“Y Gwahanfur”, Boneddigeiddio a Phrydeindod

boneddigeiddiocaerdydd
Cynllun dystopiaidd “datblygu” Caerdydd. [1]

Difrod Cyfalafiaeth

Mae “Y Gwahanfur: Trebiwt a Difrod Cyfalafiaeth” gan Morgan Owen yn anerchiad diweddar yn erbyn boneddigeiddio (“gentrification”) yng Nghaerdydd. Mae’n llawn angerdd barddonol a gwrth-gyfalafol, ac yn werth ddarllen.

Disgrifia’r erthygl rhwyg ar hyd Drebiwt, Caerdydd, y gwagle wedi hollti’n “ddwy wlad” gan wahanfur y rheilffordd [2]. Mae’r ochr Dwyreiniol wedi’u boneddigeiddio’n bwt – “fflatiau newydd (‘moethus’ ys dywed y datblygwyr gwancus) y Bae”. Dyma oedd ardal y dociau, ond wedi “troi’n ddiffeithwch ar ôl sugno pob diferyn o faeth ohonynt a gwasgaru’r hen drigolion i’r pedwar gwynt” codwyd “trefedigaeth o fflatiau drud o’r ulw” [3]. Yr ochr draw i’r rheilffordd mae’r ochr Gorllewinol, dosbarth gweithiol, aml-ethnig, wedi’u harwahanu o’r “ynys gaeedig” a’u “gwthio i’r ymylon”. Mae’r gymuned hon nawr dan y bygythiad y lleda’r boneddigeiddio gan eu halltudo nhw o’u hardal. Traetha “am y perygl penodol i ni Gymry yn yr arwahanu” a achosir gan foneddigeiddio. Mae’r Gymraeg, sy’n lleiafrif, yn gryfach “pan fo lleiafrifoedd eraill, a phan nad oes gafael hegemonig gan y mwyafrif”, gan wrthsefyll y pwysau ar y lleiafrifoedd ‘oll i “gymathu” [4]. Ie wir.

Erthyglau Diweddar ar (Gwrth-)Foneddigeiddio a Lleiafrifoedd

Braf iawn yw gweld erthygl, yn Gymraeg, sy’n ymosod ar foneddigeiddio Caerdydd. Braf yn ogystal yw gweld erthygl sy’n cysylltu boneddigeiddio i orthrwm lleiafrifoedd ethnig ac i dranc yr iaith.

Brafiach byth yw hyn ‘oll wrth ystyried rhai o’r elfennau hiliol a gwrth-fudwyr sydd wedi ymddangos yn rhannau o’r disgwrs gwrth-foneddigeiddio yn Ewrop. Mae rhai, gan gynnwys Class War yn Llundain, wedi ymylu ar feio cyfoethogion o dramor am foneddigeiddio, yn hytrach na chyfalafwyr ‘oll a chyfalafiaeth fel proses strwythurol, amhersonol, sydd wir ar fai [5]. Am feirniadai craff o’r elfennau hyn mae’n werth bwrw golwg dros yr erthyglau Saesneg diweddar:

Boneddigeiddio / Seisnigeiddio

Yn hytrach na feio lleiafrifoedd o dramor, rhaid deall ac ymosod ar foneddigeiddio Cymru yn eu cyd-destun o Brydeindod a Seisnigeiddio. Mae Morgan Owen wedi dechrau’r dasg, ond wedi gadael yr anghenfil yn ddienw fel petai [6]. Mae’n sôn am y bygythiad mae’r Cymry Cymraeg a lleiafrifoedd eraill yn gwynebu o “gymathu”, o gael “ein llyncu’n llwyr” – ond ein cymathu i beth? I’r “unffurfrwydd dienaid” mae’n siŵr – a heb os, rhywbeth gwag, estronol yw datblygiad sgleiniog cyfalafiaeth [7]. Ond eto, nid yw’n hollol wag o “ddiwylliant” – yn hytrach, mae ganddi ddiwylliant gwag. Prydeindod yw enaid yr unffurfrwydd dienaid, Saesneg yw’r iaith sy’n llyncu’r lleill i’w mudandod. [8]

Wrth gwrs, mae’n bosib gall ynysoedd bach Cymraeg (neu Gymreig-Prydeinig) goroesi yn “ein” dinasoedd yn ystod y broses o foneddigeiddio, wrth i ychydig o grachach fforddio byw yn y tai newydd costus, neu elwa fel landlordiaid ac yn y blaen [9]. Ond nid er lles yr iaith na chwaith y mwyafrif, llai-gefnog o siaradwyr Cymraeg fydd hyn [10][11]. Iaith cymuned yw’r iaith Cymraeg, ac wrth i gymunedau cael eu gwthio i’r ymylon a’i hollti gan foneddigeiddio daw’r iaith dan fygythiad. Iaith hanner-farw yw iaith a siarader o enau rhai gwleidyddion, siwtiau busnes a chyfryngis yn unig. Rhaid gwrthwynebu boneddigeiddio yn drylw felly. Nid ydym yn mynnu i foneddigeiddio derbyn Cymreictod. Mynnwn ddiwedd i foneddigeiddio. Y Gymraeg yn erbyn boneddigeiddio.

Ar y Gymraeg a’r frwydr am y ddinas, gwerth darllen yr erthygl isod (a’r cyfathrebiad fideo Cymraeg gan sgwatwyr sydd ynddi):

Brwydrau gwrth-foneddigeiddio diweddar yn Llundain

Yn olaf, i gwnnu’n calonnau ac i ddysgu tactegau am y brwydrau sydd o’m blaenau, mae’n werth edrych ar y llu o wrthdrawiadau gwrth-foneddigeiddio a thebyg [12] sydd wedi ymddangos yn Llundain yn ddiweddar:

I’r gad!

 

gwahanfuraylesbury
Chwalu gwahanfur Aylesbury oedd yn cau mewn meddiant yr ystâd.

 

 

Nodiadau

1″This is what Cardiff will look like in 10 years“, Wales Online.

2 Tybed a’i gyfeirio at ddyfyniad enwog Benjamin Disraeli mae Owen? (“Two nations; between whom there is no intercourse and no sympathy; who are as ignorant of each other’s habits, thoughts, and feelings, as if they were dwellers in different zones, or inhabitants of different planets … the rich and the poor.”) Ta beth, mae’r trosiad (a’i ddefnydd o’r term “trefedigaeth” ychydig yn hwyrach) yn un diddorol wrth ystyried y cymhlethdodau a’r rhyngblethiadau rhwng dosbarth a chenhedloedd y trafodwn yn hwyrach.

3 Mae disgrifiad Owen o gyfalafiaeth yn “sugno pob diferyn” yn ein hatgoffa am y disgrifiad o “Hydraulic Capitalism” yn “Logistics, Counterlogistics and the Communist Prospect, Endnotes #3” gan Jasper Bernes.

4 Mae hyn yn dwyn i gof ymdrechion Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith i gysylltu brwydr yr iaith Gymraeg â brwydrau ieithoedd lleiafrifol arall yn y ddinas.

5 Rhaid cofio hanes gwrth-Semitiaeth, lle erlidiwyd Iddewon a ragfarnwyd yn aml i fod yn gyfoethog oll, gan ddileu’r gwirionedd mae dosbarth gweithiol oedd y mwyafrif o Iddewon Ewrop a gan “anghofio” am y cyfoethogion eraill.

Mewn cyd-destun ac ar raddfa wahanol iawn, weithiau gwelwn ragfarn debyg yn ymddangos yn erbyn y Cymry Cymraeg – y cyhuddiad ffals ein bod ni i gyd yn elît cyfoethog! Mae hoywon hefyd wedi dioddef gan ragfarn popiwlaidd tebyg – cyhuddiadau o “bourgeois decadence” ac yn y blaen (gwelwch yr erthygl ar “Hipsterphobia” a rhywedd uchod). Mae’r rhain ‘oll yn esiamplau o bŵer yn bachu ac yn gwyrdroi disgwrs y frwydr ddosbarthiadol at ddibenion adweithiol, gan atgyfnerthu gormesau gwahanol a gan atgyfnerthu gormes y dosbarth gweithiol yn ogystal. Hynny yw, er iddynt honni ymosod ar yr elît a’r cyfoethog, mewn gwirionedd maent yn amddiffyn y cyfoethog ac yn ymosod ar leiafrifoedd gorthrymedig. (Gwelwch Trump neu Farage er enghraifft – yr elît yn honni nad ydynt yn elît ac eu bod nhw yn erbyn yr elît!) Ych a fi.

6 Mae erthygl Morgan Owen yn nodi (ac anarchwaethus yn lled gytuno) “Nid yw cyfalafiaeth yn parchu cymunedau na chenhedloedd nac ieithoedd: bwrir hwynt heibio fel pob rhwystr arall i’r farchnad, oni bai am yr achlysuron hynny lle y gellir eu defnyddio at ddibenion masnachol.” Ond yn y geiriau olaf gwelwn agoriad holl bwysig: pa genhedloedd, a pha ieithoedd, ac at ba ddibenion masnachol? Trwy Brydeindod daeth cyfalaf i reibio Cymru, trwy Brydeindod y allforiwyd – a gorfodwyd – cyfalafiaeth dros rannau helaeth o’r byd. Eto, ni fydd cyfalafiaeth Gymreig na Chymraeg yn atal tranc yr iaith na chwaith yn rhyddhau Cymru.

7 Yn dilyn cysyniad y Karl Marx ifanc o “entfremdung” (“alienation“) defnyddiwn “estronol” fanyn. Roedd defnydd Marx o’r gair yn ddiddorol canys y gwelwyd ac erlidiwyd ef trwy ei oes am fod yn lleiafrif “estron” o dras Iddewig (er iddo gymathu). Yn ei ddull arferol trodd Marx pethe ben i waered fel petai, gan gyhuddo cymdeithas cyfalafiaeth o fod yn estroniedig. Mae cyfalaf yn bŵer estron, diarth, amhersonol, sydd yn estroneiddio‘r gweithiwr oddi wrth gynnyrch ei lafur, oddi wrth ei waith, oddi wrth ei gyd-weithwyr, oddi wrth ei hun ac oddi wrth natur.

8 Onid yw dadl anarchwaethus nawr yr un peth a’r rhai beirniadwyd ychydig yn gynt, un sydd yn beio Saeson cyfoethog am foneddigeiddio? Nac ydi, am sawl rheswm. Yn gyntaf, Prydeindod a Seisnigeiddio, yw’r broblem, ac er bod y rhain yn gysylltiedig i’r Saeson fel cenedl, ac i Saeson fel unigolion, nid ydynt yr un peth. Mae’r gwahaniaeth yn un bwysig. Gall Cymry (gan gynnwys Cymry Cymraeg) hybu Prydeindod a Seisnigeiddio, neu fod yn rhan digon bodlon o broses sydd yn gysylltiedig i’r pethe hyn, fel dadleuwn uchod. Mae hefyd yn bosib i Saeson bradu eu Prydeindod a gwrthwynebu Seisnigeiddio, fel mae sawl wedi ar hyd ein hanes. Yn ail, rhaid deall y perthynas rhwng y Saeson a’r Cymry o fewn hanes ein gwladychiad. Nid lleiafrif (yn yr ystyr meintiol nac ansoddol) erlidiedig yw cenedl y Saeson, na chwaith cydgenedl gydradd, ond cenedl sydd mewn perthynas o ddominyddu’r Cymry. Nid cenedl orthrymedig yw’r Saeson. (Nodwch fanyn y defnydd o’r gair cenedl, nid unigolyn – gwahaniaeth arall tra phwysig.) Mae nifer ohonynt wedi eu gorthrymu, wrth gwrs, o ran dosbarth, rhywedd, ac yn y blaen, ond nid o ran eu cenedligrwydd Saesneg. (O reidrwydd dyma ddarlun syml – nid yw Cymreictod na Seisnigrwydd wastod yn dermau diffiniedig na chwaith yn rhai sydd yn cau allan hunaniaethau cenedlaethol arall.)

Yn sicr rhaid gwrthwynebu cenedlaetholdeb cul, adweithiol, sydd yn beio Saeson (neu Brydeindod) uwchben popeth, gan anwybyddu (ac felly atgyfnerthu) gormes gan y Cymry.

9 Cofiem yr uchelwyr Cymreig a “wnaeth yn dda” o’r Deddfau Uno, gan symud o Gymru i fwyta ger bordydd Saeson mawr yn Llundain.

10 A hyd yn oed pe fydde hi’n llesol i’r iaith Gymraeg, fydde rhaid eu gwrthwynebu gan eu bod yn… foneddigeiddio.

11 ‘Drychwch ar y sefyllfa tai haf yng Nghymru heddiw er enghraifft. Ers dyddiau bri Meibion Glyndŵr mae nawr ychydig mwy o dai haf sy’n berchen i Gymry Cymraeg cyfoethog – rhai sydd wedi “gwneud yn dda”. Eistedda‘r rhain wrth ymyl y gweddill sy’n berchen i Saeson cyfoethog. Mae’r tai haf Cymreig a Chymraeg hyn yn dal i niweidio‘r cymunedau brodorol Cymreig a’r iaith Gymraeg, yn yr un modd ag y mae’r tai haf Saesneg. Nid yw’r datblygiad hwn yn golygu bod y frwydr ddosbarthiadol a diwylliannol yn erbyn tai haf wedi’u troi yn un dosbarthiadol yn unig felly. Yn hytrach, mae tai haf sy’n bia i Gymry Cymraeg yn wedd newydd i’r Seisnigeiddio. Mae gormes yn gymhleth, yn esblygu, ac yn rhyngblethol.

12 Wrth gwrs, mae’n bosib cysylltu sawl math o frwydr arall i’r brwydr eang yn erbyn boneddigeiddio (nid yw anfodlonrwydd na gwrthdystiadau terfysglyd yn codi prisiau tai!), ond cyfyngwn y dewis fanyn.

13 Rhannau o ddisgwrs Class War a sbardunodd feirniadaethau pwysig yn erthyglau uchod. Er gwaethaf hyn, maent wedi frwydro’n gyson yn erbyn boneddigeiddio ac ni ddylid diystyru hyn.

Advertisements

Baich Cymreictod

Mae traddodiadau’r cenedlaethau meirw ‘oll yn pwyso fel hunllef ar amynedd y byw.

Deunawfed Brumaire Louis Napoleon, Karl Marx [1]

Nid cenedlaetholdeb gorfoleddus yw cenedlaetholdeb Cymreig. Nid yn aml, ta beth. ‘Drychwch ar Brydeindod, a’i falchder dathliadol, goruchafol. Ei bleser. Cyfri ein cleisiau wnawn ni’r Cymry, gan weithiau ymfalchïo yn yr ambell bwyth y talwn yn ôl. Ma ganddyn nhw Jiwbilî, ma gennym ni Cilmeri. Pan ddaw gorfoledd i’n genau, dan gysgod ein gwladychiad yw gan amlaf. “Er gwaetha pawb a phopeth”.

jubilee

Nid fod cenfigen. Gobeithiwn, ta beth. Pa fath beth fydde Cymreictod pe fyddai wedi cyflawni mawr gampau gormesol fel Prydeindod? Mae gennym ein campau bychan wrth gwrs. Y caethfeistri Cymreig, y gweinyddwyr yn yr ymerodraeth… David Lloyd ffycin George. Cerddwn llaw yn llaw a’r Saeson gormod o weithie, fel aelod ufudd o’r teulu Prydeinig. Neu weithie cerddwn allan ar liwt ein hun, ar antur fach ormesol. Pogrom gwrth-Semitaidd Gwalia neu wladychu Patagonia. Ma digon yn fodlon anghofio ein gweithredoedd cywilyddgar, neu ei ail-lywio, neu hyd yn oed eu dathlu[2]. ‘Doeddwn ni fyth fel nhw’. Ha.

Diffinia rhai cenedlaetholdeb yn ôl ryw falchder hawdd. Neu wladgarwch yn ôl ryw gariad syml. Nid ydynt yn genedlaetholiaid Cymreig felly – neu nid rhai fel nyni ta beth. Balchder Cymry? Ma digon o siom gan y Cymry. Y siom o ddioddef gwawd y Saeson tan i ni adael ein hiaith, golli ein hyder. Ond hefyd y siom o ormesu eraill yn debyg, ar ôl i ni ei derbyn ein hun. Ond nid yw’r siom yn un ellid taflu ffwrdd, gan honni nad yw’n perthyn i ni, gan ein bod yn di-genedl nawr. Na, Cymry yr ydym, Cymry yr ydym o’i herwydd. Ac os siaradwn am falchder felly, dyma falchder gwrth-geidwadol. Balchder dros frwydro yn erbyn a thu hwnt i’r hyn da ni fod i fod. Os oes gennym wladgarwch, dyma gariad gymhleth. Nid cariad pur yr hen ganeuon hetero. Ond cariad at rywbeth da ni’n eu casáu (ar adegau, neu wastod)[3]. Sy’n llawn cach, ond eto, sy’n llawn ohonom ni, sy’n perthyn. Cenedlaetholdeb yw mynnu sôn am ein cenedl, mynnu bod yn genedl, er gwaetha pawb a phopeth ac er gwaetha ni ein hun.

Nid wyt ond hunllef yn dy wlad dy hun

“Cymru”, Ysgubau’r Awen, Gwenallt

Yr anallu i ddianc ein cenedl, i ddianc ein Cymreictod, yw adlais mawr ein llên fodern. Y cadwyni megis clwm Celtaidd amdanom ni. Mae’r crafangau’n dirdynnu ein bron ac yn y blaen. Mae’r Cymro sy’n gatael am Lundain i fod yn Dori rhonc dal dan hunllef nosweithu ola leuad ei bentre bach! Balchder yw cenedlaetholdeb Prydeinig. Baich yw cenedlaetholdeb Cymreig.

Beth i wneud a’r baich hwn? Siwd i’w cario? Ei lusgo mlan tan ddydd y farn? Ei ymgorffori yn sefydliadau diddiwedd? Daw’r baich i ben mewn dwy ffordd. Pe lwyddwyd i ladd y Gymraeg, pe ddaw’r genedl yn farw, gan adael mond ysbryd megis Cymbria. Ynteu pan ddaw Gymru’n Rhydd.

Ni ellid seilio rhyddid ar orthrwm eraill. I Gymru dod yn rhydd, rhaid gwrthdroi gorthrwm y byd yr ydym yn rhan ohono. Wrth i system drefedigaethol y gorllewin a’r oruchafiaeth gwyn y mae’r Gymry gwyn yn gomplisit ynddi barhau, parhau bydd y baich. Nid Cymru rydd fydd Cymry patriarchaidd chwaith[4], na Chymru ag ecsbloetiwyd gan gyfalaf, pe bai hi’n gyfalaf tramor neu gyfalaf Cymreig. Wrth i drones cal eu creu yma a ffoaduriaid cal eu herlid, ni fu Gymru’n Rhydd. Ma rhyddid Cymru ynghlwm â rhyddid eraill[5]. Dyma wirionedd ein dihareb “first to be colonised, last to be free“.

Trwy frwydro dros ein rhyddid a rhyddid eraill, trwy ofalu am ein gilydd a thrwy unoliaeth radical, trown y baich yn ysgafnach. Pwyso llai wna traddodiadau’r meirw wrth iddynt gal byw rhywfaint eto. Tewi gwna’r hunllef, a chawn freuddwydio chydig bach.

Nodiadau

1 Der 18te Brumaire des Louis Napoleon. Cyfieithwn o’r Saesneg. “The tradition of all dead generations weighs like a nightmare on the brains of the living.” https://www.marxists.org/archive/marx/works/1852/18th-brumaire/ch01.htm

2 Drychwch ar farn boblogaidd y Cymry Cymraeg at wladychu Patagonia (a’r anwybyddu llwyr o’r ffaith mai tir pobl gynhenid oedd yng nghynt), neu gynhwysiad farddoniaeth hiliol yn ein “Hoff Gerddi” .

3 “Ei charu’r wyf yn chwerw hefyd, / A’i chasáu’n serchus o hyd.” (“Cymru”, Alan Llwyd).

4 Nid dyn ysgrifennodd yr uchod, ond siomedig yw’r ffaith mai dynion a ddyfynnwyd ‘oll.

5 “Mae fy rhyddid yn dibynnu ar ryddid eraill”, Mikhail Bakunin, yn sawl destun. (Er iddo draethu hyn, gwarthus oedd gwrth-Semitiaeth Bakunin.)