“Protestwyr yn blocedio’r Swyddfa Gartref yng Nghaerdydd”

Anti-racist protesters blockade Home Office in Cardiff over inhumane treatment of refugees at Welsh military barracks

Ail-flogiad o wefan Newyddion Ymreolaeth am weithredu uniongyrchol yng Nghaerdydd ddoe, 5ed o Fawrth.

Protestwyr gwrth-hiliol yn blocedio’r Swyddfa Gartref yng Nghaerdydd oherwydd triniaeth annynol o ffoaduriaid mewn gwersyll milwrol Cymreig

Mae dau brotestiwr wedi blocedio’r Swyddfa Gartref yng Nghaerdydd fore heddiw, gan ddal yr Awdurdod Mewnfudo yn atebol am eu triniaeth o ffoaduriaid yng ngwersyll Penalun, Sir Benfro.

Mae gan y Swyddfa Gartref oblygiad o ofal i bawb sy’n cyrraedd y DU yn ceisio lloches. Mae preswylwyr cyn-wersyll hyfforddiant milwrol Penalun, a reolir gan Clearsprings ar ran y Llywodraeth, yn dioddef o:
-Diffyg dŵr yfed a bwyd a baratowyd mewn modd hylan;
-Plymwaith a systemau gwresogi methiedig gan arwain at amodau oer ac aflan;
-Diffyg mynediad i ffoniau a’r rhyngrwyd, gan olygu na allant gyfathrebu â theulu a chyngor cyfreithiol;
-Amodau gorboblog, gan wneud hi’n amhosib i ddilyn rheolau cadw pellter Covid ;
-Dim darpariaeth o wasanaethau iechyd a iechyd meddyliol;
-Darpariaeth annigonol o doiledau a chawodydd.

Pan agorwyd y gwersyll hydref y llynedd, ddywedodd Prif Weinidog Mark Drakeford mewn datganiad:
“Nid yw gwersyll milwrol yn lle addas i gartrefu pobl sydd wedi dianc o wrthdaro a rhyfel mewn rhannau eraill o’r byd.” “[M]ae Cymru yn genedl noddfa. Pan fo pobl yn cyrraedd Cymru, nid trwy unrhyw benderfyniad ganddyn nhw eu hunain, yna rydym ni eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw’n derbyn gofal da ac yn cael eu croesawu.” Neu, fel disgrifiwyd gan un o breswylwyr y gwersyll, “Rwyf nawr mewn gwersyll â gatiau metal, a ffens wifren bigog o’i gwmpas. Rwy’n teimlo fel anifail mewn caets ond rydym yn bobl.”

Yn hytrach na lleihau niferoedd a chau y gwersyll yn y pen draw, fel y cyhoeddwyd gan Weinidog Mewnfudo Chris Philps yn Ionawr *3, deallwn yn nawr fod y Swyddfa Gartref yn anfon mwy fyth o ffoaduriaid i’r ganolfan gamweithredol hon. Mae preswylwyr a gwirfoddolwyr mewn perygl erledigaeth o dan y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol am siarad allan am yr amodau.

Esboniodd Lois Davis, un o’r protestwyr: “Mae gan Gymru ddiwylliant balch o groesawu gwesteion. Mae’r bobl yma ond yn eisiau’r cyfle i fyw bywyd arferol a chyfrannu i’n cymdeithas. Gwrthodwyd hyn gan y Swyddfa Gartref, sy’n ei gweld hi’n well i’w cadw mewn cyflwr o burdan, heb iddynt wybod os neu pryd y gallant ddechrau astudio, gweithio a pharhau a’u bywydau. Mae hyn yn gwaethygu yn bellach y trawma maen nhw wedi bod yn ceisio ei ffoi.”

Mae gwersyll tebyg yn barics Napier, Sir Gaint wedi denu beirniadaeth eang, ond cynlluniwyd gwersylloedd pellach. Mae gwersylloedd Penalun a Napier ill dau yn arbrofion diangen mewn dioddefaint dynol. Rhybuddiodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr fod cadw pobl mewn gwersylloedd milwrol yn anaddas, ond fe aethant rhagddynt beth bynnag.

Mynnodd yr ail brotestiwr, Jenny Roberts: “Rhaid cau gwersyll Penalun ar unwaith, a darparu llefydd preswyl a chefnogaeth addas i helpu mudwyr newydd integreiddio a datblygu’n ddinasyddion llawn. Mae peidio â gwneud hyn yn fethiant o ran goblygiad statudol y Swyddfa Gartref. Mae’r cysyniad o ddefnyddio cyn-wersylloedd milwrol fel llefydd preswyl i ffoaduriaid wedi profi’n fethiant. Na i’r gwersylloedd!”

Mae nifer o grwpiau gwirfoddol yn ceisio cefnogi’r ffoaduriaid ym Mhenalun, gan gynnwys Camp Residents of Penally (CROP), BASE and Roses, Stand Up to Racism, County of Sanctuary Pembrokeshire, Oasis a Croeso Teifi.”

Gwybodaeth bellach: https://corporatewatch.org/camp-residents-of-penally-an-interview-with-refugees-organising-inside-the-home-offices-military-camp/

Mae gan BASE and Roses ymgyrch codi arian i’r ffoaduriaid fan hyn: http://www.gofundme.com/f/support-penally-asylum-seekers