Protest yn erbyn torriadau i Glybiau Ieuenctid Gwynedd! 3/05/2018

Bydd protest am 12 o’r gloch Dydd Iau y 3ydd o Fai, tu allan i brif adeilad cyngor Gwynedd, Caernarfon, dros gadw clybiau ieuenctid ar agor.

Digwyddiad facebook: https://www.facebook.com/events/427410064351814/

Cofiwch, os gwyddoch am ddigwyddiad radical hoffech anarchwaethus rhannu, cysylltwch.

Advertisements

Gweithdy Dad-Goloneiddio! Bethesda, 25/042018

“A chyffro mae Tyfu nid Torri mewn partneriaeth a Fforwm yr Eliffant Binc yn cyflwyno sesiwn dad-goloneiddio gan criw Radio Beca. Prif ffocws bydd adnabod sut y gallwn droi diffyg ddoe yn gryfder a chyfoeth i’r dyfodol.

Medd Euros Lewis, a fydd yn hwyluso’r gweithdy hon:

‘Mae cymaint ohonom yn gorfod gweithio o fewn meddylfryd Prydeinig – meddylfryd Seisnig, mewn gwirionedd. Meddylfryd a seiliwyd ar rym y canol; ar drefn sy’n gwahaniaethu rhwng pobl o ran cyfle, cefndir, cyfoeth a statws. Rheolaeth – o’r brig i’r godre – yw hanfod y meddylfryd hwn. Mae cynefin y Gymraeg yn wahanol. Gellir ei grynhoi mewn gair: cymdeithas, sef cydweithio, cyd-ddadlau, cyd-ddychmygu a phob ‘cyd’ arall. Ein helpu i dorri’n rhydd o afael y naill a rhyddhau potensial y llall yw nod y gweithdy hon.’

Yn ogystal â chyflwyniadau mi fydd y gweithdy dad-goloneiddio yn cynnwys ymarferiadau ac mi fydd pawb sy’n mynychu yn cael copi o’r Llawlyfr Dad-goloneiddio i fynd adref gyda nhw.

‘Mae’n bwysig fod y gweithdy yn gwneud gwahaniaeth – i bawb ohonom sydd yno ac i’n lleoedd gwaith a’n cymdogaethau’ medd Euros. ‘Wrth waelod pob newid er gwell mae criw bach o bobol sydd wedi cwestiynu; wedi gwrthod cydymffurfio; wedi gafael yn yr awenau.’

GWEITHDY SUT MAE DAD-GOLONEIDDIO’N HUNAIN?

Neuadd Ogwen, Bethesda, Nos Fercher y 25ed o Ebrill am 7yh. Croeso i bawb!”

Digwyddiad facebook: https://www.facebook.com/events/608647742846442/