“Lladd y Gwryw Gormesol er mwyn y Gymru Chwyldroadol”

Darn gan Elliw Jones sy’n dwyn ysbrydoliaeth o’r chwyldro yn Rojava, gan alw am newid syfrdanol i’n mudiadau yng Nghymru. // Piece by Elliw Jones drawing inspiration from the Rojava revolution and calling for foundational changes to our movements in Wales. English below.

Lladd y Gwryw Gormesol er mwyn y Gymru Chwyldroadol

Ceir offerynnau o fewn y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd gyda’r posibilrwydd o roi diwedd ar atgynhyrchu gormes yn ein grwpiau.

12345

Sut mae modd inni strwythuro ein grwpiau, gan ymladd dros gymdeithas gyfartal, heb barhau â’r systemau gormesol rydyn ni ein hunain yn gynhyrch ohonynt? Mae byw mewn byd goruchafiaethol gwyn, hynod unigolyddol a phatriarchaidd yn golygu, hyd yn oed wrth i ni alw ein hunain yn ffeministiaid, yn wrth-hiliol ac yn gynghreiriaid i bawb sy’n dioddef rhaib cyfalafiaeth, bod byw a bod y pethau yma yn fater arall yn llwyr.

Ar ôl degawd a mwy o ymwneud â mudiadau cymdeithasol yng Nghymru, gwrth-lymder, gwrth-ffasgaeth, mudiad yr iaith Gymraeg, gwrth-filitariaeth ac ati – y thema sy’n codi dro ar ôl tro yw bod pobl yn ei chael hi’n anodd iawn osgoi bod yr hyn yr ydym wedi cael ein meithrin i fod yn y byd hwn. Heb sylweddoli hynny, mae ymddygiad rhywiaethol, dosbarthaidd ac ablaidd yn rhemp – a dyma fy union brofiadau.

Ar ôl dechrau anobeithio am y ffordd y mae pobl yn trin eu gilydd, des i ar draws syniadau Abdullah Ocalan. Nid yn unig y mae ei syniadau o Gydffederaliaeth Ddemocrataidd yn cynnig llwybr i annibyniaeth radical rhag cyfalafiaeth a’r wladwriaeth, ond gallai’r teclynau a ddatblygwyd gan y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd ein hachub, hyd yn oed, rhag y gelyn mwyaf peryglus yn y chwyldro yng Nghymru – ni ein hunain.

Jineolojî – gwyddoniaeth menywod a bywyd (a jin yn golygu y ddau beth- menywod a bywyd) yw cysyniad Öcalan o ddull o wyddoniaeth, yn wahanol i’r dull gwyddonol positifaidd traddodiadol. Mae Öcalan yn cynnig mai crefyddau monotheistig, cyfalafiaeth a’r genedl-wladwriaeth yw tri gwreiddyn gormes menywod.

Mae rhyddfreinio menywod mor ganolog i’r Mudiad Rhyddid Cwrdaidd oherwydd, yn ôl theori Öcalan, dyma’r gormes gwreiddiol, yr un cyntaf a adeiladwyd arni gan bob un arall, a rhaid mynd i’r afael ag ef yn ein hunain yn gyntaf, os ydym am gyflawni chwyldro;

“Yn ystod y cyfnod Neolithig crëwyd trefn gymdeithasol gymunedol gyflawn, a elwir yn “sosialaeth gyntefig “, o amgylch menywod … Y drefn hirhoedlog hwn a luniodd ymwybyddiaeth gymdeithasol gyfunol dynoliaeth; a’n dyhead diddiwedd yw adennill ac anfarwoli’r drefn gymdeithasol hon o gydraddoldeb a rhyddid a arweiniodd at ein cysyniadu o baradwys.” Abdullah Öcalan

Defnyddir offer a strwythurau democratiaeth uniongyrchol yn y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd i ymladd patriarchaeth yn ein hunain a “lladd y gwryw gormesol (ynom ni)”. Mae’r rhain yn gyfres soffistigedig o ddulliau i symud tuag at pracsis chwyldroadol go iawn, a byddaf yn amlinellu ychydig o’r dulliau hyn yn yr erthygl hon.

Y mecanwaith cyntaf yw strwythurau benywaidd cyfochrog. Er mwyn sicrhau nad yw strwythurau tra-arglwyddiaethol patriarchaidd yn cael eu hefelychu yn y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd nac mewn cymdeithas yn gyffredinol – ar gyfer pob “strwythur” cymysg mae strwythur menywod cyfochrog wedi’i gyfansoddi o’r holl ferched sy’n cymryd rhan yn y strwythur cymysg. Yma mae gan ferched le i drafod a dwyn y dynion i gyfrif a dod benben a rhywiaeth ac ymddygiad patriarchaidd yn ein mudiadau. Mae gan y strwythurau menywod hyn y pŵer i roi feto ar benderfyniadau a wneir yn y strwythur cymysg.

Mae hyn yn berthnasol i’r strwythurau milwrol, i strwythurau ymgyrchu fel Fundiad y Menywod yn y diaspora yn Ewrop, a hefyd yn strwythurau hunan-weinyddiaeth y cymdeithasau yn Bakur a Rojava. O redeg ysgol i gasglu’r sbwriel neu benderfynu sut mae diwydiant lleol yn cael ei redeg, mae gan strwythurau y hunan-weinyddiaeth fudiad menywod cyfochrog, i gadw golwg ar ei gonestrwydd chwyldroadol.

Yr ail offeryn a ddefnyddir yn y mudiad cymysg a benywaidd yw Tekmîl. Dyma’r broses o feirniadaeth adeiladol a hunanfeirniadaeth. Gall derbyn beirniadaeth fod yn anodd iawn, yn enwedig i ni a fagwyd yn yr oes neoliberal hon o unigolyddiaeth, ond mae’n hanfodol i unrhyw mudiad iach ddelio â’n gwrthdaro ac i’n helpu i ddatblygu’n bobl a chwyldroadwyr gwell (gallai deimlo’n chwithig i ddefnyddio’r gair chwyldroadol ond gyda’r blaned yn llosgi a chyflwr presennol y byd dwi ddim yn meddwl y gallwn ni falu awyr am yr hyn rydyn ni ei eisiau).

Yn y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd, mae beirniadaeth yn rhodd sy’n dangos bod eich cymrodor wir yn poeni amdanoch chi a’ch datblygiad. Clywais stori am grŵp o ymladdwyr yn y mynyddoedd yng Nghwrdistan na fyddai’n beirniadu ei gilydd. Dywedodd eu rheolwr wrthyn nhw:

“Naill ai rydych chi i gyd yn berffaith – neu dydych chi ddim yn gymrodyr da iawn os na allwch chi feirniadu’ch gilydd.”

Mae Tekmîl yn troi’r cysyniad o feirniadu o fod yn ymosodiad ar yr unigolyn i fod yn weithred o gymrodoriaeth a chyfeillgarwch. Wedi dweud hyn, nid yw mor syml â bwrw eich bol gyda rhywun sydd wedi eich cythruddo mewn Tekmil. Mae’n gelfyddyd: nid dinistrio rhywun yw’r nod, ond eu helpu’n fedrus i adeiladu eu hunain.

Er enghraifft, ni fyddai rhywun yn casglu camgymeriadau pobl yn eu meddwl i’w cywilyddio’n gyhoeddus mewn Tekmîll; yn ddelfrydol dylech ddweud wrth y person pan fyddwch chi’n ei ystyried yn fwyaf agored i’r awgrym, ac yn fwyaf parod i dderbyn y feirniadaeth.

Pwrpas dod a fater i Tekmil fyddai i eraill ddysgu ohono, ac efallai os ydych chi’n teimlo nad yw’r feirniadaeth wedi’i hystyried, ac os oedd angen mwy o anogaeth arnyn nhw i ddod o hyd i ateb i’r peth rydych chi am eu beirniadu yn ei gylch.

Nodwedd bwysig arall yw na allwch “amddiffyn eich hun” wrth gael eich beirniadu – byddai gwneud hynny yn gwadu realiti’r person arall, a’r hyn sy’n bwysig yw nad yw pobl yn ystyried y feirniadaeth mewn modd amddiffynnol, ond yn gwrando a dysgu o’r feirniadaeth a’i gweld, mewn gwirionedd, fel anrheg.

Nid cyfaddefiad mohoni chwaith. Os ydych chi’n hunan-feirniadu, mae angen i chi a’ch cymrodyr ymalfalu am atebion i’ch problemau a’r patrymau dinistriol yn eich cymeriad. Dylai beirniadaeth fod yn seiliedig ar atebion. Does dim i’w hennill o ymddiheuro, dim ond fel bod modd ichi y barhau â’r ymddygiad hwn. Mae yna elfennau celfydd ehangach i’r dull gwerthuso hwn, ond dyma’r syniad bras.

Y trydydd dull yw’r system o gwotâu cynrychioliadol a chyd-gadeiryddion. Rhaid bod gan bob strwythur gwota o ferched yn cymryd rhan i’w wneud yn strwythur dilys, ac yn ychwanegol at hyn rhaid cael cyd-gadeirydd gwrywaidd a benywaidd mewn unrhyw strwythur penodol. Mewn ardaloedd o amrywiaeth ethnig, mae’r cwotâu hyn a’r system cyd-gadeiryddion hefyd yn cynnwys cwotâu i gynrychioli’r lleiafrifoedd hyn. Mae pwyslais hefyd ar geisio dod i gonsensws (anffurfiol) lle bynnag y bo modd, gan ei bod yn hawdd diystyru lleiafrifoedd yn y ffurf “bleidleisio” draddodiadol o wneud penderfyniadau, a gwthio i’r neilltu eu barn ynghylch iaith neu unrhyw beth arall o ganlyniad.

Mae croestoriadaeth wedi bod yn offeryn sydd wedi ein helpu i allu deall gorthrymderau ein gilydd yn well – mae’r taclau o’r Mudiad Rhyddid Cwrdaidd yn ein hannog i ddelio’n systemataidd a chyson â’r gorthrymderau sy’n bla ar ein mudiadau cymdeithasol. Mae cyfalafiaeth yn ein defnyddio fel cwndid i gario ei wenwyn i’n bywydau bob dydd, gan niweidio ein perthnasoedd a’n rhannu oddi wrth ein gilydd. Yn ôl y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd, mae 99% o’r frwydr yn erbyn y system o fewn ein hunain – i ddeall yr holl ffyrdd y mae cyfalafiaeth a rhyddfrydiaeth wedi ein llenwi ag ideolegau dinistriol, ac i’w chwynnu.

Mae’r syniadau hyn wedi cynnig gobaith i mi o safbwynt dyfodol y frwydr dros gyfiawnder a rhyddid yng Nghymru, a gobeithiaf bod y syniadau hyn yn ein cymell i ystyried yr angen am newid ar draws y mudiad rhyddid a’r chwith.

Ymysg yr holl mudiadau cymdeithasol rydw i wedi bod yn rhan ohonyn nhw, mae patriarchaeth yn rhemp. O gael ei ddominyddu i dawelwch mewn cyfarfodydd, i gael dynion yn cracio jôcs a chwerthin pan mae menyw yn ceisio cyflwyno gweithdy ar groestoriadaeth. O ganolfannau cymdeithasol radical yn gwrthod delio â digwyddiadau o drais rhywiol yn eu lleoliadau, i grwpiau Sosialaidd sy’n goddef ysglyfaethwyr rhywiol. O weithdai yn defnyddio menywod ar gyfer yr holl waith atgynhyrchu cymdeithasol anweledig, tra bod y dynion yn cael gwneud y gwaith gweladwy, diddorol a chyhoeddus. O fod Mamau yn cael eu heithrio o bopeth oherwydd diffyg ymrwymiad gan eraill, i gael dynion hŷn yn gyson yn eich trin fel darn o gig, yn ymddwyn yn nawddoglyd neu eich anwybyddu pan fyddwch chi’n rhyngweithio â nhw yn y mudiad. Ni all hyn barhau. Os ydym am adeiladu mudiadau chwyldroadol o ddifrif rhaid cymryd camau radical i fynd i’r afael a hyn.

Ar ôl 800 mlynedd o wladychu, mae strwythurau patriarchaeth yng Nghymru wedi cael gafael arnom yn dynn. Rwy’n teimlo bod “‘cymhleth y taeog” o ganlyniad i’r cymhathu a’r gwladychu hwn wedi ein gyrru hyd yn oed ymhellach i ffwrdd o’r “sosialaeth gyntefig” a fyddai’r gymdeithas naturiol i ni i gyd. Gellid dadlau bod deddfau Hywel Dda yn llawer mwy blaengar; go brin bod Cymru erioed yn “Wladwriaeth Genedl” ond yn gymunedau a oedd yn rhannu’r un iaith a diwylliant. Rwy’n teimlo bod gwladychu yn cyflymu patriarchaeth, ecsbloetio a gormes, ac os ydym ni yng Nghymru yn gweld annibyniaeth Cymru o fewn patrwm ehangach o frwydr ddad-wladychol, mae’n rhaid i ni ymdrechu i ddadwladychu ein hunain a’n cymrodyr – yn enwedig o ystyried, yn ogystal â chael ein gwladychu, mae rhai Cymru wedi bod yn wladychwyr brwd ac wedi cydweithredu ac elwa o’r Ymerodraeth Brydeinig gwaedlyd.

Mae gan y dulliau pracsis hyn y potensial i fod yn ddewis amgen i’r “diwylliant galw allan” y cyfryngau cymdeithasol – er mwyn mynd i’r afael â mater atgynhyrchu gormes yn ein sefydliadau a’n mudiadau. Nid ymgais yn unig mohoni i chwynnu ymddygiadau gormesol yw hyn. Os nad yw grŵp yn cynrychioli’r gymuned mew modd digonol, ni fydd y mudiad yn ei ystyried yn grŵp cyfreithlon – mae dannedd i’r dull hwn. Un enghraifft yw grŵp ecolegol a ffurfiwyd mewn dinas Cwrdaidd yn nhalaith Twrci – nid oedd digon o fenywod yn y grŵp felly nes bod gan y grŵp gynrychiolaeth fwy cyfartal, ni fydd yn cael ei ystyried yn gyfreithlon.

Mae gennym gymaint i’w ddysgu o’r Mudiad Rhyddid Cwrdaidd a’r Chwyldro yn Rojava. Mae ein dulliau hyd yma wedi ein methu, ac mae’n bryd inni ystyried ffurfiau newydd o drefnu.


Killing the dominant Male for a Revolutionary Wales

The Kurdish Freedom Movement’s tools to end the reproduction of oppression in our groups.

How do we structure our groups, fighting for an equal society without perpetuating the oppressive systems of which we ourselves are products? Living in a highly individualistic, patriarchal and white supremacist world means that even as we call ourselves feminists, anti-racists and allies to all those who suffer the brunt of capitalism, living this is an other matter completely.

After over a decade involved in social movements in Wales, anti-austerity, anti-fascism, the Welsh language movement, anti-militarism etc – the recurring theme is that people find it really difficult to avoid being what they were brought up to be in this world. Without realising, sexist, classist and abelist behaviour is rampant – and these are just from my experiences.

Having started to feel hopeless about the way people treat each other I came across the ideas of Abdullah Ocalan. Not only are his ideas of Democratic Confederalism a roadmap to radical independence from capitalism and the state, but the tools developed by the Kurdish Freedom Movement could even save us from the most dangerous enemy in the Welsh revolution – ourselves.

Jineolojî – the science of women and life (jin meaning woman and life) is Öcalan’s conception of a form of science opposed to the traditional positivist scientific method. Öcalan identifies monotheistic religions, capitalism and the nation state as three roots of women’s oppression.

Women’s emancipation is so central to the Kurdish Freedom Movement because, according to Öcalan’s theory, it is the first oppression that all others were built upon, and it must be addressed within ourselves first if we are to achieve revolution;

“During the Neolithic period a complete communal social order, so called “primitive socialism”, was created around woman… It is this long-lasting order that shaped humanity’s collective social consciousness; and it is our endless yearning to regain and immortalise this social order of equality and freedom that led to our construct of paradise”. Abdullah Öcalan

The tools and structures of direct democracy in the Kurdish Freedom Movement are used to fight patriarchy within ourselves and “kill the dominant male (in us)”. These are a sophisticated series of methods to move towards a real revolutionary praxis and I will outline a few of these methods in this article.

The first mechanism is the parallel women’s structures. To make sure patriarchal structures of domination are not replicated in the Kurdish Freedom Movement and in society in general – for every mixed “structure” there is a parallel women’s structure made of all the women that participate in the mixed structure. Here women have the space to discuss and hold the men to account and call out sexism and patriarchal behaviour. These women only structures even have the power to veto decisions taken in the mixed structure.

This applies from the military structures, to campaign structures like the Women’s Movement in Europe and also in the self administration structures of the societies in Bakur and Rojava. From running a school to collecting the rubbish or deciding how local industry is run, the structures of self administration have a parallel women’s movement to keep its revolutionary integrity in check.

The second tool that is used both in the mixed and Women’s movement is Tekmîl. This is the process of constructive criticism and self criticism. Accepting criticism can be very difficult, especially for us brought up in this neoliberal age of individualism, but it is essential for any healthy movement to deal with our conflict and to help us develop into better people and revolutionaries (it might feel jarring to use the word revolutionary but with the planet burning and the current state of the world I don’t think we can mince words any more about what we want).

In the Kurdish Freedom movement, a criticism is a gift that shows that your comrade really cares about you and your development. I heard a story from a friend about a group of fighters in the mountains in Kurdistan that wouldn’t criticize each other. Their commander told them:

“Either you’re all perfect – or you’re not very good comrades if you can’t criticize each other.”

Tekmîl turns the concept of criticising from being an attack on the individual to being an act of comradeship and friendship. Having said this, it’s not as simple as just having it out with someone who’s annoyed you in a Tekmil. It’s an art, the aim is not to destroy someone, but to skillfully help them build themselves up.

For example, one wouldn’t store up people’s mistakes in their mind to shame them publicly at a Tekmîll, ideally you should tell the person when you deem it most appropriate, when the person would be most receptive to the criticism. The purpose of bringing it to Tekmil would be for others to learn from it, and perhaps if you feel the criticism hasn’t been taken on board and if they needed more encouragement to find a solution to the thing you want to criticise them about.

Another important feature is that when being criticised, you can’t “defend yourself” – doing so somewhat denies the other person’s reality and what’s important is that people are not thinking about being defensive – but really listening and learning from the criticism and seeing it as a gift.

Neither is it like a confession. If you self criticize, you and your comrades need to come up with solutions to your problem. Criticism should be solution-based. It’s no good doing it to apologise just so that you can carry on with this behaviour. I won’t be able to express the nuances of this method of evaluation here, but this is the rough idea.

The third method is the system of representative quotas and of co-chairs. All structures must have a quota of women participating to make it a valid structure, and in addition to this there must be a male and female co-chair in any given structure. In areas of ethnic diversity, these quotas and the co-chair system also contain quotas to represent these minorities. There is also an emphasis on trying to reach an (informal) consensus wherever possible, since minorities in the traditional “voting” form of decision making can easily be outvoted and their opinions regarding language or anything else marginalised as a result.

Intersectionality has been a tool that has helped us to be able to understand one another’s oppressions better – the tools from the Kurdish Freedom Movement guide us to strategically and systematically deal with the oppressions that plague our social movements. Capitalism uses us as a conduit to carry its poison into our everyday lives, damaging our relationships and dividing us from one another. According to the Kurdish Freedom Movement, 99% of the fight against the system is within ourselves – to understand all the ways that capitalism and liberalism have filled us with destructive ideologies, and to root those out.
These ideas have given me hope for the future of the struggle in Wales for justice and freedom, I hope that these ideas provoke us to consider the need for change across the Welsh left  and national liberation movement.

Across all the social movements I have been involved in, patriarchy is rife. From being dominated into silence at meetings to having men crack jokes and giggle when a woman was trying to deliver a workshop on intersectionality. From radical social centres refusing to deal with occurrences of sexual violence in their spaces to Socialist groups tolerating sexual predators. From collectives using women for all the invisible social reproduction work while the men get to do the visible, interesting and public facing work. From Mothers being excluded from everything because of a lack of commitment from others to constantly having older men objectify, patronise or ignore you when you interact with them in the movement – this can’t go on.

After 800 years of colonisation, the structures of patriarchy in Wales have taken a stranglehold. I feel like “cymhleth y taeog” (the peasant complex) as a result of this assimilation and colonisation has driven us even further away from the “primitive socialism” that would be the natural society for us all. Hywel Dda’s laws were arguably much more progressive; Wales was hardly ever a “Nation State” but communities that shared the same language and culture. I feel that colonisation accelerates patriarchy, exploitation and oppression, and if we in Wales see Welsh independence within the paradigm of a de-colonial struggle, we have to struggle to decolonise ourselves and our collectives – especially given that as well as being colonised, some Welsh people have been enthusiastic colonisers and collaborated and benefited from the murderous British Empire.

These methods of praxis have the potential to be an alternative to the toxic “call out culture” of social media, to really get to grips with the issue of the reproduction of oppression in our organisations and movements. This is not just the nurturing out of oppressive behaviours. If a group does not represent the community adequately, it will not be considered a legitimate group by the movement – this method has teeth. One example is of an ecological group formed in a Kurdish city within the Turkish state – there were not enough women in the group so until the group has more equal representation, it would not be considered legitimate.
We have so much to learn from the Kurdish Freedom Movement and the Revolution in Rojava. Our methods thus far have failed us and it’s time for us to consider new forms of organising.

Democratiaeth: hen gelain farw erioed

Yn yr erthygl hwn, mae anarchwaethus yn ymateb i drafodaeth am ddemocratiaeth a gafwyd ar wefan ac ym mudiad newydd Undod. Cynigir yn ysbryd solidariaeth cyng cynhadledd Undod yn Aberystwyth mis hwn.

OurDreamsCannotFitintheirBallotBoxes

Y Sanctaidd Air

Bu dipyn o son yn ddiweddar am yr hen sanctaidd air: Democratiaeth. Gwelwn yr adain-dde newydd yn hawlio ei hystyr, ac yn codi led-led Ewrop a thu hwnt dan ei baner fras. Yn enw democratiaeth, rhaid cau’r ffiniau, rhaid gwarchod siofinisiaeth yr oesoedd a fu: Trump, Brexit, … “The people have voted”. Ar y llaw arall, gwelwn y chwith yn heidio i’w hamddiffyn – rhag Boris yn cau’r Senedd, rhag Sbain yn sathru’r Catalwniaid. I’r rhain, erys y refferendwm fawr yn arf o hyd, dros hawliau erthylu neu annibyniaeth y gwledydd bychain. Yn wir, dyma a welwyd fel union crisialaeth rhyddid i Gymru fach: buddugoliaeth yn refferendwm cyfreithlon, cywir.

Hoffwn gynnig safiad amhoblogaidd, safiad na chlywir llawer mohoni yn ddiweddar. Yn fyr: i anghofio am ddemocratiaeth. Gad i’r dde ei brolio. Ni leddir ganddynt, canys ni fu’n fyw erioed. Y mae gennym rywbeth llawer gwell na gelain farw i’n hysbrydoli.

O enau’r caethfeistri

Dyma air y bathwyd, nac anghofiwn, gan gaethfeistri gwrywaidd Groeg cynhanes. Yn wir, pan atgyfodwyd gan athronwyr yr Oleuedigaeth, nid oedd mor wahannol. Pan ysgrifennodd John Locke, “tad rhyddfrydiaeth”, cyfansoddiad y Caroleinas, sicrhaodd mae’r ychydig tirfeddiannwyr a chaethfeistri oedd yn meddu ar ddemocratiaeth. Hanes tebyg oedd i gyfansoddiad yr Unol Daleithiau cyfan ychydig hwyrach. Os ydi’r “bobl” i “benderfynnu”, rhaid penderfynnu pwy yw’r penderfynnwyr, a phwy a ddiarddelir. Os siaredir am “ddinasyddiaeth” rhaid cael hefyd y “babariaid” tu hwnt i furiau’r ddinas. Nid yw Prydain fodern yn eithriad. Mi gofia Dave Datblygu’r profiad o “[f]od dan glo… pan ddaeth canlyniadau’r refferendwm datganoli. Ches i ddim pleidlais”.[1] Diarddelir carcharorion, y “gwallgof”, mudwyr sydd heb bapurau swyddogol, plant – a miliynau ein neo-drefedigaethau – rhag pleidlais. Wrth reswm, rhaid hefyd recordio, mesur a chorfrestru y dinasyddion a gynhwysir a phawb arall o fewn system wyliadwriaeth hierarchaidd er mwyn i ddemocratiaeth gweithredu o gwbl.

I’r hyn clywn ymateb ei hamddiffynwyr: onid proses annorfenedig yw ehangu’r bleidlais a democratiaeth gyfan? Dyma chwedl Habermas a’i fath: dechreuodd democratiaeth yn nhai coffi’r deunawfed ganrif, ac y mae’n ymestyn o hyd i gofleidio pawb a phopeth. Darlun hyfryd iawn. Ond ochr arall y stori ryddfrydol hon yw imperialaeth yr Orllewin – ofynodd pobl frodorol yr Americas erioed am “ddemocratiaeth” eu concerwyr (concerwyr a gipiodd eu tir er mwyn gwerthu ffa coffi drud). Mae lledu democratiaeth trwy fomio trigolion gwledydd pell yn hen ystrydeb gyfarwydd erbyn hyn. Onid oedd rhaid i’r Siartwyr, y Suffrajetiaid a phobloedd wladychiedig brwydro am y bleidlais, ebr y democratiaid unwaith eto? Mi wnaeth y chwyldroadwyr hyn felly – ymysg sawl beth arall (codi a’u harfau a meddiannu bara, yn achos y Siartwyr, bomio tai gwleidyddion yn achos y Suffrajetiaid). Anwybyddwyd hanes radical y mudiadau hyn o weithredu’n uniongyrchol er mwyn cyrraedd eu hamcanion. Anwybyddwyd hefyd y ffaith mai tacteg oedd ennill y bleidlais er mwyn cyrraedd amcan arall, ac nid amcan yn ei hun. Er gwaethaf y fuddugoliaeth hon, ni chwalwyd tlodi, patriarchiaeth na neo-wladychiaeth gan y bleidlais – ac felly gellid dweud mai dacteg ffaeledig ydyw. Yn debyg, naif iawn yw dychmygu y gall un refferendwm llwyddiannus gwrthdroi canrifoedd o wladychiad Cymru, ac effaith ddwfn Brydeindod ar ein ffordd o fyw. Heb chwyldro go iawn, mi fydd Prydeindod, yn eiriau’r chwyldroadwr James Connoly, yn ein “clymu gan fil o linynnau economaidd”. [2]

Canys rhaid penderfynnu ar beth penderfynnwyd gan “ddemocratiaeth”. Fel arfer – dewis diflas, diobaith. Rhyw ychydig o galedu, neu ychydig bach mwy. Gormes o flas gwahannol. Neu waeth fyth, rhoddwyd dewis ar yr hyn na ddylid fod yn destun trafod o gwbl, heb son am destun pleidlais. A ddylid atal hawliau i bobl traws, tybed, fel dadleuir yn y Senedd? A ddylid gwahardd Minarets Mosgiau, fel gofynnodd democratiaeth y Swistir? Neu, “a dreisiwyd y fenyw hon”, fel gofynnodd warthus bwyllgor y Socialist Workers Party? Ers diwedd y 90au, gwelwyd yr adain-dde bell (wedi iddynt gael ei curo o’r strydoedd) yn troi at y fath ddemocratiaeth parchus, a’r disgwrs democratiaeth yn troi’n surach fyth. Symudiad yr “Overton Window” a gelwir hyn gan rai. Dyma syniadau eithafol oedd yn berchyn i’r BNP yn unig ar un adeg, megis rhoi terfyn penodol ar niferoedd mudwyr, yn troi’n bolisi swyddogol y blaid Ceidwadol, a Llafur heb fod yn bell tu ol. [3]

Breuddwyd sathredig

Mae nifer yn fodlon i dderbyn gwendidau’r systemau presennol, ond yn mynnu bod modd i’w defnyddio rhyw ychydig, llaw-yn-llaw â mudiadau stryd. Ysgrifennwyd mewn erthygl diweddar ar wefan Undod am fuddugoliaeth Ada Colau (Barcelona En Comú), “Maeres Radical” Barcelona, fel enghraifft cadarnhaol i Gymru . Gwelwyd mudiadau megis Podemos, Syriza gwlad Groeg a Momentum y Blaid lafur, atgyfodiad hen freuddwyd Ewro-Gomiwnyddiaeth. Ei gobaith yw symud yr “Overton Window” hwn i gyfeiriad y chwith trwy bleidiau radical, yn debyg i sut symudwyd i’r dde gan UKIP a’i fath. Eto, gwelwn methiant a brad yn frith yn hanes y fath ymdrechion. Mi wnaeth Ada Colau, a etholwyd ar blatfform o beidio a droi bobl o’u tai, arwain cyngor oedd yn bwrw ati i efictio rhai o sgwotiau amlwg Barcellona er gwaethaf protestiadau poblogaidd [4]. Yn debyg, mi wnaeth Syriza gosod a chyfiawnhau rhaglen caledu economaidd yr IMF. Gwelwn adlais gryf o hanes Aneurin Bevan, yr etholedig-sosialydd a anfonodd beiliffs i ddigartrefi miloedd o sgwotwyr cyffredin, tra bod ei lywodraeth “Llafur” yn torri streiciau a gollwng bomiau niwclear [5]. Na, hen gelain bydredig yw’r breuddwyd o sosialaeth etholedig.

EfictioBancGarciadanFaeresColau
Yr heddlu yn efictio sgwot oedd yn cynnal canolfan gymdeithasol, yn dilyn etholiad y Faeres “radical” Ada Colau

Y mae carfan arall yn fodlon adnabod yr holl beiau hyn, ond eto yn ceisio codi baner democratiaeth unwaith eto trachefn. “Nid a wnelo ein democratiaeth o gwbl â democratiaeth yr uchod, democratiaeth y gormeswyr”, meddant. Yn hytrach cynnigant system cwbl estron iddi – democratiaeth uniongyrchol, radical, ar lawr gwlad, yn y gweithdai a’n cymunedau. Cafwyd trafodaeth diddorol ar hyn, yn dilyn cyflwyniad Huw Rees, yng nghyfarfod Undod wedi rali Merthyr. Edrychir i ardal Rojava yn y Dwyrain Canol efallai, neu i rannau o Gatalwnia yn ystod rhyfel cartref Sbain, am ddemocratiaeth “go-iawn”. Heb os, y mae gobaith yn y dehongliad a’r enghreifftiau hyn. Y mae syniadau eraill, llawn deilwng, y gellid sôn amdanynt yn y fath cyd-destun: y rhyddid i ymwneud neu beidio a system neu grŵp (freedom of association), neu benderfynnu yn araf ac yn ofalus trwy gydsyniad (consensus) yn hytrach na phleidlais cras.

Trech weithred na phleidlais!

Ond eto, y mae’r fath drafodaeth o ddemocratiaeth radical yn un haniaethol, ac mewn peryg o anwybyddu gorthrwm ein byd. Ni ellid trafod pŵer heb drafod ei strywthurau penodol: patriarchiaeth, cyfalafiaeth, hiliaeth. Daw obaith Rojava diweddar, neu Gatalwnia yn 1936, o’i weithredoedd gadarnhaol yn erbyn y gormesion hyn. Nid yw “democratiaeth radical” yn ddim heb y cyd-destun hwn. Yn wir, gwelwn fod cyfyngiadau yn frith yn yr enghreifftiau hyn er gwaetha’r holl ddemocratiaeth ar lawr gwlad. Ceir hanesion o’r chwyldro yn Gatalwnia o weithwyr yn bleidleisio – yn ei co-ops cydweithredol – i anfon gweithwyr eraill i wersylloedd llafur galed. [6] Mi roedd y “democratiaeth” yno, ond ni chwalir gwerthoedd cyfalafiaeth a phwer y farchnad. Yn debyg, mi roedd y brwydr yn erbyn patriarchiaeth yn un anodd ac anghyflawn, er gwaethaf ymdrechion chwyldroadwyr megis y Mujeres Libres. Y mae patriarchiaeth, wedi’r cyfan, yn strwythur weddol datganoledig, ar lawr gwlad, wedi’u cefnogi mewn un ffordd neu’r llall gan rhan helaeth o’r boblogaeth. Ni ellid ei diddymu gan gyngor lleol, polisi newydd na phleidlais poblogaeth. Yn lle ddehongli a dadlau dros strwythur haniaethol megis democratiaeth felly, mae’n rhaid i ni ddechrau o berspectif cwbl wahanol. Rhaid edrych ar sut grewyd ac ail-grewyd ein byd – gan ein llafur ecsbloetiedig dyddiol dan gyfalafiaeth, gan hanes a phroses parhaol gwladychiad, gan ddiwylliant ddwfn o drais rywiol yn erbyn cyrff menywod a phobl draws, ac yn y blaen. Yn bywsicach, rhaid gweithredu yn erbyn y byd hwn – gan gymryd ysbrydoliaeth o streiciau ein cyd-weithwyr, gwrthryfeloedd pobloedd brodorol a brwydrau ffeminyddol.

Nid anerchiad yw hon dros ryw wladwriaeth awdurdodol, Stalinaidd yn lle “ddemocratiaeth” fawr. I’r gwrthwyneb: dyma ddadl bod gwladwriaeth ddemocratiaidd, ryddfrydol yn debyg iawn i’r fath awdurdod totalitaraidd.[7] Ni ellid eu defnyddio i’n dibennion ein hun. Hyd yn oed pe siaradir am ddemocratiaeth radical, uniongyrchol, y mae peryg enfawr pe wnelir hyn heb ddadansoddi gormes materol, megis patriarchiaeth a chyfalafiaeth. Y mae’n rhaid chwalu’r systemau hyn ‘oll, trwy weithredu’n uniongyrchol, yn hytrach na ddymchymgu rhyw gynllun haniaethol heb gyd-destun. Un peth yw’r rhyddid i drafod a phenderfynnu, peth arall yn llwyr yw’r rhyddid i fod, i greu ac i chwyldroi ein byd.

Trech weithred na phleidlais!

Nodiadau

[1] Atgofion Hen Wanc, David R. Edwards.

[2] Labour in Irish History, James Connolly.

[3] Trafodir y broblem hon gan Fred Moten a Stefano Harney yn eu gwych-lyfryn The Undercommons. Wrth drafod goruchafiaeth gwyn, dywedant nid oedd diddymu caethwasiaeth pobl dduon yn ddigon – rhaid diddymu’r byd lle’r roedd hi’n bosib i gaethiwo’r duon yn y lle gyntaf. Yn lle democratiaeth, cynnigant yr Undercommons – y lle ddirgel hynny tu hwnt i lygaid y gormeswyr a chymdeithas sifil – fel peiriant y chwyldro.

[4] Yn ogystal i efictio sgwotiau, mi wnaeth Ada Colau cyfiawnhau ymosodiadau gan yr heddlu yn erbyn mudwyr a bradychu ei haddewid i ddiddymu’r heddlu terfysg, ymysg pethau eraill. Am wybodaeth yn Saesneg, gweler hanesion o Banc Garcia a darn Peter Gelderloos. Nid yw hi o blaid rhyddid i Gatalwnia chwaith – yn ystod helynt y refferendwm mi alwodd am ddychweliad i “normalrwydd” a “llonydd-dra cymdeithasol”.

[5] Gweler gwaith Colin Ward am weithredoedd Aneurin Bevan yn erbyn sgwoti . Ceir cyflwyniad treiddgar i hanes imperialaidd a gwrth-streicio llywodraeth Llafur y cyfnod yn y pamffled How Labour Governed, 1945-1951.

[6] Am drafodaeth ddiddorol o’r fath Gulags “syndicalaidd”, cyfyngiadau co-ops a democratiaeth yn y gweithle (“self-management”), gwelir llyfr Workers against Work Michael Seidman.

Pontydd Aberhonddu yn darparu matiau gwersylla yn rhad ac am ddim

FreeCampingMat
P’ddiwrnod, darganfûm faner eithriadol o warthus yn hongian oddi ar bont ger Aberhonddu.

Bu dafod anarchwaethus braidd yn ddistaw yn ddiweddar. Nid felly Cymru wrth gwrs. Gwelwyd miloedd ein mudiad cenedlaethol yng Nghaerdydd a sawl gwaith mwy eto yng Nghaernarfon, buddugoliaeth streic newyn Imam Sis a solidariaeth Cwrdaidd, sgwotio yng Nghaerdydd yn erbyn boniddigeiddio, gwrthsefyll Prydeinwyr Farage ym Merthyr, Gwrthryfel Difodiant (er gwaethaf eu hoffter afiach o’r heddlu) a Streic Hinsawdd yr Ifanc led-led Cymru, croeso di-groeso Boris ar ei ymweliad a gwrthffasgiaid Abertawe yn erbyn “For Britain” – ymysg pethau eraill.

FreeCampingMat2
“Baner” eithriadol o… grap.

Ar yr ochr arall gwelwn Brydeindod yn cronni eu lluoedd. Gwrth-bwynt 8,000 Caernarfon oedd y cannoedd a fartsiodd yn Abertawe ar y 3ydd o Awst. Dyma gyn-filwyr asgell dde, gangiau beicwyr modur, DFLA yr asgell dde eithafol a Theyrngarwyr Prydeinllyd yn ymuno o blaid “Soldier F”, y cyn-paratrooper sydd yn y llys am lofruddio protestwyr yn Sul Gwaedlyd Derry, 1972. Mae’n debyg dyma’r brotest mwyaf a welodd Abertawe ers tro mawr, ac anodd bydde ddewis achos mwy afiach.

FreeCampingMat3
Eto i gyd, mat gwersylla hyfryd. Diolch bois!

Heb os, mae Cymru ar groesffordd, a’n gwlad yn rhwygo i ddwy wersyll tra wahannol. Nawr, fel erioed, yw’r amser i sefyll dros ein rhyddid ni a rhyddid pawb. Dim ond trwy weithredu uniongyrchol allwn greu Gymru newydd. Chwalu nid yn unig ffasgiaeth, ond yr hyn sydd yn ail-greu ffasgiaid. Chwalu nid yn unig Prydain, ond yr hyn sy’n cynhyrchu Prydeindod. Dewch i ni fynd ati.

ByeByeBrexitParty
Cafwyd hefyd tipyn o ddeunydd plaid Farage i ‘chwanegu i’r casgliad braf o Lanelwedd. Wps, maent wedi’u rhwygo i gyd.

Er ein bod ni’n cymryd saib, cofiwch i anfon eich gwybodaeth gwrth-ffasgaidd, newyddion radical ac anerchiadau anarchaidd at anarchwaethus ac mi wnawn eu cyhoeddi fel erioed.

“Amddiffynwn chwyldro Rojava: dros ein dosbarth, dros y ddaear, a dros fenywod”

Amddiffynwn chwyldro Rojava: dros ein dosbarth, dros y ddaear, a dros fenywod

Dyma ddarn arbennig o bwysig ar wefan mudiad Undod, yn trafod y brwydrau yn erbyn patriarchiaeth, ffasgiaeth a chyfalafiaeth yn Rojava, gan yr anarchydd Heledd Williams.

“Gan y mudiad cenedlaethol Gymreig llawer iawn i’w ddysgu o Chwyldro Rojava. Ni wnaiff copi carbon o wladwriaeth gyflalafol y tro i ni. Gyda cynhesu byd eang, ffasgiaeth cynyddu mewn grym ar draws y byd ac adref – rhaid i ni fod yn uchelgeisiol am y gymdeithas gyfiawn a rhydd yr ydym ni yn ei freddwydio amdano. Os all pobl greu y math yma o system yng nghrombil rhyfel – gallwn ni wneud hyn yng Nghymru, heddiw.”

The article is available in English here.

CofiwchDrywerynCasnewydd.jpeg
Murlun “Cofiwch Dryweryn” a solidariaeth yng Nghanolfan Gymunedol Cwrdaidd Casnewydd, adeg streic newyn Imam Sis

Cafwyd llwyth o erthyglau gwych ar wefan Undod yn ddiweddar, ar gwrth-hiliaeth, militariaeth, y sioe frenhinol, a mwy. Cerwch draw i gael gip!

 

 

 

Streiciwch, Meddiannwch, Gwrthsafwch!

Cafwyd tipyn o weithgarwch a phrotest yn Ne Cymru dros yr wythnos diwethaf – digon i warantu crynodeb radical arall!

Streic y Fenyw yn picedi

Ar ddydd Gwener yr 8fed o Fawrth, Diwrnod Rhyngwladol y Fenyw cafwyd piced tu allan i’r ganolfan swyddi ac yna rhaglen o weithgareddau a pherfformiadau radical gan Streic y Fenyw yng Nghaerdydd. Mae Streic y Fenyw yn fudiad sydd yn brwydro cyfalafiaeth a phatriarchiaeth fel ei gilydd. Gan fod llafur di-dâl menywod ac eraill “di-waith” yn rhan annatod o’r system elw, gall streic gan fenywod gwrthdroi’r system. Targedwyd y ganolfan swyddi am fod bolisiau crintachlyd megis “universal credit” yn cwtogi arian y di-waith, gan greu dlodi, dyled a phoen.

StreicyFenywCaerdydd2019
Piced Streic y Fenyw tu allan i’r ganolfan swyddi, Caerdydd

“XR” Caerdydd ar y strydoedd

Y diwrnod nesaf, Sadwrn , dyma “Extinction Rebellion” Caerdydd yn denu nifer i’r strydoedd i blocio hewlydd mewn protest dros yr amgylchedd. Bu dipyn o feirniadaeth o hierarchiaeth XR yn ddiweddar oherwydd eu cydweithrediad naïf â’r heddlu ac am eu… hierarchiaeth. Eto, da gweld y fath weithredu uniongyrchol gan gynifer o bobl frwdfrydig.

XRCaerdyddMawrth2019.jpg
XR Caerdydd yn cymryd stryd y Santes Fair, Caerdydd

 

Protestwyr yn meddiannu swyddfa’r BBC

Ar ddydd Llun yr 11eg dyma ymgyrchwyr dros ryddid Cwrdaidd, a rhyddid i’r carcharwr gwleidyddol Abdullah Öcalan, yn meddiannu mynedfa swyddfa’r BBC yn bae Caerdydd am rai oriau yn dilyn protest tu allan i’r Senedd. Cyflawnwyd y gweithred i brotestio’r diffyg sylw llwyr gan y BBC i frwydrau’r ymgyrchwyr yn ddiweddar, yn enwedig ympryd Imam Sis. Bu Imam Sis, Cwrd yng Nghasnewydd ar streic newyn ers dros 90 diwrnod nawr. Ar ddiwedd mis Chwefror ymunodd nifer eraill gydag ef – rhai yn y ganolfan Cwrdaidd yng Nghasnewydd ac eraill o bell – am ympryd o 24awr mewn solidariaeth.

MeddiannuSwyddfaBBCyBaeMawrth2019
Yr heddlu yn ceisio yn ofer i symud y protestwyr o swyddfa’r BBC yn y Bae

Gwerin Guildford: trech sgwotio na foneddigeiddio!

Ar ddydd Iau cyhoeddodd anarchiaid “Gwerin Guildford” eu bod wedi meddiannu hen bar y Gwdihw ac adeiladau cysylltiedig yng nghanol Caerdydd. Ar ddiwedd mis Ionawr fe drowyd y bar amgen, bwytai teuluol allan o’r Guildford Crescent gan y perchnogion, sydd am ddymchwel y cilgaint (teras hyna Gaerdydd) er mwyn creu fflatiau costus ac elw hawdd. Bu brotestiadau mawr dan faner #SaveGuildfordCrescent yn gynharach yn y flwyddyn, ac mae cais i restru’r adeiladau hanesyddol gyda Cadw. Er i’r datblygwyr, addo i’r cyngor y fyddant yn gohirio dymchwel y cilgaint, dengys cyfathrebiad llys yn sgil y meddiant eu bod mewn gwirionedd ar fin eu dymchwel. Nid yw’n syndod bod landlordiaid am ennill arian heb os am ein hetefeddiaeth nag anghenion cyffredin. Dim ond gweithredu uniongyrchol gall atal boneddigeddio ein dinasoedd, sicrhau bod tai i bawb ac amddiffyn ein diwylliant.

GuildfordPeasants
Anarchiaid Gwerin Guildford yn ei sgwot newydd

Bydd achos llys y sgwot ar Ddydd Iau y 21ain. Galwyd am brotest dros gadw ‘r cilgaint ar yr un diwrnod, Guildford Crescent, am 11.30am. Solidariaeth!

Yr ifanc yn streicio eto

Yn olaf, dydd Gwener diwetha cafwyd streic addawol arall dros yr hinsawdd. Gadawodd plant a phobl ifanc eu hysgolion led-led Cymru a’r byd, llaw yn llaw gyda myfyrwyr a chefnogwyr, gan brotestio tu allan i adeiladau llywodraethol. Buon nhw’n galw unwaith eto i’r wladwriaeth cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifri ac atal tranc ein byd. Yng Nghaerdydd martsiodd dros 600 o bobl ifanc o Neuadd y Ddinas i’r Senedd, yn Abertawe martsiodd dros 100 i Neuadd y Cyngor, a chafwyd hefyd protestiadau angerddol er gwaetha’r tywydd yn Llangefni, Machynlleth, Aberystwyth, Llandrindod a Hwlffordd. Megis streic y fenyw, mae streic yr ifanc yn dangos sut gall weithredu amgen mentro trawsnewid ein byd.

StreicyrifancAberystwythMawrth2019
Streic yr ifanc dros yr hinsawdd yn Aberystwyth

Os oes gennych chi newyddion, digwyddiad, stori neu glecs i anarchwaethus rhannu, cysylltwch! Da ni’n chwilio yn enwedig am fwy o adroddiadau radical o Ogledd a Gorllewin Cymru.

Dydd Gwener o Gynnwrf: peth newyddion diweddar

Cafwyd tipyn o gynnwrf yn Ne Cymru Dy’ Gwener diwethaf. Dyma golwg bach (a barn anarchwaethus, wrth reswm!).

Cwrdiaid yn martsio er gwaetha hiliaeth

Prynhawn y 15fed o Chwefror cyrraeddodd gorymdaith o bobl Cwrdaidd a’i chefnogwyr De Cymru. Martsiant o Fryste y diwrnod hwnnw, ac o Lundain dros y dyddie cynt, er mwyn ymweld ag Imam Sis, un o drigolion Casnewyd. Bu Imam Sis yn ymprydio ers sawl wythnos, mewn protest yn erbyn carchariad a chamdriniaeth yr arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan gan y wladwriaeth Dwrcaidd.

HeddluymosodCwrdiaidCasnewyddChwefror2019
Yr heddlu yn ymosod yn dreisgar ar brotestwyr Cwrdaidd yng Nghasnewydd

Wrth gyrraedd y dre, cafwyd croeso tresigar gan heddlu De Cymru, a ymosododd yn ddi-rybudd ar y dorf. Cymhellwyd eu gweithredoedd gan hiliaeth amlwg yn ôl protestwyr. Er gwaetha’r orthrwm, cyrraeddodd y dorf eu cyrchfan lle areithiodd Imam Sis ac eraill.

Mae hyn yn dilyn protest mawr gan ymgyrchwyr Cwrdaidd tu allan i’r Senedd ar y 5ed o Fawrth.

Plant yn streicio yng Nghaerdydd ac Abertawe

Ar yr un Gwener fe gafwyd streic rhyngwladol dros yr hinsawdd gan blant a phobl ifanc. Gadawodd plant ysgol a myfyrwyr coleg a phrifysgol eu hastudiaethau mewn protest yn erbyn niwed cyfalafiaeth i’n byd a’r hinsawdd. Fel pob camdriniaeth, mae’r niwed hyn yn gysylltiedig i bwer hierarchaidd oedolion dros blant – system oedolion, a’r hen genedlaethau, sydd yn lladd ein cartref naturiol. Braf gweld plant wrth flaen y gad felly yn herio’r drefn. Cronnodd cannoedd o blant a’u cefnogwyr i brotestio tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd; protestiodd eraill ar draeth Abertawe ac ar Gampws Singleton y prifysgol.

Da i glywed am ddoethineb cymaint o’r plant wrth iddynt ddewis beidio siarad na chyd-weithio â’r heddlu. Yn Llundain, cafwyd digwyddiadau treisgar wrth i’r heddlu arestio plant am brotestio a gyrru fan i mewn i’r dorf. Fel dengys hyn a phrofiad y Cwrdiaid yng Nghasnewydd, ni ellid ymddiried yn y fath sefydliad haerllug, ac nid ydynt yn ffrindiau i neb sydd yn brwydro dros ryddid.

Gigio dros Gymru rydd yng Nghaerdydd

Ar noswaith yr un Gwener cafwyd gig dros Gymru annibynnol, radical, yng Nghaerdydd, dan faner GellirGwell gan sawl artist blaengar. Yn debyg i lawnsiad mudiad neywdd Undod, mae’n braf i glywed mwy o son am ba fath o Gymru rydd rhydym am ei gweld – un gwrthffasgaidd, un gwrth-gyfalafol, un ffeminyddol. Datganiad gwag yw “annibyniaeth” heb sylwedd radical. Hebddi, fel rhybuddiodd y chwyldroadwr Gwyddelig James Connolly, cawn ein dal gan dannau imperialaeth yr un fath.

Yn ôl pob son roeddd hi’n gig gwerth chweil. Wrth gwrs, mae angen y fath cwnnwrf diwylliannol dros Gymru gyfan, yn ein cymunedau – ac heb docynnau prin na chostus.

Digwyddiadau ar y gweill

  • Mae Streic y Fenyw Cymru yn trefnu llond ddwrn o ddigwyddiadau radical ar yr 8fed o Fawrth, Dydd Rhyngwladol y Fenyw, yng Nghaerdydd.
  • Ar yr 12fed o Fawrth yn Abertawe, a’r 14eg o Fawrth yn Llandudno, mi fydd y llywodraeth yn ceisio cynnal cyfarfod am dwmpio gwastraff niwclear yn ein cymunedau. Mi fydd brotestiadau!
  • Galwyd am streic arall gan yr ifanc yn erbyn newid hinsawdd ar y 15fed o Fawrth.

Cofiwch, os oes gennych chi newyddion am digwyddiad radical a fu neu a fydd, rhowch wybod!

Chwalwch drawsffobia

Diwedd mis Ionawr ceisiodd ymgyrchwyr gwrth-draws “ReSisters” lledu casineb yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Tonypandy a Sir Gâr. Gosodwyd crysau-T ar gerflunnau gyda neges oedd yn ceisio mynnu nad yw menywod-traws yn fenywod “go-iawn”.

Dyma ideoleg Ffeminyddion Trawsffobaidd [“Trans Exclusionary Radical Feminsts“], sydd yn cam-gyhuddo menywod-traws o fod yn ddynion ac yn dreiswyr peryglus. Yn wir, mae nifer o Ffeminyddion Trawsffobaidd yn diffinio trawsnewid rhyw fel fath o “drais” rhywiol yn ei hun. Maent yn ceisio atal pobl draws rhag derbyn y gwasanaethau meddygol sydd eu hangen arnynt, ac yn ceisio anfon carcharwyr sydd yn fenywod traws i garchardai gwrywaidd lle gaiff nifer uchel ohonynt eu lladd. Maent hefyd yn hiliol anwybyddu bodolaeth pobl brodorol nad ydynt yn rhan o ddiffiniadau untu [“cis”] Gorllewinol o rywedd, yn gormesu pobl rhyngrywiol [“intersex“] nad ydynt wedi eu geni gyda organau rhyw “normal” ac o blaid carcharu gweithwyr rhyw. Yn fyr, dyma bobl untu breintiedig sydd yn ceisio amddiffyn eu braint. Nid ydynt yn ffeminyddion na chwaith yn radical, ac nid oes lle amdanynt yng Nghymru.

Mewn gwirionedd, mae pobl draws, a menywod traws yn enwedig, yn dioddef erlyn ac ymosodiadau dyddiol ar y stryd, y cartref, y gweithle, wrth geisio defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ac wrth groesi ffiniau. Roedd menywod traws, megis Sylvia Rivera a Marsha P. Johnson ar flaen-gad terfysg Stonewall yn 1968 a’r mudiad dros hawliau hoyw a lesbiaidd, er i’r mudiad hynny ceisio eu di-arddel yn y ’70au. Erys pobl draws ar flaen-gad y brwydr yn erbyn patriarchiaeth. Ers terfysg Stonewall bu rhai buddugoliaethau i bobl draws yn y Gorllewin, ond yn ddiweddarach gwelwyd atgasedd trawsffobaidd (yn debyg i drais asgell-dde) ar gynydd. Nid yw’r brwydr ar ben.

Ta beth, yn ôl llun a anfonwyd at anarchwaethus, ni pharodd y rwtsh am hir.

Chwalwchdrawsffobia
Llun o faner a chrys-T, oedd yn ceisio cyfleu neges trawsffobaidd, a anfonwyd at anarchwaethus

Chwalwch drawsffobia, chwalwch batriarchaeth x

Solidariaeth ag Imam Sis, ymprydiwr Cwrdaidd

Ers rhai wythnosau bu ymgyrchydd Cwrdaidd yn Ne Cymru, Imam Sis, yn ymprydio mewn protest yn erbyn carchariad ymynysol Abdullah Öcalan. Mae Öcalan yn arweinydd a theoryddwr Cwrdaidd. Mae ei garchariad, fel carchariad cymaint o’i gymrodyr, yn adlewyrchiad o orthrwm a brwydr chwyldroadwyr Cwrdaidd. Cafwyd protest bywiog dros ryddhad Öcalan tu allan i adeilad darlledu y BBC yng Nghaerdydd ar y 24ain o Ionawr.

OcalanProtestCardiff24012019
Baner o brotest tu allan i adeilad darlledu y BBC, Caerdydd ar y 24ain o Ionawr

Atgynhyrchwn datganiad gan gangen Cymru o’r IWW o solidariaeth ag Imam Sis a’i brwydr isod.

“Mae cangen Cymru/Wales Undeb Gweithwyr y Byd yn datgan ein bod yn cyd-sefyll gydag Imam Sis a’r holl gymrodyr sydd yn ymprydio ar y cyd gydag AS Cwrdaidd yr HPD, Leyla Güven, er mwyn dod â charchariad ymynysol Abdullah Öcalan i ben.

Mae carchariad unigol yn cael ei ystyried yn ddull o arteithio, ac yn un y bu raid i Öcalan ei oddef ers cael ei arestio yn 1999. Ni chaniatawyd ymweliadau iddo gan ei gyfreithwyr ers 2011. Yn ôl pob tebyg pwysau gan ymprydwyr oedd wrth wraidd caniatáu i Abdullah Öcalan weld ei frawd, Mehmet, ddydd Sul y 13eg o Ionawr – dyna’r tro cyntaf iddo gael cysylltu ag aelod o’i deulu ers tair blynedd. Er hynny, yn dilyn ymweliad deng munud o hyd, mae Öcalan yn dal i gael ei garcharu ar wahân, ac mae disgwyl i’r ymprydwyr ddal ati.

Mae Senedd Gwrdaidd Cymru yn mynnu bod:

1 – Caniatáu i’r Pwyllgor Atal Artaith (CPT) ymweld â Charchar Imrali er mwyn cadw golwg ar amodau carchariad Abdullah Öcalan.
2 – Llys Hawliau Dynol Ewrop (ECHR) yn gweithredu yn erbyn ymyriadau Llywodraeth Twrci ar hawliau dynol Öcalan.
3 – Llywodraeth Cymru yn galw ar y CPT a’r ECHR i weithredu.
4 – Llywodraeth Cymru yn gwrthsefyll unrhyw weithredu milwrol gan y Wladwriaeth Dwrcaidd, neu sydd wedi’i gynllunio ganddo, ar gyfer Ffederasiwn Ddemocrataidd Gogledd Syria, sydd ymysg y rhanbarthau mwyaf democrataidd nid yn unig yn y Dwyrain Canol ond yn rhyngwladol.

Mae Abdullah Öcalan yn damcaniaethwr gwleidyddol chwyldroadol a fu’n brwydro ac ymgyrchu dros ryddid i Gwrdistan am dros ddeugain mlynedd. Ers ei garcharu ym 1999 mae wedi datblygu strategaeth i ryddhau Cwrdistan sydd y tu hwnt i batrwm traddodiadol cenedl-Wladwriaeth, drwy Gynghreiriaeth Ddemoctrataidd. Mae hon yn ddamcaniaeth dan ddemocratiaeth-uniongyrchol, sy’n ymwneud â sefydlu strwythurau a sefydliadau gwleidyddol newydd er mwyn i rym ddod o lawr gwlad; gan gynghorau lleol a chynghreiriau i gyrff ffederal ehangach. Mae’r strwythurau hyn yn galluogi gweithredu ysgwydd yn ysgwydd dros werthoedd cyffredin fel rhyddid merched, iechyd amgylcheddol a chynaliadwyedd, yn ogystal â chynnig cefnogaeth wleidyddol a strwythurol i leiafrifoedd ethnig a chrefyddol.

Yn dilyn brwydr dros Kobane yn 2014, pan frwydrodd y People’s Protection Units (YPG/YPJ) gyda Daesh/ISIS, mae dinasoedd, trefi a phentrefi yng ngogledd Syria wedi mabwysiadu Cynghreiriaeth Ddemocrataidd, a chreu’r corff gwleidyddol, Democratic Federation of Northern Syria, a’i amcan yw ceisio ymreolaeth raddol i’r Wladwriaeth Syriaidd, a galluogi tlodion a’r dosbarth gweithiol drwy strwythurau a sefydliadau gwleidyddol.

Mae dod â charchariad ymynysol Abdullah Öcalan i ben yn hanfodol i ddatrys y ‘Cwestiwn Cwrdaidd, i heddwch yn y Dwyrain Canol ac i weddill y byd. I fynd I’r afael â’r heriau sy’n ein wynebu ni i gyd yn ystod y ganrif hon, mae diogelwch a syniadau Abdullah Öcalan o bwys mawr.”

https://iww.org.uk/news/cydsafiad-iww-cymru-ag-imam-sis-ar-ymprydwyr/

Eich Newyddion Gwrth-ffasgaidd Lleol

Gwelwyd tipyn o weithredu ffasgaidd a gwrth-ffasgaidd yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf. Dyma’r diweddara i chi gyd.

Ffeministiaid yn cwffio’r DFLA

Ar y 13eg o Hydref, teithiodd ffeministiaid Streic y Fenyw Cymru o Gaerdydd i wrthwynebu gorymdaith y DFLA hiliol yng nghanol Llundain.

Mae’r “Democratic Football Lads Alliance” yn grwp newydd Islamoffobaidd, hiliol, asgell-dde-pell. Maent yn ymosod ar Fwslemiaid yn rethregol ac yn ffisegol, ac yn cynnwys nifer o ffasgiaid craidd-galed – fath o English Defence League newydd. Mae ganddynt grŵp yng Nghaerdydd ac Abertawe – a deithiodd i’r gorymdaith yn Llundain.

DraigGwrthffasgaidd
Yr “Unity Demo”: gwrth-brotest effeithiol yn erbyn y DFLA yn Llundain, Hydref 2018

Llwyddodd y gwrth-brotest, a arweiniwyd gan fenywod a phobl di-ddeuaidd, i rwystro llwybr y ffasgiaid am gyfnod. Roedd y “bloc” o dros fil o bobl llawn bywiocrwydd bomiau mwg, systemau sain a bwyd rhad ac am ddim, wedi’u amddiffyn gan faneri chadarn ar bob ochr. Talwyd y pwyth yn nol i’r DFLA am y tro gyntaf a difethwyd ei honiad ei bod yn “amddiffyn menywod”.

Generation Identity yn ffoi rhag pêl-droedwyr sosialaidd Wrecsam

Tra bo’r DFLA yn ceisio ennill aelodau o gefnogwyr (gwrywaidd) pêl-droed, mae PartisansWrecsam yn llwyddo i fagu ysbryd tra-wahannol yn y standiau. Dyma grwp gweriniaethol, sosialaidd a Chymreig sydd am weld pel-droed go-iawn a Chymru rydd. Yn ddiweddar gwelwyd grwpiau newydd o gefnogwyr dros annibyniaeth yng Nghymru – ond PartisansWrecsam sydd yn arwain y ffordd a’u safiad gwrth-gyfalafol a gwrth-ffasgaidd.

CefnogwyrWrecsamynerbynFfasgaeth
Cefnogwyr Wrecsam yn arwain y ffordd

Ar y 27ain o Hydref ceisiodd “Generation Identity”, grŵp newydd o ffasgiaid ifanc, ymweld a Wrecsam. Tu ol i’w geirfa rhyfedd, dyma gyfundrefn goruchafol-wen sydd am droi Ewrop yn ardal i wynion yn unig. Roeddent am fachu cefnogaeth trwy roi bwyd i’r di-gartref gwyn eu croen (ceisiodd y DFLA dric propaganda tebyg yng Nghastell Nedd yn ddiweddar). Dyma weithred unigol, di-sylwedd, sydd yn ecsbloetio’r di-gartref er mwyn smalio eu bod yn waredwyr. Wrth reswm, maent yn ymosod ar ffoaduriaid di-gartref ac yn bwrpasol anwybyddu gwraidd y broblem: y landlordiaid sy’n ein ecsbloetio, y torriadau i’n wasanaethau cyhoeddus a benefits a’r cynifer o dai gwag (gan gynnwys tai haf) sydd yng Nghymru.

Ta beth, nid oedd Generation Identity yn y dre am hir. Cawsant eu gwrthwynebu gan werinos o BartisansWrecsam a thrigolion asgell-chwith eraill – ac i bob golwg gadawyd iddynt dosbarthu eu bwyd pitw cyn eu di-arddel o’r fan. Da iawn!

Prydeinwyr unig “UK Unity”

Ar y 10fed o Dachwedd ceisiodd y grwp “UK Unity” cynnal protest yng nghanol Caerdydd. Ar y golwg gyntaf dyma gyfundrefn o Brydeinwyr rhonc sydd yn obsesiynnu am Brecsit. Ond os grafwch ychydig fe welwch eu bod yn barhaol lladd ar fewnfudwyr a Mwslemiaid ac yn arddel eithafwyr fel Tommy Robinson. Maent yn debyg iawn felly i’r “People’s Charter” (a gynhaliodd “rali” o ryw deuddeg yn y Bae ym mis Ionawr) a’r “Democratic Veterans Party” (sydd yn denu cyn-gwleidyddion UKIP yn Ne Cymru) a “For Britain” (a ddosbarthodd deunydd yn Abertawe ym mis Medi).

Er nad ydynt yn ffasgiaid plwmp a phlaen, mae’r fath gyfundrefnau newydd yn adlewyrchu y symudiad gyffredinnol at yr asgell dde, at Brydeindod, Islamoffobia a hiliaeth. Wedi’r cyfan, mae nifer o bwyntiau maniffesto y BNP nawr yn bolisiau swyddogol y llywodraeth (a dydi Llafur ddim yn bell tu ôl). Pryder arall yw bod y fath grwpiau’n gallu creu gwagle unedig rhwng yr asgell dde galed  a ffasgiaid eithafol – gwelwyd rhain oll ar rai o orymdeithiau y DFLA yn Llundain, er enghraifft.

Peth braf oedd gweld cyn-lleied ohonynt yng Nghaerdydd felly, a neb o’r grwpiau fwy eithafol – efallai o ganlyniad i dorf mawr o gwrth-ffasgiaid yn dwyn lleoliad ei rali. Roedd yr hen unigolion yn llai eithafol na rethreg y wefan ganolog, ond dilynwyd nhw trwy’r ddinas beth bynnag gan ymyrru ar ei allu i ledu propaganda. Arbennig.

“Tommy Robinson” yn bwlio athrawon ysgol yn Abertawe

Yng nghanol mis Tachwedd, ceisiodd Stephen Yaxley-Lennon (a adwaenir fel “Tommy Robinson”) a’i mêts bygythio athrawon Ysgol Gyfun Gellifedw. Honnodd Lennon i’w enw cael ei gymryd oddi ar boster gwrth-fwlio yn yr ysgol. Brifwyd Tommy druan, ac annogodd ei gefnogwyr i erlid athrawon a chyfryngau cymdeithasol yr ysgol, gyda nifer ohonynt wedyn yn postio bygythiadau o drais arlein. Gadawyd arwydd o blaid Lennon tu fas i’r ysgol.

Tommydrist
Tommy Robinson ar ôl iddo glywed ni fydd ei enw ar boster gwrth-fwlio Ysgol Gyfun Gellifedw

Mae Yaxley-Lennon yn gyn-aelod o blaid Natsiaidd y BNP, yn gyn-arweinydd yr English Defence League hiliol ac nawr ar gyflog UKIP. Chware teg i safiad yr athrawon – does dim lle iddo ef na’i syniadau hiliol yn ysgolion Cymru. Tommy cer i grafu!

Ffasgiaid eithafol, Gwrth-ffasgiaeth Gymunedol

Yn olaf, mae’n bwysig i nodi bod ffasgiaid eithafol yn byw ac yn cynllunio yng Nghymru fach. Arestiwyd rhai o “System Resistance Network” eleni am bosteri a graffiti yng Nghaerdydd ac ymgais Austin Ross i losgi ysgol yng Nghasnewydd. Datguddiodd y cyfryngau fod Ben Raymond (a than yn ddiweddar, Alex Davies), cyn-arweinwyr “National Action” – grwp treisgar Neo-Natsïaidd – yn byw yn Abertawe. Rhai misoedd yn ol carcharwyd Mikko Vehvilainen, aelod arall o “National Action” a milwr yng ngwersyll Pontsenni oedd yn berchen ar arfau a maniffesto y llofruddiwr ffasgaidd Anders Brevik. Bwriad Vehvilainen oedd creu pencladys i wynion yn unig yn Llansilyn, lle mae’n berchen tŷ. Ym mis Mehefin postiodd dyn o’r enw David Lewis o Gaerdydd bygythiadau gwrth-Fwslemaidd a llun o sawl gyllell gerllaw pamffled “Britain First”. Mae’n debyg nid ef yw’r unig dyn yng Nghymru sy’n agos i efelychu gweithredoedd erchyll Darren Osbourne, y dyn o Gaerdydd a fu’n gyfrifol am ladd sawl Fwslim yn Llundain llynedd.

ArfauVehvilainen
Rhai o’r arfau a darganfuwyd mewn tai y ffasgydd Mikko Vehvilainen

Ni fydd yr heddlu na’r garchardai yn atal ffasgiaeth . Dyma sefydliadau sydd, wedi’r cyfan, yn systemataidd hiliol yn ei ffordd ei hun, ac sy’n ddigon barod i ddefnyddio grwpiau ffasgaidd i’w dibenion. Gall ffasgiaid parhau i drefnu a chynllunio yn y carchar, a fyddant ar y strydoedd eto ymhen rhai blynyddoedd. Magu ffasgiaeth wna’r wladwriaeth “ryddfrydol” a’r system gyfalafol. Ni allwn eu defnyddio am y dasg sydd o’n blaen – na, rhaid creu mudiad gwrth-ffasgaidd yn ein cymunedau. Rhaid hefyd creu mudiadau gwrth-gyfalafol, gwrth-hiliol a gwrth-Brydeinig, i ddatrys y problemau mae ffasgiaid yn ecsbloetio a chwalu’r sefydliadau sydd yn sylfaen i’w nerth. Dyma’r her i bawb sydd am Gymru rydd.

GwrthffasgiaidCymru

Os oes gennych chi wybodaeth ar weithgaredd ffasgaidd yng Nghymru, cysylltwch ag anarchwaethus.

Trech gwlad na llygredd

NantLlesgRainbowquote
Llun o Nant Llesg a geiriau gan un o ymgyrchwyr yr United Valleys Action Group

https://www.coalaction.org.uk/2018/10/victory-against-welsh-opencast

Llongyfyrchiadau hwyr i’r United Valleys Action Group a phawb arall am drechu’r cynlluniau dros Glo-Brig yn Nant Llesg. Ymunodd Reclaim the Power, Bristol Rising Tide, Cyfeillion y Ddaear, Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru, Coal Action Network ac eraill yn y brwydr dros Nant Llesg. Mae UVAG wedi llwyddo eisoes i atal losgydd brwnt Covanta yn 2011.

Dengys brwydr Nant Llesg mai trwy weithredoedd pobl gyffredin ar lawr gwlad cawn drechu’r ymosodiad parhaol ar ein hamgylchedd. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ni fydd cloddio newydd, mae safleoedd glo-brig eraill yn dal i lygru’n gwlad a’r brwydr yn erbyn peryglon niwclear Wylfa-B a Geiger Bay yn barhau.

Nid mater i’r ymylon yw’r brwydr dros yr amgylchedd. Yn barod mae miliynau o ffoaduriaid hinsawdd, alltudion o ganlyniad newid hinsawdd cyfalafiaeth ddiwydiannol. Ers i Ferthyr Tudful dioddef “chwalfa ecolegol” (chwedl Gwyn Alf) yn hanner gyntaf y 19fed ganrif mae’r dinistr yn rhan o’n profiad fel cenedl. Nid oes taw ar yr argyfwng hyd yn hyn. Dim ond gweithredu uniongyrchol gall ein hamddiffyn rhag lladdfa’r system – dewch i ni mynd ati!