Streiciwch, Meddiannwch, Gwrthsafwch!

Cafwyd tipyn o weithgarwch a phrotest yn Ne Cymru dros yr wythnos diwethaf – digon i warantu crynodeb radical arall!

Streic y Fenyw yn picedi

Ar ddydd Gwener yr 8fed o Fawrth, Diwrnod Rhyngwladol y Fenyw cafwyd piced tu allan i’r ganolfan swyddi ac yna rhaglen o weithgareddau a pherfformiadau radical gan Streic y Fenyw yng Nghaerdydd. Mae Streic y Fenyw yn fudiad sydd yn brwydro cyfalafiaeth a phatriarchiaeth fel ei gilydd. Gan fod llafur di-dâl menywod ac eraill “di-waith” yn rhan annatod o’r system elw, gall streic gan fenywod gwrthdroi’r system. Targedwyd y ganolfan swyddi am fod bolisiau crintachlyd megis “universal credit” yn cwtogi arian y di-waith, gan greu dlodi, dyled a phoen.

StreicyFenywCaerdydd2019
Piced Streic y Fenyw tu allan i’r ganolfan swyddi, Caerdydd

“XR” Caerdydd ar y strydoedd

Y diwrnod nesaf, Sadwrn , dyma “Extinction Rebellion” Caerdydd yn denu nifer i’r strydoedd i blocio hewlydd mewn protest dros yr amgylchedd. Bu dipyn o feirniadaeth o hierarchiaeth XR yn ddiweddar oherwydd eu cydweithrediad naïf â’r heddlu ac am eu… hierarchiaeth. Eto, da gweld y fath weithredu uniongyrchol gan gynifer o bobl frwdfrydig.

XRCaerdyddMawrth2019.jpg
XR Caerdydd yn cymryd stryd y Santes Fair, Caerdydd

 

Protestwyr yn meddiannu swyddfa’r BBC

Ar ddydd Llun yr 11eg dyma ymgyrchwyr dros ryddid Cwrdaidd, a rhyddid i’r carcharwr gwleidyddol Abdullah Öcalan, yn meddiannu mynedfa swyddfa’r BBC yn bae Caerdydd am rai oriau yn dilyn protest tu allan i’r Senedd. Cyflawnwyd y gweithred i brotestio’r diffyg sylw llwyr gan y BBC i frwydrau’r ymgyrchwyr yn ddiweddar, yn enwedig ympryd Imam Sis. Bu Imam Sis, Cwrd yng Nghasnewydd ar streic newyn ers dros 90 diwrnod nawr. Ar ddiwedd mis Chwefror ymunodd nifer eraill gydag ef – rhai yn y ganolfan Cwrdaidd yng Nghasnewydd ac eraill o bell – am ympryd o 24awr mewn solidariaeth.

MeddiannuSwyddfaBBCyBaeMawrth2019
Yr heddlu yn ceisio yn ofer i symud y protestwyr o swyddfa’r BBC yn y Bae

Gwerin Guildford: trech sgwotio na foneddigeiddio!

Ar ddydd Iau cyhoeddodd anarchiaid “Gwerin Guildford” eu bod wedi meddiannu hen bar y Gwdihw ac adeiladau cysylltiedig yng nghanol Caerdydd. Ar ddiwedd mis Ionawr fe drowyd y bar amgen, bwytai teuluol allan o’r Guildford Crescent gan y perchnogion, sydd am ddymchwel y cilgaint (teras hyna Gaerdydd) er mwyn creu fflatiau costus ac elw hawdd. Bu brotestiadau mawr dan faner #SaveGuildfordCrescent yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae cais i restru’r adeiladau hanesyddol gyda Cadw. Er i’r datblygwyr, addo i’r cyngor y fyddant yn gohirio dymchwel y cilgaint, dengys cyfathrebiad llys yn sgil y meddiant eu bod mewn gwirionedd ar fin eu dymchwel. Nid yw’n syndod bod landlordiaid am ennill arian heb os am ein hetefeddiaeth nag anghenion cyffredin. Dim ond gweithredu uniongyrchol gall atal boneddigeddio ein dinasoedd, sicrhau bod tai i bawb ac amddiffyn ein diwylliant.

GuildfordPeasants
Anarchiaid Gwerin Guildford yn ei sgwot newydd

Bydd achos llys y sgwot ar Ddydd Iau y 21ain. Galwyd am brotest dros gadw ‘r cilgaint ar yr un diwrnod, Guildford Crescent, am 11.30am. Solidariaeth!

Yr ifanc yn streicio eto

Yn olaf, dydd Gwener diwetha cafwyd streic addawol arall dros yr hinsawdd. Gadawodd plant a phobl ifanc eu hysgolion led-led Cymru a’r byd, llaw yn llaw gyda myfyrwyr a chefnogwyr, gan brotestio tu allan i adeiladau llywodraethol. Buon nhw’n galw unwaith eto i’r wladwriaeth cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifri ac atal tranc ein byd. Yng Nghaerdydd martsiodd dros 600 o bobl ifanc o Neuadd y Ddinas i’r Senedd, yn Abertawe martsiodd dros 100 i Neuadd y Cyngor, a chafwyd hefyd protestiadau angerddol er gwaetha’r tywydd yn Llangefni, Machynlleth, Aberystwyth, Llandrindod a Hwlffordd. Megis streic y fenyw, mae streic yr ifanc yn dangos sut gall weithredu amgen mentro trawsnewid ein byd.

StreicyrifancAberystwythMawrth2019
Streic yr ifanc dros yr hinsawdd yn Aberystwyth

Os oes gennych chi newyddion, digwyddiad, stori neu glecs i anarchwaethus rhannu, cysylltwch! Da ni’n chwilio yn enwedig am fwy o adroddiadau radical o Ogledd a Gorllewin Cymru.

Dydd Gwener o Gynnwrf: peth newyddion diweddar

Cafwyd tipyn o gynnwrf yn Ne Cymru Dy’ Gwener diwethaf. Dyma golwg bach (a barn anarchwaethus, wrth reswm!).

Cwrdiaid yn martsio er gwaetha hiliaeth

Prynhawn y 15fed o Chwefror cyrraeddodd gorymdaith o bobl Cwrdaidd a’i chefnogwyr De Cymru. Martsiant o Fryste y diwrnod hwnnw, ac o Lundain dros y dyddie cynt, er mwyn ymweld ag Imam Sis, un o drigolion Casnewyd. Bu Imam Sis yn ymprydio ers sawl wythnos, mewn protest yn erbyn carchariad a chamdriniaeth yr arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan gan y wladwriaeth Dwrcaidd.

HeddluymosodCwrdiaidCasnewyddChwefror2019
Yr heddlu yn ymosod yn dreisgar ar brotestwyr Cwrdaidd yng Nghasnewydd

Wrth gyrraedd y dre, cafwyd croeso tresigar gan heddlu De Cymru, a ymosododd yn ddi-rybudd ar y dorf. Cymhellwyd eu gweithredoedd gan hiliaeth amlwg yn ôl protestwyr. Er gwaetha’r orthrwm, cyrraeddodd y dorf eu cyrchfan lle areithiodd Imam Sis ac eraill.

Mae hyn yn dilyn protest mawr gan ymgyrchwyr Cwrdaidd tu allan i’r Senedd ar y 5ed o Fawrth.

Plant yn streicio yng Nghaerdydd ac Abertawe

Ar yr un Gwener fe gafwyd streic rhyngwladol dros yr hinsawdd gan blant a phobl ifanc. Gadawodd plant ysgol a myfyrwyr coleg a phrifysgol eu hastudiaethau mewn protest yn erbyn niwed cyfalafiaeth i’n byd a’r hinsawdd. Fel pob camdriniaeth, mae’r niwed hyn yn gysylltiedig i bwer hierarchaidd oedolion dros blant – system oedolion, a’r hen genedlaethau, sydd yn lladd ein cartref naturiol. Braf gweld plant wrth flaen y gad felly yn herio’r drefn. Cronnodd cannoedd o blant a’u cefnogwyr i brotestio tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd; protestiodd eraill ar draeth Abertawe ac ar Gampws Singleton y prifysgol.

Da i glywed am ddoethineb cymaint o’r plant wrth iddynt ddewis beidio siarad na chyd-weithio â’r heddlu. Yn Llundain, cafwyd digwyddiadau treisgar wrth i’r heddlu arestio plant am brotestio a gyrru fan i mewn i’r dorf. Fel dengys hyn a phrofiad y Cwrdiaid yng Nghasnewydd, ni ellid ymddiried yn y fath sefydliad haerllug, ac nid ydynt yn ffrindiau i neb sydd yn brwydro dros ryddid.

Gigio dros Gymru rydd yng Nghaerdydd

Ar noswaith yr un Gwener cafwyd gig dros Gymru annibynnol, radical, yng Nghaerdydd, dan faner GellirGwell gan sawl artist blaengar. Yn debyg i lawnsiad mudiad neywdd Undod, mae’n braf i glywed mwy o son am ba fath o Gymru rydd rhydym am ei gweld – un gwrthffasgaidd, un gwrth-gyfalafol, un ffeminyddol. Datganiad gwag yw “annibyniaeth” heb sylwedd radical. Hebddi, fel rhybuddiodd y chwyldroadwr Gwyddelig James Connolly, cawn ein dal gan dannau imperialaeth yr un fath.

Yn ôl pob son roeddd hi’n gig gwerth chweil. Wrth gwrs, mae angen y fath cwnnwrf diwylliannol dros Gymru gyfan, yn ein cymunedau – ac heb docynnau prin na chostus.

Digwyddiadau ar y gweill

  • Mae Streic y Fenyw Cymru yn trefnu llond ddwrn o ddigwyddiadau radical ar yr 8fed o Fawrth, Dydd Rhyngwladol y Fenyw, yng Nghaerdydd.
  • Ar yr 12fed o Fawrth yn Abertawe, a’r 14eg o Fawrth yn Llandudno, mi fydd y llywodraeth yn ceisio cynnal cyfarfod am dwmpio gwastraff niwclear yn ein cymunedau. Mi fydd brotestiadau!
  • Galwyd am streic arall gan yr ifanc yn erbyn newid hinsawdd ar y 15fed o Fawrth.

Cofiwch, os oes gennych chi newyddion am digwyddiad radical a fu neu a fydd, rhowch wybod!

Streic y Cludwyr a Streic y Fenyw!

StreicyCludwyrCaerdydd
Streic y Cludwyr yng Nghaerdydd, 4ydd o Hydref

Â’r Hydref yn ei anterth, dyma gwmnïau cludo UberEats a Deliveroo yn medi’r hyn a heuant.

Rhaid i weithwyr y cwmnïau hyn, sydd yn cludo prydiau bwyd-barod o fwytai i gwsmeriaid, gweithio am gyflogau isel (yn aml ‘mond £3-4 yr awr), oriau bregus ac amodau danderus. Trwy honni bod eu gweithwyr yn hunan-gyflogedig mae’r cwmnïau (sydd yn cyflogi trwy apiau ffôn symudol) yn ceisio osgoi talu aswyriant a phensiwn drostynt ac atal hawliau undebol, fel rhan o’r hyn a elwir yr “economi gig”. Ond mae gweithwyr cludo yng Nghaerdydd wedi codi stwr am eu problemau dros y fisoedd diwethaf.

Ar ddiwedd mis Awst, dechreuodd rhai o gludwyr Romanaidd Caerdydd ar streic wyllt (wildcat, sef streic digymell, answyddogol) dros amodau a diffyg gwaith ac ymunodd eraill yn gloi. Ar y 3ydd o Fedi, ceisiodd UberEats cynnal cyfarfod a’r gweithwyr. Wedi cael hen digon o drafod di-bwynt ac yn gweld y cynnig gwag fel yr hyn yr oedd, sef ymgais i gostegu’r aflonyddwch, aeth ddim un gweithiwr i’r cyfarfod. Yn lle, ymgasglodd y gweithwyr, trwy Couriers Network Cymru, tu allan i swyddfa UberEats yn Neptune Court, Caerdydd. Mae’r Couriers Network Cymru yn rhwydwaith o gludwyr sydd wedi bod yn weithgar dros y misoedd diwethaf, ac wedi’u cefnogi gan undeb Gweithwyr Diwydiannol y Byd (yr IWW). Cafwyd protest llawn angerdd a bomiau mwg lliwgar, a mynnodd y cludwyr i’w cynrychiolydd o’r IWW gael rhoi eu gofynion i’r goruchwylwyr. Bu warchodwyr diogelwch preifat yn bresennol o’r dechrau, ac hwyrach gawlyd heddlu arfiog i’r fan, ond ar ôl sylwi na fydd y gweithwyr yn symud, caniatawyd o’r diwedd i’r cynrychiolydd dod i mewn i siarad

DeliverooGweithwyrRhyw
Cwmni rhagfarnllyd Deliveroo yn ceisio (ond yn methu) atal gweithwyr rhyw rhag defnyddio’r gwasanaeth

Yn hwyrach ym mis Medi, dyma gwmni Deliveroo yn ceisio atal eu gweithwyr rhag cludo bwyd i weithwyr rhyw – ond yn dilyn pwysau o weithwyr trwy yr IWW ac undeb United Voices of the World llwyddwyd i wrthdroi y gofyniad rhagfarnllyd. Yn y cyfamser, ni welwyd dim gwelliant i sefyllfa gwaith y cludwyr – i’r gwrthwyneb, roedd “algorithmau” UberEats yn rhoi llai o dâl, oedd i bob golwg yn ymgais i gosbi’r gweithwyr am geisio ymdrefnu. Bu weithgaredd cyffroes Couriers Network Cymru yn sbardun i gludwyr mewn dinasoedd eraill. Galwyd felly am streic dros yr ynys ‘oll ar y 4ydd o Hydref, â chludwyr Caerdydd ar flaen y gad.

Roedd y streic yn esiampl o weithgaredd pwerus ac unedig gan weithwyr ac undebau ar lawr gwlad, gyda chludwyr mewn 10 dinas yn y DU yn ymuno. Bu gynnwrf a streiciau eisoes gan gludwyr Deliveroo ac UberEats, yn y DU a thu hwnt, ond dyma ddigwyddiad hanesyddol o ran cyd-streicio mewn amrywiaeth o ddinasoedd. Trefnwyd streic y cludwyr i gyd-fynd â streicio mewn bwytai McDonalds, Wetherspoons a TGI Fridays yn Lloegr, a gydlynnwyd gan weithwyr annibynnol, War on Want, McStrike ac undebau Unite, IWGB, yr IWW a BFAWU (undeb y pobyddion). Dyma streic #FFS410 (Fast Food Shut Down) felly, oedd yn mynnu £5 am bob gludiant ac £1 y milltir i’r cludwyr, a £10 yr awr i’r gweithwyr bwytai. Yng Nghymru, cafwyd protestiadau mewn solidariaeth yn Wrecsam ac Abertawe, a gorymdaith stwrllyd gan gludwyr yng Nghaerdydd. Mae’r brwydr yn parhau!

Os ydych yn gluduwr gydag UberEats neu Deliveroo yng Nghymru, neu eisiau cyfrannu i’r brwydr, cysylltwch â couriers.cymru[at]iww[dot]org[dot]uk

 


Tra bo cludwyd yn streicio, bu gyfundrefn newydd yng Nghaerdydd yn streicio nôl yn erbyn ffasgiaeth.

Mae Streic y Fenyw Cymru yn fudiad ffeminyddol newydd, sydd yn adeiladu am streic cymdeithasol rhyngwladol ar yr 8fed o Fawrth (diwrnod rhyngwladol y fenyw) ac yn sefyll dros ryddid i bobl draws a gweithwyr rhyw. Maent wedi bod yn brysur trefnu coets o Gaerdydd i Lundain i brotestio yn erbyn gorymdaith gan y DFLA hiliol ar y 13eg o Hydref.

Mae’r Democratic Football Lads Alliance, sef grŵp asgell-dde eithafol, Islamoffobaidd, yn ceisio ennill troedle yn Ne Cymru. Mae ganddynt grwpiau yn Abertawe a Chaerdydd, a chynaliant gyfarfod cudd gydag Anne Marie Waters, goruchafwr gwyn ac arweinydd ForBritain, yn Abertawe ar y 30fed o Awst. Er gwaethaf ei smalio, dyma fath o EDL 2.0 – grŵp treisgar sydd wedi ymosod yn ffisegol ar unigolion ac adeiladau Mwslemaidd, undebwyr llafur a siopiau llyfrau asgell chwith. Wrth i Frecsit cerdded ymlaen ac ymosodiadau y llywodraeth ar ffoaduriaid, mewnfudwyr a’r cenhedlaeth Windrush parhau, mae’r ffasgiaid yn ymhyderu. Roedd gorymdeithiau y DFLA a “Free Tommy Robinson” (cyn arweinydd yr EDL, ac un o arweinwyr newydd y DFLA) yn Llundain dros yr haf yn y digwyddiadau asgell-dde pell mwyaf yn y DU ers yr ail ryfel byd. Rhaid eu gwrthwynebu, a gwych yw gweld ffeminyddion yn arwain y ffordd.

Bydd coets Streic y Fenyw yn gadael Caerdydd bore dydd Sadwrn, ac mae llefydd ar gael o hyd. Dewch yn llu!

Digwyddiad facebook fan hyn: https://www.facebook.com/events/305464676915423/

Am fanylion pellach ebostiwch: womensstrikecymru[at]riseup[dot]net

 

WSTrilingualFront

WSTrilingualBack

 

Streic y Fenyw

Heddiw, yr 8fed o Fawrth, yw Diwrnod Rhyngwladol y Fenyw, dathliad ffeministaidd â’u gwreiddiau yn y mudiad llafur a’r chwith. Dyma ddiwrnod i gofio’r mudiadau a fu ac hefyd diwrnod i frwydro ‘mlan, canys er gwaetha’r buddugoliaethau erys bwystfil patriarchiaeth yn gadarn ac yn gryf.

Rhaid gofalu rhag i’r digwyddiad yng Nghymru cael ei gymathu gan filitariaeth neu Arglwyddesau. Rhaid gwthio a gweithredu ar lawr gwlad, fel gwna’r galwad am Streic y Fenyw, sydd yn mynnu cyflogau am lafur di-dâl menywod ac eraill. Dyma fudiad sydd yn gydnabod rhyngblethiad patriarchiaeth wrth gyfalafiaeth, hiliaeth a systemau eraill o ormes ac rhaid i ffeministiaeth eu cwffio oll.

Gwych: Galwad am Streic y Fenyw yng Nghaerdydd, gyda llun o gyn-brotest.
Gwarth: Militariaeth Brydeinig yn bachu Diwrnod Rhyngwladol y Fenyw, Caerdydd 2015. Dyma sarhad i ysbryd radical y digwyddiad.

 

Bydd protest dros Streic y Fenyw yng Nghaerdydd, yn cwrdd am 4.30pm ger Cerflun Aneurin Bevan heddiw.

Braf gweld, er gwaethaf drawsffobia diweddar yn rhai o grwpiau Caerdydd, eu bod yn gydnabod gormes menywod traws.

Digwyddiad facebook: https://www.facebook.com/events/2018807025056041/

 

Bydd hefyd tridiau o weithdai a gweithgareddau radical gan Cardiff Sisters Solidarity dros y diwrnodau nesaf yng Nghanolfan Gymunedol Cathays.

Digwyddiad facebook: https://www.facebook.com/events/150544088953190

 

Cofiwch yn y cyfamser bod streic undeb UCU yn barhau yn nifer o Brifysgolion Cymru a’r ynys. Cefnogwch y streicwyr – peidiwch â chroesi’r piced!

Os oes gennych chi ddigwyddiad radical i anarchwaethus hysbysebu, cysylltwch!