“Mae angen mwy o Gymraeg!”

Angen
Oes wir.

Graffiti a welwyd yn Abertawe yn ddiweddar.

Cofiwch, os oes gennych chi ddelwedd, stori neu glecs, cysylltwch!

 

Advertisements

Graffiti Gwrth-Filitaraidd yn Ystradgynlais

Graffiti a welwyd dros blac i’r rejiment barasiwt yn Ystradgynlais yn ddiweddar. Bu’r rejiment Brydeinig yn gyfrifol am saethu 28 o brotestwyr yn “Sul Gwaedlyd” Derry, 1972.

Unoliaeth o Gymru i Charlottesville

Ar y 12fed o Awst laddwyd protestiwr, Heather Heyer, gan ffasgydd wrth iddi hi wrthwynebu rali goruchafol gwyn yn Charlottesville, UDA. Anafwyd nifer mwy o wrthffasgiaid wrth iddynt frwydro a dal tir yn erbyn trais y ffasgiaid a’r heddlu fel ei gilydd.

Yn dilyn y brwydr cafwyd protestiadau gwrthffasgaidd a gweithredoedd mewn unoliaeth led-led y byd. Bu wylfa am Heather Heyer yng Nghaerdydd a gwelwyd neges o unoliaeth yng Nghasnewydd ger enw Antiffa’r Cymoedd.

Llun o dudalen facebook Rhwydwaith Anarchaidd Caerdydd

Cofiwn mai hunanamddiffyniad yw gwrthffasgiaeth oll. Cydsafwn!