Dydd Gwener o Gynnwrf: peth newyddion diweddar

Cafwyd tipyn o gynnwrf yn Ne Cymru Dy’ Gwener diwethaf. Dyma golwg bach (a barn anarchwaethus, wrth reswm!).

Cwrdiaid yn martsio er gwaetha hiliaeth

Prynhawn y 15fed o Chwefror cyrraeddodd gorymdaith o bobl Cwrdaidd a’i chefnogwyr De Cymru. Martsiant o Fryste y diwrnod hwnnw, ac o Lundain dros y dyddie cynt, er mwyn ymweld ag Imam Sis, un o drigolion Casnewyd. Bu Imam Sis yn ymprydio ers sawl wythnos, mewn protest yn erbyn carchariad a chamdriniaeth yr arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan gan y wladwriaeth Dwrcaidd.

HeddluymosodCwrdiaidCasnewyddChwefror2019
Yr heddlu yn ymosod yn dreisgar ar brotestwyr Cwrdaidd yng Nghasnewydd

Wrth gyrraedd y dre, cafwyd croeso tresigar gan heddlu De Cymru, a ymosododd yn ddi-rybudd ar y dorf. Cymhellwyd eu gweithredoedd gan hiliaeth amlwg yn ôl protestwyr. Er gwaetha’r orthrwm, cyrraeddodd y dorf eu cyrchfan lle areithiodd Imam Sis ac eraill.

Mae hyn yn dilyn protest mawr gan ymgyrchwyr Cwrdaidd tu allan i’r Senedd ar y 5ed o Fawrth.

Plant yn streicio yng Nghaerdydd ac Abertawe

Ar yr un Gwener fe gafwyd streic rhyngwladol dros yr hinsawdd gan blant a phobl ifanc. Gadawodd plant ysgol a myfyrwyr coleg a phrifysgol eu hastudiaethau mewn protest yn erbyn niwed cyfalafiaeth i’n byd a’r hinsawdd. Fel pob camdriniaeth, mae’r niwed hyn yn gysylltiedig i bwer hierarchaidd oedolion dros blant – system oedolion, a’r hen genedlaethau, sydd yn lladd ein cartref naturiol. Braf gweld plant wrth flaen y gad felly yn herio’r drefn. Cronnodd cannoedd o blant a’u cefnogwyr i brotestio tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd; protestiodd eraill ar draeth Abertawe ac ar Gampws Singleton y prifysgol.

Da i glywed am ddoethineb cymaint o’r plant wrth iddynt ddewis beidio siarad na chyd-weithio â’r heddlu. Yn Llundain, cafwyd digwyddiadau treisgar wrth i’r heddlu arestio plant am brotestio a gyrru fan i mewn i’r dorf. Fel dengys hyn a phrofiad y Cwrdiaid yng Nghasnewydd, ni ellid ymddiried yn y fath sefydliad haerllug, ac nid ydynt yn ffrindiau i neb sydd yn brwydro dros ryddid.

Gigio dros Gymru rydd yng Nghaerdydd

Ar noswaith yr un Gwener cafwyd gig dros Gymru annibynnol, radical, yng Nghaerdydd, dan faner GellirGwell gan sawl artist blaengar. Yn debyg i lawnsiad mudiad neywdd Undod, mae’n braf i glywed mwy o son am ba fath o Gymru rydd rhydym am ei gweld – un gwrthffasgaidd, un gwrth-gyfalafol, un ffeminyddol. Datganiad gwag yw “annibyniaeth” heb sylwedd radical. Hebddi, fel rhybuddiodd y chwyldroadwr Gwyddelig James Connolly, cawn ein dal gan dannau imperialaeth yr un fath.

Yn ôl pob son roeddd hi’n gig gwerth chweil. Wrth gwrs, mae angen y fath cwnnwrf diwylliannol dros Gymru gyfan, yn ein cymunedau – ac heb docynnau prin na chostus.

Digwyddiadau ar y gweill

  • Mae Streic y Fenyw Cymru yn trefnu llond ddwrn o ddigwyddiadau radical ar yr 8fed o Fawrth, Dydd Rhyngwladol y Fenyw, yng Nghaerdydd.
  • Ar yr 12fed o Fawrth yn Abertawe, a’r 14eg o Fawrth yn Llandudno, mi fydd y llywodraeth yn ceisio cynnal cyfarfod am dwmpio gwastraff niwclear yn ein cymunedau. Mi fydd brotestiadau!
  • Galwyd am streic arall gan yr ifanc yn erbyn newid hinsawdd ar y 15fed o Fawrth.

Cofiwch, os oes gennych chi newyddion am digwyddiad radical a fu neu a fydd, rhowch wybod!

“Heddlu yn chwilio am ddyn trionglaidd”

Heddlu arfog, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Heddlu De Cymru wedi datgan eu bod yn chwilio am ddyn 26 oed a gredir i fod ynglwm â gweithredoedd terfysgol.

Codwyd lefel bygythiad y DU i oren-olau ar ddydd Sadwrn diwethaf wrth i nifer o unigolion amheus ymgynnull yn ardal Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr.

Credir bellach i ganolbwynt y rhwydwaith fod yn ddyn o ardal Penarth sy’n cuddio dan wisg “coch, gwyn a gwyrdd”.

Yn ystod datganiad i’r wasg bore yma, dywedodd Prif Gwnstabl Longbatton ar ran Heddlu De Cymru: “Our forces have been investigating an eight and a half foot man who has been living under the identity of “Mr Irv”. We are uncertain, at present, as to whether he is acting as part of a wider network or as a so called lone wolf.”

Mae’r awdurdodau yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i ddod atynt, ac os welwyd “Mr Irv” i beidio â siarad gydag ef a chysylltu â’r heddlu ar unwaith.

Gwelwyd y dyn diwethaf yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn ôl ffynonellau anarchwaethus, mae’r dyn wedi bod ymwneud â phregethu radicalaidd a gwrth-Brydeinig yn ysgolion cynradd lle ceisiwyd annog plant i gredu bod “[y Gymraeg] yn cŵl” ac “yn bril”. Dywedodd un athrawes (a ofynnodd i aros yn ddienw, allan o bryderon diogelwch) bod athrawon eraill, dan ddylanwad Mr Irv, wedi gorfodi teuluoedd i dalu arian at gyfundrefn genedlaethol danddaearol. Mae’r pwysau o “ymarfer” am ddigwyddiadau’r gyfundrefn wedi bod yn faich drwm ar nifer o blant dosbarth-canol.

Disgrifir Mr Irv, o dan ei wisg flewog allanol, fel dyn “drist”, “hynod o chwyslyd” ac “underpaid”. Er iddo drigo ar yr ynys am gyfnod hir ni chredir iddo siarad Saesneg.

O ganlyniad i’r ymchwiliad, mae heddlu arfog ac ymchwilwyr bagiau yn bresennol yn y gwersyll ym Mhencoed. Wrth ymateb i’r wasg, mae Aled John, cynrychiolydd y gwersyll, wedi mynnu eu bod yn Brydeiniwr llawn gan groesawu presenoldeb yr heddlu. Dywedodd bod “traddodiad hir gan yr Eisteddfod yr Urdd [sic] o gefnogi defnydd arfau a militariaeth y Deyrnas Unedig.”

Mae pryderon y bydd y datblygiadau nid yn unig yn niweidiol i’r gymuned ryngwladol, ond hefyd i noddwyr swyddogol y gwersyll. Er bod y gwersyll ar fin dod i ben, mae ofn o fygythiadau a mesurau diogelwch tebyg yng ngwersyll cysylltiedig ar Ynys Môn ym mis Awst.

Poster swyddogol yn galw am gyd-weithrediad yn erbyn bygythiad “Mr Irv”.