“Lladd y Gwryw Gormesol er mwyn y Gymru Chwyldroadol”

Darn gan Elliw Jones sy’n dwyn ysbrydoliaeth o’r chwyldro yn Rojava, gan alw am newid syfrdanol i’n mudiadau yng Nghymru. // Piece by Elliw Jones drawing inspiration from the Rojava revolution and calling for foundational changes to our movements in Wales. English below.

Lladd y Gwryw Gormesol er mwyn y Gymru Chwyldroadol

Ceir offerynnau o fewn y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd gyda’r posibilrwydd o roi diwedd ar atgynhyrchu gormes yn ein grwpiau.

12345

Sut mae modd inni strwythuro ein grwpiau, gan ymladd dros gymdeithas gyfartal, heb barhau â’r systemau gormesol rydyn ni ein hunain yn gynhyrch ohonynt? Mae byw mewn byd goruchafiaethol gwyn, hynod unigolyddol a phatriarchaidd yn golygu, hyd yn oed wrth i ni alw ein hunain yn ffeministiaid, yn wrth-hiliol ac yn gynghreiriaid i bawb sy’n dioddef rhaib cyfalafiaeth, bod byw a bod y pethau yma yn fater arall yn llwyr.

Ar ôl degawd a mwy o ymwneud â mudiadau cymdeithasol yng Nghymru, gwrth-lymder, gwrth-ffasgaeth, mudiad yr iaith Gymraeg, gwrth-filitariaeth ac ati – y thema sy’n codi dro ar ôl tro yw bod pobl yn ei chael hi’n anodd iawn osgoi bod yr hyn yr ydym wedi cael ein meithrin i fod yn y byd hwn. Heb sylweddoli hynny, mae ymddygiad rhywiaethol, dosbarthaidd ac ablaidd yn rhemp – a dyma fy union brofiadau.

Ar ôl dechrau anobeithio am y ffordd y mae pobl yn trin eu gilydd, des i ar draws syniadau Abdullah Ocalan. Nid yn unig y mae ei syniadau o Gydffederaliaeth Ddemocrataidd yn cynnig llwybr i annibyniaeth radical rhag cyfalafiaeth a’r wladwriaeth, ond gallai’r teclynau a ddatblygwyd gan y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd ein hachub, hyd yn oed, rhag y gelyn mwyaf peryglus yn y chwyldro yng Nghymru – ni ein hunain.

Jineolojî – gwyddoniaeth menywod a bywyd (a jin yn golygu y ddau beth- menywod a bywyd) yw cysyniad Öcalan o ddull o wyddoniaeth, yn wahanol i’r dull gwyddonol positifaidd traddodiadol. Mae Öcalan yn cynnig mai crefyddau monotheistig, cyfalafiaeth a’r genedl-wladwriaeth yw tri gwreiddyn gormes menywod.

Mae rhyddfreinio menywod mor ganolog i’r Mudiad Rhyddid Cwrdaidd oherwydd, yn ôl theori Öcalan, dyma’r gormes gwreiddiol, yr un cyntaf a adeiladwyd arni gan bob un arall, a rhaid mynd i’r afael ag ef yn ein hunain yn gyntaf, os ydym am gyflawni chwyldro;

“Yn ystod y cyfnod Neolithig crëwyd trefn gymdeithasol gymunedol gyflawn, a elwir yn “sosialaeth gyntefig “, o amgylch menywod … Y drefn hirhoedlog hwn a luniodd ymwybyddiaeth gymdeithasol gyfunol dynoliaeth; a’n dyhead diddiwedd yw adennill ac anfarwoli’r drefn gymdeithasol hon o gydraddoldeb a rhyddid a arweiniodd at ein cysyniadu o baradwys.” Abdullah Öcalan

Defnyddir offer a strwythurau democratiaeth uniongyrchol yn y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd i ymladd patriarchaeth yn ein hunain a “lladd y gwryw gormesol (ynom ni)”. Mae’r rhain yn gyfres soffistigedig o ddulliau i symud tuag at pracsis chwyldroadol go iawn, a byddaf yn amlinellu ychydig o’r dulliau hyn yn yr erthygl hon.

Y mecanwaith cyntaf yw strwythurau benywaidd cyfochrog. Er mwyn sicrhau nad yw strwythurau tra-arglwyddiaethol patriarchaidd yn cael eu hefelychu yn y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd nac mewn cymdeithas yn gyffredinol – ar gyfer pob “strwythur” cymysg mae strwythur menywod cyfochrog wedi’i gyfansoddi o’r holl ferched sy’n cymryd rhan yn y strwythur cymysg. Yma mae gan ferched le i drafod a dwyn y dynion i gyfrif a dod benben a rhywiaeth ac ymddygiad patriarchaidd yn ein mudiadau. Mae gan y strwythurau menywod hyn y pŵer i roi feto ar benderfyniadau a wneir yn y strwythur cymysg.

Mae hyn yn berthnasol i’r strwythurau milwrol, i strwythurau ymgyrchu fel Fundiad y Menywod yn y diaspora yn Ewrop, a hefyd yn strwythurau hunan-weinyddiaeth y cymdeithasau yn Bakur a Rojava. O redeg ysgol i gasglu’r sbwriel neu benderfynu sut mae diwydiant lleol yn cael ei redeg, mae gan strwythurau y hunan-weinyddiaeth fudiad menywod cyfochrog, i gadw golwg ar ei gonestrwydd chwyldroadol.

Yr ail offeryn a ddefnyddir yn y mudiad cymysg a benywaidd yw Tekmîl. Dyma’r broses o feirniadaeth adeiladol a hunanfeirniadaeth. Gall derbyn beirniadaeth fod yn anodd iawn, yn enwedig i ni a fagwyd yn yr oes neoliberal hon o unigolyddiaeth, ond mae’n hanfodol i unrhyw mudiad iach ddelio â’n gwrthdaro ac i’n helpu i ddatblygu’n bobl a chwyldroadwyr gwell (gallai deimlo’n chwithig i ddefnyddio’r gair chwyldroadol ond gyda’r blaned yn llosgi a chyflwr presennol y byd dwi ddim yn meddwl y gallwn ni falu awyr am yr hyn rydyn ni ei eisiau).

Yn y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd, mae beirniadaeth yn rhodd sy’n dangos bod eich cymrodor wir yn poeni amdanoch chi a’ch datblygiad. Clywais stori am grŵp o ymladdwyr yn y mynyddoedd yng Nghwrdistan na fyddai’n beirniadu ei gilydd. Dywedodd eu rheolwr wrthyn nhw:

“Naill ai rydych chi i gyd yn berffaith – neu dydych chi ddim yn gymrodyr da iawn os na allwch chi feirniadu’ch gilydd.”

Mae Tekmîl yn troi’r cysyniad o feirniadu o fod yn ymosodiad ar yr unigolyn i fod yn weithred o gymrodoriaeth a chyfeillgarwch. Wedi dweud hyn, nid yw mor syml â bwrw eich bol gyda rhywun sydd wedi eich cythruddo mewn Tekmil. Mae’n gelfyddyd: nid dinistrio rhywun yw’r nod, ond eu helpu’n fedrus i adeiladu eu hunain.

Er enghraifft, ni fyddai rhywun yn casglu camgymeriadau pobl yn eu meddwl i’w cywilyddio’n gyhoeddus mewn Tekmîll; yn ddelfrydol dylech ddweud wrth y person pan fyddwch chi’n ei ystyried yn fwyaf agored i’r awgrym, ac yn fwyaf parod i dderbyn y feirniadaeth.

Pwrpas dod a fater i Tekmil fyddai i eraill ddysgu ohono, ac efallai os ydych chi’n teimlo nad yw’r feirniadaeth wedi’i hystyried, ac os oedd angen mwy o anogaeth arnyn nhw i ddod o hyd i ateb i’r peth rydych chi am eu beirniadu yn ei gylch.

Nodwedd bwysig arall yw na allwch “amddiffyn eich hun” wrth gael eich beirniadu – byddai gwneud hynny yn gwadu realiti’r person arall, a’r hyn sy’n bwysig yw nad yw pobl yn ystyried y feirniadaeth mewn modd amddiffynnol, ond yn gwrando a dysgu o’r feirniadaeth a’i gweld, mewn gwirionedd, fel anrheg.

Nid cyfaddefiad mohoni chwaith. Os ydych chi’n hunan-feirniadu, mae angen i chi a’ch cymrodyr ymalfalu am atebion i’ch problemau a’r patrymau dinistriol yn eich cymeriad. Dylai beirniadaeth fod yn seiliedig ar atebion. Does dim i’w hennill o ymddiheuro, dim ond fel bod modd ichi y barhau â’r ymddygiad hwn. Mae yna elfennau celfydd ehangach i’r dull gwerthuso hwn, ond dyma’r syniad bras.

Y trydydd dull yw’r system o gwotâu cynrychioliadol a chyd-gadeiryddion. Rhaid bod gan bob strwythur gwota o ferched yn cymryd rhan i’w wneud yn strwythur dilys, ac yn ychwanegol at hyn rhaid cael cyd-gadeirydd gwrywaidd a benywaidd mewn unrhyw strwythur penodol. Mewn ardaloedd o amrywiaeth ethnig, mae’r cwotâu hyn a’r system cyd-gadeiryddion hefyd yn cynnwys cwotâu i gynrychioli’r lleiafrifoedd hyn. Mae pwyslais hefyd ar geisio dod i gonsensws (anffurfiol) lle bynnag y bo modd, gan ei bod yn hawdd diystyru lleiafrifoedd yn y ffurf “bleidleisio” draddodiadol o wneud penderfyniadau, a gwthio i’r neilltu eu barn ynghylch iaith neu unrhyw beth arall o ganlyniad.

Mae croestoriadaeth wedi bod yn offeryn sydd wedi ein helpu i allu deall gorthrymderau ein gilydd yn well – mae’r taclau o’r Mudiad Rhyddid Cwrdaidd yn ein hannog i ddelio’n systemataidd a chyson â’r gorthrymderau sy’n bla ar ein mudiadau cymdeithasol. Mae cyfalafiaeth yn ein defnyddio fel cwndid i gario ei wenwyn i’n bywydau bob dydd, gan niweidio ein perthnasoedd a’n rhannu oddi wrth ein gilydd. Yn ôl y Mudiad Rhyddid Cwrdaidd, mae 99% o’r frwydr yn erbyn y system o fewn ein hunain – i ddeall yr holl ffyrdd y mae cyfalafiaeth a rhyddfrydiaeth wedi ein llenwi ag ideolegau dinistriol, ac i’w chwynnu.

Mae’r syniadau hyn wedi cynnig gobaith i mi o safbwynt dyfodol y frwydr dros gyfiawnder a rhyddid yng Nghymru, a gobeithiaf bod y syniadau hyn yn ein cymell i ystyried yr angen am newid ar draws y mudiad rhyddid a’r chwith.

Ymysg yr holl mudiadau cymdeithasol rydw i wedi bod yn rhan ohonyn nhw, mae patriarchaeth yn rhemp. O gael ei ddominyddu i dawelwch mewn cyfarfodydd, i gael dynion yn cracio jôcs a chwerthin pan mae menyw yn ceisio cyflwyno gweithdy ar groestoriadaeth. O ganolfannau cymdeithasol radical yn gwrthod delio â digwyddiadau o drais rhywiol yn eu lleoliadau, i grwpiau Sosialaidd sy’n goddef ysglyfaethwyr rhywiol. O weithdai yn defnyddio menywod ar gyfer yr holl waith atgynhyrchu cymdeithasol anweledig, tra bod y dynion yn cael gwneud y gwaith gweladwy, diddorol a chyhoeddus. O fod Mamau yn cael eu heithrio o bopeth oherwydd diffyg ymrwymiad gan eraill, i gael dynion hŷn yn gyson yn eich trin fel darn o gig, yn ymddwyn yn nawddoglyd neu eich anwybyddu pan fyddwch chi’n rhyngweithio â nhw yn y mudiad. Ni all hyn barhau. Os ydym am adeiladu mudiadau chwyldroadol o ddifrif rhaid cymryd camau radical i fynd i’r afael a hyn.

Ar ôl 800 mlynedd o wladychu, mae strwythurau patriarchaeth yng Nghymru wedi cael gafael arnom yn dynn. Rwy’n teimlo bod “‘cymhleth y taeog” o ganlyniad i’r cymhathu a’r gwladychu hwn wedi ein gyrru hyd yn oed ymhellach i ffwrdd o’r “sosialaeth gyntefig” a fyddai’r gymdeithas naturiol i ni i gyd. Gellid dadlau bod deddfau Hywel Dda yn llawer mwy blaengar; go brin bod Cymru erioed yn “Wladwriaeth Genedl” ond yn gymunedau a oedd yn rhannu’r un iaith a diwylliant. Rwy’n teimlo bod gwladychu yn cyflymu patriarchaeth, ecsbloetio a gormes, ac os ydym ni yng Nghymru yn gweld annibyniaeth Cymru o fewn patrwm ehangach o frwydr ddad-wladychol, mae’n rhaid i ni ymdrechu i ddadwladychu ein hunain a’n cymrodyr – yn enwedig o ystyried, yn ogystal â chael ein gwladychu, mae rhai Cymru wedi bod yn wladychwyr brwd ac wedi cydweithredu ac elwa o’r Ymerodraeth Brydeinig gwaedlyd.

Mae gan y dulliau pracsis hyn y potensial i fod yn ddewis amgen i’r “diwylliant galw allan” y cyfryngau cymdeithasol – er mwyn mynd i’r afael â mater atgynhyrchu gormes yn ein sefydliadau a’n mudiadau. Nid ymgais yn unig mohoni i chwynnu ymddygiadau gormesol yw hyn. Os nad yw grŵp yn cynrychioli’r gymuned mew modd digonol, ni fydd y mudiad yn ei ystyried yn grŵp cyfreithlon – mae dannedd i’r dull hwn. Un enghraifft yw grŵp ecolegol a ffurfiwyd mewn dinas Cwrdaidd yn nhalaith Twrci – nid oedd digon o fenywod yn y grŵp felly nes bod gan y grŵp gynrychiolaeth fwy cyfartal, ni fydd yn cael ei ystyried yn gyfreithlon.

Mae gennym gymaint i’w ddysgu o’r Mudiad Rhyddid Cwrdaidd a’r Chwyldro yn Rojava. Mae ein dulliau hyd yma wedi ein methu, ac mae’n bryd inni ystyried ffurfiau newydd o drefnu.


Killing the dominant Male for a Revolutionary Wales

The Kurdish Freedom Movement’s tools to end the reproduction of oppression in our groups.

How do we structure our groups, fighting for an equal society without perpetuating the oppressive systems of which we ourselves are products? Living in a highly individualistic, patriarchal and white supremacist world means that even as we call ourselves feminists, anti-racists and allies to all those who suffer the brunt of capitalism, living this is an other matter completely.

After over a decade involved in social movements in Wales, anti-austerity, anti-fascism, the Welsh language movement, anti-militarism etc – the recurring theme is that people find it really difficult to avoid being what they were brought up to be in this world. Without realising, sexist, classist and abelist behaviour is rampant – and these are just from my experiences.

Having started to feel hopeless about the way people treat each other I came across the ideas of Abdullah Ocalan. Not only are his ideas of Democratic Confederalism a roadmap to radical independence from capitalism and the state, but the tools developed by the Kurdish Freedom Movement could even save us from the most dangerous enemy in the Welsh revolution – ourselves.

Jineolojî – the science of women and life (jin meaning woman and life) is Öcalan’s conception of a form of science opposed to the traditional positivist scientific method. Öcalan identifies monotheistic religions, capitalism and the nation state as three roots of women’s oppression.

Women’s emancipation is so central to the Kurdish Freedom Movement because, according to Öcalan’s theory, it is the first oppression that all others were built upon, and it must be addressed within ourselves first if we are to achieve revolution;

“During the Neolithic period a complete communal social order, so called “primitive socialism”, was created around woman… It is this long-lasting order that shaped humanity’s collective social consciousness; and it is our endless yearning to regain and immortalise this social order of equality and freedom that led to our construct of paradise”. Abdullah Öcalan

The tools and structures of direct democracy in the Kurdish Freedom Movement are used to fight patriarchy within ourselves and “kill the dominant male (in us)”. These are a sophisticated series of methods to move towards a real revolutionary praxis and I will outline a few of these methods in this article.

The first mechanism is the parallel women’s structures. To make sure patriarchal structures of domination are not replicated in the Kurdish Freedom Movement and in society in general – for every mixed “structure” there is a parallel women’s structure made of all the women that participate in the mixed structure. Here women have the space to discuss and hold the men to account and call out sexism and patriarchal behaviour. These women only structures even have the power to veto decisions taken in the mixed structure.

This applies from the military structures, to campaign structures like the Women’s Movement in Europe and also in the self administration structures of the societies in Bakur and Rojava. From running a school to collecting the rubbish or deciding how local industry is run, the structures of self administration have a parallel women’s movement to keep its revolutionary integrity in check.

The second tool that is used both in the mixed and Women’s movement is Tekmîl. This is the process of constructive criticism and self criticism. Accepting criticism can be very difficult, especially for us brought up in this neoliberal age of individualism, but it is essential for any healthy movement to deal with our conflict and to help us develop into better people and revolutionaries (it might feel jarring to use the word revolutionary but with the planet burning and the current state of the world I don’t think we can mince words any more about what we want).

In the Kurdish Freedom movement, a criticism is a gift that shows that your comrade really cares about you and your development. I heard a story from a friend about a group of fighters in the mountains in Kurdistan that wouldn’t criticize each other. Their commander told them:

“Either you’re all perfect – or you’re not very good comrades if you can’t criticize each other.”

Tekmîl turns the concept of criticising from being an attack on the individual to being an act of comradeship and friendship. Having said this, it’s not as simple as just having it out with someone who’s annoyed you in a Tekmil. It’s an art, the aim is not to destroy someone, but to skillfully help them build themselves up.

For example, one wouldn’t store up people’s mistakes in their mind to shame them publicly at a Tekmîll, ideally you should tell the person when you deem it most appropriate, when the person would be most receptive to the criticism. The purpose of bringing it to Tekmil would be for others to learn from it, and perhaps if you feel the criticism hasn’t been taken on board and if they needed more encouragement to find a solution to the thing you want to criticise them about.

Another important feature is that when being criticised, you can’t “defend yourself” – doing so somewhat denies the other person’s reality and what’s important is that people are not thinking about being defensive – but really listening and learning from the criticism and seeing it as a gift.

Neither is it like a confession. If you self criticize, you and your comrades need to come up with solutions to your problem. Criticism should be solution-based. It’s no good doing it to apologise just so that you can carry on with this behaviour. I won’t be able to express the nuances of this method of evaluation here, but this is the rough idea.

The third method is the system of representative quotas and of co-chairs. All structures must have a quota of women participating to make it a valid structure, and in addition to this there must be a male and female co-chair in any given structure. In areas of ethnic diversity, these quotas and the co-chair system also contain quotas to represent these minorities. There is also an emphasis on trying to reach an (informal) consensus wherever possible, since minorities in the traditional “voting” form of decision making can easily be outvoted and their opinions regarding language or anything else marginalised as a result.

Intersectionality has been a tool that has helped us to be able to understand one another’s oppressions better – the tools from the Kurdish Freedom Movement guide us to strategically and systematically deal with the oppressions that plague our social movements. Capitalism uses us as a conduit to carry its poison into our everyday lives, damaging our relationships and dividing us from one another. According to the Kurdish Freedom Movement, 99% of the fight against the system is within ourselves – to understand all the ways that capitalism and liberalism have filled us with destructive ideologies, and to root those out.
These ideas have given me hope for the future of the struggle in Wales for justice and freedom, I hope that these ideas provoke us to consider the need for change across the Welsh left  and national liberation movement.

Across all the social movements I have been involved in, patriarchy is rife. From being dominated into silence at meetings to having men crack jokes and giggle when a woman was trying to deliver a workshop on intersectionality. From radical social centres refusing to deal with occurrences of sexual violence in their spaces to Socialist groups tolerating sexual predators. From collectives using women for all the invisible social reproduction work while the men get to do the visible, interesting and public facing work. From Mothers being excluded from everything because of a lack of commitment from others to constantly having older men objectify, patronise or ignore you when you interact with them in the movement – this can’t go on.

After 800 years of colonisation, the structures of patriarchy in Wales have taken a stranglehold. I feel like “cymhleth y taeog” (the peasant complex) as a result of this assimilation and colonisation has driven us even further away from the “primitive socialism” that would be the natural society for us all. Hywel Dda’s laws were arguably much more progressive; Wales was hardly ever a “Nation State” but communities that shared the same language and culture. I feel that colonisation accelerates patriarchy, exploitation and oppression, and if we in Wales see Welsh independence within the paradigm of a de-colonial struggle, we have to struggle to decolonise ourselves and our collectives – especially given that as well as being colonised, some Welsh people have been enthusiastic colonisers and collaborated and benefited from the murderous British Empire.

These methods of praxis have the potential to be an alternative to the toxic “call out culture” of social media, to really get to grips with the issue of the reproduction of oppression in our organisations and movements. This is not just the nurturing out of oppressive behaviours. If a group does not represent the community adequately, it will not be considered a legitimate group by the movement – this method has teeth. One example is of an ecological group formed in a Kurdish city within the Turkish state – there were not enough women in the group so until the group has more equal representation, it would not be considered legitimate.
We have so much to learn from the Kurdish Freedom Movement and the Revolution in Rojava. Our methods thus far have failed us and it’s time for us to consider new forms of organising.

Gwnewch y pethau bychain

Wedi pythefnos o hir-fyfyrio ar ein Neges Dydd Gŵyl Dewi, dyma anarchwaethus yn edrych nôl ar un o ddigwyddiadau 2017 (y ffasgydd Richard B. Spencer yn derbyn dyrnod llaw dde, 20fed o Ionawr) ac yn ystyried ei arwyddocâd ysbrydol i’n cenedl yn ein horiau dyrys, gan ei gyfleu mewn modd gweledol a thrawiadol.

Ys wedodd Dewi Sant, “Bydwch lawen a chedwch ych ffyd a’ch cret, a gwnewch y petheu bychein a glywyssawch ac a welsawch gennyf i.”

Rhai eglurhadau / Some Clarifications

Scroll down to read the following in English.


Hoffa anarchwaethus amlygu rhai pwyntiau a wnaethwn yn ein herthygl “Ffasgiaid Prydeinig yn ceisio bachu Cymreictod“.

Goruchafwyr gwyn a Goruchafiaeth wen

Er bod y bachiad hwn gan ffasgiaid goruchafol gwyn Prydeinig o symbolau Cymreig yn ddatblygiad diweddar, rhaid pwysleisio bod y perthynas rhwng Cymry gwyn, gan gynnwys Cenedlaetholwyr Cymreig gwyn, a goruchafiaeth wen systematig yn un hen iawn. Ymddiheurwn am beidio â phwysleisio hyn yn fwy cadarn yn yr erthygl.

Y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffordd defnyddir y term “goruchafiaeth wen” sy’n bwysig fan hyn. Yn yr ystyr cyntaf, ideoleg wleidyddol “cydwybodol” yw goruchafiaeth wen, gan ddisgrifio grwpiau ac unigolion gwyn penodol sy’n weld eu hun yn oruchaf oblegid eu gwynder. Caiff bron pob ffasgydd a grybwyllwyd yn yr erthygl eu disgrifio, gan eu hun neu gan eraill, fel goruchafwyr gwyn (neu “genedlaetholwyr gwyn”) yn yr ystyr hon.

Yn yr ail ystyr, “system o ddominyddu” yw goruchafiaeth wen, yr “ecsploetiaeth o bobl du a phobl eraill nad yw’n groenwyn yng nghymdeithas” (bell hooks, Talking Back: Thinking Feminist, Thinking Black)[1]. Fan hyn mae’r term yn disgrifio (ac yn ymosod ar) perthynas cymdeithasol nad yw o reidrwydd yn gydwybodol. Fel pwysleisia Jessie Daniels: “Mae goruchafiaeth wen yn yr Unol Daleithiau yn egwyddor drefniadol canolog o fywyd cymdeithasol yn hytrach na fudiad cymdeithasol ynysig yn unig” (Cyber Racism: White Supremacy Online and the New Attack on Civil Rights)[2]. Mae goruchafiaeth wen systematig wrth gwrs yn hynod o berthnasol i fodolaeth goruchafwyr gwyn penodol, fel dengys Daniels ei hun.

Cymhlethdod ychwanegol yw bod goruchafwyr gwyn, yn yr ystyr cyntaf, bron wastod yn wrth-Semitaidd – mae gwrth-Semitiaeth yn rhan hanfodol o’u goruchafiaeth wen, lle bod y perthynas rhwng gwrth-Semitiaeth strwythurol a goruchafiaeth wen yn yr ail ystyr yn fwy cymhleth.

Pan ddefnyddiodd anarchwaethus goruchafiaeth a goruchafol wyn yn yr erthygl, defnyddia hi yn ystyr cyntaf y term, gyda’r eithriadau o’r 32ain a’r 34ain troednodyn. Dylswn ni wedi egluro hyn, neu ddefnyddio term arall megis cenedlaetholwyr gwyn, ac rydym yn flin am beidio. Gan ystyried yr hyn a ddadleuwn dylswn ni wedi bod yn gliriach ar y mater. Ymddiheurwn am hyn.

Yn gyffredinol, defnyddir ffasgiaeth, yng nghyd-destun gwrth-ffasgiaeth, mewn modd cul yn debyg i’r disgrifiad uchod o oruchafiaeth wen yn yr ystyr cyntaf. Er bod ffasgiaeth yn yr ystyr yma wrth gwrs yn gysylltiedig i ac yn rhan o ddominyddu systematig, gan gynnwys goruchafiaeth wen systematig a gwrth-Semitiaeth strwythurol, defnyddir hi yma i briodoli grwpiau, ideolegau a gwladwriaethau penodol ac yn y blaen, gyda nifer ohonynt yn hunan-ddisgrifio fel ffasgiaid.

Yn y modd cul hwn defnyddiodd anarchwaethus y term ffasgiaeth yn yr erthygl. Serch hyn hoffwn bwysleisio nad ydym yn credu taw dyma’r unig ffordd gellid neu ddylsid defnyddio’r term.

Goruchafwyr gwyn Prydeinig a goruchafiaeth wen Gymreig

Ffocws yr erthygl oedd y datblygiad diweddar hwn rhwng ffasgiaid Prydeinig a symboliaeth Cymreig. Gellid dim ond gwneud hyn trwy siarad am hiliaeth – olrheiniodd anarchwaethus y bachiad o symbolau Celtaidd gan oruchafwyr gwyn byd-eang (yn yr ystyr cyntaf). Gerllaw defnydd tocenistaidd o’r iaith Gymraeg a chipio symbolau Cymreig, bachwyd symbolau a hanesion Cenedlaetholdeb Cymreig gan rai ffasgiaid Prydeinig diweddar. Fan yma fe bwysleisiodd anarchwaethus nad yw Cenedlaetholdeb Cymreig erioed (hyd yn hyn) wedi cymryd ffurf ffasgaidd, goruchafol gwyn (eto, yn yr ystyr cyntaf). Yn debyg, ni chafodd Cymru erioed cyfundrefn ffasgaidd goruchafol gwyn cynhenid Cymreig a Chymraeg. Mae pob math o gyfundrefn, gan gynnwys testunau’r erthygl, wedi bod yn Prydeinllyd, os nad Seisnigaidd hyd y bywyn.

Dydi hyn ddim yn golygu nad yw Cymry gwyn (gan gynnwys Cenedlaetholwyr Cymreig gwyn) yn rhan complisit o oruchafiaeth wen systematig yn yr ail ystyr. Dydi hi ddim chwaith yn golygu bod Cymru yn wag o wrth-Semitiaeth strwythurol. Crybwyllwyd hyn yn yr erthygl (er nid trwy’r termau hyn).[3] Dylswn ni wedi pwysleisio hyn fwy wrth ystyried ein dadl, ac ymddiheurwn am beidio gwneud hyn.

Mae anarchwaethus wedi ceisio pwysleisio’r pwyntiau hyn yn erthygl uniaith Gymraeg arall. Fel dywedai Charlotte Williams, mae yna dueddiad ymysg Cymry gwyn i anwybyddu hiliaeth yng Nghymru, fel petai e’n gorffen ger y ffin. Caiff hanes caethfeistri Cymreig, gwladychwyr Cymreig, terfysgoedd hiliol yn erbyn pobl nad oedd yn wyn ac Iddewon, cyfraniadau i’r prosiect Imperialaidd Prydeinig, mentrau gwladychol “annibynnol” megis Patagonia a hiliaeth pob dydd yng Nghymru ei dileu yn feunyddiol. Hyd yn oed pan ymosoda Genedlaetholdeb Cymreig ar Brydeindod a hanes yr ymerodraeth Brydeinig, mae ganddo dueddiad cyfleus i anghofio’r gorffennol hwn. Ond y gorffennol hwn ffurfia’r Gymru lle cawn fyw.

Mae’r perthynas rhwng Cymru a goruchafiaeth wen systematig yn rwystr sylweddol i unrhyw berson gwyn sy’n dymuno arddel Cymreictod radical heddiw – fel gwnaiff anarchwaethus. Fel dadleuwn cynt, ni chawn Gymru Rydd nes i ni ddymchwel dominyddiaeth systematig, gan gynnwys hiliaeth. Nid yw anarchwaethus yn honni deall sut ddaw’r fath dymchweliad.

Cenedlaetholdeb(au) Cymreig presennol a hanesyddol

Hoffa anarchwaethus pwysleisio bod ein perthynas i genedlaetholdeb Cymreig yn un o feirniadaeth gartrefol. Fel anarchiaid yn erbyn gwladwriaethau, ni dderbynnir ein safiad fel un cenedlaetholgar gan y rhan fwyaf o genedlaetholwyr Cymreig. (Yn debyg, ni dderbynnir ein safiad yn un anarchaidd gan rai anarchiaid oblegid ein hagwedd i’r “cwestiwn cenedlaethol”. Wastod ar y tu fas…) Gellid cymharu ein perthynas i “genedlaetholdeb Cymreig” i berthynas anarchydd frwydr-ddosbarth i “sosialaeth”, neu anarchydd gwrthryfelgar i’r Red Army Faction.

Nid amddiffyniad o genedlaetholdeb Cymreig hanesyddol oedd bwriad yr erthygl. Yn hytrach, lle drafodwn genedlaetholdeb Cymreig, roeddem yn mynnu nad ffasgaidd oedd ei ymddangosiadau cyfundrefnol cyn belled. Nid yw hyn yn cau allan posibilrwydd ffasgiaeth Gymreig ddi-Brydeinig yn y dyfodol, na chwaith yn golygu bod y fath bachiad o Gymreictod gan ffasgiaid Prydeinig heb wenwyn. Rhaid ymosod ar ffasgiaeth, pa bynnag baner y codant. Rhaid hefyd ymosod ar y bachiad hwn o symbolau Cymreig gan ffasgiaid Prydeinig. Fel gwrth-ffasgiaid Cymreig mae digon i wneud. Dewch i ni fynd ati!




anarchwaethus would like to clarify certain points made in the article “British fascists try to appropriate Welsh symbols”.

White supremacists and white supremacy

We want to emphasise that whilst the appropriation by British white supremacist fascists of Welsh symbols is a recent development, the relation of white Welsh people, including white Welsh nationalists, to systematic white supremacy is not. We apologise for not emphasising this more strongly in the article.

The difference here lies between two ways in which the term “white supremacy” is used. The first sense is white supremacy as a “conscious” political ideology, describing certain white individuals and organisations who regard themselves as superior because of their whiteness. Almost all of the fascists mentioned in the article would describe themselves and be described as white-supremacists (or “white nationalists”) in this sense.

The second sense is white supremacy as a “system of domination”, the “exploitation of black people and other people of color in this society” (bell hooks, Talking Back: Thinking Feminist, Thinking Black). Here the term describes (and attacks) a social relationship which isn’t necessarily conscious. As Jessie Daniels puts it: “White supremacy in the United States is a central organizing principle of social life rather than merely an isolated social movement” (Cyber Racism White Supremacy Online and the New Attack on Civil Rights). The existence of particular, overt white supremacists is of course intimately related to this systematic white supremacy, as Daniels herself demonstrates.

An added complication is that white supremacists, in the first sense, are almost invariably anti-Semitic – anti-Semitism is an essential aspect of their white supremacism, whereas the relationship between white supremacy in the second sense and structural anti-Semitism is more complex.

When anarchwaethus used white supremacy and supremacist in the article, it was using it in the first sense of the term, with the exceptions of the 32nd and 34th footnote. We should have clarified this, or used a different term such as white nationalists, and we are sorry that we didn’t. Considering the points we were making we should have been more clear. We apologise for this.

Fascism, in the context of anti-fascism, is generally used in a narrow way similar to white-supremacist in the first sense described above. Whilst fascism in this sense is of course connected to and a part of systematic domination, including systematic white supremacy and structural anti-Semitism, it is again used here to refer to particular groups, ideologies, states etc., many of which self-describe themselves as fascist.

This narrow definition was how anarchwaethus was using the term fascism in the article. We would like to stress however that we don’t think this is the only way the term can or should be used.

British white supremacists and Welsh white supremacy

The article’s focus was this recent development between British fascists and Welsh symbolism. This can only be done by talking about racism – anarchwaethus traced the appropriation of Celtic symbols by white supremacists worldwide (in the first sense). Alongside tokenistic use of the Welsh language and taking Welsh symbols, some recent British fascists have appropriated Welsh Nationalist symbols and histories. anarchwaethus here stressed that Welsh Nationalism has never yet taken a fascist, white-supremacist form (again, in the first sense). Likewise, Wales has never yet had a native Welsh and Welsh speaking white-supremacist fascist organisation. All such organisations, including those that were the subject of the article, have on the contrary had Britishness, if not Englishness, at their core.

This does not mean however that white-Welsh people (including white Welsh nationalists) are not a complicit part of systematic white supremacy in the second sense. Nor does it mean that Wales is devoid of structural anti-Semitism. We pointed towards this in the article (albeit not using these terms). [3] We should have emphasised it more considering the point we were making, and we are sorry that we didn’t.

anarchwaethus has tried to emphasise these points in another article (written in Welsh). As Charlotte Williams puts it, there is a tendency amongst white Welsh people to simply ignore racism in Wales, as if it ends at the border. The history of Welsh slave owners, Welsh settlers, local race riots against people of colour and Jews, participation in the British Imperial project, “independent” colonial ventures such as the Gwladfa in Patagonia and everyday racism in Wales are daily erased. Even when Welsh Nationalism attacks Britishness and the legacy of the British Empire, it has a tendency to conveniently forget this past. But it is this past which forms the Wales in which we live.

This relation of systematic white supremacy to Wales is a significant barrier to any white person who wishes to assert a radical Welshness today – as anarchwaethus does. As we have previously argued, there is no Free Wales until systematic dominations, such as racism, are abolished. anarchwaethus does not claim to understand how this abolition will take place.

Existing and historic Welsh Nationalism(s)

anarchwaethus would like to emphasise that our relation to existing and historic Welsh nationalism is intimately critical. As anarchists against states, many Welsh nationalists would not accept our position as nationalist.[4] (Likewise, our stance on the “national question” means that some anarchists would not accept our position as anarchist. Wastod ar y tu fas…) Our relation to “Welsh nationalism” might compare to a class-struggle anarchist’s relation to “socialism”, or an insurrectionary anarchist’s relation to the Red Army Faction.

We did not intend the article to be a defense of historic Welsh nationalism. Rather, where we discussed Welsh nationalism, it was to assert that its organisational manifestations cannot, so far, be described as fascist. This doesn’t rule out a future non-British Welsh fascism, nor does it mean that these appropriations of Welshness by British fascists aren’t toxic. Fascism, whatever banner it raises, must be attacked. This recent appropriation by British fascists of Welsh symbols must also be attacked. As Welsh antifascists there’s a lot to be done. Dewch i ni fynd ati!


Nodiadau / Notes

[1][2] Cyfieithiad anarchwaethus – gwelwch y Saesneg uchod am y dyfyniadau gwreiddiol.

[3] Yn y paragraff “Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu bod Cymru yn genedl radical o’i hanfod heb hiliaeth na gorthrymder, fel cred rhai Cymry gwyn naïf…” ac hefyd yn y troednodyn “Rhaid, wrth siarad am yr hanes hwn o ran enedlaetholdeb Cymreig, peidio ag anwybyddu hanesion hiliol yng Nghymru, yn enwedig rôl nifer o Gymry yn yr ymerodraeth Brydeinig.” / In the paragraph, “Of course, this does not mean that Wales is some essentially radical nation without racism or oppression, as some niaive white Welsh people believe…” and also in the footnote “We must, whilst talking about this history regarding Welsh nationalism, not ignore racist histories in Wales, in particular the role of many Welsh people in the British empire.”

[4] Serch hyn, ma ychydig o hanes o affinedd neu hyd yn oed uniad rhwng rhai gwerinaethwyr Cymreig asgell-chwith ac anarchiaid. Gwelwch, er enghraifft, hanesion Ian Bone neu Dafydd Ladd. / All the same, there is a sparse history of affinity and even convergence between some left-wing Welsh republicans and anarchists. See for example, the histories of Ian Bone or Dafydd Ladd.

Na i IPP, Na i Bwerdy Aberddawan, Na i Trump!

Ar ddiwedd mis Ionawr cafwyd nifer o brotestiadau ledled Cymru. Dyma anarchwaethus yn dathlu hyn ac yn bwrw golwg arnynt.

Chwalwch “IPP”! Protest tu fas i Swyddfa Profiannaeth Caerdydd

Cafwyd protest yn erbyn y ddeddf ormesol “Imprisoment for Public Protection” yng Nghaerdydd ar y 24ain o Ionawr.

ChwalwchIPP
Protestwyr yn dangos unoliaeth â charcharorion “IPP”

Mae “IPP” yn cadw carcharorion yn y jail, neu yn eu gorfodi nôl yno ar ôl iddynt gwpla cyfnod eu dedfryd. Bu’r gwrthdystiad dros garcharorion Shaun Lloyd, Kiya Smith a phawb arall sy’n dioddef gan y ddeddf aruthrol yma. Cafwyd dwndwr tu allan i Swyddfa Profanniaeth Caerdydd cyn martsio lawr Stryd y Frenhines gan ledu taflennu ag esbonio i wylwyr ar y stryd.

Chwalwch bob caets!

Protest Dros Gau Bwerdy Aberddawan

Ar yr 28ain o Ionawr bu gwrthdystiad yn erbyn pwerdy glo Aberddawan. Mae llosgi glo yn lladd y byd, ac yn lladd yn ein cymunedau ni. Mae Aberddawan yn dibynnu yn ogystal ar glo-brig yng Nghymru, sydd yn distriwio ein mynyddoedd ac yn niweidio ein hiechyd. Braf yw gweld pobl yn protestio yn ei erbyn felly. Cynhaliwyd y brotest gan sawl grŵp gwahanol, gan gynnwys Reclaim the Power, United Valleys Action Group, Bristol Rising Tide, Coal Action Network ag eraill. Gan ddilyn eu bwriad am y diwrnod, gorymdeithiodd rhyw 150 o bobl o gwmpas y pwerdy.

Yn Rhagfyr 2016 cauwyd mynedfa i’r pwerdy gan Reclaim the Power. Mae angen gweithredu uniongyrchol fel hyn arnom nawr, er ein lles ni ac er lles ein planed. Bwriadwyd i’r brotest yn Ionawr fod yn un groesawgar i deuluoedd, ac yn sicr mae angen creu gwagleoedd diogel yn ein protestiadau – yn enwedig i rai nad yw’n dymuno bod yn rhan o helynt. Ond nid yw anarchwaethus yn credu bod rhaid i hyn cau allan gweithredu uniongyrchol, na chwaith bod angen i drefnwyr rhaglunio gweithredoedd y protestwyr ymlaen llaw. Rhaid cadw protestiadau yn agored, nid cau allan posibiliadau allan. Gallwn wneud hyn a hefyd gofalu am ein gilydd. [1]

AtalglawddAberddawanRhagfyr2016
Gweithredu uniongyrchol: aelodau o “Reclaim the Power” yn cau mynedfa pwerdy Aberddawan yn Rhagfyr 2016

Yn olaf, mae gan anarchwaethus amheuon ynghylch alwadau rhai o’r grwpiau hyn am “swyddi gwyrdd” a “buddsoddiadau” yn egni gwyrdd, gan gynnwys egni llanwol (“tidal”) ym mae Abertawe. Rhaid i ni chwalu cyfalafiaeth, nid mynnu cyfalafiaeth werdd! Dylse pawb cael eu bara beunyddiol heb orfod gweithio am ryw gwmni neu i’r llywodraeth. Gall cyfalafiaeth “werdd” strwa’r amgylchedd a chymunedau mewn ffyrdd amgen. Mae pryderon ynghylch egni llanwol yn enwedig o ran hyn. Rhaid mynnu egni gwyrdd nid yn nwylo’r cyfalafwyr neu’r gwladwriaethau, ond yn ein dwylo ni ein hunan. Paneli solar ar ben sgwatiau, tyrbeinu awyr sydd yn rhoi egni heb gost yn uniongyrchol i’r gymuned, tanwydd pren cynaliadwy i bawb, meddiannu tir i ni gyd cael tyfu llysiau. Dyna fel oedd nifer o’r prosiectau gwyrdd cyntaf cyn i gyfalaf mawr dechrau buddsoddi. Mae’n siŵr y gwed nifer taw galwadau byr dymor yw’r galwadau am swyddi gwyrdd. Ond yn lle ofyn am swyddi gwyrdd, beth am mynnu incwm sylfaenol o’r wladwriaeth i bawb? Mynnu bod pawb yn cael paneli solar am ddim (nid yn unig y dosbarth canol trwy fenthyciadau)? Mynnu pecynnau anghyflogaeth swmpus i weithwyr pwerdy Aberddawan a all cynnal nhw gyd am weddill eu bywydau?

Trump: Cer i Grafu

Yn dilyn urddfreiniad y cachwr Trump a’i ymgais i wahardd mewnfudwyr Mwslemaidd cafwyd protestiadau yn ei erbyn ar hyd Gymru. Gollyngwyd baneri ar bontydd a chynhaliwyd protestiadau ym Mangor, Aberystwyth, Aberteifi, Abertawe a Chaerdydd. Ie wir. (Yn ôl pob sôn mi roedd rhyw ddyrniad o gachwrs o blaid Trump yn bresennol yng Nghaerdydd, ond ni chawsant groeso.)

PontDyfiMachynlleth
“Y Canolbarth Dros Ffoaduriaid” yn gollwng baner dros bont Dyfi, Machynlleth

Braf iawn yw gweld cymaint o bobl grac ar strydoedd Cymru lonydd ac yn galw i groesawu ffoaduriaid ac yn dangos eu hangerdd yn erbyn Trump.

Mynna anarchwaethus bod rhaid wrth gwrs cysylltu cach Trump i’r cach yn ein gwlad ni. Mae Trump yn cynrychioli goruchafiaeth wen, imperialaeth a phatriarchaeth ymysg pethe hyfryd arall. Er i bobl protest Caerdydd gwaeddu dros ffoaduriaid ac yn erbyn hiliaeth, roedd nifer fawr yn gyfeillgar i’r heddlu yn ystod gwrthdystiadau. Na sylwant fod heddlu Prydain (gyda’r UKBA) yn erlid mudwyr yn ddyddiol, gan gyrchu eu tai yn oriau man y bore, eu cloi yng ngwersylloedd ataliad a’u hallfudo? Na sylwant fod yr heddlu mond yna i atal protestiadau effeithiol, a bod gwell ganddynt nad oedd protestiadau o gwbl? Mi roedd hefyd nifer o wleidyddion sydd o blaid y system ffiniau erchyll yn rhan o’r protestiadau gwrth-Trump.

Yn debyg, mae’n drist iawn i weld y Socialist Worker’s Party erchyll yn bresennol yn nifer o’r protestiadau hyn (a hynny heb wrthdrawiad amlwg). Mae’r SWP yn blaid sydd wedi maddeuo am drais rhywiol yn y blaid, ac yn hyn o beth yn debyg iawn i’r Trump patriarchaidd yr oedd pawb yn protestio yn erbyn.[3] Ni ddylswn rhoi croeso i neb sydd yn cefnogi treiswyr.

Daeth prif weinidog Theresa May i Gaerdydd ar y 30ain heb wrthwynebiad, cyn y brotest gwrth-Drump yn y nos, ac mae’n debyg y ceisiodd rhai, yn aflwyddiannus, trefnu protest yn ei herbyn. Mae May yn rhan o’r un drefn a Thrump. Collwyd cyfle i wrthwynebu hithau mewn ffordd nad oedd yn symbolaidd yn unig.

Unwaith eto gweithredu uniongyrchol sydd angen. Mae ymyrryd ar ymweliad May, neu atal cyrchoedd yr UKBA, neu blocio hewl (yn lle gwrando yn fodlon i areithiau gwleidyddion) yn ymosod ar strwythurau gormes mewn modd effeithiol. Cofiwn mai arf yw unoliaeth, nid gair yn unig. Dewch i ni ei ddefnyddio!

 

Nodiadau

[1] Gwelwch brotest Reclaim Brixton yn 2015 er enghraifft, lle cynhaliwyd gwagle diogel a gwrthdystiadau llonydd yn un ardal wrth i eraill cael gwrthdystiad cythryblus ym mannau eraill.

[2] Gwelwch hanes diweddar Yorkley Court yn Fforest y Ddena. Dyma oedd tir a sgwatiwyd er mwyn i bobl byw yn cynaliadwy. Roedd ganddynt baneli solar ac egni canaliadwy o ffynonellau pren. Ar ôl brwydr hir (lle lwyddodd y sgwatwyr i ddal i’r tir am gyfnod hir iawn er gwaetha ymdrechion yr heddlu a beiliffs) collant y safle. Nawr, wrth iddo dorri’r goedwig oedd yno, mae’r miliynydd a hawliodd y tir yn gosod paneli solar yn y caeau gwag er mwyn creu elw. Dyma enghraifft perffaith lle welwn y gwrthdrawiad amlwg rhwng gwrth-gyflafiaeth werdd-go-iawn a chyfalafiaeth ffug-werdd.

[3] *Rhybudd Cynnwys* Yn 2013 mi aeth yr SWP i mewn i argyfwng mawr yn sgil y ffordd wnaeth y blaid, ac yn enwedig y “central comittee” ymdrin â thrais rhywiol aelod o’r blaid. Gadawodd rhan helaeth o’r aelodau gan adael mond rhai oedd yn fodlon maddeuo am drais ar ôl. Gwelwch ddatganiad Comrade X wrth adael y blaid, neu’r crynodeb hwn o’r digwyddiadau am gefndir. Er gwaetha’r ffaith bod goroeswyr trais wedi gofyn i’r SWP peidio mynychu gwrthdystiadau a bod eu presenoldeb yn trigero nifer, maent yn parhau i fynd i brotestiadau.