yw’r rhith sy’n cythryblu’r crach.
Croeso i anarchwaethus, blog newydd dros anarchiaeth Gymreig a Chymraeg anarchaidd!
Ceir yma malu cachu ar newyddion amgen, ddigwyddiadau radical, hanesion afreolus, anerchiadau anfodlon, dactegau tanbaid, (gwrth)ddiwylliant stwrllyd, a rwtsh tebyg.
anarch-
Ma sawl ateb i’r cwestiwn: “beth yw anarchiaeth?”. Ma hefyd digon o anghytundeb, yn enwedig rhwng anarchyddion! Gwraidd y gair yw cal gwared a’r meistri (“no masters!“). Ma gan Gymru llawer gormod o’r meistri ma. Heddlu a hiliaeth, bosys a beiliffs, Prydeindod a phatriarchwyr, landlordiaid, ffasgiaeth… Ma’n hen bryd cal gwared ohonynt!
Rhaid cymryd safiad radical yn erbyn y cachwrs a’r cach ma ac yn erbyn y systemau sydd yn eu creu a’u hail greu. Dyna ma nifer yn neud yn barod bob dydd, pe baent yn galw eu hun yn “anarchyddion” ai beidio – yn cwffio gormes, ddisgyblu, hierarchaeth ac ecsbloetio. Nid Cymry distaw ydym. Paid ag aros: sdim mynedd nawr. Ma’r gwynt yn rhuo!
Cymru Rydd
Fel anarchyddion Cymreig dros y Gymraeg, gwrthwynebwn lofruddiaeth ein hiaith gan Seisnigeiddio. Gwrthwynebwn wladychiad Cymru gan Loegr a Phrydeindod, gwladychiad sydd yn rhan annatod o lofruddiaeth yr iaith. Fel Cymry anarchaidd, raid gwrthwynebu’r wladwriaeth, gyfalafiaeth a sefydliadau hierarchaidd er mwyn wneud hyn. Nid oes modd brwydro dros yr iaith trwy ail-greu’r systemau sydd yn ei lladd.
Rhaid gwrthsefyll gormes trwy wrthsefyll Seisnigeiddio; rhaid gwrthsefyll Seisnigeiddio trwy wrthsefyll gormes. Nid oes llywodraeth yng Nghymru Rydd!
mae gan anarchwaethus sawl geg
A dydyn nhw ddim yn gytuno ar bopeth! Os hoffech gyfrannu erthygl, gelf neu rywbeth tebyg, gyfrannu i’r prosiect mewn rhyw ffordd arall neu jest clepran, cysylltwch â ni.