“Yfory” cawn gwtsho UKIP?

Mae celfyddyd yn wleidyddol. Dyma atgofiad cras galeri “LD50” Llundain, a gaewyd i lawr gan brotestwyr yn ddiweddar. Roedd gan gelfyddyd warthus yr LD50 neges a symboliaeth ffasgaidd amlwg, gan wahodd siaradwyr yr “Alt-Right” i’w dangosfeydd parchus. Ond beth am gelf gwrth-ffasgaidd, gelf radical felly? Oes bosib creu celfyddyd radical a Chymreig heddiw? Ys wetodd y dramodydd Brecht, “ni ellid barddoni am goed pan fo’r goedwig yn llawn plismyn”. A ellid dramodi am Gymru pan fo’r strydoedd llawn UKBA?

Ymgais at ddrama wleidyddol yw “Yfory“, cynhyrchiad newydd Theatr Bara Caws, a ysgrifennwyd gan Siôn Eirian a chyfarwyddwyd gan Betsan Llwyd. Gwleidyddiaeth gyda G mawr: Gwleidyddiaeth y gwleidyddion a’r wladwriaeth, Gwleidyddiaeth y Bae yn y byd “ôl-Brecsit”. Gwleidyddiaeth noeth gyda’r bolitishen yn ei bants, yn wir, mae’r olygfa yn un amgen. Gwelwn y byd trwy ffenest fflat y gwleidydd a thad, Gwyn (Dewi Rhys Williams), a gwelwn y wleidyddiaeth grand trwy berthnasau ei deulu niwclear. Ar y noswaith cyn ei araith fawr dros ei blaid (y Blaid, gyda llaw), heriwyd ei weledigaeth gan ei bartner, Ellie (Caryl Morgan), ei ffrind-goleg a gelyn Llafurol, Kelvin George (Rhodri Evan) a gweithredoedd ei fab, Trystan (Aled Bidder).

“Arwres” Yfory yw Ellie, ac er i’r ddrama yn ei gyfanrwydd gwrthgyferbyniol datgelu meddylfryd Eirian, trwy ei geiriau hi cawn ei faniffesto. Mae rhagflas o’i syniadau amgen a “radical” yn y Rhagair: “Oes unrhyw wleidyddion yng Nghaerdydd yn meiddio meddwl am dorri cwys allai newid cyfeiriad cymdeithas yng Nghymru? … Neu ydyn ni’n rhannu’r un meddylfryd adweithiol a’r un culni gorwelion a Lloegr bellach?” Wrth i Ellie perswadio Gwyn i newid ei araith, daw’r “cyfeiriad” newydd yn gliriach. Datganolwch bŵer i’r cynghorau lleol, adfywiwch yr hen fro, atgyweiriwch ein colled o gymuned. Sut? Trwy weithio gydag UKIP (!). Awn i ail adfer bro, llaw yn llaw da Neil Hamilton. Newidiwn “gyfeiriad” o “feddylfryd adweithiol” Loegr, trwy gyd-weithio a’r blaid adweithiol Seisnig.

Golygfa go-iawn o’r ddrama newydd, “Yfory”

Y Dref Wen yn y Dyffryn?

Nid radicaliaeth a gynigwyd yn Yfory, ond yr un hen drefn. Yr un hen bleidiau, a’r “gobaith” yn y gwaethaf. Heddiw, ar hyn o bryd, mae gwleidyddion yn cwtsho UKIP (a holl drais y system ffiniau warthus) – nid yw’n safiad radical. Sut ydi hi’n bosib gweld bodolaeth UKIP, plaid Seisnigaidd a Phrydeinllyd, plaid hiliol a cheidwadol, fel posibilrwydd “chwyldroadol” i Gymru? Mae’r weledigaeth mor gul â’r fflat bach yn y Bae. Wedi’r cyfan, os ma dyfodol ein gwlad yn gorwedd da gwleidyddion, yn y Bae neu’r Cynghorau, da ni’n ffyced ta beth[1]. Cymeriadau dosbarth canol – ac yn bennaf, y patriarch Cymreig – sy’n pia’r ewyllys i newid tynged y genedl yn y ddrama, a hynny trwy’r sefydliadau swyddogol yn unig. Trwy freintio eu bywydau nhw ar draul eraill cawn wleidyddiaeth adweithiol y ddrama. Er i’r ddrama delio â chymdeithas wedi’r refferendwm Ewropeaidd, nid oes gair am yr ymosodiadau hiliol ac Islamoffobaidd, na’r ymosodiadau yn erbyn pobl hoyw, lesbiaidd a thraws, a gynyddodd yn ei sgil. (Caiff hîl cyfeiriadau tocenistaidd ar adegau (“yr oedd gennym ni ffrindiau du”), a defnyddiwyd “Pygmy” yn sarhaus ar adeg arall.) Nid yw’r weledigaeth radical yn cynnwys ffawd ddyrys ffoaduriaid na fudwyr a gaiff eu herlid, eu caethiwo a’u hallgludo. Yn wir, mae galwad Ellie am dai lleol i bobl leol, llaw yn llaw a’r diffyg sylw llwyr i dranc fudwyr, yn troi ergyd gwrth-wladychol yn un adweithiol. A dyma’r Gymraes yn hiraethu’n rhagrithiol am golled ei bro, a hithau’n byw ar gefn boneddigeiddio Caerdydd, ar ludw hen dai dosbarth gweithiol! Na – dyma broblemau crachach croenwyn ar aelwyd foethus yn y Bae. Trowyd Theater Bara Caws yn Theater Cocên pur a Gwin drud.

Wrth ystyried hyn, efallai nid oes rhyfedd i’w ffantasi o Gymru Fydd gwtshio UKIP. Eto, dyma siom mawr. Mae’n llawn bosib, wedi’r cyfan, i greu’r fath golygfa a’i beirniadu’n radical o’r tu mewn. Ystyriwch An Inspector Calls Priestley, da’r aelwyd gefnog yn datgelu gwacter eu cyflwr eu hun, neu Brawd-ddydd Kafka, da’r amynedd bourgeois yn bwyta eu hun yn rhacs. Yn sicr fe wnaeth Yfory cyffwrdd â hyn. Ar ei gorau, amlygodd adfyd gwag y hetero-deulu niwclear, “gêm” disylwedd gwleidyddiaeth y Bae a thwyll y sefydliad newyddiadurol. Cawn sawl linell anhygoel, wrth i Ellie gofyn a oes dyn tu ôl i masg y gwleidydd, neu wrth i Gwyn a Kelvin olrhain eu dringo diysbryd trwy fiwrocratiaeth y pleidiau. Eto, ar adegau arall, anodd oedd gwahaniaethu rhwng hunanfeirniadaeth a rhagfarn dosbarth canol, wrth i’r cymeriadau gwneud hwyl o’r di-waith nad yw’n codi yn y bore (a’r gynulleidfa chwerthin yn eu tro). Ta beth, nid yw’r ddrama yn dilyn y beirniadaethau i’w diweddglo radical. Yn hytrach, rhoddwyd cyfeiriad “amgen” iddynt, gan bennu ag atebion adweithiol. Atebwyd gwacter gwleidyddiaeth trwy wleidyddiaeth leol, ac atebwyd adwaith Brecsit da phlaid adweithiol Brecsit.

Ffeminyddiaeth ffaeledig

Rhyw hanner feirniadaeth yn ogystal ceir o’r teulu niwclear a’r gymdeithas batriarchaidd, er gwaetha bwriad ffeminyddol Eirian. Arwres ffaeledig yw Ellie, a mond trwy fod yn bartner i Gwyn, a thrwy ei berswadio ef, oedd y posibilrwydd iddi “lwyddo” o gwbl. Hi yw’r gobaith eto ar y diwedd gan ffoi’r aelwyd i ddyfodol newydd, ond eto, a’i ffoi’r un meddylfryd adweithiol wnaiff hi? Os mai cymeriad ffeminyddol yw Ellie, nid yw’n ffeminydd rhyngblethol, intersectional. Fel menyw untu, wen, ddosbarth canol a’i gradd Oxbridge, nid yw eu gweledigaeth yn dangos unoliaeth i bob menyw. Anodd ystyried fel gall unrhyw arwres ffeminyddol ystyried agosáu at UKIP, plaid warthus o batriarchaidd. Ond yn sicr, nid yw ei ffeminyddiaeth yn un sydd yn ymestyn i’r menywod mudol a erlidiwyd gan y system ffiniau. Nid yw’r dychaniad o wrywiaeth-hetero Gwyn chwaith yn un dwys. Fel cymeriad Dewi Rhys Williams yn Pen Talar, er gwaetha ei chwantau erys ef wedi’r cwbl yn hen batriarch Cymreig ystrydebol, y penderfynydd moesol mewn sefyllfa anodd.

Yn debyg, diewyllys yw’r mab Trystan o fewn ei deulu a Gwleidyddiaeth fawr y byd. Dim ond trwy efelychu gormes hetero oedolion y daw’n oddrych o gwbl, trwy berthynas rhywiol gyda Cerian, merch pymtheng mlwydd oed. Er i’r ddrama dangos fel gall newyddiadurwyr a thadau gormesu merched yn ogystal, wedi’r elfen-sioc gwreiddiol ymylwyd ar esgusodi’r perthynas problemataidd. Trwy greu Trystan yn ddioddefwr, anwybyddwyd ei sefyllfa o bŵer dros ferch. Yn y pen draw, nid beirniadu cymhlethdod patriarchaeth yw swyddogaeth y datguddiad, ond rhoi penderfyniad arall i’r tad, Gwyn. Dewis ei fab, gan blygu i bwysau blackmail Kelvin a’i newyddiadurwr, yntau dewis gweledigaeth ei bartner, gan fygwth sgandal iddo fe ac i Trystan. Unwaith eto, ceisiwyd peri cydymdeimlad at bobl bwerus – dyn ifanc mewn perthynas â merch dan oedran, gwleidydd sy’n gwynebu sgandal, tad â dewis Abrahamaidd. Nid eu problemau personol nhw yw problem fawr y genedl.

Efallai dangos sut rhwystrwyd newid Ellie gan y rhain oedd bwriad Eirian, ond gan mai troi at UKIP yw’r newid nid yw’n drawiadol. Efallai, ar y llaw arall, mai corddi’r dyfroedd oedd ei ddymuniad. Ond rhaid i ni siarad yn ddi-flewyn ar dafod: pan fo cyrff ffoaduriaid yn nyfroedd Ewrop, adweithiol, nid pryfoclyd, yw cwtsho UKIP.

Unoliaeth yn erbyn UKIP

Drama wleidyddol yw Yfory, ond nid yw’n ddrama radical. Mae’r actio yn ddawnus, y cynhyrchiad o safon uchel, a’r sgript yn un crefftus tu hwnt. Siom mawr bod y cynnwys mor geidwadol, yn enwedig wrth gymharu â Gadael Lenin.[2] Mae’n wir bod neuadd dan ei sang o siaradwyr Cymraeg, yn gwylio drama Cymraeg, yn ddigwyddiad gwleidyddol (a bron yn un radical) yn ei hun. Eto, cysgod Seisnigeiddio yw cyd-destun trist y gwirionedd hwn. Dathlwyd bod y ddrama yn rhan o “sgwrs genedlaethol” a bod “mawrion” y Cymry Cymraeg yn gwylio’r ddrama – a dyma anarchwaethus bach yn eu tro yn rhan o’r sgwrs hon i bob golwg. Ond rhaid gofyn pwy gaewyd allan rhag sgwrs genedlaethol, a sgwrsio beth a wnawn. Dyma fygythiad byd bach y Bae: caiff rhai ware’r gêm (G)wleidyddol fel Saeson wrth i’r genedl araf lithro o dan ein traed. Ofer yw hunan-ddathliad heb feirniadaeth, a siarad heb frwydro[3]. Mae angen sgwrsio pragmataidd, ac y mae angen celfyddyd radical. Y mae hefyd angen gweithredu uniongyrchol ac unoliaeth go-iawn. Pwy a saif gyda ni?

 

Nodiadau

[1] Rhaid cofio mai llywodraeth leol Calais, a’i Maer neo-ffasgaidd, sy’n ymosod ar ffoaduriaid o hyd, wrth i ddinasyddion ffasgaidd “gyfrannu” yn ffisegol i’r wleidyddiaeth. Ac yn erbyn cynghorau lleol bu nifer o frwydrau mwyaf chwerw Cymdeithas ac eraill dros yr iaith. Nid yw atgyfnerthu “gwleidyddiaeth leol” o reidrwydd yn radical.

[2] Beirniadwn yma gynnwys a neges ymhlyg y ddrama, canys hon a aeriwyd i fod yn radical. Ond beth am ei ffurf? Pedwaredd wal gwydr ffenest y fflat sy’n ein cloi fel gwylwyr yn unig, heb ewyllys i wir newid ffawd y genedl. Dyma’r un gwydr sgleiniog sy’n amgáu Senedd y Bae. Er mae gwydr wedi’u torri yw clawr y rhaglen, ni thorrwyd ffurf arferol y theatr. Y theatr hon yw symbol y byd Oedipaidd-gyfalafol i Deleuze a Guattari, lle caethiwyd chwant yng nghynrychiolaeth teuluol-niwclear (mami, dadi, fi). Rhaid i wir ddrama radical chwalu a symud tu hwnt i gynhyrchiad cyfalaf, fel awgrymodd weithgareddau Diggers San Francisco.

[3] Mae arnom ddyled i Fred Moten am bwysleisio cyd-bwysigrwydd dathlu a beirniadu.