Hydref Aflonydd

Cafwyd peth cynnwrf yng Nghymru dros y mis diwethaf. Dyma grynodeb anarchwaethus.

Solidariaeth â Chatalwnia

Yn dilyn ymgais gwladwriaeth Sbaen i sathru protestiadau a refferendwm annibyniaeth Catalwnia dangoswyd solidariaeth ar hyd Gymru. Hyd a wyddwn ni, cynhaliwyd ralïau yn Llangefni, Caernarfon, Aberystwyth, Caernarfon, Llanelli a Chaerdydd, y rhan fwyaf wedi trefnu gan y grŵp annibyniaeth YesCymru. Wrth i’r llywodraeth ganolog anfon llongau o heddlu arfog tra bo gangiau o ffasgiaid Sbaeneg yn crwydro’r strydoedd, galwyd am streic gyffredinol ar y 3ydd o Hydref gan undeb anarchaidd y CNT ac eraill. Chwifiwyd baner anarchiaeth a baner Chatalwnia o brifysgol Abertawe mewn solidariaeth gan yr IWW, chwaer undeb i’r CNT.

Braf gweld cynifer o bobl ar strydoedd Cymru, yn enwedig yn nhrefi lle ni chafwyd protest ers slawer dydd. Eto i gyd, rhaid cofio taw arf, nid gair, yw solidariaeth. Trwy weithredu uniongyrchol, nid gwrando ar wleidyddion, cawn ddadwladychu a thrawsnewid ein bywydau.

Coffáu’r Frigâd Ryngwladol

Wrth i ffasgiaeth Sbaen sleifio o’u cuddfannau unwaith eto, cafwyd digwyddiad yng Nghaerdydd ar y 14eg o Hydref i gofio’r gwirfoddolwyr a aeth i’w brwydro yn y 30au. Teithiodd sawl Gymro a Chymraes i gwffio ffasgiaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen (1936-1939), gyda’r Frigâd Ryngwladol ond hefyd gyda’r milisiais Trotsgïaidd ac anarchaidd yn ogystal. Trefnwyd y digwyddiad ger y gofeb yng Ngerddi Alexandria gan Ymddiriedolaeth Coffa’r Brigadau Rhyngwladol, a mynychwyd y digwyddiad gan ddisgynyddion rhai o’r gwirfoddolwyr, Côr Cochion Caerdydd, undebau llafur ac eraill.

Yn ôl undeb yr IWW, “Croesawyd rhandaliad y Gangen Aelodau Cyffredinol IWW Cymru ar y diwrnod gyda theimlad o undod go iawn, ynghyd â’r gydnabyddiaeth, er bod y frwydr yn erbyn Franco bellach yn hanes, bod y frwydr yn erbyn ffasgiaeth yn ei ffurfiau niferus yn parhau lle mae gan pawb ohonom rhan i’w chwarae!”

Digwyddiad Coffáu’r Frigâd Ryngwladol, Gerddi Alexandria, Caerdydd

Hillary Cer i grafu

Cafwyd mwy o anghydfod ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe ar y 14eg o Hydref. Daeth Hillary Clinton, cyn-weinidog cartref yr UDA, i dderbyn anrhydedd am ei chefnogaeth o “Hawliau Dynol” – er gwaethaf ei rôl amlwg mewn rhyfeloedd imperialaidd, bomiau “drones” a’i gomplisitrwydd mewn arteithio. Er bod Trwmp yn fwy o gachwr amlwg, ochr arall yr un geiniog ormesol yw Clinton wedi’r cyfan. Ond mae nifer, gan gynnwys y Brifysgol, yn fodlon anwybyddu hyn (er budd ei hun) – yn wir, aeth un academydd mor bell a gweld hi fel un o’r gorthrymedig (!).

Er gwaethaf ymdrechion yr heddlu a’r gwarchodlu diogelwch, protestiwyd ei phresenoldeb gan dorf fawr o fyfyrwyr, gan gynnwys grwpiau’r Ffederasiwn Anarchaidd De Cymru, Myfyrwyr Sosialaidd Abertawe, y Marxist Student Federation ac eraill. O ganlyniad cyrhaeddodd Clinton yn hwyr, a hynny i hwtio a bloeddiadau. Cafodd Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones, ac arweinydd Cyngor Abertawe Rob Stewart croeso tebyg. Ie wir.

Unoliaeth yn erbyn militariaeth

Ar 23ain o Hydref, nid nepell o’r gofeb gwrth-ffasgaidd, cafwyd protest yn erbyn militariaeth a ffair arfau Caerdydd. Daeth dorf i brotestio ar risiau llys y goron Caerdydd i ddangos eu solidariaeth â phrotestwraig, D., oedd yn cael eu herlid am ei gwrthwynebiad taer i ffair arfau’r “DPRTE” ym mis Mawrth eleni. Mae’r “Defence Procurement, Research, Technology and Exportability“, a gynhaliwyd yn arena’r Motorpoint, yn “gyfle i’r diwydiant arfau a chynryciolwyr o’r llywodraeth gynnal eu diwydiant ffiaidd, yn hwyluso diwydiant sydd yn arfu gladwriaethau sydd yn lladd eu pobl gyda’r teclynau diweddaraf ar gyfer gorthwm a rhyfel.”

Protest mewn solidariaeth tu allan i lys y goron, Caerdydd

Bu’r galeri cyhoeddus yn llawn cefnogwyr y protestwraig trwy gydol yr achos. Wedi tri diwrnod roddwyd iddi ddedfryd o 3 mis wedi’u gohirio am 18 mis. Dywedodd D. bod ei “phenderfynolrwydd wrth wrthwynebu’r Fasnach Arfau ond wedi’i gryfhau gan y profiad a gobeithiaf weld protest anferth tu allan i Ffair Arfau’r “DPRTE” yn arena Motorpoint Caerdydd blwyddyn nesaf”.

Protest gwrth-ffwr yn y Fenni

Cafwyd protest yn erbyn ecsploetio ffwr anifeiliaid yn y Fenni ar yr 21ain o Hydref. Protestiodd Cardiff Vegan Action tu allan i siopau Extons, Ruby Redz a Alison Tod Couture Milliner. Codwyd ymwybyddiaeth o’r mater a rhoddwyd pamffledi i’r cyhoedd. Dywedodd siaradwr ar ran Alison Tod eu bod wedi achosi “anghydfod ac aflonyddwch“. Da iawn.

Cymdeithas yn blocio swyddfa AC

Rhwystrodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith mynediad i swyddfa’r AC Alun Davies ym Mrynmawr, Blaenau Gwent ar y 26ain o Hydref. Trwy ddefnyddio cadwyni a biniau, blociwyd y fynedfa gan brotestwyr a alwodd i’r gweinidog “roi ei gynlluniau am ddeddfwriaeth newydd am y Gymraeg ‘yn y bin'”. Barnwyd bil newydd y gweinidog yn hallt gan ei fod yn lleihau hawliau’r Gymraeg ac “er lles y biwrocratiaid” yn unig. Yn gynharach yn y mis ar y 7fed o Hydref fe gafodd Gymdeithas rali “Addysg Gymraeg i Bawb!” yng Nghaerdydd.

Cymdeithas yr Iaith yn blocio mynedfa’r AC Alun Davies ym Mrynmawr

Solidariaeth â phobl LHDT+ yn yr Aifft

Cafwyd protest yng Nghaerdydd ar y 24ain o Hydref i ddangos solidariaeth â phobl LHDT+ yn yr Aifft. Carcharwyd dros 57 person wedi i faneri enfys cael eu chwifio yng nghyngerdd yn Cairo ar ddiwedd mis Medi. Yn dilyn hyn mae gormes yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws ac eraill wedi gwaethygu yn yr Aifft, gormes a gefnogwyd gan wladwriaethau’r Gorllewin sydd yn cefnogi’r Aifft yn ariannol ac yn gwerthu’r teclynnau gwyliadwriaeth sy’n targedu pobl LHDT+. Braf gweld nifer yng Nghaerdydd dangos solidariaeth LHDT+ rhyngwladol felly. Yn ein hoes dyrys, mae angen hunan-amddiffyniad cwiâr arnom cymaint ag erioed.

Os oes gennych chi newyddion am brotest neu anghydfod yng Nghymru, gyrrwch e mlan!

Advertisements

“Pride Caerdydd: Cwiariaid yn meddu’r strydoedd”

https://angryqueerantifascists.wordpress.com/2017/09/13/cardiffpride/

Anerchiad dwy-ieithog ar y wefan newydd Gwrthffasgiaid Cwiâr a Grac, yn disgrifio cwiariaid a gweithwyr eraill LHDT+ yn ymuno a Bloc Radical yr IWW yn Pride Caerdydd!

“Yr orthrymedig sy’n meddu Pride, nid y bosys, yr heddlu a’r rhai sy’n ceisio ein malu’n fan ddarnau. Ma’r cwiariaid ‘ma’n dal eu tir.”

Calan Mai Cymru Lonydd

Difeth irgyrs a dyfai / dyw Calan mis mwynlan Mai.

Mis Mai, Dafydd ap Gwilym

Ers terfysgoedd Haymarket bu’r Cyntaf o Fai, May Day, yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Anarchyddion oedd merthyron helynt yr Haymarket, Chicago 1886, ond dathlir gan fudiad y gweithwyr yn ei grynswth.

Mae gan Galan Mai arwyddocâd fel gŵyl Gymreig werinol yn ogystal wrth gwrs. Dyma ddechrau’r Haf a nodwyd gan ddawnsio a cherddoriaeth stwrllyd. Cafwyd “full week of Noise and Riots” yn Sain Ffagan yn ôl dyddiadur un Williams Thomas o’r 18fed ganrif, wrth i frodorion hwylus amddiffyn eu Bedwen Fai rhag pentrefi eraill â drylliau a chlybiau![1] Dyma hefyd diwrnod y Gadi Haf, fath o drawswisgwyr i’n golwg ni oedd yn “troi y byd ar ei ben” yn y rhialtwch – traddodiad a gysylltir hefyd i wrthryfel o Ferched Beca hyd at anghydfodau gweithwyr diwydiannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.[2] Dyma ŵyl y gweithwyr a’r werin felly, gŵyl ryngwladol a Chymreig.

 

Y Fedwen Fai yn Llangwm, 1920. Lle na laddwyd y traddodiad gan y Capeli, fe laddwyd yr elfennau cythryblus gan ei droi yn ŵyl barchus, fel tystia’r llun uchod. Yn debyg, ceisia’r pwerau y sydd tawelu aflonyddwch May Day. Yn wir – cynigodd y Torïaid disodli Gŵyl y Banc May Day am ddiwrnod o “Brydeindod”.

 

Ar Galan Mai pob blwyddyn ceir gorymdeithiau a therfysgoedd, anghydfod a streiciau ar hyd y byd grwn, ac nid oedd 2017 yn wahanol. Ond eleni cymharol lan a lonydd oedd Cymru fach.

Cafwyd rali a drefnwyd gan y Cardiff Trades Council yng Nghaerdydd dydd Sadwrn. Ymunwyd yr undebau sefydliadol am gyfnod gan “bloc syndicalaidd” undeb radical yr IWW, ond dawel a chymharol bychan oedd yr orymdaith o ryw gant o bobl heb fawr yn digwydd tu hwnt i areithiau. (Cyfraith a threfn, wedi’r cyfan, yw nôd trefnwyr y TUC, uwch gyfundrefn Cardiff Trades Council.) Yn hwyrach yn y prynhawn cafwyd protest mwy – miloedd yn ôl yr Wales Online – dros yr ymgyrch Save Womanby Street. Wedi i Dempseys a’r Full Moon cau a chynlluniau ymddangos dros ddatblygu gwesty Wetherspoons a fflatiau mae stryd gerddorol Womanby (sy’n gartref i Glwb Ifor Bach) dan fygythiad. Ond eto, areithiau gan wleidyddion oedd prif ffocws yr orymdaith i bob golwg, a’i lobio nhw yw prif dacteg yr ymgyrch. Yn y pen draw, boneddigeiddio sydd yn bygythio diwylliant Caerdydd a’u trigolion dosbarth-gweithiol a lleiafrifoedd ethnig. Er gwaetha eu smalio popiwlaidd, complisit yw’r gwleidyddion yn y broses hon. Gall ofyn gwleidyddion yn serchus a gorymdeithio’n taeog “achub” un stryd neu’r llall (a’u “achubiaeth” bydd Womanby costus, upmarket?), ond ni fydd yn atal boneddigeiddio.

Ar y dydd Llun cafwyd rali May Day hynod o fach yn Abertawe a drefnwyd gan Socialist Appeal, un o’r sawl holltyn Trotscïaidd. Mynychwyd gan rai o’r holltau eraill Trotscïaidd (gan gynnwys yr SWP, ymddiheurwyr trais rhywiol), Momentum a rhai eraill. Unwaith eto, areithiau, a chyfle gwerthu papurau oedd crynswth y digwyddiad. Fel arfer gorymdeithia’r undebau llafur trwy Abertawe a ddaw gannoedd i’r strydoedd, gan ddangos eu grym yn symbolaidd – os nad mewn unrhyw ffordd arall. Ond eleni ni welwyd digon o fygythiad i’r drefn i anfon dim un heddwas.

Yn y gorffennol diweddar bu heddlu Caerdydd yn hynod o dreisgar yn erbyn protestwyr ar Galan Mai. Eto, mae’n debyg mae’r etholiadau sydd ar fai am ddenu nifer o’r strydoedd eleni, wrth i undebwyr troi at ganfasi etholiadol a phawb gohirio gobaith am newid tan ar ôl yr etholiad. Sugno egni mudiadau radical wna’r system etholiadol, fel gwnaeth pleidiau Syriza a Podemos yng ngwlad Roeg a Sbaen yn dilyn yr anghydfod mawr. Buddsoddwyd cymaint o lafur, cymaint o obaith emosiynol yn y system bleidleisiol sydd yn ein ffaelu tro ar ôl tro. Dyma siom mawr. Mae gennym fwy o bŵer na ryw groes ar ddarn o bapur, ac mae’n hen bryd i ni sylwi hyn. Colled yw ceisio ennill pleidleisiau yn lle ymdrefnu a brwydro. Na. Mae angen gweithredu uniongyrchol ysbryd Haymarket arnom gymaint ag erioed. I’r gad!

 

Nodiadau

[1] Diwylliant Gwerin Morgannwg, Allan James.

[2] Am y Gadi Haf, gwelwch Geiriadur Prifysgol Cymru, neu waith Twm o’r Nant. Am barhad arfer gwisgoedd Beca, gwelwch rhai o streiciau Cwmtawe yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif.

Tri phrotest cyn hir: Na i garchardai! & Na i orthrymder anifeiliaid!

Ma rhai protestiadau ar y gorwel:

Protest Na i Garchardai!

Cwrdd tu allan i brif giatiau HMP Berwyn, Wrecsam am 12yh ar ddydd Llun y 27ain o Chwefror.

Mae No Prisons Manchester, Community Action on Prison Expansion, ac yr Incarcerated Workers’ Organising Committee yr IWW yn galw am weithredu yn erbyn y diwydiant carchar a mega-garchar newydd Wrecsam yng Ngogledd Cymru.

Mega-garchar Newydd HMP Berwyn
Mega-garchar newydd HMP Berwyn, Wrecsam

“Ym mis Chwefror ar y 27ain bydd ail garchar mwyaf Ewrop yn yn cael ei hagor yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Bu pobl lleol yn lobio yn ei herbyn am pum mlynedd a fe wnaeth ymgyrchwyr weithredu yn erbyn adeiladu y carchar sawl gwaith gan flocio y deunyddiau adeiladu rhad dod i’r safle a creu stwr yn rhai o ddigwyddiadau ricriwtio’r carchar.

Gyda chalon drom rydym yn tystio’r cawell ar y fath raddfa ddiwydiannol hon gael ei hagor. Byddwn yno y dydd caiff ei hagor yn dangos ein gwrthwynebiad i holl garchardai a caiff eu hadeiadu a’r tyfiant o’r cyd-berthynas diwydiannol carchar.

…”

Dolen digwyddiad ar wefan CAPE Campaign

Dolen digwyddiad facebook

Chwalwch bob caets!


Cardiff Animal Save Gwylfa (“Vigil“) Lladd-Dy St Merryn, Merthyr

10yb tan 12, Dydd Mercher y 22ain o Chwefror.

Dolen digwyddiad facebook

Dolen trydar Cardiff Animal Save


Cardiff Vegan Action Protest Gwrth-ffwr

Tu allan i Michael Kors, Flannels, Coco Blush, Stondinau’r Farchnad, 12yh tan 3, Dydd Sadwrn, 25ain o Chwefror.

Dolen digwyddiad facebook

Dolen trydar Cardiff Vegan Action

Chwalwch orthymder anifeiliaid!


Os hoffech anarchwaethus tynnu sylw at brotest neu ddigwyddiad lled radical yng Nghymru, rhowch wybod i ni!