Protest “Dymchwel y DUP” ym Mangor a bradychu Prydeindod

Ar ddydd Llun y 19eg o Fehefin cafwyd protest bywiog yn erbyn y DUP ym Mangor. Fel plaid deyrngarol a Phrydeinllyd, mae’r DUP yn gwrth-Wyddelig, yn gwrth-LHDT+, yn gwrth-wyrdd, yn batriarchaidd ac yn hiliol (ymysg pethau eraill). Trefnwyd y protest “Dymchwel y DUP” gan Gymdeithas yr Iaith felly ac mae’n debyg daeth dorf o ryw gant a hanner i ddangos eu hunoliaeth. Cafodd politishens ddweud eu dweud, ond fe areithiodd eraill yn ogystal – yn erbyn gorthrwm ffoaduriaid, menywod a’r iaith – a chafwyd anerchiad cryf gan ymgyrchydd iaith Wyddeleg. Bu hefyd cerddoriaeth, barddoniaeth a pheth canu pastwn bloeddgar a stwrllyd.

 

Canu Pastwn chwyldroadol ym mhrotest “Dymchwel y DUP”

 

Mae’r DUP wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar yn sgil cyfeillgarwch y Torïaid. Er i nifer cysylltu eu tebyg i Ogledd Iwerddon, nid yw Cymru’n rhydd o’i deyrngarwch. Mae gan yr Orange Order loj yng Nghaerdydd, a ailsefydlwyd yn 2012. Ym mis Medi 2015 fe orymdeithiant trwy’r ddinas gyda chydweithrediad yr heddlu. Fel y DUP, dyma gyfundrefn warthus a rhagfarnllyd, ac nid oes croeso iddynt martsio yn ein gwlad. Yn debyg, wedi i’r EDL Islamoffobaidd ail-ymddangos yn niferoedd uchel (a rhai ohonynt ag arfau) ar strydoedd Manceinion, rhaid i ni fod yn barod i amddiffyn ein cymunedau rhag ymosodiadau treisgar. Dau frawd yw teyrngarwch a ffasgiaeth Prydeinllyd. Yn yr oriau dyrys hyn hollbwysig yw trefnu yn eu herbyn.

 

Cyfundrefn gwladychol yr Orange Order yn martsio yng Nghaerdydd, Medi 2015

 

Blaengadwyr Prydeindod yw’r DUP, yr Orange Order a’r EDL. Eto rhaid cofio bod teyrngarwch yn rhan hanfodol o drefn yr awdurdodau yn gyffredinol (ta beth yw lliw llywodraeth San Steffan). Rhaid gwrthwynebu Prydeindod amlwg ar y strydoedd, ond rhaid hefyd eu gwrthwynebu yn ein bywydau pob dydd – neu ofer fydd ein hymdrechion oll.

Lle mae ysbryd Cymru yn rhydd o hyd, rhaid dal ein tir. Lle mae Prydeindod wedi ein cymathu, rhaid ei bradychu. I’r gad!

“Yfory” cawn gwtsho UKIP?

Mae celfyddyd yn wleidyddol. Dyma atgofiad cras galeri “LD50” Llundain, a gaewyd i lawr gan brotestwyr yn ddiweddar. Roedd gan gelfyddyd warthus yr LD50 neges a symboliaeth ffasgaidd amlwg, gan wahodd siaradwyr yr “Alt-Right” i’w dangosfeydd parchus. Ond beth am gelf gwrth-ffasgaidd, gelf radical felly? Oes bosib creu celfyddyd radical a Chymreig heddiw? Ys wetodd y dramodydd Brecht, “ni ellid barddoni am goed pan fo’r goedwig yn llawn plismyn”. A ellid dramodi am Gymru pan fo’r strydoedd llawn UKBA?

Ymgais at ddrama wleidyddol yw “Yfory“, cynhyrchiad newydd Theatr Bara Caws, a ysgrifennwyd gan Siôn Eirian a chyfarwyddwyd gan Betsan Llwyd. Gwleidyddiaeth gyda G mawr: Gwleidyddiaeth y gwleidyddion a’r wladwriaeth, Gwleidyddiaeth y Bae yn y byd “ôl-Brecsit”. Gwleidyddiaeth noeth gyda’r bolitishen yn ei bants, yn wir, mae’r olygfa yn un amgen. Gwelwn y byd trwy ffenest fflat y gwleidydd a thad, Gwyn (Dewi Rhys Williams), a gwelwn y wleidyddiaeth grand trwy berthnasau ei deulu niwclear. Ar y noswaith cyn ei araith fawr dros ei blaid (y Blaid, gyda llaw), heriwyd ei weledigaeth gan ei bartner, Ellie (Caryl Morgan), ei ffrind-goleg a gelyn Llafurol, Kelvin George (Rhodri Evan) a gweithredoedd ei fab, Trystan (Aled Bidder).

“Arwres” Yfory yw Ellie, ac er i’r ddrama yn ei gyfanrwydd gwrthgyferbyniol datgelu meddylfryd Eirian, trwy ei geiriau hi cawn ei faniffesto. Mae rhagflas o’i syniadau amgen a “radical” yn y Rhagair: “Oes unrhyw wleidyddion yng Nghaerdydd yn meiddio meddwl am dorri cwys allai newid cyfeiriad cymdeithas yng Nghymru? … Neu ydyn ni’n rhannu’r un meddylfryd adweithiol a’r un culni gorwelion a Lloegr bellach?” Wrth i Ellie perswadio Gwyn i newid ei araith, daw’r “cyfeiriad” newydd yn gliriach. Datganolwch bŵer i’r cynghorau lleol, adfywiwch yr hen fro, atgyweiriwch ein colled o gymuned. Sut? Trwy weithio gydag UKIP (!). Awn i ail adfer bro, llaw yn llaw da Neil Hamilton. Newidiwn “gyfeiriad” o “feddylfryd adweithiol” Loegr, trwy gyd-weithio a’r blaid adweithiol Seisnig.

Golygfa go-iawn o’r ddrama newydd, “Yfory”

Y Dref Wen yn y Dyffryn?

Nid radicaliaeth a gynigwyd yn Yfory, ond yr un hen drefn. Yr un hen bleidiau, a’r “gobaith” yn y gwaethaf. Heddiw, ar hyn o bryd, mae gwleidyddion yn cwtsho UKIP (a holl drais y system ffiniau warthus) – nid yw’n safiad radical. Sut ydi hi’n bosib gweld bodolaeth UKIP, plaid Seisnigaidd a Phrydeinllyd, plaid hiliol a cheidwadol, fel posibilrwydd “chwyldroadol” i Gymru? Mae’r weledigaeth mor gul â’r fflat bach yn y Bae. Wedi’r cyfan, os ma dyfodol ein gwlad yn gorwedd da gwleidyddion, yn y Bae neu’r Cynghorau, da ni’n ffyced ta beth[1]. Cymeriadau dosbarth canol – ac yn bennaf, y patriarch Cymreig – sy’n pia’r ewyllys i newid tynged y genedl yn y ddrama, a hynny trwy’r sefydliadau swyddogol yn unig. Trwy freintio eu bywydau nhw ar draul eraill cawn wleidyddiaeth adweithiol y ddrama. Er i’r ddrama delio â chymdeithas wedi’r refferendwm Ewropeaidd, nid oes gair am yr ymosodiadau hiliol ac Islamoffobaidd, na’r ymosodiadau yn erbyn pobl hoyw, lesbiaidd a thraws, a gynyddodd yn ei sgil. (Caiff hîl cyfeiriadau tocenistaidd ar adegau (“yr oedd gennym ni ffrindiau du”), a defnyddiwyd “Pygmy” yn sarhaus ar adeg arall.) Nid yw’r weledigaeth radical yn cynnwys ffawd ddyrys ffoaduriaid na fudwyr a gaiff eu herlid, eu caethiwo a’u hallgludo. Yn wir, mae galwad Ellie am dai lleol i bobl leol, llaw yn llaw a’r diffyg sylw llwyr i dranc fudwyr, yn troi ergyd gwrth-wladychol yn un adweithiol. A dyma’r Gymraes yn hiraethu’n rhagrithiol am golled ei bro, a hithau’n byw ar gefn boneddigeiddio Caerdydd, ar ludw hen dai dosbarth gweithiol! Na – dyma broblemau crachach croenwyn ar aelwyd foethus yn y Bae. Trowyd Theater Bara Caws yn Theater Cocên pur a Gwin drud.

Wrth ystyried hyn, efallai nid oes rhyfedd i’w ffantasi o Gymru Fydd gwtshio UKIP. Eto, dyma siom mawr. Mae’n llawn bosib, wedi’r cyfan, i greu’r fath golygfa a’i beirniadu’n radical o’r tu mewn. Ystyriwch An Inspector Calls Priestley, da’r aelwyd gefnog yn datgelu gwacter eu cyflwr eu hun, neu Brawd-ddydd Kafka, da’r amynedd bourgeois yn bwyta eu hun yn rhacs. Yn sicr fe wnaeth Yfory cyffwrdd â hyn. Ar ei gorau, amlygodd adfyd gwag y hetero-deulu niwclear, “gêm” disylwedd gwleidyddiaeth y Bae a thwyll y sefydliad newyddiadurol. Cawn sawl linell anhygoel, wrth i Ellie gofyn a oes dyn tu ôl i masg y gwleidydd, neu wrth i Gwyn a Kelvin olrhain eu dringo diysbryd trwy fiwrocratiaeth y pleidiau. Eto, ar adegau arall, anodd oedd gwahaniaethu rhwng hunanfeirniadaeth a rhagfarn dosbarth canol, wrth i’r cymeriadau gwneud hwyl o’r di-waith nad yw’n codi yn y bore (a’r gynulleidfa chwerthin yn eu tro). Ta beth, nid yw’r ddrama yn dilyn y beirniadaethau i’w diweddglo radical. Yn hytrach, rhoddwyd cyfeiriad “amgen” iddynt, gan bennu ag atebion adweithiol. Atebwyd gwacter gwleidyddiaeth trwy wleidyddiaeth leol, ac atebwyd adwaith Brecsit da phlaid adweithiol Brecsit.

Ffeminyddiaeth ffaeledig

Rhyw hanner feirniadaeth yn ogystal ceir o’r teulu niwclear a’r gymdeithas batriarchaidd, er gwaetha bwriad ffeminyddol Eirian. Arwres ffaeledig yw Ellie, a mond trwy fod yn bartner i Gwyn, a thrwy ei berswadio ef, oedd y posibilrwydd iddi “lwyddo” o gwbl. Hi yw’r gobaith eto ar y diwedd gan ffoi’r aelwyd i ddyfodol newydd, ond eto, a’i ffoi’r un meddylfryd adweithiol wnaiff hi? Os mai cymeriad ffeminyddol yw Ellie, nid yw’n ffeminydd rhyngblethol, intersectional. Fel menyw untu, wen, ddosbarth canol a’i gradd Oxbridge, nid yw eu gweledigaeth yn dangos unoliaeth i bob menyw. Anodd ystyried fel gall unrhyw arwres ffeminyddol ystyried agosáu at UKIP, plaid warthus o batriarchaidd. Ond yn sicr, nid yw ei ffeminyddiaeth yn un sydd yn ymestyn i’r menywod mudol a erlidiwyd gan y system ffiniau. Nid yw’r dychaniad o wrywiaeth-hetero Gwyn chwaith yn un dwys. Fel cymeriad Dewi Rhys Williams yn Pen Talar, er gwaetha ei chwantau erys ef wedi’r cwbl yn hen batriarch Cymreig ystrydebol, y penderfynydd moesol mewn sefyllfa anodd.

Yn debyg, diewyllys yw’r mab Trystan o fewn ei deulu a Gwleidyddiaeth fawr y byd. Dim ond trwy efelychu gormes hetero oedolion y daw’n oddrych o gwbl, trwy berthynas rhywiol gyda Cerian, merch pymtheng mlwydd oed. Er i’r ddrama dangos fel gall newyddiadurwyr a thadau gormesu merched yn ogystal, wedi’r elfen-sioc gwreiddiol ymylwyd ar esgusodi’r perthynas problemataidd. Trwy greu Trystan yn ddioddefwr, anwybyddwyd ei sefyllfa o bŵer dros ferch. Yn y pen draw, nid beirniadu cymhlethdod patriarchaeth yw swyddogaeth y datguddiad, ond rhoi penderfyniad arall i’r tad, Gwyn. Dewis ei fab, gan blygu i bwysau blackmail Kelvin a’i newyddiadurwr, yntau dewis gweledigaeth ei bartner, gan fygwth sgandal iddo fe ac i Trystan. Unwaith eto, ceisiwyd peri cydymdeimlad at bobl bwerus – dyn ifanc mewn perthynas â merch dan oedran, gwleidydd sy’n gwynebu sgandal, tad â dewis Abrahamaidd. Nid eu problemau personol nhw yw problem fawr y genedl.

Efallai dangos sut rhwystrwyd newid Ellie gan y rhain oedd bwriad Eirian, ond gan mai troi at UKIP yw’r newid nid yw’n drawiadol. Efallai, ar y llaw arall, mai corddi’r dyfroedd oedd ei ddymuniad. Ond rhaid i ni siarad yn ddi-flewyn ar dafod: pan fo cyrff ffoaduriaid yn nyfroedd Ewrop, adweithiol, nid pryfoclyd, yw cwtsho UKIP.

Unoliaeth yn erbyn UKIP

Drama wleidyddol yw Yfory, ond nid yw’n ddrama radical. Mae’r actio yn ddawnus, y cynhyrchiad o safon uchel, a’r sgript yn un crefftus tu hwnt. Siom mawr bod y cynnwys mor geidwadol, yn enwedig wrth gymharu â Gadael Lenin.[2] Mae’n wir bod neuadd dan ei sang o siaradwyr Cymraeg, yn gwylio drama Cymraeg, yn ddigwyddiad gwleidyddol (a bron yn un radical) yn ei hun. Eto, cysgod Seisnigeiddio yw cyd-destun trist y gwirionedd hwn. Dathlwyd bod y ddrama yn rhan o “sgwrs genedlaethol” a bod “mawrion” y Cymry Cymraeg yn gwylio’r ddrama – a dyma anarchwaethus bach yn eu tro yn rhan o’r sgwrs hon i bob golwg. Ond rhaid gofyn pwy gaewyd allan rhag sgwrs genedlaethol, a sgwrsio beth a wnawn. Dyma fygythiad byd bach y Bae: caiff rhai ware’r gêm (G)wleidyddol fel Saeson wrth i’r genedl araf lithro o dan ein traed. Ofer yw hunan-ddathliad heb feirniadaeth, a siarad heb frwydro[3]. Mae angen sgwrsio pragmataidd, ac y mae angen celfyddyd radical. Y mae hefyd angen gweithredu uniongyrchol ac unoliaeth go-iawn. Pwy a saif gyda ni?

 

Nodiadau

[1] Rhaid cofio mai llywodraeth leol Calais, a’i Maer neo-ffasgaidd, sy’n ymosod ar ffoaduriaid o hyd, wrth i ddinasyddion ffasgaidd “gyfrannu” yn ffisegol i’r wleidyddiaeth. Ac yn erbyn cynghorau lleol bu nifer o frwydrau mwyaf chwerw Cymdeithas ac eraill dros yr iaith. Nid yw atgyfnerthu “gwleidyddiaeth leol” o reidrwydd yn radical.

[2] Beirniadwn yma gynnwys a neges ymhlyg y ddrama, canys hon a aeriwyd i fod yn radical. Ond beth am ei ffurf? Pedwaredd wal gwydr ffenest y fflat sy’n ein cloi fel gwylwyr yn unig, heb ewyllys i wir newid ffawd y genedl. Dyma’r un gwydr sgleiniog sy’n amgáu Senedd y Bae. Er mae gwydr wedi’u torri yw clawr y rhaglen, ni thorrwyd ffurf arferol y theatr. Y theatr hon yw symbol y byd Oedipaidd-gyfalafol i Deleuze a Guattari, lle caethiwyd chwant yng nghynrychiolaeth teuluol-niwclear (mami, dadi, fi). Rhaid i wir ddrama radical chwalu a symud tu hwnt i gynhyrchiad cyfalaf, fel awgrymodd weithgareddau Diggers San Francisco.

[3] Mae arnom ddyled i Fred Moten am bwysleisio cyd-bwysigrwydd dathlu a beirniadu.

Ffasgiaid Prydeinig yn ceisio bachu Cymreictod

To read an English translation of this article, go to “British fascists try to appropriate Welsh symbols“.

Gwelwch hefyd rhai eglurhadau.


Ma ffasgiaid yn trial cymryd symbolau Cymreig a Chymraeg.

Dyma grwpiau hiliol, goruchafol-wen a threisgar. Maent oll yn ymosod ar ffoaduriaid a mudwyr. Maent yn Islamoffobaidd ac yn wrth-Semitaidd. Maent yn gwrth-ddosbarth-weithiol ac yn batriarchaidd. Maent yn rhagfarnllyd yn erbyn pobl anabl. Yn fyr: dyma gachwrs cachaidd. Nid oes croeso iddynt yng Nghymru, na nunman arall.

Rhaid gwrthwynebu ffasgiaeth, pa bynnag baner y codant. Rhaid hefyd gwrthwynebu’r ymgais hon i ecsbloetio a gwyrdroi ein symbolau a’n hiaith at ddibenion asgell-dde a Phrydeinig.

Yn yr erthygl hon, mae anarchwaethus yn trafod y datblygiad hwn ymysg ffasgiaid Prydeinig i gipio symbolau Cymru ac ein safiad fel gwrth-ffasgiaid yn erbyn Prydeindod.

Tueddiad Newydd – ‘run hen gachwrs

Nid yw presenoldeb ffasgiaid yng Nghymru yn rhywbeth newydd. Ceisiodd Crysau-Duon Moseley cynnal cyfarfodydd yn Ne Cymru yn y 30au er enghraifft, lle cawsant eu croesawu gan friciau, poteli, paffio a thipyn o ware pop.[1]

Yr hyn sy’n newydd yw’r tueddiad gan ffasgiaid Prydeinig i fachu symbolau Cymreig, gan gynnwys symbolau gwrth-Brydeinig. Hyd ag y gwyddwn, ni ellid dychmygu hyn rhyw ugain mlynedd yn ôl. Pryd ny, os roedd y fath ffasgiaid yn sôn am Gymru, Cymreictod neu’r iaith o gwbl, ymosodol a gwrth-Gymreig oedd eu rhethreg a’u safiad. Mae hyn wedi newid, er pwysleisiwn mai newid arwynebol a symbolaidd yn unig yw.[2][3]

Fe wnaeth y Valleys’ Frontline Firm (grŵp bach cysylltiedig i’r NF) trial efelychu bathodyn tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru er enghraifft. Ond yn lle “Gorau Chwarae Cyd Chwarae”, mae ganddynt swastika bach, bach.

peldroedvff
Y “VFF”: O ddaffodiliaid i… swastika. Cachwrs.

Ei’r National Front Wales cam ymhellach, gan hedfan cyfuniad hyll o’r Eryr Wen (hen arwydd Byddin Rhyddid Cymru) a Baner Glyndŵr, symbolau gwrth-Brydeinig, gerllaw Jac yr Undeb. (Am gefndir: bydde hyn yn gyfystyrol i hedfan Jac yr Undeb, neu faner Undebol, gerllaw baner IRA). A sylwant yr eironi a’r gwrthgyferbyniad? Pwy a wyr.[4] Ar wefan nwyddau’r National Front, ers 2014 gellid prynu’r faner “Cymreig” hyn, gerllaw baner “hang IRA Scum” a baneri Natsïaidd. Druan ar Cayo. Mae hefyd un dudalen Gymraeg ar eu gwefan NF Wales, lle ymosodant ar “mewnbudiaeth” [sic].[5]

glyndwrprydeinignfstrydoeddmerthyr2015
NF Wales, 2015, yn llusgo symbolau Cymru trwy’r baw.

Mae’r BNP, ers rhyw ddeng mlynedd, wedi dechrau defnyddio’r Ddraig Goch ar eu propaganda yng Nghymru. Mae Nick Griffin, cyn-arweinydd y BNP, wedi symud i Lanerfyl yng nghefn wlad Cymru – rywbeth (rhu) arferol ymysg Saeson cyfoethog. Ond yn anarferol i’r fath Brit, ceisiodd (yn ôl pob sôn) dysgu’r Gymraeg , gan anfon ei blant i ysgol Cymraeg. (Yn wir, rhai blynyddoedd yn ôl gwelwyd ef yn y ‘Steddfod!). Yn debyg, fe glywodd anarchwaethus am un neu ddau ffasgydd yn Ne Cymru yn mynd ati i geisio dysgu’r iaith dros y blynyddoedd diwethaf.[6]

Yn ddiweddarach, ma Alex Davies wedi ceisio cymharu Saunders Lewis a’r frwydr dros yr iaith i’r frwydr dros oruchafiaeth wen (!). Dyma un o brif-aelodau ifanc y grŵp treisgar “National Action”. (Mae’r NA yn enwog am ei faner “Hitler was right” ac am fod y gyfundrefn asgell dde cyntaf erioed i’w cael ei wahardd gan y wladwriaeth. Yn 2016 wnaethant trial (a methu yn llwyr) i ymosod ar brotest gwrth-ffasgaidd yn erbyn y demo “White Pride” yn Abertawe.) Am bron awr gyfan boenus areithiodd Davies i’r “London Forum” a gafodd cyfarfod cudd yng Nghaerdydd, gan ymosod ar Iddewon, defnyddio sarhadau hiliol a chlodfori Natsïaid. Wrth gloi, wetodd: “what I’d like to say to British Nationalists and to white nationalists, national socialists [hynny yw, Natsïaid], what we can do is we can take from the Welsh movement some examples.”[7][8]

alexdaviescachwr
Alex Davies gyda’r “London Forum”

Yn olaf, mae UKIP yn ddiweddarach wedi hefyd dechrau defnyddio peth Cymraeg nawr ac yn y man. Yn debyg i’r BNP ac eraill, cynt roedd ei safbwynt swyddogol yn un hynod o wrth-Gymraeg, ac fel yr enghreifftiau hyn oll nid oes amheuaeth bod y newid yn un arwynebol rhagrithiol a bod rhagfarn gwrth-Gymraeg yn parhau yn gryf. (Nid yw anarchwaethus yn sicr y gellid diffinio UKIP fel ffasgiaeth syml yn yr un modd a’r grwpiau uchod (trafodaeth arall).[9] Ond heb os maent dal yn llawn cach hiliol – ymysg cach arall – a rhaid eu gwrthwynebu felly. Ware teg i Gymdeithas am gymryd safiad yn eu herbyn yn ddiweddar.)

Prydeindod

Er iddynt fachu symbolau Cymreig, neu hyd yn oed symbolau gwrth-Brydeinig, Prydeindod yw hanfod y ffasgiaid hyn oll. Nid ydynt yn credu yng Nghymru Rydd yn unrhyw ystyr – yn wir, maent yn gwrthwynebu’r fath genedlaetholdeb. Maent yn dymuno i Gymru aros yn rhan o’r undeb Prydeinig. Er iddynt ar achlysuron prin grybwyll neu ddefnyddio’r iaith, nid ydynt yn becso neu yn brwydro drosti, na chwaith yn cysylltu eu hun i frwydrau hanes y genedl.[10] Oni bai i’r symbolau o genedlaetholdeb Cymraeg y bachant, nid oes ganddynt ddim un nodwedd o genedlaetholdeb(au) Cymreig (brwydr yr iaith, gwrth-filitariaeth neu heddychiaeth, ymreolaeth, annibyniaeth neu ryddid i Gymru, unoliaeth ryngwladol gyda chenhedloedd gorthrymedig ac yn y blaen).[11] I’r gwrthwyneb: maent yn ymfalchïo yn eu Prydeindod (Prydeindod gwyn, wrth gwrs). Cymru fach o fewn Prydain mawr yw eu Cymreictod wag.

Nid oes mawr o syndod fan hyn. Maent yn dilyn traddodiad cyfarwydd o Brydeindod-Gymreig, sy’n gafael yn rhai symbolau Cymreig, ac yn fodlon ymfalchïo am Gymreictod i raddau, o fewn y drefn ymerodraethol Brydeinig. Dyma fytholeg cachaidd y Rhoial Welch Fusiliers, stori gelwyddog Rorke’s Drifft, Harri’r VII, David Lloyd George ac yn y blaen.[12] Y syndod yw iddynt wneud hyn trwy ddefnyddio Baner Glyndŵr neu Saunders Lewis!

“White Wales” neu “Western England”?

Y gwahaniaeth yw iddynt gysylltu’r Cymreictod gwag hwn â goruchafiaeth wen amlwg. Maent yn dychmygu Cymru fach wyn sy’n wynnach na dinasoedd Lloegr. Trwy gam-ddiffinio Cymru fel hil wen yn ei hanfod, daw Cymreictod iddynt yn symbol o oruchafiaeth wen. Iddyn nhw, i fod yn Gymro/aes (neu Brydeinwr) yw i beidio fod yn ddu, i beidio fod yn Fwslim neu yn Iddewig, i beidio fod yn fewnfudwr “o dramor”.

Dyma rwtsh llwyr wrth gwrs, yn hanesyddol ac yn bresennol, sydd yn dileu hanesion Cymreig nad oedd yn wyn, hanesion mudwyr yng Nghymru, hanesion Cymry-Iddewig, Mwslemaidd, Roma ac yn y blaen.[13][14][15] Ac er nad yw record genedlaetholdeb Cymreig go-iawn yn un perffaith o bell ffordd, nid yn nhermau’r hil wen yr aethant ati i ddiffinio Cymreictod. Yn hytrach, ei brif ddiffiniad o ran Cymreictod oedd ac yw’r elfen ieithyddol a/neu wrthwynebiad i’r Seisnigrwydd oedd yn eu gormesu – i fod yn Gymro/aes yw i fod mewn rhyw berthynas (petaent yn ei siarad neu beidio) â’r iaith gynhenid a/neu i beidio fod yn Sais. Gan fod rhan helaeth o Saeson yn wyn eu croen, nid oedd hil yn yr ystyr hyn yn rhan bwysig na chanolog i’w diffiniad o Gymreictod.

Balchder Cymreig, nid balchder gwyn. Ie wir. Baner gwrthffasgaidd o brotest Abertawe, 2014.
Balchder Cymreig, nid balchder gwyn. Ie wir. Baner gwrthffasgaidd o brotest Abertawe, 2014.

Er bod y bachiad o symbolau Cymreig gan ffasgiaid Prydeinig yn un diweddar, mae hanes hirach o fachiadau gan oruchafwyr gwyn yn gyffredinol o symbolau Celtaidd.[16] Mae’r cam-gyfystyru hyn o’r Celtiaid gyda’r hil wen yn chwarae rhan yn y dychymyg ffasgaidd Prydeinig yma heddiw (er gwaetha ffaith mai gwreiddiau Prydeindod modern yw goresgyniad yr Eignl-Sacsoniaid a’r Normaniaid, yn hytrach na’r hen Frythoniaid!).[17][18] Gellid olrhain hyn yn eu tro i’r Klu Klux Klan hiliol yn yr Unol Daleithiau, oedd yn ymfalchïo ym mytholeg o’u gwreiddiau “Celtaidd” (Scots-Presbetaraidd) gerllaw gwreiddiau “Eingl-Sacsonaidd”. (Unwaith eto, mae defnydd y KKK o’r term “Anglo-Celtic” er mwyn gam-ddiffinio eu croen gwyn yn gwbl ddiystyr (os nad wrthun) i genedlaetholdeb Cymreig.)[19][20]

croesgeltaidd
“Wylit, wylit, Lywelyn / Wylit waed pe gwelit hyn…” Bachiad y groes Geltaidd gan oruchafwyr gwyn [21]

Llaw yn llaw â’r fytholeg hiliol hon, mae nifer o Saeson gwyn wedi dewis symud i Gymru gan iddynt eu gweld fel ardal sydd yn “dal i fod yn wyn”. Mae’r Brits cefnog hyn yn aml wedi codi o ran dosbarth, ac yn dewis ymfudo o’u dinasoedd yn Lloegr fel rhan o “white flight”. Yr eironi amlwg yw iddynt gwyno am farwolaeth eu “diwylliant” (a gan hyn, maent yn golygu “diwylliant” gwyn) a “mewnfudwyr”, ond yn ddigon bodlon symud i Gymru (neu brynu ail gartref yma), ac i ardaloedd y Fro Gymraeg, gan hedfan Jac yr Undeb neu faner Lloegr a mynnu peidio dysgu’r iaith![22] Nid yw anarchwaethus yn trial gweud mai “white flighters” yw’r Saeson oll sydd yn symud i Gymru, ond yn sicr mae carfan ohonynt ac mae hyn yn werth sylw. I raddau, gellid cysylltu tipyn o weithredoedd trefnus ffasgaidd yng Nghymru i’r garfan hon, a hefyd i Saeson gwyn sydd yn dod dros glawdd Offa am yr ambell wrthdystiad.

english
North Wales EDL: Yn “amddiffyn” Lloegr… yng Ngogledd Cymru

Nid oes gwell grynodeb o hyn na siant ffasgiaid y digwyddiad “White Pride” yn Abertawe yn 2014. Wrth iddynt hedfan Baner Glyndŵr gerllaw Jac yr Undeb, gwaeddodd y dorf: “this is England, not Pakistan”(!).[23][24]

(Wrth gwrs, bwysig iawn nodi bod gwrthffasgiaid di-Gymreig yng Nghymru, a bod rhai yn teithio o du allan i Gymru am brotestiadau gwrth-ffasgiaid yma, a ware teg iddynt.[25] Afraid weud nad ydyn nhw yn mynnu mai Lloegr yw Cymru.)

Cenedlaetholdeb Cymreig a (gwrth)Ffasgiaeth

Ar ôl iddynt dynnu o symbolau Cymreig ei holl ystyr mae’r cachwrs hyn yn mynd ati i ddiffinio cenedlaetholdeb Cymreig fel ffasgiaeth. Dyma rwtsh unwaith eto. Er bod gan rai fel Julian Cayo-Evans ac yn enwedig Saunders Lewis eu beiau – ac nid pwrpas yr erthygl hon yw amddiffyn y beiau hyn – ni ellid eu diffinio fel ffasgiaid.[26] Nid oedd yr unigolion hyn yn gynrychioliadol o’r mudiad cenedlaetholgar yn gyfan chwaith (sefyllfa enwog o ran arweinyddiaeth Saunders). Nid yw’r mudiad cenedlaetholgar Cymreig erioed wedi bod yn fudiad ffasgaidd. Fel trafodwyd eisoes, hanfod cenedlaetholdeb Cymreig oedd gwrthwynebiad i’r undeb Prydeinig, gormes y Saeson, ac (i raddau gwahanol) tranc yr iaith – safiadau gwrth-imperialaidd amlwg. Heb os, roedd gan Saunders Lewis ac i raddau llai rhai eraill yn gynnar yn y mudiad safbwyntiau gwrth-Semitaidd, ac ar adegau edmygedd o Hitler (yn amlwg dyma’r tueddiadau gwarthus a ddenodd Alex Davies ato). Rhaid ymosod ar hyn. Rhaid ymosod yn ogystal ar ei batriarchaeth a’i wrthwynebiad i ryfel dosbarthiadol, ac mi ymosodwyd arno felly gan genedlaetholwyr Cymreig eraill. Ond nid yw’r safbwyntiau hyn yn ei wahaniaethu o nifer o unigolion a phleidiau eraill yn yr oes, petai hyn yn Dorïaid, Rhyddfrydwyr neu’r Blaid Lafur. Mae rhai unigolion ac elfennau haerllug ac adweithiol, gan gynnwys rhai gwrth-Semitaidd, yw darganfod ym mron pob mudiad. Nid yw anarchiaeth na hyd yn oed grwpiau gwrth-ffasgaidd yn eithriad i hyn.

Y gwirionedd yw bod rhywfaint o draddodiad ymysg cenedlaetholwyr Cymreig i wrthwynebu ffasgiaeth. Mae atgofion yr anarchydd Saesneg Ian Bone o frwydro ger ochr Gweriniaethwyr Cymreig yn erbyn ffasgiaid yn yr 70au yn dyst i hyn. Yn ogystal, gellid dadlau bod ymgais cymysg o wrth-hiliaeth ac unoliaeth gyda phobl nad yw’n wyn eu croen yn un o dueddiadau llai blaengar cenedlaetholdeb Cymreig.[27] Yn wir, mae bachiad y ffasgiaid Prydeinig hyn o symbolau Cymreig yn ôl pob golwg mond yn cythruddo a gwylltio Gweriniaethwyr Cymreig yn erbyn ffasgiaid ymhellach.[28]

Mae’r ffasgiaid yn dilyn traddodiadau’r sefydliad Prydeinig unwaith eto fan hyn. Maent wedi llyncu celwydd y sefydliad Prydeinig yn ystod ac ar ôl yr ail ryfel byd: y cyhuddiad ffals mai ffasgiaid a gefnogai’r Natsïaid oedd Cenedlaetholwyr Cymreig oll. (Bwysig nodi bod gwladwriaeth Brydain wedi cyhuddo heddychwyr, comiwnyddion Cymreig fel Niclas y Glais, a’r holl gymuned Eidalaidd Cymru gerllaw nifer eraill yn debyg). Maent yn derbyn y celwydd, ac yn eu gweld fel rhywbeth da. Wedyn, trwy fachu symbolau cenedlaetholdeb Cymreig, ânt ati i drial troi’r celwydd yn “wirionedd” er mwyn cyflawni’r cyhuddiad gwreiddiol.

Gwrth-Ffasgiaeth Gwrth-Brydeinig

Fel trafodwyd eisoes, Prydeinig-Gymreig, Prydeinig os nad Seisnigaidd eu naws yw’r ffasgiaid hyn oll.[29] Yn wir, nid oes esiampl yn ein hanes (cyn belled) o gyfundrefn ffasgaidd gynhenid Cymreig a Chymraeg.[30]

Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu bod Cymru yn genedl radical o’i hanfod heb hiliaeth na gorthrymder, fel cred rhai Cymry gwyn naïf. Mae’r bleidlais Brecshit yng Nghymru, a’r twf yn ymosodiadau hiliol yn ei sgil, yn ddigon i beri pryder heb sôn am grwpiau ffasgaidd trefnedig.[31] Mae hiliaeth y wladwriaeth a thrais y system-ffiniau yn sefyllfa hunllefus ta beth. Rhaid cofio’r gwersylloedd ataliad ar yr ynys hon, a’r rhai newydd ar hyd y ffiniau yn Ewrop lle lofruddiwyd ffoaduriaid gan G4S ac eraill yn ddyddiol. Er i anarchwaethus uchod gwahaniaethu rhywfaint rhwng grwpiau ffasgaidd a hiliaeth UKIP neu hiliaeth y wladwriaeth, rhaid cyfaddef bod y fath linellau yn aneglur, nawr cymaint ag erioed. Mae’r nos yn hir.

Mae llai o bresenoldeb gan ffasgiaid ar y stryd ar yr ynysoedd hyn nag sydd yn weddill Ewrop.[32] Mae hefyd gymharol lai o weithgaredd ffasgiaid yng Nghymru nag sydd yn Lloegr. Wrth nodi brwydro mewnol NF Wales, gwaharddiad diweddar yr NA, cwymp y BNP a diffyg presenoldeb grwpiau newydd (yn llythrennol!) nid yw’n bosib honni bod anarchwaethus a gwrth-ffasgiaid yn rhoi gormod o sylw i grwpiau dibwys? Ein hateb cadarnhaol yw nac ydi. Yn gyntaf dim, er bod y grwpiau yn fychan (yn enwedig wrth ei gymharu â dyddiau bri’r EDL), maent yn graidd-galed ac yn fwy treisgar. Yn ail, cofiwn fod twf aruthrol a sydyn yr EDL, a grwpiau fel Pegida yn yr Almaen, yn weddol annisgwyl ac wedi synnu nifer. Rhaid chwalu ffasgiaeth ar bob achlysur er mwyn atal y fath twf. Yn drydydd, mae’r grwpiau ffasgaidd hyn yn gysylltiedig, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i hiliaeth a chach arall pob dydd ar y stryd ac i hiliaeth a chach arall y wladwriaeth. Pan lwydda ffasgiaid ar y strydoedd, mae hyder hiliol a rhagfarn yn erbyn grwpiau gorthrymedig yn cryfhau, a surwyd yr holl awyrgylch gwleidyddol. Er mwyn cwffio un rhaid hefyd cwffio’r llall.

I gloi, mynna anarchwaethus bod angen gwrth-ffasgiaeth gwrth-Brydeinig.

O safiad Cymreictod, mae ffasgiaeth yng Nghymru yn parhau i weithredu dros Brydeindod a Seisnigeiddio, er gwaetha’r newid arwynebol hwn. Mae hefyd yn peri math amgen o farwolaeth i’r Gymraeg, canys iaith farw yw’r Gymraeg yng nghennau ffasgydd. Trwy geisio cymryd ein symbolau maent yn ein difreinio o’n traddodiadau ac yn eu lladd o wir fywyd, yn union fel gwnaethpwyd gan Brydeindod eisoes. Rhaid i’r Gymraeg byw: rhaid lladd ffasgiaeth.

O safiad gwrth-ffasgaidd ar yr ynysoedd hyn, rhaid i ni ymosod ar Brydeindod er mwyn gweithredu’n effeithiol. Nid yw ffasgiaeth yn bodoli mewn gwagle – mae ganddo aelwyd, iaith a diwylliant. Prydeindod gwyn yw diwylliant gormesol ffasgiaeth ein hynysoedd, a’r iaith Saesneg sy’n llifo trwy’i gwythiennau.[33][34] Trwy ladd Prydeindod, fe leddir ffasgiaeth Brydeinig.

Rhaid gwrthwynebu ffasgiaeth yn ffisegol ar y strydoedd, gan gymryd o’u dwylo baneri Cymru.

I’r gad!

cymruynerbynffasgiaeth

Dolenni Gwrthffasgaidd

Nodiadau

Diolch i Welsh Antifa, Disuj a baneri gwrth-ffasgaidd Gwyddelig am ysbrydoli’r baner newydd.

1 Am rhai darnau o’r hanes gwrth-BUF Cymru arlein, gwelwch “Fighting fascism is a great Welsh tradition“, y grynodeb ma o bennod yn “Miner’s Against Fascism”, neu’r atgof melys hwn o “Sally” Harrington.

2 Gellid cymharu’r newid arwynebol hwn i gamddefnydd yr EDL o rethreg hawliau LHDT (LGBT) at ddibenion Islamoffobaidd. Dyma fachiad arwynebol, rhagrithiol a gwag unwaith eto: er bod aelod o’r EDL yn hedfan y faner enfys LHDT mae’r dorf ffasgaidd yn bloeddio siantiau homoffobaidd.

3 Mae anarchwaethus uchod yn edrych ar wreiddiau’r datblygiad yn fachiad goruchafiaeth wen fyd-eang o fytholeg “Celtaidd”, ond pam ceir y newid hwn o ran ffasgiaeth Brydeinig a symbolau Cymreictod yn ddiweddar? Tyb anarchwaethus yw, ar yr un llaw, diffyg gweithredu presennol ar ran y mudiad cenedlaethol Cymreig a’r mudiad dros yr iaith, ac ar y llaw arall, y derbyniad cysylltiedig o elfennau o’r mudiadau hyn i mewn i’r sefydliad a’r prif-ffrwd. Hynny yw, diffyg dandedd mudiad y genedl a’r iaith yn y presennol, a llwyddiannau’r un mudiad yn y gorffennol. Pan roedd cenedlaetholwyr Cymreig milwriaethus yn eu bri, yn trial bomio Arwisgiad Tywysog Cymru, neu yn llosgi tai haf Saeson cefnog, nid oedd yn bosib i ffasgiaid Prydeinig uniaethu a’u symbolau. Ar yr un pryd, nawr (yn dilyn brwydrau’r gorffennol) bod y Gymraeg, ac elfennau o genedlaetholdeb Cymreig (datganoli, cenedlaetholdeb sifig) yn fwy “derbyniol” gan wleidyddiaeth a sefydliadau Prydeinig, haws yw i ffasgiaid Prydeinig bachu symbolau Cymreig. (Mae’r lleihad yn aflonyddwch yng Ngogledd Iwerddon yn berthnasol i hyn oll.)

4 Mae’n debyg taw elfen “Wen” yr Eryr Wen sydd wedi apelio atynt. Gwelwch y llun yma a’r gerddoriaeth ffasgaidd “Violent Storm White Eagle Of Snowdon” ar youtube.

5 Nodwch hefyd enw Cymraeg (“Waredigaeth” [sic]) band aruthrol o wael aelodau’r NF Wales. Er yr enw, diddorol nodi y denwyd ffasgiaid cerddorol NF Wales fel David Powell, Bryan Powell a Chris Lewis i gerddoriaeth Bluegrass Americanaidd, nid i gerddoriaeth draddodiadol Gymraeg. (Gwelwch y nodiadau ar y KKK yn yr erthygl hon.)

6 Cofiwn â siom fod y Sais a Phrydeiniwr hiliol Enoch Powell hefyd wedi mynd ati i ddysgu’r iaith, gerllaw sawl iaith arall. (Mi roedd y Powells o dras Gymreig.) (Gwelwch y rhan ar Brydeindod-Gymreig a chanfyddiadau hiliol o’r iaith yn hwyrach yn yr erthygl.)

7 Gwelwch y fideo “Alex Davies: ‘Saunders Lewis & Militant Welsh Nationalism” ar youtube.

Ceir bachiad diddorol arall o symbolaeth Gymreig gan yr NA fan hyn, lle cyfunant ein hanthem genedlaethol (yn Saesneg (!)) a symbolaeth Albanaidd mewn darlun Prydeinig-ffasgaidd. (Cymharwch hyn â bachiadau’r Sefydliad Prydeinig-Gymreig y crybwyllwyd yn hwyrach yn yr erthygl.)

8 Gerllaw elfennau o Gymreictod, mae’r grŵp hefyd wedi ceisio bachu symbolau a thactegau anarchaidd, tueddiad ymysg rhai ffasgiaid dros Ewrop a Gogledd America. Yn debyg, gwelwn ym mhropaganda yr NA, NF Wales ac eraill y traddodiad ffasgaidd o geisio bachu rhethreg wrth-gyfalafol a dosbarth gweithiol (gwelir, er engraifft, y daflen hon yn sôn am “White working class”). Wrth edrych ar y datblygiad newydd hyn o ran Cymreictod, rhaid cofio bod ffasgiaid yn du hwnt o hyblyg a pharadocsaidd o ran bachu symbolau (gwelwch y nodyn ar yr “LGBT EDL division” uchod). Yn wir, mae ffasgiaid yn y gorffennol wedi bachu symbolau uniongyrchol gwrthffasgaidd!

9 Yn wahanol i’r grwpiau uchod, nid yw UKIP yn ymgeisio i fod yn gyfundrefn neu fudiad treisiol “ar y stryd” (er fe wnaethant ymylu ar alw am drais ar y stryd yn ddiweddar yn sgil Brecshit (yn debyg iawn i fygythiadau ymgyrch Trump am honiadau o etholiad ffug), ac mae nifer ohonynt yn clodfori’r fath weithredoedd). Maent yn cefnogi trais hiliol y wladwriaeth a’r heddlu, ond trwy’r system Seneddol, nid trwy recriwtio a mynd i mewn yn uniongyrchol i’r sefydliad (yn wahanol i’r NF). Nid ydynt yn trial i fod yn bŵer tu allan i’r Senedd a’r gymdeithas sifil, ac nid yw hyn yn rhan o’i strategaeth etholiadol chwaith (mae hyn yn wahanol i Grysau Duon Mussolini a Moseley a Chrysau Brown Hitler, neu gipiad Franco o’r wladwriaeth trwy’r fyddin). Ond wedi dweud hyn oll, rhaid edrych ar UKIP yn y cyd-destun ehangach o’r grwpiau ffasgaidd fel yr uchod, hiliaeth a chach “di-wleidyddol” beunyddiol ar y stryd a hiliaeth “prif-ffrwd” y wladwriaeth a’r system-ffiniau, a rhethreg adweithiol y prif-bleidiau oll (gan gynnwys Plaid Lafur Corbyn, gydag ef hefyd nawr yn anerchu cach gwrth-fudwyr). Yn sicr, mae adnabyddiaeth ymysg nifer o aelodau UKIP a grwpiau ffasgiaid o fath o “raniad o lafur” sydd yn atgyfnerthu ei gilydd, ac mae nifer o gachwrs yn aelodau o grwpiau ffasgaidd ac o UKIP hefyd. Fel wedodd ffasgiaid Britain First, “UKIP in the ballot box, Britain First on the streets”. Yn olaf, mae’n bwysig nodi bod nifer o’r un tactegau gwrth-ffasgaidd, yn enwedig yn erbyn ffasgiaid fwy etholiadol, yn ddefnyddiol iawn yn erbyn UKIP, gan gynnwys “dim platfform” (“no platform”) er enghraifft.

(Wrth gwrs, mae Prydeindod UKIP, fel y grwpiau ffasgiaid uchod, yn rhonc).

10 Mae “darlith” Alex Davies yn ymylu ar fod yn eithriad i hyn, gan siarad am y Tân yn Llyn. Ond pwysig nodi nad yw’n clodfori gwrth-filitariaeth a gwrth-imperialaeth Llosgi Penyberth, nac yn galw am bethau tebyg. Yn hytrach, mae’n pwysleisio sut gall ffasgiaid goruchafol-wyn tynnu sylw at eu hun trwy weithredu. Gwers wrthrychol sydd ganddynt i ddysgu, er mwyn cyflawnu dibenion cwbl wahanol – nid ydynt yn uniaethu yn emosiynol a’r digwyddiad fel gwneiff nifer o bobl Cymru.

11 Yr unig debygrwydd gwan sydd gan rai ffasgiaid Prydeinig i rai Cenedlaetholwyr Cymreig yw rhethreg dros y system economaidd o “ddosraniad” a’r ymgais am “drydydd safiad” “rhwng” cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth (gwelir y “Welsh Distributist Movement” isod, a “darlith” Alex Davies ar Saunders unwaith eto). Er bod anarchwaethus yn anghytuno â dosraniaeth, nid yw yn ei hun yn nodwedd o ffasgiaeth. Mae nifer yn y Blaid Dorïaidd a’r Blaid Lafur, gerllaw eraill o sawl cwr a thu’r sbectrwm gwleidyddol, wedi galw am ddosraniaeth a safiad rhwng cyfslafiaeth a chomiwnyddiaeth.

12 Dyma draddodiad mor hen â bachiad Edward I o stori Arthur er mwyn cadarnhau ei feddiant o Gymru.

13 Roedd presenoldeb pobl Roma a phobl Roma-Gymreig yng Nghymru yn allweddol i barhad a chyfoeth traddodiad di-dor y Delyn Deires yng Nghymru, ein hofferyn cenedlaethol.

14 Mae pobl o dras Affricanaidd wedi bod yn rhan o hanes Cymru ers oes y Rhufeiniad ym Mhrydain – hynny yw, ers genedigaeth y genedl.

15 Pwysleisia Daniel Williams rôl Prydeindod mewn dileu’r amrywiaethau hyn o fewn Cymreictod. Er iddo wneud hyn o safiad cenedlaetholdeb sifig, nid un anarchaidd (y drwg i anarchwaethus yw bod ffurflenni gwladwriaethol yn bodoli ac yn diffinio ein cenedligrwydd yn y lle gyntaf!), cytunwn yn frwd ar y pwynt hwn.

16 Mae’r bachiad hwn, a’r canfyddiad o wledydd “Celtaidd” fel llefydd “mwy gwyn” yn werth sylw wrth ystyried y gwelodd nifer o theoryddwyr hiliaethol yr 18fed a’r 19eg ganrif “yr hil Geltaidd” cynt fel yr hil “isaf”, “gwaethaf” o fewn hierarchaeth fewnol yr hiliau gwyn. (Rhaid pwysleisio y gwelwyd yr hiliau gwyn oll yn llawer “uwch” na hiliau eraill, megis Iddewon a phobl Du, a’r hierarchaeth hon oedd y gwahaniaeth pwysicaf). Gwelir, er enghraifft, credoau John Beddoe neu Madison Grant.

17 Mae diffinio’r Celtiaid fel pobl o fewn yr “hil wen” yn rwtsh ar sawl lefel. Roedd yr hen Geltiaid yn bodoli hir cyn i’r hil wen bodoli fel realiti cymdeithasol a system o bŵer (datblygiad sy’n deillio o ddiwedd yr Oesoedd Canol). Mae’n debyg mai diwylliant, yn hytrach nag un dras gyffredin, oedd yn cysylltu hen Geltiaid yr ynysoedd hyn i Geltiaid y cyfandir. Heddiw, er nad yw dras yn llwyr amherthnasol, yn ddiwylliannol a chenedlaethol mai gan y term unrhyw werth ystyrlon. Gobeithia anarchwaethus ymhelaethu ar hyn yn y dyfodol.

18 Gwelwch, er enghraifft, fideo afreal sioe pwped y BNP yn adrodd hanes Buddug (“and Boudicca, was white”(!))! Er gwaetha’r hyn mae’n dweud, defnyddiwyd eu henw Lladin. Unwaith eto, mae’n canlyn mytholeg y sefydliad Prydeinig – gwelir bachiad Brenhines Fictoria o symbolaeth Buddug.

19 I ddisgynyddion y Scots hyn yn yr UDA, a roddwyd cynt ar flaengad wladychiad yng Ngogledd Iwerddon, nid oedd eu defnydd o’r term Celtaidd yn golygu Gwyddelod Catholig (a’r pwyslais oedd y Scoteg yn hytrach na’r Aeleg). Erbyn ei ail-ymgorfforiad roedd gwrth-Gatholigiaeth yn rhan hanfodol o’r KKK wrth iddynt ymosod ar fudwyr diweddarach i’r UDA o weddill Ewrop. Gellid gweld cysylltiad felly rhwng llosgi croesau’r KKK (bachiad o hen arfer dynion Clan yn yr Alban, a ddechreuwyd hefyd yn ystod yr ail-ymgorfforiad), a thraddodiad llosgi croesau Lewes bonfire yn Lloegr, digwyddiad â gwreiddiau gwrth-Gatholig a gwrth-Wyddelig. (Yn debyg i’r KKK, mai rhai yn Lewes bonfire yn parhau i dduo eu hwynebau, er gwaetha galwadau i beidio o bobl du eu croen.)

(Er iddo maddeuo am wladychiad (mae’n sôn am “ddathlu” y gwladychwyr Albanaidd), anwybyddu i raddau helaeth y cydweithrediad rhwng y wladwriaeth a’r KKK gerllaw siglo llaw (!) a rhoi platfform i arweinydd KKK, mae rhaglen dogfen ddiweddar Neil Oliver ar y BBC yn trafod y mater yn un hynod o ddiddorol a phwysig.)

20 Mi welwn wedyn yr oruchafiaeth wen hon yn “dychwelyd” gartre. *Rhybudd cynnwys am y dolenni nesaf – maent yn delio gyda digwyddiadau hiliol a haerllug* Gwelwch hanes y ffasgydd Alan Beshella er enghraifft, neu symbolaeth KKK diweddarach gan ffasgiaid yn y Cymoedd.

21 Nid yw’r hanes o fachu symbolaeth Geltaidd yn cwpla gyda’r KKK. Mae’r hanes hwn, a hanes bachiad y Groes Geltaidd at ddibenion ffasgaidd yn un cymhleth ac yn haeddu trafodaeth yn ei hun (mae’n debyg bod symbol tebyg yn perthyn i sawl ddiwylliant Ewropeaidd cyn yr oes fodern ta beth). Yn y 30au, dechreuodd rhai ffasgiaid Almaeneg a Ffrengig (er gwaetha eu gwrthwynebiad i genedlaetholdeb Llydaweg!) bachu elfennau o ddiwylliant Celtaidd. Ymddengys Jacques Doriot i fod ymysg y cyntaf i ddefnyddio’r Groes Geltaidd at ddibenion ffasgaidd. Mi ymddangosodd yn y cyfnod hwn garfannau (bychan a di-lwyddiant) ffasgaidd ar ymylon y mudiad cenedlaetholgar yn Iwerddon, megis Ailtirí na hAiséirghe (oedd hefyd yn defnyddio’r Groes Geltaidd), ac hefyd rhai ffasgiaid Llydaweg (nid yw’n amlwg bod y rhain wedi defnyddio’r Groes Geltaidd).

Wrth drafod y fath hanesion rhaid hefyd gofio traddodiadau gwrth-ffasgaidd y “gwledydd Celtaidd”. Braf oedd gweld Gweriniaethwyr Gwyddelig yn ymuno yn erbyn ffasgiaid yn Lerpwl, braf hefyd oedd gweld baner gwrth-ffasgaidd Gwyddelig yn hedfan ym mrwydr fawr Dover. Yn debyg, er bod elfennau adweithiol i’w gweld yng ngharfannau o genedlaetholwyr Llydaweg heddiw, rhaid nodi hefyd y carfannau gwrth-ffasgaidd Llydaweg (gerllaw traddodiad anarchiaid Llydaweg).

22 Afraid weud y mynna anarchwaethus mai Prydeindod, a Seisnigeiddio yw’r bygythiad i’r Gymraeg, nid mewnfudwyr o dramor. Mae Seisnigeiddio yn fygythiad i’r iaith Gymraeg ac i’w hieithoedd lleiafrifol nhw yn ogystal.

23 Dyma siant cyffredin gan Saeson ar orymdeithiau ffasgiaidd. Roedd yn amlwg, o gyfweliadau ac o’u hacenion, taw Saeson o Ogledd Lloegr oedd rhan helaeth o’r dorf ffasgaidd a ddaeth i Abertawe ar y diwrnod ‘ny.

24 Gerllaw bachu symbolau Cymreictod, “romanteiddio” Cymru fel ardal wen a diffinio Cymru fel Lloegr, gwerth nodi bod ffasgwyr (gwrywaidd) Prydeinig wedi dewis teithio i fynyddoedd Cymru er mwyn cynnal gwersylloedd hyfforddiant treisgar. (Mewn hyn o beth maent unwaith eto yn efelychu’r sefydliad Prydeinig!) Yn 2014, fe wnaeth gwahanol ffasgwyr mynychu grŵp hyfforddiant Sigurd Legion yn y Bannau Brycheiniog, ac yn 2016 fe wnaeth Britain First cynnal gwersyll yn Eryri. Fe wnaeth y ddau wersyll cynnwys ymarfer brwydro â chyllyll. Cysylltir nifer llofruddiaeth yr AS Jo Cox, a ddigwyddodd ychydig ar ôl y gwersyll, i Britain First.

25 Yn y run modd, mae gwrthffasgiaid o Gymru wedi teithio (yn 1936 ac ar achlysuron eraill) ac yn parhau i deithio dros y byd mewn unoliaeth gwrth-ffasgaidd.

26 Am drafodaeth drylw o Blaid Genedlaethol Cymru a’r cyhuddiadau ffals o ffasgiaeth, gwelwch lyfr Richard Wyn Jones.

27 Gwelant, fel gwêl anarchwaethus, bod ganddynt yr un gelyn yn y drefn imperialaidd Brydeinig, er i’r drefn hon ein gormesu mewn ffyrdd gwahanol iawn. Rhaid, wrth siarad am yr hanes hwn o ran cenedlaetholdeb Cymreig, peidio ag anwybyddu hanesion hiliol yng Nghymru, yn enwedig rôl nifer o Gymry yn yr ymerodraeth Brydeinig.

28 Gwelwch, er enghraifft, y llythyr ac ymateb hyn a hefyd y cofnod hwn “A left wing photographer then shouted at a local NF member who was holding the Wales NF flag aloft that he wasn’t happy we were flying the white eagle of Snowdon symbol and his dad was ex free Wales army. This red clown was told that the REAL nationalists of Wales now have this symbol! It belongs to the real Welsh patriots defending the white Welsh working class! “We have taken the symbol and its now ours!” shouted the patriot, much to the red idiots disapproval.”

29 Mae gweithgaredd ffasgaidd, i bob golwg, yn rhywfaint gryfach yn yr ardaloedd hynny a gelwid yn “British-Wales”, fel rhan ddwyreiniol y Cymoedd.

30 Yr agosaf y cawn yw’r “Welsh Distributist Movement”  yn y 90au. Er bod nifer o’r grwpiau uchod yn rhai bach, dyma oedd grŵp anhygoel o fychan (5 aelod yn ôl pob sôn!). Ond Saesneg unwaith eto oedd eu hiaith, ac mae’n amlwg i’r prif aelod Wyn Davies cael cysylltiadau cryf gyda ffasgiaid Prydeinig yr NF.

31 Rhaid nodi yn ogystal y cysylltiadau rhwng yr ymosodiadau hiliol yn dilyn Brecshit, ac ymosodiadau homoffobaidd a thrawsffobaidd. Gwelwn hefyd achosion o gasineb at siaradwyr Cymraeg ar y stryd, a (gam)welwyd fel iaith “tramor” – gwelwch y stori yma a hefyd y post trydar hwn.

32 Mae rhai wedi cysylltu hyn i weithgaredd llwyddiannus gwrth-ffasgaidd ar yr ynysoedd hyn. Er bod rhaid dathlu’r fath traddodiad, cred anarchwaethus bod rhesymau strwythurol yn golygu bod y fath ffasgiaeth yn llai defnyddiol i’r wladwriaeth imperialaidd a goruchafiaeth wen Brydeinig. Gellid dadlau nid oes “angen” ffasgiaeth siwd cymaint ar yr elit ym Mhrydain llonydd.

33 Cawn ar adegau ffasgiaid o dramor ar yr ynysoedd hyn megis Zjednoczeni Emigranci – a rhaid gwrthwynebu eu ffasgiaeth hefyd. (Cawn hefyd wrth gwrs grwpiau gwrth-ffasgaidd o dramor, megis y Dywizjon161 enwog.) Gwelwn hefyd yn aml ymgeision at fath o Ewro-ffasgiaeth (cydweithrediad amlwg ffasgiaid o wahanol gwledydd Ewropeaidd, e.e. Pegida), ond nid yw hyn yn lleihau’r elfen o Brydeindod.

34 Mae gan ffasgiaeth cynnwys tu hwnt i’r elfen cenedlaethol hyn, yn amlwg. Trwy ladd goruchafiaeth wen, cyfalafiaeth, patriarchaeth ac ati, fe leddir ffasgiaeth yn ogystal. Ond rhaid hefyd edrych ar oruchafiaeth wen, cyfalafiaeth a phatriarchaeth ein hynysoedd yn eu cyd-destun a’u cynnwys Prydeinig.