Amddiffynna dy hun a’th mêts ar-lein! (Rhan 1)

Pam?

Mae gwladwriaethau, gorfforaethau a chachwrs arall[1] yn cadw golwg, yn recordio ac yn prosesu’r hyn da ni’n neud ar-lein.

Dydi’r fath sbïo ddim yn newydd – nid i drigolion ein hynys o leiaf. Ers dechreuad y Post Brenhinol darllenwyd llythyrau pobl![2] Yng Nghymru ma digon o hanes diweddar o hacio ffoniau, pe bai hyn yn Streic y Glowyr[3] neu giosg Talysarn.

Ond ma gwyliadwriaeth (“surveillance“) wedi esblygu’n aruthrol ers yr 80au. Y gwahaniaeth nawr yw bod gan y cachwrs systemau pwerus, cyfrifiaduron ar ben cyfrifiaduron, sydd yn darllen ac yn gwrando yn awtomatig. Sdim angen plismon yn gwrando’n bersonol ar ddiwedd un lein benodol, neu yn sgrolio ac yn palu trwy bostiai facebook. Ma prosesau cyfrifiadurol yn gwneud hyn ar lefel anferth ac ar raddfa reit gloi, ac yn sortio trwy’r data a gasglwyd gydag algorithmau a rhaglennu cymhleth. Wrth gwrs, ma dal torf o decnocratiaid sydd yn gofalu am y peiriannau ma, yn eu gwellhau ac yn darllen y data ar yr ochr arall.[4] Yn hytrach na’r llywodraeth yn darllen ychydig o lythyrau a ddrwgdybiwyd ganddynt yn barod, maent yn gallu darllen e-byst pawb a phrosesu’r holl ddata, gan eu trefnu i gategorïau gwahanol.

A nawr ein bod yn byw yn yr “oes ddigidol” (lle da ni’n dewis neu lle gawn ein gwthio i fyw ar-lein) ma llwyth o ddata amdanom ni ar-lein ac ar servers ac archifau. Dyma lwyth symbolaidd o’n bywydau sydd yn berchen i sefydliadau. Data am ein lleoliad presennol, ein cylchoedd o ffrindiau, ein gweithgareddau, ein gobeithion a’n hofnau, siâp ein hwynebau… Ail-fwydwyd y data i mewn i raglennu pellach, er mwyn mapio “rhwydweithiau” eang rhwng unigolion er enghraifft, neu geisio deall teimladau poblogaeth ar raddfa anferth a rhagweld protestiadau.[5]

Ynghlwm â’r data hyn mae pŵer – i reoli, i werthu, i greu elw, i rwystro anghydfod.[6] Ni ddylwn nhw gael y pŵer hwn: rhaid i ni ei chwalu. Er mwyn newid y byd hunllefus hwn, er mwyn atal y cachwrs rhag sbïo ar bob dim da ni’n neud, er mwyn goroesi, rhaid i ni amddiffyn ein hun a’n mêts ni ar-lein.

gchq
“Government Communication Headquaters” (Cymraeg: PCBW, Pencladys Cachwrs Busneslyd y Wladwriaeth.)

Sut?

Er bod llywodraethau a chorfforaethau yn gwario llwyth o arian er mwyn sbïo arnom, mae ychydig o bobl a grwpiau radical (yn aml di-dâl) wedi llwyddo’n aruthrol i’w osgoi, chwalu ac yn aml ymladd nol. Mae’r radicaliaid hyn wedi datblygu teclunau, systemau a thactegau er mwyn osgoi gwyliadwriaeth ac aros yn saff. Oherwydd eu hymdrechion ma nifer o raglennu sydd yn rhad ac am ddim, yn hawdd i’w defnyddio, wedi eu darlunio mewn modd gwrth-hierarchaidd, ac y gallwn ymddiried ynddynt![7]

Sut…yn union?

Yn ein cofnod nesaf cyflwynwn raglennu a thactegau a ellid defnyddio er mwyn amddiffyn ein hun yn erbyn y cachwrs. Mae’r rhaglennu ‘oll yn rhad ac am ddim. Maent hefyd yn hawdd defnyddio. Byddwn yn sôn yn gloi am https://, Tor Browser, Riseup, amgryptio a chamau pellach (fel Tails). Blasus iawn.

 

Nodiadau

1 Camdrinwyr patriarchaidd a grwpiau ffasgaidd yw dou o’r enghreifftiau arall mwyaf. Maent yn gweithredu yn wahanol iawn i sefydliadau gwladwriaethol a chorfforaethol. Mae nifer o’r un tactegau a chyflwynir yn ein cofnod nesa gallu amddiffyn yn eu herbyn, ond (yn enwedig o ran camdrinwyr patriarchaidd) mae’n dibynnu yn fawr iawn ar y cyd-destun. Mae gweithwyr ryw er enghraifft yn wynebu bygythiadau gwahannol, ac felly angen tactegau gwahannol ar-lein. Peth ddarllen pellach: https://gendersec.tacticaltech.org/wiki/index.php/Complete_manual , https://tech.safehubcollective.org/cybersecurity/

2 Mae’n bosib gweud mai “Swyddfa Gudd” adeg yr 17eg Ganrif yw olynydd GCHQ heddiw.

3 Gwêl y pamffled “Come and wet this truncheon“, (1986) https://libcom.org/library/come-and-wet-this-truncheon-dave-douglass er enghraifft (nodyn cynnwys: dyma bamffled sydd yn ymwneud â greulondeb yr heddlu gall fod yn anodd i rai darllen).

4 Er, yn gynyddol ma systemau awtomatig sydd yn gweithredu’n annibynnol, o’r data a chasglwyd hyd at y ddedfryd farwolaeth. Mae’r system “SKYNET” https://en.wikipedia.org/wiki/SKYNET_%28surveillance_program%29 er enghraifft yn casglu data ar leoliadau ffonau symudol a newidiadau SIM, yn eu prosesu trwy algorithmau tebygolrwydd ac yna yn gyrru droniau peiriannol i fomio bodau dynol, heb fod rhaid i unrhywun gwasgu run botwn.

5 “TEMPORA”, “CrowdControl”, “MUSCULAR”, “Tartan”, “SOCMINT”… dyma mond ychydig o’r rhaglennu a phrosiectau llywodraethol tuag at y dibenion hyn.

6 Ar wefan megis Facebook ma’r ddwy elfen yma – disgyblu a chreu elw, y wladwriaeth a chyfalaf, wedi clymu’n un. Ma’r holl ddata o lun a uwchlwythwyd yn berchen i Facebook ac ar gael i’r llywodraeth (y llun eu hun, manylion y llun a’r holl metadata sydd wedi cuddio tu fewn i’r ffeil). Caiff luniau personol er enghraifft eu gwerthu mlan gan Facebook i gwmnïau hysbysebu, heb i’r bobl ynddynt a’r bobl a dynnodd y llun byth wybod. Yn ogystal, caiff wynebau’r llun eu prosesu, a’r data eu storio gan y llywodraeth er mwyn eu hadnabod yn y dyfodol (yn lluniau eraill o brotest, e.e.).

7 Gan fod côdiau nifer o’r rhaglennu hyn ar gael yn agored, mae’n bosib i unrhywun a phrofiad cyfrifiadurol gweld yn union sut mae’r rhaglen yn gweithio (a chydweithio a helpu eu gwellhau pe mynnant!). Mae’n bosib ymddiried felly bod y rhaglen yn onest, a heb ei greu gan elfennau llywodraethol yn gyfrinachol a heb “drysau cefn”. https://en.wikipedia.org/wiki/Free_and_open-source_software

Advertisements