Calan Mai Cymru Lonydd

Difeth irgyrs a dyfai / dyw Calan mis mwynlan Mai.

Mis Mai, Dafydd ap Gwilym

Ers terfysgoedd Haymarket bu’r Cyntaf o Fai, May Day, yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Anarchyddion oedd merthyron helynt yr Haymarket, Chicago 1886, ond dathlir gan fudiad y gweithwyr yn ei grynswth.

Mae gan Galan Mai arwyddocâd fel gŵyl Gymreig werinol yn ogystal wrth gwrs. Dyma ddechrau’r Haf a nodwyd gan ddawnsio a cherddoriaeth stwrllyd. Cafwyd “full week of Noise and Riots” yn Sain Ffagan yn ôl dyddiadur un Williams Thomas o’r 18fed ganrif, wrth i frodorion hwylus amddiffyn eu Bedwen Fai rhag pentrefi eraill â drylliau a chlybiau![1] Dyma hefyd diwrnod y Gadi Haf, fath o drawswisgwyr i’n golwg ni oedd yn “troi y byd ar ei ben” yn y rhialtwch – traddodiad a gysylltir hefyd i wrthryfel o Ferched Beca hyd at anghydfodau gweithwyr diwydiannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.[2] Dyma ŵyl y gweithwyr a’r werin felly, gŵyl ryngwladol a Chymreig.

 

Y Fedwen Fai yn Llangwm, 1920. Lle na laddwyd y traddodiad gan y Capeli, fe laddwyd yr elfennau cythryblus gan ei droi yn ŵyl barchus, fel tystia’r llun uchod. Yn debyg, ceisia’r pwerau y sydd tawelu aflonyddwch May Day. Yn wir – cynigodd y Torïaid disodli Gŵyl y Banc May Day am ddiwrnod o “Brydeindod”.

 

Ar Galan Mai pob blwyddyn ceir gorymdeithiau a therfysgoedd, anghydfod a streiciau ar hyd y byd grwn, ac nid oedd 2017 yn wahanol. Ond eleni cymharol lan a lonydd oedd Cymru fach.

Cafwyd rali a drefnwyd gan y Cardiff Trades Council yng Nghaerdydd dydd Sadwrn. Ymunwyd yr undebau sefydliadol am gyfnod gan “bloc syndicalaidd” undeb radical yr IWW, ond dawel a chymharol bychan oedd yr orymdaith o ryw gant o bobl heb fawr yn digwydd tu hwnt i areithiau. (Cyfraith a threfn, wedi’r cyfan, yw nôd trefnwyr y TUC, uwch gyfundrefn Cardiff Trades Council.) Yn hwyrach yn y prynhawn cafwyd protest mwy – miloedd yn ôl yr Wales Online – dros yr ymgyrch Save Womanby Street. Wedi i Dempseys a’r Full Moon cau a chynlluniau ymddangos dros ddatblygu gwesty Wetherspoons a fflatiau mae stryd gerddorol Womanby (sy’n gartref i Glwb Ifor Bach) dan fygythiad. Ond eto, areithiau gan wleidyddion oedd prif ffocws yr orymdaith i bob golwg, a’i lobio nhw yw prif dacteg yr ymgyrch. Yn y pen draw, boneddigeiddio sydd yn bygythio diwylliant Caerdydd a’u trigolion dosbarth-gweithiol a lleiafrifoedd ethnig. Er gwaetha eu smalio popiwlaidd, complisit yw’r gwleidyddion yn y broses hon. Gall ofyn gwleidyddion yn serchus a gorymdeithio’n taeog “achub” un stryd neu’r llall (a’u “achubiaeth” bydd Womanby costus, upmarket?), ond ni fydd yn atal boneddigeiddio.

Ar y dydd Llun cafwyd rali May Day hynod o fach yn Abertawe a drefnwyd gan Socialist Appeal, un o’r sawl holltyn Trotscïaidd. Mynychwyd gan rai o’r holltau eraill Trotscïaidd (gan gynnwys yr SWP, ymddiheurwyr trais rhywiol), Momentum a rhai eraill. Unwaith eto, areithiau, a chyfle gwerthu papurau oedd crynswth y digwyddiad. Fel arfer gorymdeithia’r undebau llafur trwy Abertawe a ddaw gannoedd i’r strydoedd, gan ddangos eu grym yn symbolaidd – os nad mewn unrhyw ffordd arall. Ond eleni ni welwyd digon o fygythiad i’r drefn i anfon dim un heddwas.

Yn y gorffennol diweddar bu heddlu Caerdydd yn hynod o dreisgar yn erbyn protestwyr ar Galan Mai. Eto, mae’n debyg mae’r etholiadau sydd ar fai am ddenu nifer o’r strydoedd eleni, wrth i undebwyr troi at ganfasi etholiadol a phawb gohirio gobaith am newid tan ar ôl yr etholiad. Sugno egni mudiadau radical wna’r system etholiadol, fel gwnaeth pleidiau Syriza a Podemos yng ngwlad Roeg a Sbaen yn dilyn yr anghydfod mawr. Buddsoddwyd cymaint o lafur, cymaint o obaith emosiynol yn y system bleidleisiol sydd yn ein ffaelu tro ar ôl tro. Dyma siom mawr. Mae gennym fwy o bŵer na ryw groes ar ddarn o bapur, ac mae’n hen bryd i ni sylwi hyn. Colled yw ceisio ennill pleidleisiau yn lle ymdrefnu a brwydro. Na. Mae angen gweithredu uniongyrchol ysbryd Haymarket arnom gymaint ag erioed. I’r gad!

 

Nodiadau

[1] Diwylliant Gwerin Morgannwg, Allan James.

[2] Am y Gadi Haf, gwelwch Geiriadur Prifysgol Cymru, neu waith Twm o’r Nant. Am barhad arfer gwisgoedd Beca, gwelwch rhai o streiciau Cwmtawe yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif.