Rhwystrwch y Rali Hiliol, Caerdydd, 13/01/2018

Stop the Racist Rally, Cardiff, 13/01/2018

English below

Ar ddydd Sadwrn y 13eg o Ionawr am 10am mae’r asgell-dde eithafol yn bwriadu cynnal rali yng Nghaerdydd, tu allan i’r Senedd. Bydd gwrth-brotestwyr yn ymgynnull o 10 o’r gloch i wrthwynebu’r rali.

Bydd aelodau o UKIP yn ymuno gyda’r gyfundrefn “The People’s Charter” o blaid Brecsit. Mae’r People’s Charter yn gyfundrefn hiliol a Phrydeinig. Mae Luke Nash-Jones, arweinydd y grŵp ac un o’r siaradwyr yn Islamoffôb rhonc sy’n defnyddio iaith “alt-right” yr UDA. Gwaharddwyd un o’r siaradwyr UKIP, Gareth Bennet, rhag siarad yn y Senedd yn ddiweddar am sylwadau sarhaus yn erbyn pobl traws. Er gwaethaf eu gwleidyddiaeth gwrth-ddosbarth gweithiol dyma’r rali yn ceisio bachu symboliaeth Siartwyr Casnewydd – sarhad gwarthus ar hanes gweithwyr ein cenedl.

Nid oes croeso i’w Prydeindod rhagfarnllyd, ei hiliaeth a’i snobyddiaeth yng Nghaerdydd. Dewch i ni wneud hyn yn glir.

Cofiwch fod siawns y bydd ffasgiaid treisgar yn mynychu’r rali hiliol, a bod hi’n anodd rhagweld gweithredoedd yr heddlu. Byddwch yn ofalus ac ewch gyda ffrindiau. I’r strydoedd!

LukeN

On Saturday the 13th of January at 10am the far-right “People’s Charter” are planning on holding a rally in Cardiff, outside the Welsh Assembly. Counter-protestors will be assembling from 10am to oppose the rally. Let’s make it clear that their racism and Islamophobia isn’t welcome here. Remember that there’s a chance violent fascists will attend the racist rally, and that it’s difficult to predict the police response. Keep your wits about you and go with friends. To the streets!

Advertisements

“Y dde eithafol a chenedlaetholdeb Cymreig”

https://anffyddiaeth.blogspot.nl/2017/11/y-dde-eithafol-chenedlaetholdeb-cymreig.html

Blogiad hollbwysig am ddefnydd rhai cenedlaetholwyr Cymreig o ddelwedd dde-eithafol, Pepe y broga / llyffant.

Pepe y broga, sydd pellach yn symbol ffasgaidd

Mae’r blogiwr Anffyddiaeth yn “rhybuddio am lond dwrn o gyfrifon Twitter a thudalennau Facebook sy’n lledaenu delweddau yn enw cenedlaetholdeb Cymreig ond sy’n deillio o fudiad yr alt-right eithafol. Efallai mai naïfrwydd sydd i gyfrif mewn ambell achos yn hytrach nag eithafiaeth gwirioneddol, ond mae’n hanfodol bod cenedlaetholwyr Cymreig yn cadw’n glir o’r math yma o beth o gofio hanes hir eu gwrthwynebwyr o geisio’u pardduo â chyhuddiadau o ffasgaeth.

Nid yw’r cyfrifon hyn yn niferus o bell ffordd, ond maent yn bodoli ac mae rhai cenedlaetholwyr synhwyrol yn eu dilyn (efallai trwy ddamwain). Rhybudd yw’r erthygl i bobl fod yn wyliadwrus, rhag ofn iddi droi’n broblem sylweddol. Os nad ydych yn gyfarwydd â Pepe’r broga, gwyn eich byd. Ond os ydych yn gweld broga cartwn sinistr yr olwg mewn llun proffeil, cadw draw sydd gallaf.” Ie wir.

Mae ganddo hefyd erthygl Saesneg ar y fater ar nation.cymru.

Yn wreiddiol roedd Pepe yn gymeriad comic ddi-niwed a ddaeth yn femyn poblogaidd, ond o dua 2016 ymlaen fe fachwyd gan ffasgiaid yn yr UDA a goruchafwyr gwyn eraill arlein. Digalonnwyd ei greadwr Matt Furie gan hyn. Ceisiodd achub Pepe, ond sylweddolodd fod ei symbol wedi’i llawn pardduo, ac felly fe laddwyd. Erbyn hyn, mae Pepe yn symbol farw i bawb ond ffasgiaid. Dyle hanes Pepe, symbol a llwyr-fachwyd gan ffasgiaeth, rhoi rhybudd pwysig i ni wrth i ffasgiaid Prydeinig ceisio bachu ein symbolau Cymreig a Chymraeg.

Rhaid chwalu delweddau ffasgaidd, pa bynnag ffurf cymerant. Rhaid hefyd atal unrhyw elfen o ffasgiaeth, symbolaidd neu real, rhag sleifio mewn i fudiadau rhyddid Cymru.

Delwedd gwrth-ffasgaidd gan y grŵp LGSMigrants

 

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am weithgaredd ffasgaidd yng Nghymru, cysylltwch ag anarchwaethus.

Hydref Aflonydd

Cafwyd peth cynnwrf yng Nghymru dros y mis diwethaf. Dyma grynodeb anarchwaethus.

Solidariaeth â Chatalwnia

Yn dilyn ymgais gwladwriaeth Sbaen i sathru protestiadau a refferendwm annibyniaeth Catalwnia dangoswyd solidariaeth ar hyd Gymru. Hyd a wyddwn ni, cynhaliwyd ralïau yn Llangefni, Caernarfon, Aberystwyth, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd, y rhan fwyaf wedi trefnu gan y grŵp annibyniaeth YesCymru. Wrth i’r llywodraeth ganolog anfon llongau o heddlu arfog tra bo gangiau o ffasgiaid Sbaeneg yn crwydro’r strydoedd, galwyd am streic gyffredinol ar y 3ydd o Hydref gan undeb anarchaidd y CNT ac eraill. Chwifiwyd baner anarchiaeth a baner Chatalwnia o brifysgol Abertawe mewn solidariaeth gan yr IWW, chwaer undeb i’r CNT.

Braf gweld cynifer o bobl ar strydoedd Cymru, yn enwedig yn nhrefi lle ni chafwyd protest ers slawer dydd. Eto i gyd, rhaid cofio taw arf, nid gair, yw solidariaeth. Trwy weithredu uniongyrchol, nid gwrando ar wleidyddion, cawn ddadwladychu a thrawsnewid ein bywydau.

Coffáu’r Frigâd Ryngwladol

Wrth i ffasgiaeth Sbaen sleifio o’u cuddfannau unwaith eto, cafwyd digwyddiad yng Nghaerdydd ar y 14eg o Hydref i gofio’r gwirfoddolwyr a aeth i’w brwydro yn y 30au. Teithiodd sawl Gymro a Chymraes i gwffio ffasgiaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936-1939), gyda’r Frigâd Ryngwladol ond hefyd gyda’r milisiais Trotsgïaidd ac anarchaidd yn ogystal. Trefnwyd y digwyddiad ger y gofeb yng Ngerddi Alexandria gan Ymddiriedolaeth Coffa’r Brigadau Rhyngwladol, a mynychwyd y digwyddiad gan ddisgynyddion rhai o’r gwirfoddolwyr, Côr Cochion Caerdydd, undebau llafur ac eraill.

Yn ôl undeb yr IWW, “Croesawyd rhandaliad y Gangen Aelodau Cyffredinol IWW Cymru ar y diwrnod gyda theimlad o undod go iawn, ynghyd â’r gydnabyddiaeth, er bod y frwydr yn erbyn Franco bellach yn hanes, bod y frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn ei ffurfiau niferus yn parhau lle mae gan pawb ohonom rhan i’w chwarae!”

Digwyddiad Coffáu’r Frigâd Ryngwladol, Gerddi Alexandria, Caerdydd

Hillary Cer i grafu

Cafwyd mwy o anghydfod ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe ar y 14eg o Hydref. Daeth Hillary Clinton, cyn-weinidog cartref yr UDA, i dderbyn anrhydedd am ei chefnogaeth o “Hawliau Dynol” – er gwaethaf ei rôl amlwg mewn rhyfeloedd imperialaidd, bomiau “drones” a’i gomplisitrwydd mewn arteithio. Er bod Trwmp yn fwy o gachwr amlwg, ochr arall yr un geiniog ormesol yw Clinton wedi’r cyfan. Ond mae nifer, gan gynnwys y Brifysgol, yn fodlon anwybyddu hyn (er budd ei hun) – yn wir, aeth un academydd mor bell a gweld hi fel un o’r gorthrymedig (!).

Er gwaethaf ymdrechion yr heddlu a’r gwarchodlu diogelwch, protestiwyd ei phresenoldeb gan dorf fawr o fyfyrwyr, gan gynnwys grwpiau’r Ffederasiwn Anarchaidd De Cymru, Myfyrwyr Sosialaidd Abertawe, y Marxist Student Federation ac eraill. O ganlyniad cyrhaeddodd Clinton yn hwyr, a hynny i hwtio a bloeddiadau. Cafodd Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones, ac arweinydd Cyngor Abertawe Rob Stewart croeso tebyg. Ie wir.

Unoliaeth yn erbyn militariaeth

Ar 23ain o Hydref, nid nepell o’r gofeb gwrth-ffasgaidd, cafwyd protest yn erbyn militariaeth a ffair arfau Caerdydd. Daeth dorf i brotestio ar risiau llys y goron Caerdydd i ddangos eu solidariaeth â phrotestwraig, D., oedd yn cael eu herlid am ei gwrthwynebiad taer i ffair arfau’r “DPRTE” ym mis Mawrth eleni. Mae’r “Defence Procurement, Research, Technology and Exportability“, a gynhaliwyd yn arena’r Motorpoint, yn “gyfle i’r diwydiant arfau a chynryciolwyr o’r llywodraeth gynnal eu diwydiant ffiaidd, yn hwyluso diwydiant sydd yn arfu gladwriaethau sydd yn lladd eu pobl gyda’r teclynau diweddaraf ar gyfer gorthwm a rhyfel.”

Protest mewn solidariaeth tu allan i lys y goron, Caerdydd

Bu’r galeri cyhoeddus yn llawn cefnogwyr y protestwraig trwy gydol yr achos. Wedi tri diwrnod roddwyd iddi ddedfryd o 3 mis wedi’u gohirio am 18 mis. Dywedodd D. bod ei “phenderfynolrwydd wrth wrthwynebu’r Fasnach Arfau ond wedi’i gryfhau gan y profiad a gobeithiaf weld protest anferth tu allan i Ffair Arfau’r “DPRTE” yn arena Motorpoint Caerdydd blwyddyn nesaf”.

Protest gwrth-ffwr yn y Fenni

Cafwyd protest yn erbyn ecsploetio ffwr anifeiliaid yn y Fenni ar yr 21ain o Hydref. Protestiodd Cardiff Vegan Action tu allan i siopau Extons, Ruby Redz a Alison Tod Couture Milliner. Codwyd ymwybyddiaeth o’r mater a rhoddwyd pamffledi i’r cyhoedd. Dywedodd siaradwr ar ran Alison Tod eu bod wedi achosi “anghydfod ac aflonyddwch“. Da iawn.

Cymdeithas yn blocio swyddfa AC

Rhwystrodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith mynediad i swyddfa’r AC Alun Davies ym Mrynmawr, Blaenau Gwent ar y 26ain o Hydref. Trwy ddefnyddio cadwyni a biniau, blociwyd y fynedfa gan brotestwyr a alwodd i’r gweinidog “roi ei gynlluniau am ddeddfwriaeth newydd am y Gymraeg ‘yn y bin'”. Barnwyd bil newydd y gweinidog yn hallt gan ei fod yn lleihau hawliau’r Gymraeg ac “er lles y biwrocratiaid” yn unig. Yn gynharach yn y mis ar y 7fed o Hydref fe gafodd Gymdeithas rali “Addysg Gymraeg i Bawb!” yng Nghaerdydd.

Cymdeithas yr Iaith yn blocio mynedfa’r AC Alun Davies ym Mrynmawr

Solidariaeth â phobl LHDT+ yn yr Aifft

Cafwyd protest yng Nghaerdydd ar y 24ain o Hydref i ddangos solidariaeth â phobl LHDT+ yn yr Aifft. Carcharwyd dros 57 person wedi i faneri enfys cael eu chwifio yng nghyngerdd yn Cairo ar ddiwedd mis Medi. Yn dilyn hyn mae gormes yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws ac eraill wedi gwaethygu yn yr Aifft, gormes a gefnogwyd gan wladwriaethau’r Gorllewin sydd yn cefnogi’r Aifft yn ariannol ac yn gwerthu’r teclynnau gwyliadwriaeth sy’n targedu pobl LHDT+. Braf gweld nifer yng Nghaerdydd dangos solidariaeth LHDT+ rhyngwladol felly. Yn ein hoes dyrys, mae angen hunan-amddiffyniad cwiâr arnom cymaint ag erioed.

Os oes gennych chi newyddion am brotest neu anghydfod yng Nghymru, gyrrwch e mlan!

“Pride Caerdydd: Cwiariaid yn meddu’r strydoedd”

https://angryqueerantifascists.wordpress.com/2017/09/13/cardiffpride/

Anerchiad dwy-ieithog ar y wefan newydd Gwrthffasgiaid Cwiâr a Grac, yn disgrifio cwiariaid a gweithwyr eraill LHDT+ yn ymuno a Bloc Radical yr IWW yn Pride Caerdydd!

“Yr orthrymedig sy’n meddu Pride, nid y bosys, yr heddlu a’r rhai sy’n ceisio ein malu’n fan ddarnau. Ma’r cwiariaid ‘ma’n dal eu tir.”

Unoliaeth o Gymru i Charlottesville

Ar y 12fed o Awst laddwyd protestiwr, Heather Heyer, gan ffasgydd wrth iddi hi wrthwynebu rali goruchafol gwyn yn Charlottesville, UDA. Anafwyd nifer mwy o wrthffasgiaid wrth iddynt frwydro a dal tir yn erbyn trais y ffasgiaid a’r heddlu fel ei gilydd.

Yn dilyn y brwydr cafwyd protestiadau gwrthffasgaidd a gweithredoedd mewn unoliaeth led-led y byd. Bu wylfa am Heather Heyer yng Nghaerdydd a gwelwyd neges o unoliaeth yng Nghasnewydd ger enw Antiffa’r Cymoedd.

Llun o dudalen facebook Rhwydwaith Anarchaidd Caerdydd

Cofiwn mai hunanamddiffyniad yw gwrthffasgiaeth oll. Cydsafwn!

Protest “Dymchwel y DUP” ym Mangor a bradychu Prydeindod

Ar ddydd Llun y 19eg o Fehefin cafwyd protest bywiog yn erbyn y DUP ym Mangor. Fel plaid deyrngarol a Phrydeinllyd, mae’r DUP yn gwrth-Wyddelig, yn gwrth-LHDT+, yn gwrth-wyrdd, yn batriarchaidd ac yn hiliol (ymysg pethau eraill). Trefnwyd y protest “Dymchwel y DUP” gan Gymdeithas yr Iaith felly ac mae’n debyg daeth dorf o ryw gant a hanner i ddangos eu hunoliaeth. Cafodd politishens ddweud eu dweud, ond fe areithiodd eraill yn ogystal – yn erbyn gorthrwm ffoaduriaid, menywod a’r iaith – a chafwyd anerchiad cryf gan ymgyrchydd iaith Wyddeleg. Bu hefyd cerddoriaeth, barddoniaeth a pheth canu pastwn bloeddgar a stwrllyd.

 

Canu Pastwn chwyldroadol ym mhrotest “Dymchwel y DUP”

 

Mae’r DUP wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar yn sgil cyfeillgarwch y Torïaid. Er i nifer cysylltu eu tebyg i Ogledd Iwerddon, nid yw Cymru’n rhydd o’i deyrngarwch. Mae gan yr Orange Order loj yng Nghaerdydd, a ailsefydlwyd yn 2012. Ym mis Medi 2015 fe orymdeithiant trwy’r ddinas gyda chydweithrediad yr heddlu. Fel y DUP, dyma gyfundrefn warthus a rhagfarnllyd, ac nid oes croeso iddynt martsio yn ein gwlad. Yn debyg, wedi i’r EDL Islamoffobaidd ail-ymddangos yn niferoedd uchel (a rhai ohonynt ag arfau) ar strydoedd Manceinion, rhaid i ni fod yn barod i amddiffyn ein cymunedau rhag ymosodiadau treisgar. Dau frawd yw teyrngarwch a ffasgiaeth Prydeinllyd. Yn yr oriau dyrys hyn hollbwysig yw trefnu yn eu herbyn.

 

Cyfundrefn gwladychol yr Orange Order yn martsio yng Nghaerdydd, Medi 2015

 

Blaengadwyr Prydeindod yw’r DUP, yr Orange Order a’r EDL. Eto rhaid cofio bod teyrngarwch yn rhan hanfodol o drefn yr awdurdodau yn gyffredinol (ta beth yw lliw llywodraeth San Steffan). Rhaid gwrthwynebu Prydeindod amlwg ar y strydoedd, ond rhaid hefyd eu gwrthwynebu yn ein bywydau pob dydd – neu ofer fydd ein hymdrechion oll.

Lle mae ysbryd Cymru yn rhydd o hyd, rhaid dal ein tir. Lle mae Prydeindod wedi ein cymathu, rhaid ei bradychu. I’r gad!

“Yfory” cawn gwtsho UKIP?

Mae celfyddyd yn wleidyddol. Dyma atgofiad cras galeri “LD50” Llundain, a gaewyd i lawr gan brotestwyr yn ddiweddar. Roedd gan gelfyddyd warthus yr LD50 neges a symboliaeth ffasgaidd amlwg, gan wahodd siaradwyr yr “Alt-Right” i’w dangosfeydd parchus. Ond beth am gelf gwrth-ffasgaidd, gelf radical felly? Oes bosib creu celfyddyd radical a Chymreig heddiw? Ys wetodd y dramodydd Brecht, “ni ellid barddoni am goed pan fo’r goedwig yn llawn plismyn”. A ellid dramodi am Gymru pan fo’r strydoedd llawn UKBA?

Ymgais at ddrama wleidyddol yw “Yfory“, cynhyrchiad newydd Theatr Bara Caws, a ysgrifennwyd gan Siôn Eirian a chyfarwyddwyd gan Betsan Llwyd. Gwleidyddiaeth gyda G mawr: Gwleidyddiaeth y gwleidyddion a’r wladwriaeth, Gwleidyddiaeth y Bae yn y byd “ôl-Brecsit”. Gwleidyddiaeth noeth gyda’r bolitishen yn ei bants, yn wir, mae’r olygfa yn un amgen. Gwelwn y byd trwy ffenest fflat y gwleidydd a thad, Gwyn (Dewi Rhys Williams), a gwelwn y wleidyddiaeth grand trwy berthnasau ei deulu niwclear. Ar y noswaith cyn ei araith fawr dros ei blaid (y Blaid, gyda llaw), heriwyd ei weledigaeth gan ei bartner, Ellie (Caryl Morgan), ei ffrind-goleg a gelyn Llafurol, Kelvin George (Rhodri Evan) a gweithredoedd ei fab, Trystan (Aled Bidder).

“Arwres” Yfory yw Ellie, ac er i’r ddrama yn ei gyfanrwydd gwrthgyferbyniol datgelu meddylfryd Eirian, trwy ei geiriau hi cawn ei faniffesto. Mae rhagflas o’i syniadau amgen a “radical” yn y Rhagair: “Oes unrhyw wleidyddion yng Nghaerdydd yn meiddio meddwl am dorri cwys allai newid cyfeiriad cymdeithas yng Nghymru? … Neu ydyn ni’n rhannu’r un meddylfryd adweithiol a’r un culni gorwelion a Lloegr bellach?” Wrth i Ellie perswadio Gwyn i newid ei araith, daw’r “cyfeiriad” newydd yn gliriach. Datganolwch bŵer i’r cynghorau lleol, adfywiwch yr hen fro, atgyweiriwch ein colled o gymuned. Sut? Trwy weithio gydag UKIP (!). Awn i ail adfer bro, llaw yn llaw da Neil Hamilton. Newidiwn “gyfeiriad” o “feddylfryd adweithiol” Loegr, trwy gyd-weithio a’r blaid adweithiol Seisnig.

Golygfa go-iawn o’r ddrama newydd, “Yfory”

Y Dref Wen yn y Dyffryn?

Nid radicaliaeth a gynigwyd yn Yfory, ond yr un hen drefn. Yr un hen bleidiau, a’r “gobaith” yn y gwaethaf. Heddiw, ar hyn o bryd, mae gwleidyddion yn cwtsho UKIP (a holl drais y system ffiniau warthus) – nid yw’n safiad radical. Sut ydi hi’n bosib gweld bodolaeth UKIP, plaid Seisnigaidd a Phrydeinllyd, plaid hiliol a cheidwadol, fel posibilrwydd “chwyldroadol” i Gymru? Mae’r weledigaeth mor gul â’r fflat bach yn y Bae. Wedi’r cyfan, os ma dyfodol ein gwlad yn gorwedd da gwleidyddion, yn y Bae neu’r Cynghorau, da ni’n ffyced ta beth[1]. Cymeriadau dosbarth canol – ac yn bennaf, y patriarch Cymreig – sy’n pia’r ewyllys i newid tynged y genedl yn y ddrama, a hynny trwy’r sefydliadau swyddogol yn unig. Trwy freintio eu bywydau nhw ar draul eraill cawn wleidyddiaeth adweithiol y ddrama. Er i’r ddrama delio â chymdeithas wedi’r refferendwm Ewropeaidd, nid oes gair am yr ymosodiadau hiliol ac Islamoffobaidd, na’r ymosodiadau yn erbyn pobl hoyw, lesbiaidd a thraws, a gynyddodd yn ei sgil. (Caiff hîl cyfeiriadau tocenistaidd ar adegau (“yr oedd gennym ni ffrindiau du”), a defnyddiwyd “Pygmy” yn sarhaus ar adeg arall.) Nid yw’r weledigaeth radical yn cynnwys ffawd ddyrys ffoaduriaid na fudwyr a gaiff eu herlid, eu caethiwo a’u hallgludo. Yn wir, mae galwad Ellie am dai lleol i bobl leol, llaw yn llaw a’r diffyg sylw llwyr i dranc fudwyr, yn troi ergyd gwrth-wladychol yn un adweithiol. A dyma’r Gymraes yn hiraethu’n rhagrithiol am golled ei bro, a hithau’n byw ar gefn boneddigeiddio Caerdydd, ar ludw hen dai dosbarth gweithiol! Na – dyma broblemau crachach croenwyn ar aelwyd foethus yn y Bae. Trowyd Theater Bara Caws yn Theater Cocên pur a Gwin drud.

Wrth ystyried hyn, efallai nid oes rhyfedd i’w ffantasi o Gymru Fydd gwtshio UKIP. Eto, dyma siom mawr. Mae’n llawn bosib, wedi’r cyfan, i greu’r fath golygfa a’i beirniadu’n radical o’r tu mewn. Ystyriwch An Inspector Calls Priestley, da’r aelwyd gefnog yn datgelu gwacter eu cyflwr eu hun, neu Brawd-ddydd Kafka, da’r amynedd bourgeois yn bwyta eu hun yn rhacs. Yn sicr fe wnaeth Yfory cyffwrdd â hyn. Ar ei gorau, amlygodd adfyd gwag y hetero-deulu niwclear, “gêm” disylwedd gwleidyddiaeth y Bae a thwyll y sefydliad newyddiadurol. Cawn sawl linell anhygoel, wrth i Ellie gofyn a oes dyn tu ôl i masg y gwleidydd, neu wrth i Gwyn a Kelvin olrhain eu dringo diysbryd trwy fiwrocratiaeth y pleidiau. Eto, ar adegau arall, anodd oedd gwahaniaethu rhwng hunanfeirniadaeth a rhagfarn dosbarth canol, wrth i’r cymeriadau gwneud hwyl o’r di-waith nad yw’n codi yn y bore (a’r gynulleidfa chwerthin yn eu tro). Ta beth, nid yw’r ddrama yn dilyn y beirniadaethau i’w diweddglo radical. Yn hytrach, rhoddwyd cyfeiriad “amgen” iddynt, gan bennu ag atebion adweithiol. Atebwyd gwacter gwleidyddiaeth trwy wleidyddiaeth leol, ac atebwyd adwaith Brecsit da phlaid adweithiol Brecsit.

Ffeminyddiaeth ffaeledig

Rhyw hanner feirniadaeth yn ogystal ceir o’r teulu niwclear a’r gymdeithas batriarchaidd, er gwaetha bwriad ffeminyddol Eirian. Arwres ffaeledig yw Ellie, a mond trwy fod yn bartner i Gwyn, a thrwy ei berswadio ef, oedd y posibilrwydd iddi “lwyddo” o gwbl. Hi yw’r gobaith eto ar y diwedd gan ffoi’r aelwyd i ddyfodol newydd, ond eto, a’i ffoi’r un meddylfryd adweithiol wnaiff hi? Os mai cymeriad ffeminyddol yw Ellie, nid yw’n ffeminydd rhyngblethol, intersectional. Fel menyw untu, wen, ddosbarth canol a’i gradd Oxbridge, nid yw eu gweledigaeth yn dangos unoliaeth i bob menyw. Anodd ystyried fel gall unrhyw arwres ffeminyddol ystyried agosáu at UKIP, plaid warthus o batriarchaidd. Ond yn sicr, nid yw ei ffeminyddiaeth yn un sydd yn ymestyn i’r menywod mudol a erlidiwyd gan y system ffiniau. Nid yw’r dychaniad o wrywiaeth-hetero Gwyn chwaith yn un dwys. Fel cymeriad Dewi Rhys Williams yn Pen Talar, er gwaetha ei chwantau erys ef wedi’r cwbl yn hen batriarch Cymreig ystrydebol, y penderfynydd moesol mewn sefyllfa anodd.

Yn debyg, diewyllys yw’r mab Trystan o fewn ei deulu a Gwleidyddiaeth fawr y byd. Dim ond trwy efelychu gormes hetero oedolion y daw’n oddrych o gwbl, trwy berthynas rhywiol gyda Cerian, merch pymtheng mlwydd oed. Er i’r ddrama dangos fel gall newyddiadurwyr a thadau gormesu merched yn ogystal, wedi’r elfen-sioc gwreiddiol ymylwyd ar esgusodi’r perthynas problemataidd. Trwy greu Trystan yn ddioddefwr, anwybyddwyd ei sefyllfa o bŵer dros ferch. Yn y pen draw, nid beirniadu cymhlethdod patriarchaeth yw swyddogaeth y datguddiad, ond rhoi penderfyniad arall i’r tad, Gwyn. Dewis ei fab, gan blygu i bwysau blackmail Kelvin a’i newyddiadurwr, yntau dewis gweledigaeth ei bartner, gan fygwth sgandal iddo fe ac i Trystan. Unwaith eto, ceisiwyd peri cydymdeimlad at bobl bwerus – dyn ifanc mewn perthynas â merch dan oedran, gwleidydd sy’n gwynebu sgandal, tad â dewis Abrahamaidd. Nid eu problemau personol nhw yw problem fawr y genedl.

Efallai dangos sut rhwystrwyd newid Ellie gan y rhain oedd bwriad Eirian, ond gan mai troi at UKIP yw’r newid nid yw’n drawiadol. Efallai, ar y llaw arall, mai corddi’r dyfroedd oedd ei ddymuniad. Ond rhaid i ni siarad yn ddi-flewyn ar dafod: pan fo cyrff ffoaduriaid yn nyfroedd Ewrop, adweithiol, nid pryfoclyd, yw cwtsho UKIP.

Unoliaeth yn erbyn UKIP

Drama wleidyddol yw Yfory, ond nid yw’n ddrama radical. Mae’r actio yn ddawnus, y cynhyrchiad o safon uchel, a’r sgript yn un crefftus tu hwnt. Siom mawr bod y cynnwys mor geidwadol, yn enwedig wrth gymharu â Gadael Lenin.[2] Mae’n wir bod neuadd dan ei sang o siaradwyr Cymraeg, yn gwylio drama Cymraeg, yn ddigwyddiad gwleidyddol (a bron yn un radical) yn ei hun. Eto, cysgod Seisnigeiddio yw cyd-destun trist y gwirionedd hwn. Dathlwyd bod y ddrama yn rhan o “sgwrs genedlaethol” a bod “mawrion” y Cymry Cymraeg yn gwylio’r ddrama – a dyma anarchwaethus bach yn eu tro yn rhan o’r sgwrs hon i bob golwg. Ond rhaid gofyn pwy gaewyd allan rhag sgwrs genedlaethol, a sgwrsio beth a wnawn. Dyma fygythiad byd bach y Bae: caiff rhai ware’r gêm (G)wleidyddol fel Saeson wrth i’r genedl araf lithro o dan ein traed. Ofer yw hunan-ddathliad heb feirniadaeth, a siarad heb frwydro[3]. Mae angen sgwrsio pragmataidd, ac y mae angen celfyddyd radical. Y mae hefyd angen gweithredu uniongyrchol ac unoliaeth go-iawn. Pwy a saif gyda ni?

 

Nodiadau

[1] Rhaid cofio mai llywodraeth leol Calais, a’i Maer neo-ffasgaidd, sy’n ymosod ar ffoaduriaid o hyd, wrth i ddinasyddion ffasgaidd “gyfrannu” yn ffisegol i’r wleidyddiaeth. Ac yn erbyn cynghorau lleol bu nifer o frwydrau mwyaf chwerw Cymdeithas ac eraill dros yr iaith. Nid yw atgyfnerthu “gwleidyddiaeth leol” o reidrwydd yn radical.

[2] Beirniadwn yma gynnwys a neges ymhlyg y ddrama, canys hon a aeriwyd i fod yn radical. Ond beth am ei ffurf? Pedwaredd wal gwydr ffenest y fflat sy’n ein cloi fel gwylwyr yn unig, heb ewyllys i wir newid ffawd y genedl. Dyma’r un gwydr sgleiniog sy’n amgáu Senedd y Bae. Er mae gwydr wedi’u torri yw clawr y rhaglen, ni thorrwyd ffurf arferol y theatr. Y theatr hon yw symbol y byd Oedipaidd-gyfalafol i Deleuze a Guattari, lle caethiwyd chwant yng nghynrychiolaeth teuluol-niwclear (mami, dadi, fi). Rhaid i wir ddrama radical chwalu a symud tu hwnt i gynhyrchiad cyfalaf, fel awgrymodd weithgareddau Diggers San Francisco.

[3] Mae arnom ddyled i Fred Moten am bwysleisio cyd-bwysigrwydd dathlu a beirniadu.

Gwnewch y pethau bychain

Wedi pythefnos o hir-fyfyrio ar ein Neges Dydd Gŵyl Dewi, dyma anarchwaethus yn edrych nôl ar un o ddigwyddiadau 2017 (y ffasgydd Richard B. Spencer yn derbyn dyrnod llaw dde, 20fed o Ionawr) ac yn ystyried ei arwyddocâd ysbrydol i’n cenedl yn ein horiau dyrys, gan ei gyfleu mewn modd gweledol a thrawiadol.

Ys wedodd Dewi Sant, “Bydwch lawen a chedwch ych ffyd a’ch cret, a gwnewch y petheu bychein a glywyssawch ac a welsawch gennyf i.”

Rhai eglurhadau / Some Clarifications

Scroll down to read the following in English.


Hoffa anarchwaethus amlygu rhai pwyntiau a wnaethwn yn ein herthygl “Ffasgiaid Prydeinig yn ceisio bachu Cymreictod“.

Goruchafwyr gwyn a Goruchafiaeth wen

Er bod y bachiad hwn gan ffasgiaid goruchafol gwyn Prydeinig o symbolau Cymreig yn ddatblygiad diweddar, rhaid pwysleisio bod y perthynas rhwng Cymry gwyn, gan gynnwys Cenedlaetholwyr Cymreig gwyn, a goruchafiaeth wen systematig yn un hen iawn. Ymddiheurwn am beidio â phwysleisio hyn yn fwy cadarn yn yr erthygl.

Y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffordd defnyddir y term “goruchafiaeth wen” sy’n bwysig fan hyn. Yn yr ystyr cyntaf, ideoleg wleidyddol “cydwybodol” yw goruchafiaeth wen, gan ddisgrifio grwpiau ac unigolion gwyn penodol sy’n weld eu hun yn oruchaf oblegid eu gwynder. Caiff bron pob ffasgydd a grybwyllwyd yn yr erthygl eu disgrifio, gan eu hun neu gan eraill, fel goruchafwyr gwyn (neu “genedlaetholwyr gwyn”) yn yr ystyr hon.

Yn yr ail ystyr, “system o ddominyddu” yw goruchafiaeth wen, yr “ecsploetiaeth o bobl du a phobl eraill nad yw’n groenwyn yng nghymdeithas” (bell hooks, Talking Back: Thinking Feminist, Thinking Black)[1]. Fan hyn mae’r term yn disgrifio (ac yn ymosod ar) perthynas cymdeithasol nad yw o reidrwydd yn gydwybodol. Fel pwysleisia Jessie Daniels: “Mae goruchafiaeth wen yn yr Unol Daleithiau yn egwyddor drefniadol canolog o fywyd cymdeithasol yn hytrach na fudiad cymdeithasol ynysig yn unig” (Cyber Racism: White Supremacy Online and the New Attack on Civil Rights)[2]. Mae goruchafiaeth wen systematig wrth gwrs yn hynod o berthnasol i fodolaeth goruchafwyr gwyn penodol, fel dengys Daniels ei hun.

Cymhlethdod ychwanegol yw bod goruchafwyr gwyn, yn yr ystyr cyntaf, bron wastod yn wrth-Semitaidd – mae gwrth-Semitiaeth yn rhan hanfodol o’u goruchafiaeth wen, lle bod y perthynas rhwng gwrth-Semitiaeth strwythurol a goruchafiaeth wen yn yr ail ystyr yn fwy cymhleth.

Pan ddefnyddiodd anarchwaethus goruchafiaeth a goruchafol wyn yn yr erthygl, defnyddia hi yn ystyr cyntaf y term, gyda’r eithriadau o’r 32ain a’r 34ain troednodyn. Dylswn ni wedi egluro hyn, neu ddefnyddio term arall megis cenedlaetholwyr gwyn, ac rydym yn flin am beidio. Gan ystyried yr hyn a ddadleuwn dylswn ni wedi bod yn gliriach ar y mater. Ymddiheurwn am hyn.

Yn gyffredinol, defnyddir ffasgiaeth, yng nghyd-destun gwrth-ffasgiaeth, mewn modd cul yn debyg i’r disgrifiad uchod o oruchafiaeth wen yn yr ystyr cyntaf. Er bod ffasgiaeth yn yr ystyr yma wrth gwrs yn gysylltiedig i ac yn rhan o ddominyddu systematig, gan gynnwys goruchafiaeth wen systematig a gwrth-Semitiaeth strwythurol, defnyddir hi yma i briodoli grwpiau, ideolegau a gwladwriaethau penodol ac yn y blaen, gyda nifer ohonynt yn hunan-ddisgrifio fel ffasgiaid.

Yn y modd cul hwn defnyddiodd anarchwaethus y term ffasgiaeth yn yr erthygl. Serch hyn hoffwn bwysleisio nad ydym yn credu taw dyma’r unig ffordd gellid neu ddylsid defnyddio’r term.

Goruchafwyr gwyn Prydeinig a goruchafiaeth wen Gymreig

Ffocws yr erthygl oedd y datblygiad diweddar hwn rhwng ffasgiaid Prydeinig a symboliaeth Cymreig. Gellid dim ond gwneud hyn trwy siarad am hiliaeth – olrheiniodd anarchwaethus y bachiad o symbolau Celtaidd gan oruchafwyr gwyn byd-eang (yn yr ystyr cyntaf). Gerllaw defnydd tocenistaidd o’r iaith Gymraeg a chipio symbolau Cymreig, bachwyd symbolau a hanesion Cenedlaetholdeb Cymreig gan rai ffasgiaid Prydeinig diweddar. Fan yma fe bwysleisiodd anarchwaethus nad yw Cenedlaetholdeb Cymreig erioed (hyd yn hyn) wedi cymryd ffurf ffasgaidd, goruchafol gwyn (eto, yn yr ystyr cyntaf). Yn debyg, ni chafodd Cymru erioed cyfundrefn ffasgaidd goruchafol gwyn cynhenid Cymreig a Chymraeg. Mae pob math o gyfundrefn, gan gynnwys testunau’r erthygl, wedi bod yn Prydeinllyd, os nad Seisnigaidd hyd y bywyn.

Dydi hyn ddim yn golygu nad yw Cymry gwyn (gan gynnwys Cenedlaetholwyr Cymreig gwyn) yn rhan complisit o oruchafiaeth wen systematig yn yr ail ystyr. Dydi hi ddim chwaith yn golygu bod Cymru yn wag o wrth-Semitiaeth strwythurol. Crybwyllwyd hyn yn yr erthygl (er nid trwy’r termau hyn).[3] Dylswn ni wedi pwysleisio hyn fwy wrth ystyried ein dadl, ac ymddiheurwn am beidio gwneud hyn.

Mae anarchwaethus wedi ceisio pwysleisio’r pwyntiau hyn yn erthygl uniaith Gymraeg arall. Fel dywedai Charlotte Williams, mae yna dueddiad ymysg Cymry gwyn i anwybyddu hiliaeth yng Nghymru, fel petai e’n gorffen ger y ffin. Caiff hanes caethfeistri Cymreig, gwladychwyr Cymreig, terfysgoedd hiliol yn erbyn pobl nad oedd yn wyn ac Iddewon, cyfraniadau i’r prosiect Imperialaidd Prydeinig, mentrau gwladychol “annibynnol” megis Patagonia a hiliaeth pob dydd yng Nghymru ei dileu yn feunyddiol. Hyd yn oed pan ymosoda Genedlaetholdeb Cymreig ar Brydeindod a hanes yr ymerodraeth Brydeinig, mae ganddo dueddiad cyfleus i anghofio’r gorffennol hwn. Ond y gorffennol hwn ffurfia’r Gymru lle cawn fyw.

Mae’r perthynas rhwng Cymru a goruchafiaeth wen systematig yn rwystr sylweddol i unrhyw berson gwyn sy’n dymuno arddel Cymreictod radical heddiw – fel gwnaiff anarchwaethus. Fel dadleuwn cynt, ni chawn Gymru Rydd nes i ni ddymchwel dominyddiaeth systematig, gan gynnwys hiliaeth. Nid yw anarchwaethus yn honni deall sut ddaw’r fath dymchweliad.

Cenedlaetholdeb(au) Cymreig presennol a hanesyddol

Hoffa anarchwaethus pwysleisio bod ein perthynas i genedlaetholdeb Cymreig yn un o feirniadaeth gartrefol. Fel anarchiaid yn erbyn gwladwriaethau, ni dderbynnir ein safiad fel un cenedlaetholgar gan y rhan fwyaf o genedlaetholwyr Cymreig. (Yn debyg, ni dderbynnir ein safiad yn un anarchaidd gan rai anarchiaid oblegid ein hagwedd i’r “cwestiwn cenedlaethol”. Wastod ar y tu fas…) Gellid cymharu ein perthynas i “genedlaetholdeb Cymreig” i berthynas anarchydd frwydr-ddosbarth i “sosialaeth”, neu anarchydd gwrthryfelgar i’r Red Army Faction.

Nid amddiffyniad o genedlaetholdeb Cymreig hanesyddol oedd bwriad yr erthygl. Yn hytrach, lle drafodwn genedlaetholdeb Cymreig, roeddem yn mynnu nad ffasgaidd oedd ei ymddangosiadau cyfundrefnol cyn belled. Nid yw hyn yn cau allan posibilrwydd ffasgiaeth Gymreig ddi-Brydeinig yn y dyfodol, na chwaith yn golygu bod y fath bachiad o Gymreictod gan ffasgiaid Prydeinig heb wenwyn. Rhaid ymosod ar ffasgiaeth, pa bynnag baner y codant. Rhaid hefyd ymosod ar y bachiad hwn o symbolau Cymreig gan ffasgiaid Prydeinig. Fel gwrth-ffasgiaid Cymreig mae digon i wneud. Dewch i ni fynd ati!




anarchwaethus would like to clarify certain points made in the article “British fascists try to appropriate Welsh symbols”.

White supremacists and white supremacy

We want to emphasise that whilst the appropriation by British white supremacist fascists of Welsh symbols is a recent development, the relation of white Welsh people, including white Welsh nationalists, to systematic white supremacy is not. We apologise for not emphasising this more strongly in the article.

The difference here lies between two ways in which the term “white supremacy” is used. The first sense is white supremacy as a “conscious” political ideology, describing certain white individuals and organisations who regard themselves as superior because of their whiteness. Almost all of the fascists mentioned in the article would describe themselves and be described as white-supremacists (or “white nationalists”) in this sense.

The second sense is white supremacy as a “system of domination”, the “exploitation of black people and other people of color in this society” (bell hooks, Talking Back: Thinking Feminist, Thinking Black). Here the term describes (and attacks) a social relationship which isn’t necessarily conscious. As Jessie Daniels puts it: “White supremacy in the United States is a central organizing principle of social life rather than merely an isolated social movement” (Cyber Racism White Supremacy Online and the New Attack on Civil Rights). The existence of particular, overt white supremacists is of course intimately related to this systematic white supremacy, as Daniels herself demonstrates.

An added complication is that white supremacists, in the first sense, are almost invariably anti-Semitic – anti-Semitism is an essential aspect of their white supremacism, whereas the relationship between white supremacy in the second sense and structural anti-Semitism is more complex.

When anarchwaethus used white supremacy and supremacist in the article, it was using it in the first sense of the term, with the exceptions of the 32nd and 34th footnote. We should have clarified this, or used a different term such as white nationalists, and we are sorry that we didn’t. Considering the points we were making we should have been more clear. We apologise for this.

Fascism, in the context of anti-fascism, is generally used in a narrow way similar to white-supremacist in the first sense described above. Whilst fascism in this sense is of course connected to and a part of systematic domination, including systematic white supremacy and structural anti-Semitism, it is again used here to refer to particular groups, ideologies, states etc., many of which self-describe themselves as fascist.

This narrow definition was how anarchwaethus was using the term fascism in the article. We would like to stress however that we don’t think this is the only way the term can or should be used.

British white supremacists and Welsh white supremacy

The article’s focus was this recent development between British fascists and Welsh symbolism. This can only be done by talking about racism – anarchwaethus traced the appropriation of Celtic symbols by white supremacists worldwide (in the first sense). Alongside tokenistic use of the Welsh language and taking Welsh symbols, some recent British fascists have appropriated Welsh Nationalist symbols and histories. anarchwaethus here stressed that Welsh Nationalism has never yet taken a fascist, white-supremacist form (again, in the first sense). Likewise, Wales has never yet had a native Welsh and Welsh speaking white-supremacist fascist organisation. All such organisations, including those that were the subject of the article, have on the contrary had Britishness, if not Englishness, at their core.

This does not mean however that white-Welsh people (including white Welsh nationalists) are not a complicit part of systematic white supremacy in the second sense. Nor does it mean that Wales is devoid of structural anti-Semitism. We pointed towards this in the article (albeit not using these terms). [3] We should have emphasised it more considering the point we were making, and we are sorry that we didn’t.

anarchwaethus has tried to emphasise these points in another article (written in Welsh). As Charlotte Williams puts it, there is a tendency amongst white Welsh people to simply ignore racism in Wales, as if it ends at the border. The history of Welsh slave owners, Welsh settlers, local race riots against people of colour and Jews, participation in the British Imperial project, “independent” colonial ventures such as the Gwladfa in Patagonia and everyday racism in Wales are daily erased. Even when Welsh Nationalism attacks Britishness and the legacy of the British Empire, it has a tendency to conveniently forget this past. But it is this past which forms the Wales in which we live.

This relation of systematic white supremacy to Wales is a significant barrier to any white person who wishes to assert a radical Welshness today – as anarchwaethus does. As we have previously argued, there is no Free Wales until systematic dominations, such as racism, are abolished. anarchwaethus does not claim to understand how this abolition will take place.

Existing and historic Welsh Nationalism(s)

anarchwaethus would like to emphasise that our relation to existing and historic Welsh nationalism is intimately critical. As anarchists against states, many Welsh nationalists would not accept our position as nationalist.[4] (Likewise, our stance on the “national question” means that some anarchists would not accept our position as anarchist. Wastod ar y tu fas…) Our relation to “Welsh nationalism” might compare to a class-struggle anarchist’s relation to “socialism”, or an insurrectionary anarchist’s relation to the Red Army Faction.

We did not intend the article to be a defense of historic Welsh nationalism. Rather, where we discussed Welsh nationalism, it was to assert that its organisational manifestations cannot, so far, be described as fascist. This doesn’t rule out a future non-British Welsh fascism, nor does it mean that these appropriations of Welshness by British fascists aren’t toxic. Fascism, whatever banner it raises, must be attacked. This recent appropriation by British fascists of Welsh symbols must also be attacked. As Welsh antifascists there’s a lot to be done. Dewch i ni fynd ati!


Nodiadau / Notes

[1][2] Cyfieithiad anarchwaethus – gwelwch y Saesneg uchod am y dyfyniadau gwreiddiol.

[3] Yn y paragraff “Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu bod Cymru yn genedl radical o’i hanfod heb hiliaeth na gorthrymder, fel cred rhai Cymry gwyn naïf…” ac hefyd yn y troednodyn “Rhaid, wrth siarad am yr hanes hwn o ran enedlaetholdeb Cymreig, peidio ag anwybyddu hanesion hiliol yng Nghymru, yn enwedig rôl nifer o Gymry yn yr ymerodraeth Brydeinig.” / In the paragraph, “Of course, this does not mean that Wales is some essentially radical nation without racism or oppression, as some niaive white Welsh people believe…” and also in the footnote “We must, whilst talking about this history regarding Welsh nationalism, not ignore racist histories in Wales, in particular the role of many Welsh people in the British empire.”

[4] Serch hyn, ma ychydig o hanes o affinedd neu hyd yn oed uniad rhwng rhai gwerinaethwyr Cymreig asgell-chwith ac anarchiaid. Gwelwch, er enghraifft, hanesion Ian Bone neu Dafydd Ladd. / All the same, there is a sparse history of affinity and even convergence between some left-wing Welsh republicans and anarchists. See for example, the histories of Ian Bone or Dafydd Ladd.