Baich Cymreictod

Mae traddodiadau’r cenedlaethau meirw ‘oll yn pwyso fel hunllef ar amynedd y byw.

Deunawfed Brumaire Louis Napoleon, Karl Marx [1]

Nid cenedlaetholdeb gorfoleddus yw cenedlaetholdeb Cymreig. Nid yn aml, ta beth. ‘Drychwch ar Brydeindod, a’i falchder dathliadol, goruchafol. Ei bleser. Cyfri ein cleisiau wnawn ni’r Cymry, gan weithiau ymfalchïo yn yr ambell bwyth y talwn yn ôl. Ma ganddyn nhw Jiwbilî, ma gennym ni Cilmeri. Pan ddaw gorfoledd i’n genau, dan gysgod ein gwladychiad yw gan amlaf. “Er gwaetha pawb a phopeth”.

jubilee

Nid fod cenfigen. Gobeithiwn, ta beth. Pa fath beth fydde Cymreictod pe fyddai wedi cyflawni mawr gampau gormesol fel Prydeindod? Mae gennym ein campau bychan wrth gwrs. Y caethfeistri Cymreig, y gweinyddwyr yn yr ymerodraeth… David Lloyd ffycin George. Cerddwn llaw yn llaw a’r Saeson gormod o weithie, fel aelod ufudd o’r teulu Prydeinig. Neu weithie cerddwn allan ar liwt ein hun, ar antur fach ormesol. Pogrom gwrth-Semitaidd Gwalia neu wladychu Patagonia. Ma digon yn fodlon anghofio ein gweithredoedd cywilyddgar, neu ei ail-lywio, neu hyd yn oed eu dathlu[2]. ‘Doeddwn ni fyth fel nhw’. Ha.

Diffinia rhai cenedlaetholdeb yn ôl ryw falchder hawdd. Neu wladgarwch yn ôl ryw gariad syml. Nid ydynt yn genedlaetholiaid Cymreig felly – neu nid rhai fel nyni ta beth. Balchder Cymry? Ma digon o siom gan y Cymry. Y siom o ddioddef gwawd y Saeson tan i ni adael ein hiaith, golli ein hyder. Ond hefyd y siom o ormesu eraill yn debyg, ar ôl i ni ei derbyn ein hun. Ond nid yw’r siom yn un ellid taflu ffwrdd, gan honni nad yw’n perthyn i ni, gan ein bod yn di-genedl nawr. Na, Cymry yr ydym, Cymry yr ydym o’i herwydd. Ac os siaradwn am falchder felly, dyma falchder gwrth-geidwadol. Balchder dros frwydro yn erbyn a thu hwnt i’r hyn da ni fod i fod. Os oes gennym wladgarwch, dyma gariad gymhleth. Nid cariad pur yr hen ganeuon hetero. Ond cariad at rywbeth da ni’n eu casáu (ar adegau, neu wastod)[3]. Sy’n llawn cach, ond eto, sy’n llawn ohonom ni, sy’n perthyn. Cenedlaetholdeb yw mynnu sôn am ein cenedl, mynnu bod yn genedl, er gwaetha pawb a phopeth ac er gwaetha ni ein hun.

Nid wyt ond hunllef yn dy wlad dy hun

“Cymru”, Ysgubau’r Awen, Gwenallt

Yr anallu i ddianc ein cenedl, i ddianc ein Cymreictod, yw adlais mawr ein llên fodern. Y cadwyni megis clwm Celtaidd amdanom ni. Mae’r crafangau’n dirdynnu ein bron ac yn y blaen. Mae’r Cymro sy’n gatael am Lundain i fod yn Dori rhonc dal dan hunllef nosweithu ola leuad ei bentre bach! Balchder yw cenedlaetholdeb Prydeinig. Baich yw cenedlaetholdeb Cymreig.

Beth i wneud a’r baich hwn? Siwd i’w cario? Ei lusgo mlan tan ddydd y farn? Ei ymgorffori yn sefydliadau diddiwedd? Daw’r baich i ben mewn dwy ffordd. Pe lwyddwyd i ladd y Gymraeg, pe ddaw’r genedl yn farw, gan adael mond ysbryd megis Cymbria. Ynteu pan ddaw Gymru’n Rhydd.

Ni ellid seilio rhyddid ar orthrwm eraill. I Gymru dod yn rhydd, rhaid gwrthdroi gorthrwm y byd yr ydym yn rhan ohono. Wrth i system drefedigaethol y gorllewin a’r oruchafiaeth gwyn y mae’r Gymry gwyn yn gomplisit ynddi barhau, parhau bydd y baich. Nid Cymru rydd fydd Cymry patriarchaidd chwaith[4], na Chymru ag ecsbloetiwyd gan gyfalaf, pe bai hi’n gyfalaf tramor neu gyfalaf Cymreig. Wrth i drones cal eu creu yma a ffoaduriaid cal eu herlid, ni fu Gymru’n Rhydd. Ma rhyddid Cymru ynghlwm â rhyddid eraill[5]. Dyma wirionedd ein dihareb “first to be colonised, last to be free“.

Trwy frwydro dros ein rhyddid a rhyddid eraill, trwy ofalu am ein gilydd a thrwy unoliaeth radical, trown y baich yn ysgafnach. Pwyso llai wna traddodiadau’r meirw wrth iddynt gal byw rhywfaint eto. Tewi gwna’r hunllef, a chawn freuddwydio chydig bach.

Nodiadau

1 Der 18te Brumaire des Louis Napoleon. Cyfieithwn o’r Saesneg. “The tradition of all dead generations weighs like a nightmare on the brains of the living.” https://www.marxists.org/archive/marx/works/1852/18th-brumaire/ch01.htm

2 Drychwch ar farn boblogaidd y Cymry Cymraeg at wladychu Patagonia (a’r anwybyddu llwyr o’r ffaith mai tir pobl gynhenid oedd yng nghynt), neu gynhwysiad farddoniaeth hiliol yn ein “Hoff Gerddi” .

3 “Ei charu’r wyf yn chwerw hefyd, / A’i chasáu’n serchus o hyd.” (“Cymru”, Alan Llwyd).

4 Nid dyn ysgrifennodd yr uchod, ond siomedig yw’r ffaith mai dynion a ddyfynnwyd ‘oll.

5 “Mae fy rhyddid yn dibynnu ar ryddid eraill”, Mikhail Bakunin, yn sawl destun. (Er iddo draethu hyn, gwarthus oedd gwrth-Semitiaeth Bakunin.)