Democratiaeth: hen gelain farw erioed

Yn yr erthygl hwn, mae anarchwaethus yn ymateb i drafodaeth am ddemocratiaeth a gafwyd ar wefan ac ym mudiad newydd Undod. Cynigir yn ysbryd solidariaeth cyng cynhadledd Undod yn Aberystwyth mis hwn.

OurDreamsCannotFitintheirBallotBoxes

Y Sanctaidd Air

Bu dipyn o son yn ddiweddar am yr hen sanctaidd air: Democratiaeth. Gwelwn yr adain-dde newydd yn hawlio ei hystyr, ac yn codi led-led Ewrop a thu hwnt dan ei baner fras. Yn enw democratiaeth, rhaid cau’r ffiniau, rhaid gwarchod siofinisiaeth yr oesoedd a fu: Trump, Brexit, … “The people have voted”. Ar y llaw arall, gwelwn y chwith yn heidio i’w hamddiffyn – rhag Boris yn cau’r Senedd, rhag Sbain yn sathru’r Catalwniaid. I’r rhain, erys y refferendwm fawr yn arf o hyd, dros hawliau erthylu neu annibyniaeth y gwledydd bychain. Yn wir, dyma a welwyd fel union crisialaeth rhyddid i Gymru fach: buddugoliaeth yn refferendwm cyfreithlon, cywir.

Hoffwn gynnig safiad amhoblogaidd, safiad na chlywir llawer mohoni yn ddiweddar. Yn fyr: i anghofio am ddemocratiaeth. Gad i’r dde ei brolio. Ni leddir ganddynt, canys ni fu’n fyw erioed. Y mae gennym rywbeth llawer gwell na gelain farw i’n hysbrydoli.

O enau’r caethfeistri

Dyma air y bathwyd, nac anghofiwn, gan gaethfeistri gwrywaidd Groeg cynhanes. Yn wir, pan atgyfodwyd gan athronwyr yr Oleuedigaeth, nid oedd mor wahannol. Pan ysgrifennodd John Locke, “tad rhyddfrydiaeth”, cyfansoddiad y Caroleinas, sicrhaodd mae’r ychydig tirfeddiannwyr a chaethfeistri oedd yn meddu ar ddemocratiaeth. Hanes tebyg oedd i gyfansoddiad yr Unol Daleithiau cyfan ychydig hwyrach. Os ydi’r “bobl” i “benderfynnu”, rhaid penderfynnu pwy yw’r penderfynnwyr, a phwy a ddiarddelir. Os siaredir am “ddinasyddiaeth” rhaid cael hefyd y “babariaid” tu hwnt i furiau’r ddinas. Nid yw Prydain fodern yn eithriad. Mi gofia Dave Datblygu’r profiad o “[f]od dan glo… pan ddaeth canlyniadau’r refferendwm datganoli. Ches i ddim pleidlais”.[1] Diarddelir carcharorion, y “gwallgof”, mudwyr sydd heb bapurau swyddogol, plant – a miliynau ein neo-drefedigaethau – rhag pleidlais. Wrth reswm, rhaid hefyd recordio, mesur a chorfrestru y dinasyddion a gynhwysir a phawb arall o fewn system wyliadwriaeth hierarchaidd er mwyn i ddemocratiaeth gweithredu o gwbl.

I’r hyn clywn ymateb ei hamddiffynwyr: onid proses annorfenedig yw ehangu’r bleidlais a democratiaeth gyfan? Dyma chwedl Habermas a’i fath: dechreuodd democratiaeth yn nhai coffi’r deunawfed ganrif, ac y mae’n ymestyn o hyd i gofleidio pawb a phopeth. Darlun hyfryd iawn. Ond ochr arall y stori ryddfrydol hon yw imperialaeth yr Orllewin – ofynodd pobl frodorol yr Americas erioed am “ddemocratiaeth” eu concerwyr (concerwyr a gipiodd eu tir er mwyn gwerthu ffa coffi drud). Mae lledu democratiaeth trwy fomio trigolion gwledydd pell yn hen ystrydeb gyfarwydd erbyn hyn. Onid oedd rhaid i’r Siartwyr, y Suffrajetiaid a phobloedd wladychiedig brwydro am y bleidlais, ebr y democratiaid unwaith eto? Mi wnaeth y chwyldroadwyr hyn felly – ymysg sawl beth arall (codi a’u harfau a meddiannu bara, yn achos y Siartwyr, bomio tai gwleidyddion yn achos y Suffrajetiaid). Anwybyddwyd hanes radical y mudiadau hyn o weithredu’n uniongyrchol er mwyn cyrraedd eu hamcanion. Anwybyddwyd hefyd y ffaith mai tacteg oedd ennill y bleidlais er mwyn cyrraedd amcan arall, ac nid amcan yn ei hun. Er gwaethaf y fuddugoliaeth hon, ni chwalwyd tlodi, patriarchiaeth na neo-wladychiaeth gan y bleidlais – ac felly gellid dweud mai dacteg ffaeledig ydyw. Yn debyg, naif iawn yw dychmygu y gall un refferendwm llwyddiannus gwrthdroi canrifoedd o wladychiad Cymru, ac effaith ddwfn Brydeindod ar ein ffordd o fyw. Heb chwyldro go iawn, mi fydd Prydeindod, yn eiriau’r chwyldroadwr James Connoly, yn ein “clymu gan fil o linynnau economaidd”. [2]

Canys rhaid penderfynnu ar beth penderfynnwyd gan “ddemocratiaeth”. Fel arfer – dewis diflas, diobaith. Rhyw ychydig o galedu, neu ychydig bach mwy. Gormes o flas gwahannol. Neu waeth fyth, rhoddwyd dewis ar yr hyn na ddylid fod yn destun trafod o gwbl, heb son am destun pleidlais. A ddylid atal hawliau i bobl traws, tybed, fel dadleuir yn y Senedd? A ddylid gwahardd Minarets Mosgiau, fel gofynnodd democratiaeth y Swistir? Neu, “a dreisiwyd y fenyw hon”, fel gofynnodd warthus bwyllgor y Socialist Workers Party? Ers diwedd y 90au, gwelwyd yr adain-dde bell (wedi iddynt gael ei curo o’r strydoedd) yn troi at y fath ddemocratiaeth parchus, a’r disgwrs democratiaeth yn troi’n surach fyth. Symudiad yr “Overton Window” a gelwir hyn gan rai. Dyma syniadau eithafol oedd yn berchyn i’r BNP yn unig ar un adeg, megis rhoi terfyn penodol ar niferoedd mudwyr, yn troi’n bolisi swyddogol y blaid Ceidwadol, a Llafur heb fod yn bell tu ol. [3]

Breuddwyd sathredig

Mae nifer yn fodlon i dderbyn gwendidau’r systemau presennol, ond yn mynnu bod modd i’w defnyddio rhyw ychydig, llaw-yn-llaw â mudiadau stryd. Ysgrifennwyd mewn erthygl diweddar ar wefan Undod am fuddugoliaeth Ada Colau (Barcelona En Comú), “Maeres Radical” Barcelona, fel enghraifft cadarnhaol i Gymru . Gwelwyd mudiadau megis Podemos, Syriza gwlad Groeg a Momentum y Blaid lafur, atgyfodiad hen freuddwyd Ewro-Gomiwnyddiaeth. Ei gobaith yw symud yr “Overton Window” hwn i gyfeiriad y chwith trwy bleidiau radical, yn debyg i sut symudwyd i’r dde gan UKIP a’i fath. Eto, gwelwn methiant a brad yn frith yn hanes y fath ymdrechion. Mi wnaeth Ada Colau, a etholwyd ar blatfform o beidio a droi bobl o’u tai, arwain cyngor oedd yn bwrw ati i efictio rhai o sgwotiau amlwg Barcellona er gwaethaf protestiadau poblogaidd [4]. Yn debyg, mi wnaeth Syriza gosod a chyfiawnhau rhaglen caledu economaidd yr IMF. Gwelwn adlais gryf o hanes Aneurin Bevan, yr etholedig-sosialydd a anfonodd beiliffs i ddigartrefi miloedd o sgwotwyr cyffredin, tra bod ei lywodraeth “Llafur” yn torri streiciau a gollwng bomiau niwclear [5]. Na, hen gelain bydredig yw’r breuddwyd o sosialaeth etholedig.

EfictioBancGarciadanFaeresColau
Yr heddlu yn efictio sgwot oedd yn cynnal canolfan gymdeithasol, yn dilyn etholiad y Faeres “radical” Ada Colau

Y mae carfan arall yn fodlon adnabod yr holl beiau hyn, ond eto yn ceisio codi baner democratiaeth unwaith eto trachefn. “Nid a wnelo ein democratiaeth o gwbl â democratiaeth yr uchod, democratiaeth y gormeswyr”, meddant. Yn hytrach cynnigant system cwbl estron iddi – democratiaeth uniongyrchol, radical, ar lawr gwlad, yn y gweithdai a’n cymunedau. Cafwyd trafodaeth diddorol ar hyn, yn dilyn cyflwyniad Huw Rees, yng nghyfarfod Undod wedi rali Merthyr. Edrychir i ardal Rojava yn y Dwyrain Canol efallai, neu i rannau o Gatalwnia yn ystod rhyfel cartref Sbain, am ddemocratiaeth “go-iawn”. Heb os, y mae gobaith yn y dehongliad a’r enghreifftiau hyn. Y mae syniadau eraill, llawn deilwng, y gellid sôn amdanynt yn y fath cyd-destun: y rhyddid i ymwneud neu beidio a system neu grŵp (freedom of association), neu benderfynnu yn araf ac yn ofalus trwy gydsyniad (consensus) yn hytrach na phleidlais cras.

Trech weithred na phleidlais!

Ond eto, y mae’r fath drafodaeth o ddemocratiaeth radical yn un haniaethol, ac mewn peryg o anwybyddu gorthrwm ein byd. Ni ellid trafod pŵer heb drafod ei strywthurau penodol: patriarchiaeth, cyfalafiaeth, hiliaeth. Daw obaith Rojava diweddar, neu Gatalwnia yn 1936, o’i weithredoedd gadarnhaol yn erbyn y gormesion hyn. Nid yw “democratiaeth radical” yn ddim heb y cyd-destun hwn. Yn wir, gwelwn fod cyfyngiadau yn frith yn yr enghreifftiau hyn er gwaetha’r holl ddemocratiaeth ar lawr gwlad. Ceir hanesion o’r chwyldro yn Gatalwnia o weithwyr yn bleidleisio – yn ei co-ops cydweithredol – i anfon gweithwyr eraill i wersylloedd llafur galed. [6] Mi roedd y “democratiaeth” yno, ond ni chwalir gwerthoedd cyfalafiaeth a phwer y farchnad. Yn debyg, mi roedd y brwydr yn erbyn patriarchiaeth yn un anodd ac anghyflawn, er gwaethaf ymdrechion chwyldroadwyr megis y Mujeres Libres. Y mae patriarchiaeth, wedi’r cyfan, yn strwythur weddol datganoledig, ar lawr gwlad, wedi’u cefnogi mewn un ffordd neu’r llall gan rhan helaeth o’r boblogaeth. Ni ellid ei diddymu gan gyngor lleol, polisi newydd na phleidlais poblogaeth. Yn lle ddehongli a dadlau dros strwythur haniaethol megis democratiaeth felly, mae’n rhaid i ni ddechrau o berspectif cwbl wahanol. Rhaid edrych ar sut grewyd ac ail-grewyd ein byd – gan ein llafur ecsbloetiedig dyddiol dan gyfalafiaeth, gan hanes a phroses parhaol gwladychiad, gan ddiwylliant ddwfn o drais rywiol yn erbyn cyrff menywod a phobl draws, ac yn y blaen. Yn bywsicach, rhaid gweithredu yn erbyn y byd hwn – gan gymryd ysbrydoliaeth o streiciau ein cyd-weithwyr, gwrthryfeloedd pobloedd brodorol a brwydrau ffeminyddol.

Nid anerchiad yw hon dros ryw wladwriaeth awdurdodol, Stalinaidd yn lle “ddemocratiaeth” fawr. I’r gwrthwyneb: dyma ddadl bod gwladwriaeth ddemocratiaidd, ryddfrydol yn debyg iawn i’r fath awdurdod totalitaraidd.[7] Ni ellid eu defnyddio i’n dibennion ein hun. Hyd yn oed pe siaradir am ddemocratiaeth radical, uniongyrchol, y mae peryg enfawr pe wnelir hyn heb ddadansoddi gormes materol, megis patriarchiaeth a chyfalafiaeth. Y mae’n rhaid chwalu’r systemau hyn ‘oll, trwy weithredu’n uniongyrchol, yn hytrach na ddymchymgu rhyw gynllun haniaethol heb gyd-destun. Un peth yw’r rhyddid i drafod a phenderfynnu, peth arall yn llwyr yw’r rhyddid i fod, i greu ac i chwyldroi ein byd.

Trech weithred na phleidlais!

Nodiadau

[1] Atgofion Hen Wanc, David R. Edwards.

[2] Labour in Irish History, James Connolly.

[3] Trafodir y broblem hon gan Fred Moten a Stefano Harney yn eu gwych-lyfryn The Undercommons. Wrth drafod goruchafiaeth gwyn, dywedant nid oedd diddymu caethwasiaeth pobl dduon yn ddigon – rhaid diddymu’r byd lle’r roedd hi’n bosib i gaethiwo’r duon yn y lle gyntaf. Yn lle democratiaeth, cynnigant yr Undercommons – y lle ddirgel hynny tu hwnt i lygaid y gormeswyr a chymdeithas sifil – fel peiriant y chwyldro.

[4] Yn ogystal i efictio sgwotiau, mi wnaeth Ada Colau cyfiawnhau ymosodiadau gan yr heddlu yn erbyn mudwyr a bradychu ei haddewid i ddiddymu’r heddlu terfysg, ymysg pethau eraill. Am wybodaeth yn Saesneg, gweler hanesion o Banc Garcia a darn Peter Gelderloos. Nid yw hi o blaid rhyddid i Gatalwnia chwaith – yn ystod helynt y refferendwm mi alwodd am ddychweliad i “normalrwydd” a “llonydd-dra cymdeithasol”.

[5] Gweler gwaith Colin Ward am weithredoedd Aneurin Bevan yn erbyn sgwoti . Ceir cyflwyniad treiddgar i hanes imperialaidd a gwrth-streicio llywodraeth Llafur y cyfnod yn y pamffled How Labour Governed, 1945-1951.

[6] Am drafodaeth ddiddorol o’r fath Gulags “syndicalaidd”, cyfyngiadau co-ops a democratiaeth yn y gweithle (“self-management”), gwelir llyfr Workers against Work Michael Seidman.

Calan Mai Cymru Lonydd

Difeth irgyrs a dyfai / dyw Calan mis mwynlan Mai.

Mis Mai, Dafydd ap Gwilym

Ers terfysgoedd Haymarket bu’r Cyntaf o Fai, May Day, yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Anarchyddion oedd merthyron helynt yr Haymarket, Chicago 1886, ond dathlir gan fudiad y gweithwyr yn ei grynswth.

Mae gan Galan Mai arwyddocâd fel gŵyl Gymreig werinol yn ogystal wrth gwrs. Dyma ddechrau’r Haf a nodwyd gan ddawnsio a cherddoriaeth stwrllyd. Cafwyd “full week of Noise and Riots” yn Sain Ffagan yn ôl dyddiadur un Williams Thomas o’r 18fed ganrif, wrth i frodorion hwylus amddiffyn eu Bedwen Fai rhag pentrefi eraill â drylliau a chlybiau![1] Dyma hefyd diwrnod y Gadi Haf, fath o drawswisgwyr i’n golwg ni oedd yn “troi y byd ar ei ben” yn y rhialtwch – traddodiad a gysylltir hefyd i wrthryfel o Ferched Beca hyd at anghydfodau gweithwyr diwydiannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.[2] Dyma ŵyl y gweithwyr a’r werin felly, gŵyl ryngwladol a Chymreig.

 

Y Fedwen Fai yn Llangwm, 1920. Lle na laddwyd y traddodiad gan y Capeli, fe laddwyd yr elfennau cythryblus gan ei droi yn ŵyl barchus, fel tystia’r llun uchod. Yn debyg, ceisia’r pwerau y sydd tawelu aflonyddwch May Day. Yn wir – cynigodd y Torïaid disodli Gŵyl y Banc May Day am ddiwrnod o “Brydeindod”.

 

Ar Galan Mai pob blwyddyn ceir gorymdeithiau a therfysgoedd, anghydfod a streiciau ar hyd y byd grwn, ac nid oedd 2017 yn wahanol. Ond eleni cymharol lan a lonydd oedd Cymru fach.

Cafwyd rali a drefnwyd gan y Cardiff Trades Council yng Nghaerdydd dydd Sadwrn. Ymunwyd yr undebau sefydliadol am gyfnod gan “bloc syndicalaidd” undeb radical yr IWW, ond dawel a chymharol bychan oedd yr orymdaith o ryw gant o bobl heb fawr yn digwydd tu hwnt i areithiau. (Cyfraith a threfn, wedi’r cyfan, yw nôd trefnwyr y TUC, uwch gyfundrefn Cardiff Trades Council.) Yn hwyrach yn y prynhawn cafwyd protest mwy – miloedd yn ôl yr Wales Online – dros yr ymgyrch Save Womanby Street. Wedi i Dempseys a’r Full Moon cau a chynlluniau ymddangos dros ddatblygu gwesty Wetherspoons a fflatiau mae stryd gerddorol Womanby (sy’n gartref i Glwb Ifor Bach) dan fygythiad. Ond eto, areithiau gan wleidyddion oedd prif ffocws yr orymdaith i bob golwg, a’i lobio nhw yw prif dacteg yr ymgyrch. Yn y pen draw, boneddigeiddio sydd yn bygythio diwylliant Caerdydd a’u trigolion dosbarth-gweithiol a lleiafrifoedd ethnig. Er gwaetha eu smalio popiwlaidd, complisit yw’r gwleidyddion yn y broses hon. Gall ofyn gwleidyddion yn serchus a gorymdeithio’n taeog “achub” un stryd neu’r llall (a’u “achubiaeth” bydd Womanby costus, upmarket?), ond ni fydd yn atal boneddigeiddio.

Ar y dydd Llun cafwyd rali May Day hynod o fach yn Abertawe a drefnwyd gan Socialist Appeal, un o’r sawl holltyn Trotscïaidd. Mynychwyd gan rai o’r holltau eraill Trotscïaidd (gan gynnwys yr SWP, ymddiheurwyr trais rhywiol), Momentum a rhai eraill. Unwaith eto, areithiau, a chyfle gwerthu papurau oedd crynswth y digwyddiad. Fel arfer gorymdeithia’r undebau llafur trwy Abertawe a ddaw gannoedd i’r strydoedd, gan ddangos eu grym yn symbolaidd – os nad mewn unrhyw ffordd arall. Ond eleni ni welwyd digon o fygythiad i’r drefn i anfon dim un heddwas.

Yn y gorffennol diweddar bu heddlu Caerdydd yn hynod o dreisgar yn erbyn protestwyr ar Galan Mai. Eto, mae’n debyg mae’r etholiadau sydd ar fai am ddenu nifer o’r strydoedd eleni, wrth i undebwyr troi at ganfasi etholiadol a phawb gohirio gobaith am newid tan ar ôl yr etholiad. Sugno egni mudiadau radical wna’r system etholiadol, fel gwnaeth pleidiau Syriza a Podemos yng ngwlad Roeg a Sbaen yn dilyn yr anghydfod mawr. Buddsoddwyd cymaint o lafur, cymaint o obaith emosiynol yn y system bleidleisiol sydd yn ein ffaelu tro ar ôl tro. Dyma siom mawr. Mae gennym fwy o bŵer na ryw groes ar ddarn o bapur, ac mae’n hen bryd i ni sylwi hyn. Colled yw ceisio ennill pleidleisiau yn lle ymdrefnu a brwydro. Na. Mae angen gweithredu uniongyrchol ysbryd Haymarket arnom gymaint ag erioed. I’r gad!

 

Nodiadau

[1] Diwylliant Gwerin Morgannwg, Allan James.

[2] Am y Gadi Haf, gwelwch Geiriadur Prifysgol Cymru, neu waith Twm o’r Nant. Am barhad arfer gwisgoedd Beca, gwelwch rhai o streiciau Cwmtawe yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif.