Gweithdy Dad-Goloneiddio! Bethesda, 25/042018

“A chyffro mae Tyfu nid Torri mewn partneriaeth a Fforwm yr Eliffant Binc yn cyflwyno sesiwn dad-goloneiddio gan criw Radio Beca. Prif ffocws bydd adnabod sut y gallwn droi diffyg ddoe yn gryfder a chyfoeth i’r dyfodol.

Medd Euros Lewis, a fydd yn hwyluso’r gweithdy hon:

‘Mae cymaint ohonom yn gorfod gweithio o fewn meddylfryd Prydeinig – meddylfryd Seisnig, mewn gwirionedd. Meddylfryd a seiliwyd ar rym y canol; ar drefn sy’n gwahaniaethu rhwng pobl o ran cyfle, cefndir, cyfoeth a statws. Rheolaeth – o’r brig i’r godre – yw hanfod y meddylfryd hwn. Mae cynefin y Gymraeg yn wahanol. Gellir ei grynhoi mewn gair: cymdeithas, sef cydweithio, cyd-ddadlau, cyd-ddychmygu a phob ‘cyd’ arall. Ein helpu i dorri’n rhydd o afael y naill a rhyddhau potensial y llall yw nod y gweithdy hon.’

Yn ogystal â chyflwyniadau mi fydd y gweithdy dad-goloneiddio yn cynnwys ymarferiadau ac mi fydd pawb sy’n mynychu yn cael copi o’r Llawlyfr Dad-goloneiddio i fynd adref gyda nhw.

‘Mae’n bwysig fod y gweithdy yn gwneud gwahaniaeth – i bawb ohonom sydd yno ac i’n lleoedd gwaith a’n cymdogaethau’ medd Euros. ‘Wrth waelod pob newid er gwell mae criw bach o bobol sydd wedi cwestiynu; wedi gwrthod cydymffurfio; wedi gafael yn yr awenau.’

GWEITHDY SUT MAE DAD-GOLONEIDDIO’N HUNAIN?

Neuadd Ogwen, Bethesda, Nos Fercher y 25ed o Ebrill am 7yh. Croeso i bawb!”

Digwyddiad facebook: https://www.facebook.com/events/608647742846442/

Advertisements

Sgwrs Gwrth-Ffasgaidd ym Methesda!

Trafodaeth gyda Rhwydwaith Gwrth-Ffasgaidd Glannau Merswy a gwrth-ffasgiaid Cymreig

7pm, 2/4/2018, Caffi Cyfrannu i Rannu,
57 Stryd Fawr Bethesda

Mae Fforwm yr Eliffant Binc yn trefnu i ymgyrchwyr ddod o Lannau Merswy i siarad am pam bod hi’n bwysig i ni wrthsefyll hiliaeth a ffasgiaeth yn yr oes sydd ohoni.

Gydag agenda llymder yn gwneud ein bywydau fwyfwy anodd ers crisis cyfalafol cychwynnodd degawd yn ôl – mae’r cyfryngau adain dde (The Sun, Daily Mail ac ati) wedi bod yn annog i ni feio’r bobl mwyaf bregus – ffoaduriaid, mamau sengl a phobl ar budd daliadau.

Gwelwn Islamoffobia a hiliaeth yn cynyddu yn ein bywydau pob dydd yn ogystal ag yn y newyddion. Dyma ran o’r system aflan yw’r rhain sydd yn ein gormesu a’n gwahanu ni rhag ein gilydd mewn cyfnod ble mae angen i ni uno a threfnu er mwyn curo’r rhyfel dosbarth mae’r Torïaid yn ein llarpio efo.

Bydd yr ymgyrchwyr o’r grŵp “Rhwydwaith Gwrth-Ffasgaidd Glannau Merswy” (Merseyside Antifasict Network – chwiliwch amdanynt ar-lein) yn trafod y cysylltiadau hyn rhwng cyd-sefyll dosbarth gweithiol ac atal hiliaeth, Islamoffobia a ffasgiaeth. Bydd hefyd gwrth-ffasgiaid Cymreig yn sôn ychydig am weithredoedd ffasgaidd a gwrth-ffasgaidd yng Nghymru heddiw.

Ymunwch â ni yn Caffi Cyfrannu i Rannu Bethesda ar yr 2il o Ebrill am
7yh. Bydd lluniaeth ar gael, croeso i bawb ond ni fyddwn yn dioddef
hilgwn os ydynt yn dod i darfu ar y sgwrs yn unig. Edrychwn ymlaen at
eich gweld chi yno – mawr obeithiwn bydd y drafodaeth yn ffrwythlon ac
yn arwain at weithredu.

Digwyddiad facebook: https://www.facebook.com/events/1386555221449275/

Os oes gennych chi ddigwyddiad radical i anarchwaethus hysbysebu, cysylltwch!