heddwas.

Yn y gorffennol diweddar bu heddlu Caerdydd yn hynod o dreisgar yn erbyn protestwyr ar Galan Mai. Eto, mae’n debyg mae’r etholiadau sydd ar fai am ddenu nifer o’r strydoedd eleni, wrth i undebwyr troi at ganfasi etholiadol a phawb gohirio gobaith am newid tan ar ôl yr etholiad. Sugno egni mudiadau radical wna’r system etholiadol, fel gwnaeth pleidiau Syriza a Podemos yng ngwlad Roeg a Sbaen yn dilyn yr anghydfod mawr. Buddsoddwyd cymaint o lafur, cymaint o obaith emosiynol yn y system bleidleisiol sydd yn ein ffaelu tro ar ôl tro. Dyma siom mawr. Mae gennym fwy o bŵer na ryw groes ar ddarn o bapur, ac mae’n hen bryd i ni sylwi hyn. Colled yw ceisio ennill pleidleisiau yn lle ymdrefnu a brwydro. Na. Mae angen gweithredu uniongyrchol ysbryd Haymarket arnom gymaint ag erioed. I’r gad!

 

Nodiadau

[1] Diwylliant Gwerin Morgannwg, Allan James.

[2] Am y Gadi Haf, gwelwch Geiriadur Prifysgol Cymru, neu waith Twm o’r Nant. Am barhad arfer gwisgoedd Beca, gwelwch rhai o streiciau Cwmtawe yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif.

“Yfory” cawn gwtsho UKIP?

Mae celfyddyd yn wleidyddol. Dyma atgofiad cras galeri “LD50” Llundain, a gaewyd i lawr gan brotestwyr yn ddiweddar. Roedd gan gelfyddyd warthus yr LD50 neges a symboliaeth ffasgaidd amlwg, gan wahodd siaradwyr yr “Alt-Right” i’w dangosfeydd parchus. Ond beth am gelf gwrth-ffasgaidd, gelf radical felly? Oes bosib creu celfyddyd radical a Chymreig heddiw? Ys wetodd y dramodydd Brecht, “ni ellid barddoni am goed pan fo’r goedwig yn llawn plismyn”. A ellid dramodi am Gymru pan fo’r strydoedd llawn UKBA?

Ymgais at ddrama wleidyddol yw “Yfory“, cynhyrchiad newydd Theatr Bara Caws, a ysgrifennwyd gan Siôn Eirian a chyfarwyddwyd gan Betsan Llwyd. Gwleidyddiaeth gyda G mawr: Gwleidyddiaeth y gwleidyddion a’r wladwriaeth, Gwleidyddiaeth y Bae yn y byd “ôl-Brecsit”. Gwleidyddiaeth noeth gyda’r bolitishen yn ei bants, yn wir, mae’r olygfa yn un amgen. Gwelwn y byd trwy ffenest fflat y gwleidydd a thad, Gwyn (Dewi Rhys Williams), a gwelwn y wleidyddiaeth grand trwy berthnasau ei deulu niwclear. Ar y noswaith cyn ei araith fawr dros ei blaid (y Blaid, gyda llaw), heriwyd ei weledigaeth gan ei bartner, Ellie (Caryl Morgan), ei ffrind-goleg a gelyn Llafurol, Kelvin George (Rhodri Evan) a gweithredoedd ei fab, Trystan (Aled Bidder).

“Arwres” Yfory yw Ellie, ac er i’r ddrama yn ei gyfanrwydd gwrthgyferbyniol datgelu meddylfryd Eirian, trwy ei geiriau hi cawn ei faniffesto. Mae rhagflas o’i syniadau amgen a “radical” yn y Rhagair: “Oes unrhyw wleidyddion yng Nghaerdydd yn meiddio meddwl am dorri cwys allai newid cyfeiriad cymdeithas yng Nghymru? … Neu ydyn ni’n rhannu’r un meddylfryd adweithiol a’r un culni gorwelion a Lloegr bellach?” Wrth i Ellie perswadio Gwyn i newid ei araith, daw’r “cyfeiriad” newydd yn gliriach. Datganolwch bŵer i’r cynghorau lleol, adfywiwch yr hen fro, atgyweiriwch ein colled o gymuned. Sut? Trwy weithio gydag UKIP (!). Awn i ail adfer bro, llaw yn llaw da Neil Hamilton. Newidiwn “gyfeiriad” o “feddylfryd adweithiol” Loegr, trwy gyd-weithio a’r blaid adweithiol Seisnig.

Golygfa go-iawn o’r ddrama newydd, “Yfory”

Y Dref Wen yn y Dyffryn?

Nid radicaliaeth a gynigwyd yn Yfory, ond yr un hen drefn. Yr un hen bleidiau, a’r “gobaith” yn y gwaethaf. Heddiw, ar hyn o bryd, mae gwleidyddion yn cwtsho UKIP (a holl drais y system ffiniau warthus) – nid yw’n safiad radical. Sut ydi hi’n bosib gweld bodolaeth UKIP, plaid Seisnigaidd a Phrydeinllyd, plaid hiliol a cheidwadol, fel posibilrwydd “chwyldroadol” i Gymru? Mae’r weledigaeth mor gul â’r fflat bach yn y Bae. Wedi’r cyfan, os ma dyfodol ein gwlad yn gorwedd da gwleidyddion, yn y Bae neu’r Cynghorau, da ni’n ffyced ta beth[1]. Cymeriadau dosbarth canol – ac yn bennaf, y patriarch Cymreig – sy’n pia’r ewyllys i newid tynged y genedl yn y ddrama, a hynny trwy’r sefydliadau swyddogol yn unig. Trwy freintio eu bywydau nhw ar draul eraill cawn wleidyddiaeth adweithiol y ddrama. Er i’r ddrama delio â chymdeithas wedi’r refferendwm Ewropeaidd, nid oes gair am yr ymosodiadau hiliol ac Islamoffobaidd, na’r ymosodiadau yn erbyn pobl hoyw, lesbiaidd a thraws, a gynyddodd yn ei sgil. (Caiff hîl cyfeiriadau tocenistaidd ar adegau (“yr oedd gennym ni ffrindiau du”), a defnyddiwyd “Pygmy” yn sarhaus ar adeg arall.) Nid yw’r weledigaeth radical yn cynnwys ffawd ddyrys ffoaduriaid na fudwyr a gaiff eu herlid, eu caethiwo a’u hallgludo. Yn wir, mae galwad Ellie am dai lleol i bobl leol, llaw yn llaw a’r diffyg sylw llwyr i dranc fudwyr, yn troi ergyd gwrth-wladychol yn un adweithiol. A dyma’r Gymraes yn hiraethu’n rhagrithiol am golled ei bro, a hithau’n byw ar gefn boneddigeiddio Caerdydd, ar ludw hen dai dosbarth gweithiol! Na – dyma broblemau crachach croenwyn ar aelwyd foethus yn y Bae. Trowyd Theater Bara Caws yn Theater Cocên pur a Gwin drud.

Wrth ystyried hyn, efallai nid oes rhyfedd i’w ffantasi o Gymru Fydd gwtshio UKIP. Eto, dyma siom mawr. Mae’n llawn bosib, wedi’r cyfan, i greu’r fath golygfa a’i beirniadu’n radical o’r tu mewn. Ystyriwch An Inspector Calls Priestley, da’r aelwyd gefnog yn datgelu gwacter eu cyflwr eu hun, neu Brawd-ddydd Kafka, da’r amynedd bourgeois yn bwyta eu hun yn rhacs. Yn sicr fe wnaeth Yfory cyffwrdd â hyn. Ar ei gorau, amlygodd adfyd gwag y hetero-deulu niwclear, “gêm” disylwedd gwleidyddiaeth y Bae a thwyll y sefydliad newyddiadurol. Cawn sawl linell anhygoel, wrth i Ellie gofyn a oes dyn tu ôl i masg y gwleidydd, neu wrth i Gwyn a Kelvin olrhain eu dringo diysbryd trwy fiwrocratiaeth y pleidiau. Eto, ar adegau arall, anodd oedd gwahaniaethu rhwng hunanfeirniadaeth a rhagfarn dosbarth canol, wrth i’r cymeriadau gwneud hwyl o’r di-waith nad yw’n codi yn y bore (a’r gynulleidfa chwerthin yn eu tro). Ta beth, nid yw’r ddrama yn dilyn y beirniadaethau i’w diweddglo radical. Yn hytrach, rhoddwyd cyfeiriad “amgen” iddynt, gan bennu ag atebion adweithiol. Atebwyd gwacter gwleidyddiaeth trwy wleidyddiaeth leol, ac atebwyd adwaith Brecsit da phlaid adweithiol Brecsit.

Ffeminyddiaeth ffaeledig

Rhyw hanner feirniadaeth yn ogystal ceir o’r teulu niwclear a’r gymdeithas batriarchaidd, er gwaetha bwriad ffeminyddol Eirian. Arwres ffaeledig yw Ellie, a mond trwy fod yn bartner i Gwyn, a thrwy ei berswadio ef, oedd y posibilrwydd iddi “lwyddo” o gwbl. Hi yw’r gobaith eto ar y diwedd gan ffoi’r aelwyd i ddyfodol newydd, ond eto, a’i ffoi’r un meddylfryd adweithiol wnaiff hi? Os mai cymeriad ffeminyddol yw Ellie, nid yw’n ffeminydd rhyngblethol, intersectional. Fel menyw untu, wen, ddosbarth canol a’i gradd Oxbridge, nid yw eu gweledigaeth yn dangos unoliaeth i bob menyw. Anodd ystyried fel gall unrhyw arwres ffeminyddol ystyried agosáu at UKIP, plaid warthus o batriarchaidd. Ond yn sicr, nid yw ei ffeminyddiaeth yn un sydd yn ymestyn i’r menywod mudol a erlidiwyd gan y system ffiniau. Nid yw’r dychaniad o wrywiaeth-hetero Gwyn chwaith yn un dwys. Fel cymeriad Dewi Rhys Williams yn Pen Talar, er gwaetha ei chwantau erys ef wedi’r cwbl yn hen batriarch Cymreig ystrydebol, y penderfynydd moesol mewn sefyllfa anodd.

Yn debyg, diewyllys yw’r mab Trystan o fewn ei deulu a Gwleidyddiaeth fawr y byd. Dim ond trwy efelychu gormes hetero oedolion y daw’n oddrych o gwbl, trwy berthynas rhywiol gyda Cerian, merch pymtheng mlwydd oed. Er i’r ddrama dangos fel gall newyddiadurwyr a thadau gormesu merched yn ogystal, wedi’r elfen-sioc gwreiddiol ymylwyd ar esgusodi’r perthynas problemataidd. Trwy greu Trystan yn ddioddefwr, anwybyddwyd ei sefyllfa o bŵer dros ferch. Yn y pen draw, nid beirniadu cymhlethdod patriarchaeth yw swyddogaeth y datguddiad, ond rhoi penderfyniad arall i’r tad, Gwyn. Dewis ei fab, gan blygu i bwysau blackmail Kelvin a’i newyddiadurwr, yntau dewis gweledigaeth ei bartner, gan fygwth sgandal iddo fe ac i Trystan. Unwaith eto, ceisiwyd peri cydymdeimlad at bobl bwerus – dyn ifanc mewn perthynas â merch dan oedran, gwleidydd sy’n gwynebu sgandal, tad â dewis Abrahamaidd. Nid eu problemau personol nhw yw problem fawr y genedl.

Efallai dangos sut rhwystrwyd newid Ellie gan y rhain oedd bwriad Eirian, ond gan mai troi at UKIP yw’r newid nid yw’n drawiadol. Efallai, ar y llaw arall, mai corddi’r dyfroedd oedd ei ddymuniad. Ond rhaid i ni siarad yn ddi-flewyn ar dafod: pan fo cyrff ffoaduriaid yn nyfroedd Ewrop, adweithiol, nid pryfoclyd, yw cwtsho UKIP.

Unoliaeth yn erbyn UKIP

Drama wleidyddol yw Yfory, ond nid yw’n ddrama radical. Mae’r actio yn ddawnus, y cynhyrchiad o safon uchel, a’r sgript yn un crefftus tu hwnt. Siom mawr bod y cynnwys mor geidwadol, yn enwedig wrth gymharu â Gadael Lenin.[2] Mae’n wir bod neuadd dan ei sang o siaradwyr Cymraeg, yn gwylio drama Cymraeg, yn ddigwyddiad gwleidyddol (a bron yn un radical) yn ei hun. Eto, cysgod Seisnigeiddio yw cyd-destun trist y gwirionedd hwn. Dathlwyd bod y ddrama yn rhan o “sgwrs genedlaethol” a bod “mawrion” y Cymry Cymraeg yn gwylio’r ddrama – a dyma anarchwaethus bach yn eu tro yn rhan o’r sgwrs hon i bob golwg. Ond rhaid gofyn pwy gaewyd allan rhag sgwrs genedlaethol, a sgwrsio beth a wnawn. Dyma fygythiad byd bach y Bae: caiff rhai ware’r gêm (G)wleidyddol fel Saeson wrth i’r genedl araf lithro o dan ein traed. Ofer yw hunan-ddathliad heb feirniadaeth, a siarad heb frwydro[3]. Mae angen sgwrsio pragmataidd, ac y mae angen celfyddyd radical. Y mae hefyd angen gweithredu uniongyrchol ac unoliaeth go-iawn. Pwy a saif gyda ni?

 

Nodiadau

[1] Rhaid cofio mai llywodraeth leol Calais, a’i Maer neo-ffasgaidd, sy’n ymosod ar ffoaduriaid o hyd, wrth i ddinasyddion ffasgaidd “gyfrannu” yn ffisegol i’r wleidyddiaeth. Ac yn erbyn cynghorau lleol bu nifer o frwydrau mwyaf chwerw Cymdeithas ac eraill dros yr iaith. Nid yw atgyfnerthu “gwleidyddiaeth leol” o reidrwydd yn radical.

[2] Beirniadwn yma gynnwys a neges ymhlyg y ddrama, canys hon a aeriwyd i fod yn radical. Ond beth am ei ffurf? Pedwaredd wal gwydr ffenest y fflat sy’n ein cloi fel gwylwyr yn unig, heb ewyllys i wir newid ffawd y genedl. Dyma’r un gwydr sgleiniog sy’n amgáu Senedd y Bae. Er mae gwydr wedi’u torri yw clawr y rhaglen, ni thorrwyd ffurf arferol y theatr. Y theatr hon yw symbol y byd Oedipaidd-gyfalafol i Deleuze a Guattari, lle caethiwyd chwant yng nghynrychiolaeth teuluol-niwclear (mami, dadi, fi). Rhaid i wir ddrama radical chwalu a symud tu hwnt i gynhyrchiad cyfalaf, fel awgrymodd weithgareddau Diggers San Francisco.

[3] Mae arnom ddyled i Fred Moten am bwysleisio cyd-bwysigrwydd dathlu a beirniadu.