Cafwyd tipyn o weithgarwch a phrotest yn Ne Cymru dros yr wythnos diwethaf – digon i warantu crynodeb radical arall!
Streic y Fenyw yn picedi
Ar ddydd Gwener yr 8fed o Fawrth, Diwrnod Rhyngwladol y Fenyw cafwyd piced tu allan i’r ganolfan swyddi ac yna rhaglen o weithgareddau a pherfformiadau radical gan Streic y Fenyw yng Nghaerdydd. Mae Streic y Fenyw yn fudiad sydd yn brwydro cyfalafiaeth a phatriarchiaeth fel ei gilydd. Gan fod llafur di-dâl menywod ac eraill “di-waith” yn rhan annatod o’r system elw, gall streic gan fenywod gwrthdroi’r system. Targedwyd y ganolfan swyddi am fod bolisiau crintachlyd megis “universal credit” yn cwtogi arian y di-waith, gan greu dlodi, dyled a phoen.
“XR” Caerdydd ar y strydoedd
Y diwrnod nesaf, Sadwrn , dyma “Extinction Rebellion” Caerdydd yn denu nifer i’r strydoedd i blocio hewlydd mewn protest dros yr amgylchedd. Bu dipyn o feirniadaeth o hierarchiaeth XR yn ddiweddar oherwydd eu cydweithrediad naïf â’r heddlu ac am eu… hierarchiaeth. Eto, da gweld y fath weithredu uniongyrchol gan gynifer o bobl frwdfrydig.
Protestwyr yn meddiannu swyddfa’r BBC
Ar ddydd Llun yr 11eg dyma ymgyrchwyr dros ryddid Cwrdaidd, a rhyddid i’r carcharwr gwleidyddol Abdullah Öcalan, yn meddiannu mynedfa swyddfa’r BBC yn bae Caerdydd am rai oriau yn dilyn protest tu allan i’r Senedd. Cyflawnwyd y gweithred i brotestio’r diffyg sylw llwyr gan y BBC i frwydrau’r ymgyrchwyr yn ddiweddar, yn enwedig ympryd Imam Sis. Bu Imam Sis, Cwrd yng Nghasnewydd ar streic newyn ers dros 90 diwrnod nawr. Ar ddiwedd mis Chwefror ymunodd nifer eraill gydag ef – rhai yn y ganolfan Cwrdaidd yng Nghasnewydd ac eraill o bell – am ympryd o 24awr mewn solidariaeth.
Gwerin Guildford: trech sgwotio na foneddigeiddio!
Ar ddydd Iau cyhoeddodd anarchiaid “Gwerin Guildford” eu bod wedi meddiannu hen bar y Gwdihw ac adeiladau cysylltiedig yng nghanol Caerdydd. Ar ddiwedd mis Ionawr fe drowyd y bar amgen, bwytai teuluol allan o’r Guildford Crescent gan y perchnogion, sydd am ddymchwel y cilgaint (teras hyna Gaerdydd) er mwyn creu fflatiau costus ac elw hawdd. Bu brotestiadau mawr dan faner #SaveGuildfordCrescent yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae cais i restru’r adeiladau hanesyddol gyda Cadw. Er i’r datblygwyr, addo i’r cyngor y fyddant yn gohirio dymchwel y cilgaint, dengys cyfathrebiad llys yn sgil y meddiant eu bod mewn gwirionedd ar fin eu dymchwel. Nid yw’n syndod bod landlordiaid am ennill arian heb os am ein hetefeddiaeth nag anghenion cyffredin. Dim ond gweithredu uniongyrchol gall atal boneddigeddio ein dinasoedd, sicrhau bod tai i bawb ac amddiffyn ein diwylliant.
Bydd achos llys y sgwot ar Ddydd Iau y 21ain. Galwyd am brotest dros gadw ‘r cilgaint ar yr un diwrnod, Guildford Crescent, am 11.30am. Solidariaeth!
Yr ifanc yn streicio eto
Yn olaf, dydd Gwener diwetha cafwyd streic addawol arall dros yr hinsawdd. Gadawodd plant a phobl ifanc eu hysgolion led-led Cymru a’r byd, llaw yn llaw gyda myfyrwyr a chefnogwyr, gan brotestio tu allan i adeiladau llywodraethol. Buon nhw’n galw unwaith eto i’r wladwriaeth cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifri ac atal tranc ein byd. Yng Nghaerdydd martsiodd dros 600 o bobl ifanc o Neuadd y Ddinas i’r Senedd, yn Abertawe martsiodd dros 100 i Neuadd y Cyngor, a chafwyd hefyd protestiadau angerddol er gwaetha’r tywydd yn Llangefni, Machynlleth, Aberystwyth, Llandrindod a Hwlffordd. Megis streic y fenyw, mae streic yr ifanc yn dangos sut gall weithredu amgen mentro trawsnewid ein byd.
Os oes gennych chi newyddion, digwyddiad, stori neu glecs i anarchwaethus rhannu, cysylltwch! Da ni’n chwilio yn enwedig am fwy o adroddiadau radical o Ogledd a Gorllewin Cymru.