Gwrthwynebwch Ffair Arfau Caerdydd!

Na i Ffair Arfau Caerdydd

Eleni unwaith eto bydd cachwrs mawrion o gwmniau milwrol a gwladwriaethau rhyngwladol yn cwrdd yn y Motorpoint Arena, Caerdydd. Yno byddant yn marchnata mewn angau: yn gwerthu ac yn prynnu yr arfau, bomiau a thechnoleg hunllefus a ddefnyddia llywodraethau imperialaidd i ladd cynifer. Gwarth peth eu bod yn taro’u bargeiniau ffiaidd yng Nghymru.

Eleni unwaith eto bydd gwrthwynebiad. Mae amrywiaeth o grwpiau yn rhan o’r ymgyrch, ac fydd amrywiaeth o dactegau. Yn y gorffennol llesteiriwyd y ffair arfau gan brotestwyr twlu paint coch dros farchnatwyr arfau ac yn meddiannu’r tô – ymysg pethau eraill. Ymunwch a’r brotest yn ba ffordd a mynwch!

Llun o brotest blaenorol. Mae gwaed ar eu dwylo!

Protest tu fas i’r ffair: Dydd Mawrth 27ain o Fawrth, 8.00am tan 4.00
Motorpoint Arena, Caerdydd

Digwyddiad Facebook:
https://www.facebook.com/events/289981134861105/

 

Gwarchae Ffôn: Dydd Gwener yr 16eg o Fawrth, 9.30am tan 5.30am

“Let’s overwhelm them phone calls, emails, Twitter and Instagram messages telling them this. Keep it polite, just state clearly your opposition to the event. You can also leave a message on their FB page.
Box Office: 029 2022 4488 (Opens 9:30 – 17:30)
Complaints: 02920 234 500
Press Team: 029 2023 4551
Hospitality: 029 2023 4555

E-mail: gabrielle.gifford@livenation.co.uk
E-mail: motorpointarenacardiff.sales@livenation.co.uk
Instagram: Mortorpointarenacardiff

Twitter: @MotorpointDiff”

Digwyddiad Facebook:
https://www.facebook.com/events/101355487372139/

 

 

Protest Na i Ffair Arfau Caerdydd: Mawrth 28ain

Wythnos nesaf bydd ffair arfau “DPRTE” yn dychwelyd i’r Motorpoint Arena yng Nghaerdydd. Bydd diwrnod o brotest yn eu herbyn, rhwng 8 y bore a 5.30 y prynhawn, gan gwrdd tu allan i’w drysau.

Cyfarfod o gwmnïau mawr a’r Ministry of Defence sydd yn cynhyrchu, gwerthu a defnyddio offer milwrol yw’r DPRTE. Mae’r dechnoleg hon yn lladd miloedd dros y byd yn rhyfeloedd imperialaidd. Maent yn creu elw trwy lofruddio pobl gyffredin.

Man hysbysebu gorsaf bws a fachwyd gan brotestwyr llynedd

Gyrrwyd ffair arfau DPRTE allan o Fryste gan brotestiadau llwyddiannus. Llynedd cafwyd protestiadau mawr yn eu herbyn yng Nghaerdydd, er gwaetha trais yr heddlu oedd yn amddiffyn y masnachwyr. Nid oes croeso i’w masnach angau yng Nghymru. Dewch i’w hatal!

“Pan mae’r cyfoethog yn ryfela, y tlawd sy’n marw.

Ar y 28ed o Fawrth mae un o ffeiriau arfau mwyaf Gwledydd Prydain yn dod i Gaerdydd.

Rydym ni am eu herlid o ‘ma.”


Gwybodaeth pellach:

Dolen digwyddiad facebook

Tudalen riseup Na i Ffair Arfau Caerdydd
Blog Campaign Against the Arms Trade
Blog Winter Oak