“Why we shut down the UK’s largest coal mine – a call to action”

https://reclaimthepower.org.uk/news/canaries-shut-mine/

Anerchiad gan brotestwyr a gauodd gloddfa brig Ffos-y-Fran ym mis Ebrill. Cawsant eu deddfrydu i dalu dirwy o £10,000 – gallwch eu cefnogi yn ariannol fan hyn. Cafwyd gweithredoedd tebyg yn ac mae mwy ar y gweill yng ngweddill yr ynys.

“Mond trwy weithredu uniongyrchol parhaol, a thrwy gwrthwynebu pob math o ddifrod, awdurdod a gormes cawn ddechrau greu y byd dymunwn weld.” Protestwyr Ffos-y-Fran.

 

 

Advertisements

Calan Mai Cymru Lonydd

Difeth irgyrs a dyfai / dyw Calan mis mwynlan Mai.

Mis Mai, Dafydd ap Gwilym

Ers terfysgoedd Haymarket bu’r Cyntaf o Fai, May Day, yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Anarchyddion oedd merthyron helynt yr Haymarket, Chicago 1886, ond dathlir gan fudiad y gweithwyr yn ei grynswth.

Mae gan Galan Mai arwyddocâd fel gŵyl Gymreig werinol yn ogystal wrth gwrs. Dyma ddechrau’r Haf a nodwyd gan ddawnsio a cherddoriaeth stwrllyd. Cafwyd “full week of Noise and Riots” yn Sain Ffagan yn ôl dyddiadur un Williams Thomas o’r 18fed ganrif, wrth i frodorion hwylus amddiffyn eu Bedwen Fai rhag pentrefi eraill â drylliau a chlybiau![1] Dyma hefyd diwrnod y Gadi Haf, fath o drawswisgwyr i’n golwg ni oedd yn “troi y byd ar ei ben” yn y rhialtwch – traddodiad a gysylltir hefyd i wrthryfel o Ferched Beca hyd at anghydfodau gweithwyr diwydiannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.[2] Dyma ŵyl y gweithwyr a’r werin felly, gŵyl ryngwladol a Chymreig.

 

Y Fedwen Fai yn Llangwm, 1920. Lle na laddwyd y traddodiad gan y Capeli, fe laddwyd yr elfennau cythryblus gan ei droi yn ŵyl barchus, fel tystia’r llun uchod. Yn debyg, ceisia’r pwerau y sydd tawelu aflonyddwch May Day. Yn wir – cynigodd y Torïaid disodli Gŵyl y Banc May Day am ddiwrnod o “Brydeindod”.

 

Ar Galan Mai pob blwyddyn ceir gorymdeithiau a therfysgoedd, anghydfod a streiciau ar hyd y byd grwn, ac nid oedd 2017 yn wahanol. Ond eleni cymharol lan a lonydd oedd Cymru fach.

Cafwyd rali a drefnwyd gan y Cardiff Trades Council yng Nghaerdydd dydd Sadwrn. Ymunwyd yr undebau sefydliadol am gyfnod gan “bloc syndicalaidd” undeb radical yr IWW, ond dawel a chymharol bychan oedd yr orymdaith o ryw gant o bobl heb fawr yn digwydd tu hwnt i areithiau. (Cyfraith a threfn, wedi’r cyfan, yw nôd trefnwyr y TUC, uwch gyfundrefn Cardiff Trades Council.) Yn hwyrach yn y prynhawn cafwyd protest mwy – miloedd yn ôl yr Wales Online – dros yr ymgyrch Save Womanby Street. Wedi i Dempseys a’r Full Moon cau a chynlluniau ymddangos dros ddatblygu gwesty Wetherspoons a fflatiau mae stryd gerddorol Womanby (sy’n gartref i Glwb Ifor Bach) dan fygythiad. Ond eto, areithiau gan wleidyddion oedd prif ffocws yr orymdaith i bob golwg, a’i lobio nhw yw prif dacteg yr ymgyrch. Yn y pen draw, boneddigeiddio sydd yn bygythio diwylliant Caerdydd a’u trigolion dosbarth-gweithiol a lleiafrifoedd ethnig. Er gwaetha eu smalio popiwlaidd, complisit yw’r gwleidyddion yn y broses hon. Gall ofyn gwleidyddion yn serchus a gorymdeithio’n taeog “achub” un stryd neu’r llall (a’u “achubiaeth” bydd Womanby costus, upmarket?), ond ni fydd yn atal boneddigeiddio.

Ar y dydd Llun cafwyd rali May Day hynod o fach yn Abertawe a drefnwyd gan Socialist Appeal, un o’r sawl holltyn Trotscïaidd. Mynychwyd gan rai o’r holltau eraill Trotscïaidd (gan gynnwys yr SWP, ymddiheurwyr trais rhywiol), Momentum a rhai eraill. Unwaith eto, areithiau, a chyfle gwerthu papurau oedd crynswth y digwyddiad. Fel arfer gorymdeithia’r undebau llafur trwy Abertawe a ddaw gannoedd i’r strydoedd, gan ddangos eu grym yn symbolaidd – os nad mewn unrhyw ffordd arall. Ond eleni ni welwyd digon o fygythiad i’r drefn i anfon dim un heddwas.

Yn y gorffennol diweddar bu heddlu Caerdydd yn hynod o dreisgar yn erbyn protestwyr ar Galan Mai. Eto, mae’n debyg mae’r etholiadau sydd ar fai am ddenu nifer o’r strydoedd eleni, wrth i undebwyr troi at ganfasi etholiadol a phawb gohirio gobaith am newid tan ar ôl yr etholiad. Sugno egni mudiadau radical wna’r system etholiadol, fel gwnaeth pleidiau Syriza a Podemos yng ngwlad Roeg a Sbaen yn dilyn yr anghydfod mawr. Buddsoddwyd cymaint o lafur, cymaint o obaith emosiynol yn y system bleidleisiol sydd yn ein ffaelu tro ar ôl tro. Dyma siom mawr. Mae gennym fwy o bŵer na ryw groes ar ddarn o bapur, ac mae’n hen bryd i ni sylwi hyn. Colled yw ceisio ennill pleidleisiau yn lle ymdrefnu a brwydro. Na. Mae angen gweithredu uniongyrchol ysbryd Haymarket arnom gymaint ag erioed. I’r gad!

 

Nodiadau

[1] Diwylliant Gwerin Morgannwg, Allan James.

[2] Am y Gadi Haf, gwelwch Geiriadur Prifysgol Cymru, neu waith Twm o’r Nant. Am barhad arfer gwisgoedd Beca, gwelwch rhai o streiciau Cwmtawe yn rhan gyntaf yr 20fed ganrif.

Chwalwch garchar Port Talbot

Cachwrs yn Cynllunio Carchar arall i Gymru

Datganodd y llywodraeth ei fwriad i adeiladu carchar anferth arall, ger Baglan, Port Talbot. Wrth i fwyfwy o weithfeydd y De cau daw’n amlwg mai cynllun y wladwriaeth yw cloi mwy ohonom yng ngharchardai, lle gam-drinir carcharorion a orfodir llafur rhad ac am ddim. Fel hen wyrkhws Cymry gynt, ochr arall cyfalafiaeth yw eu byd o garchardai a’i chymdeithas carcharol hiliol a phatriarchaidd.

“The proposed site is undeveloped land north west of the former Panasonic factory in Baglan, alongside the M4.”

Beth yw barn di-bwynt ein bolitishens, tybed? “… Maybe when visitors come we’ll have opportunities for cafes and taxis to benefit … Reiterated previous calls for devolution … Welsh Secretary Alun Cairns said he was “delighted” about the decision …”

Eto, fel dengys y terfysgoedd diweddar tu mewn i garchardai, neu’r protestiadau a gweithredoedd yn erbyn mega-garchar newydd Wrecsam, mae nifer yn barod yn chwalu’r cawellu.

Mae’r ymgyrch Community Action on Prison Expansion yn cynnal cyflwyniad a gweithdy yn erbyn y carchar newydd yng Nghanolfan yr Amgylchedd, Abertawe, am 7yh ar nos Sadwrn yr 8fed o Ebrill. Dywedant:

“Ni fydd ehangu carchardai yn lleihau troseddu. Ni fydd ehangu carchardai yn cyfyngu ar y rhesymau y mae pobl yn cyflawni trosedd. Ond fe fydd ehangu carchardai yn niweidio cymunedau sydd yn dioddef yn barod o doriadau creulon i wasanaethau lleol a chenedlaethol. Bydd yn parhau i dorri ysbryd pobl, gan guddio problemau cymdeithasol yn ddwfn mewn cawell.”

Dewch i ni chwalu’r cawell hwn. Na i garchardai! Na i’r gymdeithas garcharol!

Carcharwr yn agor y ffordd, terfysg HMP Birmingham, Rhagfyr 2016

“Yfory” cawn gwtsho UKIP?

Mae celfyddyd yn wleidyddol. Dyma atgofiad cras galeri “LD50” Llundain, a gaewyd i lawr gan brotestwyr yn ddiweddar. Roedd gan gelfyddyd warthus yr LD50 neges a symboliaeth ffasgaidd amlwg, gan wahodd siaradwyr yr “Alt-Right” i’w dangosfeydd parchus. Ond beth am gelf gwrth-ffasgaidd, gelf radical felly? Oes bosib creu celfyddyd radical a Chymreig heddiw? Ys wetodd y dramodydd Brecht, “ni ellid barddoni am goed pan fo’r goedwig yn llawn plismyn”. A ellid dramodi am Gymru pan fo’r strydoedd llawn UKBA?

Ymgais at ddrama wleidyddol yw “Yfory“, cynhyrchiad newydd Theatr Bara Caws, a ysgrifennwyd gan Siôn Eirian a chyfarwyddwyd gan Betsan Llwyd. Gwleidyddiaeth gyda G mawr: Gwleidyddiaeth y gwleidyddion a’r wladwriaeth, Gwleidyddiaeth y Bae yn y byd “ôl-Brecsit”. Gwleidyddiaeth noeth gyda’r bolitishen yn ei bants, yn wir, mae’r olygfa yn un amgen. Gwelwn y byd trwy ffenest fflat y gwleidydd a thad, Gwyn (Dewi Rhys Williams), a gwelwn y wleidyddiaeth grand trwy berthnasau ei deulu niwclear. Ar y noswaith cyn ei araith fawr dros ei blaid (y Blaid, gyda llaw), heriwyd ei weledigaeth gan ei bartner, Ellie (Caryl Morgan), ei ffrind-goleg a gelyn Llafurol, Kelvin George (Rhodri Evan) a gweithredoedd ei fab, Trystan (Aled Bidder).

“Arwres” Yfory yw Ellie, ac er i’r ddrama yn ei gyfanrwydd gwrthgyferbyniol datgelu meddylfryd Eirian, trwy ei geiriau hi cawn ei faniffesto. Mae rhagflas o’i syniadau amgen a “radical” yn y Rhagair: “Oes unrhyw wleidyddion yng Nghaerdydd yn meiddio meddwl am dorri cwys allai newid cyfeiriad cymdeithas yng Nghymru? … Neu ydyn ni’n rhannu’r un meddylfryd adweithiol a’r un culni gorwelion a Lloegr bellach?” Wrth i Ellie perswadio Gwyn i newid ei araith, daw’r “cyfeiriad” newydd yn gliriach. Datganolwch bŵer i’r cynghorau lleol, adfywiwch yr hen fro, atgyweiriwch ein colled o gymuned. Sut? Trwy weithio gydag UKIP (!). Awn i ail adfer bro, llaw yn llaw da Neil Hamilton. Newidiwn “gyfeiriad” o “feddylfryd adweithiol” Loegr, trwy gyd-weithio a’r blaid adweithiol Seisnig.

Golygfa go-iawn o’r ddrama newydd, “Yfory”

Y Dref Wen yn y Dyffryn?

Nid radicaliaeth a gynigwyd yn Yfory, ond yr un hen drefn. Yr un hen bleidiau, a’r “gobaith” yn y gwaethaf. Heddiw, ar hyn o bryd, mae gwleidyddion yn cwtsho UKIP (a holl drais y system ffiniau warthus) – nid yw’n safiad radical. Sut ydi hi’n bosib gweld bodolaeth UKIP, plaid Seisnigaidd a Phrydeinllyd, plaid hiliol a cheidwadol, fel posibilrwydd “chwyldroadol” i Gymru? Mae’r weledigaeth mor gul â’r fflat bach yn y Bae. Wedi’r cyfan, os ma dyfodol ein gwlad yn gorwedd da gwleidyddion, yn y Bae neu’r Cynghorau, da ni’n ffyced ta beth[1]. Cymeriadau dosbarth canol – ac yn bennaf, y patriarch Cymreig – sy’n pia’r ewyllys i newid tynged y genedl yn y ddrama, a hynny trwy’r sefydliadau swyddogol yn unig. Trwy freintio eu bywydau nhw ar draul eraill cawn wleidyddiaeth adweithiol y ddrama. Er i’r ddrama delio â chymdeithas wedi’r refferendwm Ewropeaidd, nid oes gair am yr ymosodiadau hiliol ac Islamoffobaidd, na’r ymosodiadau yn erbyn pobl hoyw, lesbiaidd a thraws, a gynyddodd yn ei sgil. (Caiff hîl cyfeiriadau tocenistaidd ar adegau (“yr oedd gennym ni ffrindiau du”), a defnyddiwyd “Pygmy” yn sarhaus ar adeg arall.) Nid yw’r weledigaeth radical yn cynnwys ffawd ddyrys ffoaduriaid na fudwyr a gaiff eu herlid, eu caethiwo a’u hallgludo. Yn wir, mae galwad Ellie am dai lleol i bobl leol, llaw yn llaw a’r diffyg sylw llwyr i dranc fudwyr, yn troi ergyd gwrth-wladychol yn un adweithiol. A dyma’r Gymraes yn hiraethu’n rhagrithiol am golled ei bro, a hithau’n byw ar gefn boneddigeiddio Caerdydd, ar ludw hen dai dosbarth gweithiol! Na – dyma broblemau crachach croenwyn ar aelwyd foethus yn y Bae. Trowyd Theater Bara Caws yn Theater Cocên pur a Gwin drud.

Wrth ystyried hyn, efallai nid oes rhyfedd i’w ffantasi o Gymru Fydd gwtshio UKIP. Eto, dyma siom mawr. Mae’n llawn bosib, wedi’r cyfan, i greu’r fath golygfa a’i beirniadu’n radical o’r tu mewn. Ystyriwch An Inspector Calls Priestley, da’r aelwyd gefnog yn datgelu gwacter eu cyflwr eu hun, neu Brawd-ddydd Kafka, da’r amynedd bourgeois yn bwyta eu hun yn rhacs. Yn sicr fe wnaeth Yfory cyffwrdd â hyn. Ar ei gorau, amlygodd adfyd gwag y hetero-deulu niwclear, “gêm” disylwedd gwleidyddiaeth y Bae a thwyll y sefydliad newyddiadurol. Cawn sawl linell anhygoel, wrth i Ellie gofyn a oes dyn tu ôl i masg y gwleidydd, neu wrth i Gwyn a Kelvin olrhain eu dringo diysbryd trwy fiwrocratiaeth y pleidiau. Eto, ar adegau arall, anodd oedd gwahaniaethu rhwng hunanfeirniadaeth a rhagfarn dosbarth canol, wrth i’r cymeriadau gwneud hwyl o’r di-waith nad yw’n codi yn y bore (a’r gynulleidfa chwerthin yn eu tro). Ta beth, nid yw’r ddrama yn dilyn y beirniadaethau i’w diweddglo radical. Yn hytrach, rhoddwyd cyfeiriad “amgen” iddynt, gan bennu ag atebion adweithiol. Atebwyd gwacter gwleidyddiaeth trwy wleidyddiaeth leol, ac atebwyd adwaith Brecsit da phlaid adweithiol Brecsit.

Ffeminyddiaeth ffaeledig

Rhyw hanner feirniadaeth yn ogystal ceir o’r teulu niwclear a’r gymdeithas batriarchaidd, er gwaetha bwriad ffeminyddol Eirian. Arwres ffaeledig yw Ellie, a mond trwy fod yn bartner i Gwyn, a thrwy ei berswadio ef, oedd y posibilrwydd iddi “lwyddo” o gwbl. Hi yw’r gobaith eto ar y diwedd gan ffoi’r aelwyd i ddyfodol newydd, ond eto, a’i ffoi’r un meddylfryd adweithiol wnaiff hi? Os mai cymeriad ffeminyddol yw Ellie, nid yw’n ffeminydd rhyngblethol, intersectional. Fel menyw untu, wen, ddosbarth canol a’i gradd Oxbridge, nid yw eu gweledigaeth yn dangos unoliaeth i bob menyw. Anodd ystyried fel gall unrhyw arwres ffeminyddol ystyried agosáu at UKIP, plaid warthus o batriarchaidd. Ond yn sicr, nid yw ei ffeminyddiaeth yn un sydd yn ymestyn i’r menywod mudol a erlidiwyd gan y system ffiniau. Nid yw’r dychaniad o wrywiaeth-hetero Gwyn chwaith yn un dwys. Fel cymeriad Dewi Rhys Williams yn Pen Talar, er gwaetha ei chwantau erys ef wedi’r cwbl yn hen batriarch Cymreig ystrydebol, y penderfynydd moesol mewn sefyllfa anodd.

Yn debyg, diewyllys yw’r mab Trystan o fewn ei deulu a Gwleidyddiaeth fawr y byd. Dim ond trwy efelychu gormes hetero oedolion y daw’n oddrych o gwbl, trwy berthynas rhywiol gyda Cerian, merch pymtheng mlwydd oed. Er i’r ddrama dangos fel gall newyddiadurwyr a thadau gormesu merched yn ogystal, wedi’r elfen-sioc gwreiddiol ymylwyd ar esgusodi’r perthynas problemataidd. Trwy greu Trystan yn ddioddefwr, anwybyddwyd ei sefyllfa o bŵer dros ferch. Yn y pen draw, nid beirniadu cymhlethdod patriarchaeth yw swyddogaeth y datguddiad, ond rhoi penderfyniad arall i’r tad, Gwyn. Dewis ei fab, gan blygu i bwysau blackmail Kelvin a’i newyddiadurwr, yntau dewis gweledigaeth ei bartner, gan fygwth sgandal iddo fe ac i Trystan. Unwaith eto, ceisiwyd peri cydymdeimlad at bobl bwerus – dyn ifanc mewn perthynas â merch dan oedran, gwleidydd sy’n gwynebu sgandal, tad â dewis Abrahamaidd. Nid eu problemau personol nhw yw problem fawr y genedl.

Efallai dangos sut rhwystrwyd newid Ellie gan y rhain oedd bwriad Eirian, ond gan mai troi at UKIP yw’r newid nid yw’n drawiadol. Efallai, ar y llaw arall, mai corddi’r dyfroedd oedd ei ddymuniad. Ond rhaid i ni siarad yn ddi-flewyn ar dafod: pan fo cyrff ffoaduriaid yn nyfroedd Ewrop, adweithiol, nid pryfoclyd, yw cwtsho UKIP.

Unoliaeth yn erbyn UKIP

Drama wleidyddol yw Yfory, ond nid yw’n ddrama radical. Mae’r actio yn ddawnus, y cynhyrchiad o safon uchel, a’r sgript yn un crefftus tu hwnt. Siom mawr bod y cynnwys mor geidwadol, yn enwedig wrth gymharu â Gadael Lenin.[2] Mae’n wir bod neuadd dan ei sang o siaradwyr Cymraeg, yn gwylio drama Cymraeg, yn ddigwyddiad gwleidyddol (a bron yn un radical) yn ei hun. Eto, cysgod Seisnigeiddio yw cyd-destun trist y gwirionedd hwn. Dathlwyd bod y ddrama yn rhan o “sgwrs genedlaethol” a bod “mawrion” y Cymry Cymraeg yn gwylio’r ddrama – a dyma anarchwaethus bach yn eu tro yn rhan o’r sgwrs hon i bob golwg. Ond rhaid gofyn pwy gaewyd allan rhag sgwrs genedlaethol, a sgwrsio beth a wnawn. Dyma fygythiad byd bach y Bae: caiff rhai ware’r gêm (G)wleidyddol fel Saeson wrth i’r genedl araf lithro o dan ein traed. Ofer yw hunan-ddathliad heb feirniadaeth, a siarad heb frwydro[3]. Mae angen sgwrsio pragmataidd, ac y mae angen celfyddyd radical. Y mae hefyd angen gweithredu uniongyrchol ac unoliaeth go-iawn. Pwy a saif gyda ni?

 

Nodiadau

[1] Rhaid cofio mai llywodraeth leol Calais, a’i Maer neo-ffasgaidd, sy’n ymosod ar ffoaduriaid o hyd, wrth i ddinasyddion ffasgaidd “gyfrannu” yn ffisegol i’r wleidyddiaeth. Ac yn erbyn cynghorau lleol bu nifer o frwydrau mwyaf chwerw Cymdeithas ac eraill dros yr iaith. Nid yw atgyfnerthu “gwleidyddiaeth leol” o reidrwydd yn radical.

[2] Beirniadwn yma gynnwys a neges ymhlyg y ddrama, canys hon a aeriwyd i fod yn radical. Ond beth am ei ffurf? Pedwaredd wal gwydr ffenest y fflat sy’n ein cloi fel gwylwyr yn unig, heb ewyllys i wir newid ffawd y genedl. Dyma’r un gwydr sgleiniog sy’n amgáu Senedd y Bae. Er mae gwydr wedi’u torri yw clawr y rhaglen, ni thorrwyd ffurf arferol y theatr. Y theatr hon yw symbol y byd Oedipaidd-gyfalafol i Deleuze a Guattari, lle caethiwyd chwant yng nghynrychiolaeth teuluol-niwclear (mami, dadi, fi). Rhaid i wir ddrama radical chwalu a symud tu hwnt i gynhyrchiad cyfalaf, fel awgrymodd weithgareddau Diggers San Francisco.

[3] Mae arnom ddyled i Fred Moten am bwysleisio cyd-bwysigrwydd dathlu a beirniadu.

Protest Na i Ffair Arfau Caerdydd: Mawrth 28ain

Wythnos nesaf bydd ffair arfau “DPRTE” yn dychwelyd i’r Motorpoint Arena yng Nghaerdydd. Bydd diwrnod o brotest yn eu herbyn, rhwng 8 y bore a 5.30 y prynhawn, gan gwrdd tu allan i’w drysau.

Cyfarfod o gwmnïau mawr a’r Ministry of Defence sydd yn cynhyrchu, gwerthu a defnyddio offer milwrol yw’r DPRTE. Mae’r dechnoleg hon yn lladd miloedd dros y byd yn rhyfeloedd imperialaidd. Maent yn creu elw trwy lofruddio pobl gyffredin.

Man hysbysebu gorsaf bws a fachwyd gan brotestwyr llynedd

Gyrrwyd ffair arfau DPRTE allan o Fryste gan brotestiadau llwyddiannus. Llynedd cafwyd protestiadau mawr yn eu herbyn yng Nghaerdydd, er gwaetha trais yr heddlu oedd yn amddiffyn y masnachwyr. Nid oes croeso i’w masnach angau yng Nghymru. Dewch i’w hatal!

“Pan mae’r cyfoethog yn ryfela, y tlawd sy’n marw.

Ar y 28ed o Fawrth mae un o ffeiriau arfau mwyaf Gwledydd Prydain yn dod i Gaerdydd.

Rydym ni am eu herlid o ‘ma.”


Gwybodaeth pellach:

Dolen digwyddiad facebook

Tudalen riseup Na i Ffair Arfau Caerdydd
Blog Campaign Against the Arms Trade
Blog Winter Oak

Gwnewch y pethau bychain

Wedi pythefnos o hir-fyfyrio ar ein Neges Dydd Gŵyl Dewi, dyma anarchwaethus yn edrych nôl ar un o ddigwyddiadau 2017 (y ffasgydd Richard B. Spencer yn derbyn dyrnod llaw dde, 20fed o Ionawr) ac yn ystyried ei arwyddocâd ysbrydol i’n cenedl yn ein horiau dyrys, gan ei gyfleu mewn modd gweledol a thrawiadol.

Ys wedodd Dewi Sant, “Bydwch lawen a chedwch ych ffyd a’ch cret, a gwnewch y petheu bychein a glywyssawch ac a welsawch gennyf i.”

Rhai eglurhadau / Some Clarifications

Scroll down to read the following in English.


Hoffa anarchwaethus amlygu rhai pwyntiau a wnaethwn yn ein herthygl “Ffasgiaid Prydeinig yn ceisio bachu Cymreictod“.

Goruchafwyr gwyn a Goruchafiaeth wen

Er bod y bachiad hwn gan ffasgiaid goruchafol gwyn Prydeinig o symbolau Cymreig yn ddatblygiad diweddar, rhaid pwysleisio bod y perthynas rhwng Cymry gwyn, gan gynnwys Cenedlaetholwyr Cymreig gwyn, a goruchafiaeth wen systematig yn un hen iawn. Ymddiheurwn am beidio â phwysleisio hyn yn fwy cadarn yn yr erthygl.

Y gwahaniaeth rhwng y ddwy ffordd defnyddir y term “goruchafiaeth wen” sy’n bwysig fan hyn. Yn yr ystyr cyntaf, ideoleg wleidyddol “cydwybodol” yw goruchafiaeth wen, gan ddisgrifio grwpiau ac unigolion gwyn penodol sy’n weld eu hun yn oruchaf oblegid eu gwynder. Caiff bron pob ffasgydd a grybwyllwyd yn yr erthygl eu disgrifio, gan eu hun neu gan eraill, fel goruchafwyr gwyn (neu “genedlaetholwyr gwyn”) yn yr ystyr hon.

Yn yr ail ystyr, “system o ddominyddu” yw goruchafiaeth wen, yr “ecsploetiaeth o bobl du a phobl eraill nad yw’n groenwyn yng nghymdeithas” (bell hooks, Talking Back: Thinking Feminist, Thinking Black)[1]. Fan hyn mae’r term yn disgrifio (ac yn ymosod ar) perthynas cymdeithasol nad yw o reidrwydd yn gydwybodol. Fel pwysleisia Jessie Daniels: “Mae goruchafiaeth wen yn yr Unol Daleithiau yn egwyddor drefniadol canolog o fywyd cymdeithasol yn hytrach na fudiad cymdeithasol ynysig yn unig” (Cyber Racism: White Supremacy Online and the New Attack on Civil Rights)[2]. Mae goruchafiaeth wen systematig wrth gwrs yn hynod o berthnasol i fodolaeth goruchafwyr gwyn penodol, fel dengys Daniels ei hun.

Cymhlethdod ychwanegol yw bod goruchafwyr gwyn, yn yr ystyr cyntaf, bron wastod yn wrth-Semitaidd – mae gwrth-Semitiaeth yn rhan hanfodol o’u goruchafiaeth wen, lle bod y perthynas rhwng gwrth-Semitiaeth strwythurol a goruchafiaeth wen yn yr ail ystyr yn fwy cymhleth.

Pan ddefnyddiodd anarchwaethus goruchafiaeth a goruchafol wyn yn yr erthygl, defnyddia hi yn ystyr cyntaf y term, gyda’r eithriadau o’r 32ain a’r 34ain troednodyn. Dylswn ni wedi egluro hyn, neu ddefnyddio term arall megis cenedlaetholwyr gwyn, ac rydym yn flin am beidio. Gan ystyried yr hyn a ddadleuwn dylswn ni wedi bod yn gliriach ar y mater. Ymddiheurwn am hyn.

Yn gyffredinol, defnyddir ffasgiaeth, yng nghyd-destun gwrth-ffasgiaeth, mewn modd cul yn debyg i’r disgrifiad uchod o oruchafiaeth wen yn yr ystyr cyntaf. Er bod ffasgiaeth yn yr ystyr yma wrth gwrs yn gysylltiedig i ac yn rhan o ddominyddu systematig, gan gynnwys goruchafiaeth wen systematig a gwrth-Semitiaeth strwythurol, defnyddir hi yma i briodoli grwpiau, ideolegau a gwladwriaethau penodol ac yn y blaen, gyda nifer ohonynt yn hunan-ddisgrifio fel ffasgiaid.

Yn y modd cul hwn defnyddiodd anarchwaethus y term ffasgiaeth yn yr erthygl. Serch hyn hoffwn bwysleisio nad ydym yn credu taw dyma’r unig ffordd gellid neu ddylsid defnyddio’r term.

Goruchafwyr gwyn Prydeinig a goruchafiaeth wen Gymreig

Ffocws yr erthygl oedd y datblygiad diweddar hwn rhwng ffasgiaid Prydeinig a symboliaeth Cymreig. Gellid dim ond gwneud hyn trwy siarad am hiliaeth – olrheiniodd anarchwaethus y bachiad o symbolau Celtaidd gan oruchafwyr gwyn byd-eang (yn yr ystyr cyntaf). Gerllaw defnydd tocenistaidd o’r iaith Gymraeg a chipio symbolau Cymreig, bachwyd symbolau a hanesion Cenedlaetholdeb Cymreig gan rai ffasgiaid Prydeinig diweddar. Fan yma fe bwysleisiodd anarchwaethus nad yw Cenedlaetholdeb Cymreig erioed (hyd yn hyn) wedi cymryd ffurf ffasgaidd, goruchafol gwyn (eto, yn yr ystyr cyntaf). Yn debyg, ni chafodd Cymru erioed cyfundrefn ffasgaidd goruchafol gwyn cynhenid Cymreig a Chymraeg. Mae pob math o gyfundrefn, gan gynnwys testunau’r erthygl, wedi bod yn Prydeinllyd, os nad Seisnigaidd hyd y bywyn.

Dydi hyn ddim yn golygu nad yw Cymry gwyn (gan gynnwys Cenedlaetholwyr Cymreig gwyn) yn rhan complisit o oruchafiaeth wen systematig yn yr ail ystyr. Dydi hi ddim chwaith yn golygu bod Cymru yn wag o wrth-Semitiaeth strwythurol. Crybwyllwyd hyn yn yr erthygl (er nid trwy’r termau hyn).[3] Dylswn ni wedi pwysleisio hyn fwy wrth ystyried ein dadl, ac ymddiheurwn am beidio gwneud hyn.

Mae anarchwaethus wedi ceisio pwysleisio’r pwyntiau hyn yn erthygl uniaith Gymraeg arall. Fel dywedai Charlotte Williams, mae yna dueddiad ymysg Cymry gwyn i anwybyddu hiliaeth yng Nghymru, fel petai e’n gorffen ger y ffin. Caiff hanes caethfeistri Cymreig, gwladychwyr Cymreig, terfysgoedd hiliol yn erbyn pobl nad oedd yn wyn ac Iddewon, cyfraniadau i’r prosiect Imperialaidd Prydeinig, mentrau gwladychol “annibynnol” megis Patagonia a hiliaeth pob dydd yng Nghymru ei dileu yn feunyddiol. Hyd yn oed pan ymosoda Genedlaetholdeb Cymreig ar Brydeindod a hanes yr ymerodraeth Brydeinig, mae ganddo dueddiad cyfleus i anghofio’r gorffennol hwn. Ond y gorffennol hwn ffurfia’r Gymru lle cawn fyw.

Mae’r perthynas rhwng Cymru a goruchafiaeth wen systematig yn rwystr sylweddol i unrhyw berson gwyn sy’n dymuno arddel Cymreictod radical heddiw – fel gwnaiff anarchwaethus. Fel dadleuwn cynt, ni chawn Gymru Rydd nes i ni ddymchwel dominyddiaeth systematig, gan gynnwys hiliaeth. Nid yw anarchwaethus yn honni deall sut ddaw’r fath dymchweliad.

Cenedlaetholdeb(au) Cymreig presennol a hanesyddol

Hoffa anarchwaethus pwysleisio bod ein perthynas i genedlaetholdeb Cymreig yn un o feirniadaeth gartrefol. Fel anarchiaid yn erbyn gwladwriaethau, ni dderbynnir ein safiad fel un cenedlaetholgar gan y rhan fwyaf o genedlaetholwyr Cymreig. (Yn debyg, ni dderbynnir ein safiad yn un anarchaidd gan rai anarchiaid oblegid ein hagwedd i’r “cwestiwn cenedlaethol”. Wastod ar y tu fas…) Gellid cymharu ein perthynas i “genedlaetholdeb Cymreig” i berthynas anarchydd frwydr-ddosbarth i “sosialaeth”, neu anarchydd gwrthryfelgar i’r Red Army Faction.

Nid amddiffyniad o genedlaetholdeb Cymreig hanesyddol oedd bwriad yr erthygl. Yn hytrach, lle drafodwn genedlaetholdeb Cymreig, roeddem yn mynnu nad ffasgaidd oedd ei ymddangosiadau cyfundrefnol cyn belled. Nid yw hyn yn cau allan posibilrwydd ffasgiaeth Gymreig ddi-Brydeinig yn y dyfodol, na chwaith yn golygu bod y fath bachiad o Gymreictod gan ffasgiaid Prydeinig heb wenwyn. Rhaid ymosod ar ffasgiaeth, pa bynnag baner y codant. Rhaid hefyd ymosod ar y bachiad hwn o symbolau Cymreig gan ffasgiaid Prydeinig. Fel gwrth-ffasgiaid Cymreig mae digon i wneud. Dewch i ni fynd ati!




anarchwaethus would like to clarify certain points made in the article “British fascists try to appropriate Welsh symbols”.

White supremacists and white supremacy

We want to emphasise that whilst the appropriation by British white supremacist fascists of Welsh symbols is a recent development, the relation of white Welsh people, including white Welsh nationalists, to systematic white supremacy is not. We apologise for not emphasising this more strongly in the article.

The difference here lies between two ways in which the term “white supremacy” is used. The first sense is white supremacy as a “conscious” political ideology, describing certain white individuals and organisations who regard themselves as superior because of their whiteness. Almost all of the fascists mentioned in the article would describe themselves and be described as white-supremacists (or “white nationalists”) in this sense.

The second sense is white supremacy as a “system of domination”, the “exploitation of black people and other people of color in this society” (bell hooks, Talking Back: Thinking Feminist, Thinking Black). Here the term describes (and attacks) a social relationship which isn’t necessarily conscious. As Jessie Daniels puts it: “White supremacy in the United States is a central organizing principle of social life rather than merely an isolated social movement” (Cyber Racism White Supremacy Online and the New Attack on Civil Rights). The existence of particular, overt white supremacists is of course intimately related to this systematic white supremacy, as Daniels herself demonstrates.

An added complication is that white supremacists, in the first sense, are almost invariably anti-Semitic – anti-Semitism is an essential aspect of their white supremacism, whereas the relationship between white supremacy in the second sense and structural anti-Semitism is more complex.

When anarchwaethus used white supremacy and supremacist in the article, it was using it in the first sense of the term, with the exceptions of the 32nd and 34th footnote. We should have clarified this, or used a different term such as white nationalists, and we are sorry that we didn’t. Considering the points we were making we should have been more clear. We apologise for this.

Fascism, in the context of anti-fascism, is generally used in a narrow way similar to white-supremacist in the first sense described above. Whilst fascism in this sense is of course connected to and a part of systematic domination, including systematic white supremacy and structural anti-Semitism, it is again used here to refer to particular groups, ideologies, states etc., many of which self-describe themselves as fascist.

This narrow definition was how anarchwaethus was using the term fascism in the article. We would like to stress however that we don’t think this is the only way the term can or should be used.

British white supremacists and Welsh white supremacy

The article’s focus was this recent development between British fascists and Welsh symbolism. This can only be done by talking about racism – anarchwaethus traced the appropriation of Celtic symbols by white supremacists worldwide (in the first sense). Alongside tokenistic use of the Welsh language and taking Welsh symbols, some recent British fascists have appropriated Welsh Nationalist symbols and histories. anarchwaethus here stressed that Welsh Nationalism has never yet taken a fascist, white-supremacist form (again, in the first sense). Likewise, Wales has never yet had a native Welsh and Welsh speaking white-supremacist fascist organisation. All such organisations, including those that were the subject of the article, have on the contrary had Britishness, if not Englishness, at their core.

This does not mean however that white-Welsh people (including white Welsh nationalists) are not a complicit part of systematic white supremacy in the second sense. Nor does it mean that Wales is devoid of structural anti-Semitism. We pointed towards this in the article (albeit not using these terms). [3] We should have emphasised it more considering the point we were making, and we are sorry that we didn’t.

anarchwaethus has tried to emphasise these points in another article (written in Welsh). As Charlotte Williams puts it, there is a tendency amongst white Welsh people to simply ignore racism in Wales, as if it ends at the border. The history of Welsh slave owners, Welsh settlers, local race riots against people of colour and Jews, participation in the British Imperial project, “independent” colonial ventures such as the Gwladfa in Patagonia and everyday racism in Wales are daily erased. Even when Welsh Nationalism attacks Britishness and the legacy of the British Empire, it has a tendency to conveniently forget this past. But it is this past which forms the Wales in which we live.

This relation of systematic white supremacy to Wales is a significant barrier to any white person who wishes to assert a radical Welshness today – as anarchwaethus does. As we have previously argued, there is no Free Wales until systematic dominations, such as racism, are abolished. anarchwaethus does not claim to understand how this abolition will take place.

Existing and historic Welsh Nationalism(s)

anarchwaethus would like to emphasise that our relation to existing and historic Welsh nationalism is intimately critical. As anarchists against states, many Welsh nationalists would not accept our position as nationalist.[4] (Likewise, our stance on the “national question” means that some anarchists would not accept our position as anarchist. Wastod ar y tu fas…) Our relation to “Welsh nationalism” might compare to a class-struggle anarchist’s relation to “socialism”, or an insurrectionary anarchist’s relation to the Red Army Faction.

We did not intend the article to be a defense of historic Welsh nationalism. Rather, where we discussed Welsh nationalism, it was to assert that its organisational manifestations cannot, so far, be described as fascist. This doesn’t rule out a future non-British Welsh fascism, nor does it mean that these appropriations of Welshness by British fascists aren’t toxic. Fascism, whatever banner it raises, must be attacked. This recent appropriation by British fascists of Welsh symbols must also be attacked. As Welsh antifascists there’s a lot to be done. Dewch i ni fynd ati!


Nodiadau / Notes

[1][2] Cyfieithiad anarchwaethus – gwelwch y Saesneg uchod am y dyfyniadau gwreiddiol.

[3] Yn y paragraff “Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu bod Cymru yn genedl radical o’i hanfod heb hiliaeth na gorthrymder, fel cred rhai Cymry gwyn naïf…” ac hefyd yn y troednodyn “Rhaid, wrth siarad am yr hanes hwn o ran enedlaetholdeb Cymreig, peidio ag anwybyddu hanesion hiliol yng Nghymru, yn enwedig rôl nifer o Gymry yn yr ymerodraeth Brydeinig.” / In the paragraph, “Of course, this does not mean that Wales is some essentially radical nation without racism or oppression, as some niaive white Welsh people believe…” and also in the footnote “We must, whilst talking about this history regarding Welsh nationalism, not ignore racist histories in Wales, in particular the role of many Welsh people in the British empire.”

[4] Serch hyn, ma ychydig o hanes o affinedd neu hyd yn oed uniad rhwng rhai gwerinaethwyr Cymreig asgell-chwith ac anarchiaid. Gwelwch, er enghraifft, hanesion Ian Bone neu Dafydd Ladd. / All the same, there is a sparse history of affinity and even convergence between some left-wing Welsh republicans and anarchists. See for example, the histories of Ian Bone or Dafydd Ladd.

Na i allgludiad Shiromini Satkunarajah a Roshani Satkunarajah! Na i allgludiadau!

To read & share the following in English, click here (facebook link) and here (twitter link). Shiromini’s mother, Roshani Satkunarajah is also detained at Yarl’s Wood and facing imminent deportation.

There are two mass expulsion charter flights secheduled in the next two weeks, see this facebook link. Stop deportations!

Mae’r canlynol yn gyfieithiad o alwad o Free University of Sheffield a anfonwyd at anarchwaethus – gwelwch y dolen facebook hwn a’r dolen trydar hwn. Mae mam Shiromini, Roshani Satkunarajah, hefyd wedi’i chloi yn Yarl’s Wood ac yn wynebu allgludiad yn fuan.

Mae dau awyren allgludo wedi’u cynllunio am y pythefnos nesaf – gwelwch y dolen facebook hwn. Na i allgludiadau!


***DIWEDDARIAD AR ALLGLUDIAD SHIROMINI SATKUNARAJAH***

Mae’r fyfyrwraig 20 mlwydd oed Shiromini Satkunarajah 3 mis i ffwrdd o gwblhau ei gradd mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor – mae hi i fod i raddio ar yr 8fed o Orffennaf, ac wedi bod ym Mhrydain am 8 mlynedd.

Fodd bynnag, ar ddydd Mawrth cafodd hi ei harestio’n sydyn a’i chymryd i Ganolfan Cadw Yarl’s Wood, ac mae disgwyl iddi chael ei hallgludo ar y 28ain o Chwefror. Nid oes geiriau i ddisgrifio’r arswyd a’r ofn o gael dy garcharu mewn canolfan cadw, yn enwedig mewn rhywle fel Yarl’s Wood sy’n enwog am dramgwyddo hawliau dynol.

DIM OND DEUDDYDD felly sydd gennym i greu stŵr i’r Swyddfa Gartref a gweithio er mwyn gwrthdroi eu penderfyniad creulon. Mae protestio gan y cyhoedd wedi llwyddo i atal hediadau allgludo yn y gorffennol.

 

***GWYBODAETH DIWEDDARAF AR SUT GALLWN NI HELPU***

Ymunwch â’r ymgyrch Headtalker hon, fydd yn anfon allan neges dorfol trwy gyfrifon cefnogwyr ar ddydd Llun er mwyn helpu cael mwy o sylw i achos Shiromini: https://headtalker.com/campaigns/stop-shirominis-deportation

Llofnodwch ddeiseb Shiromini a rhannwch gyda’ch ffrindiau: https://www.change.org/p/amber-rudd-mp-stop-shiromini-getting-deported-she-is-three-months-away-from-completing-a-degree

Hoffwch a rhannwch dudalen ymgyrch Shiromini: https://www.facebook.com/Shiromini1/?pnref=story

 

Yn ôl teulu Shiromini, nid yw Prifysgol Bangor yn ei helpu hi. Mae hyn yn warthus. Mae’r teulu eisiau ein cymorth i gael sicrwydd gan Brifysgol Bangor y bydden nhw’n gwneud popeth yn eu gallu i ymyrryd ar ran Shiromini:

Prif switchfwrdd: (01248) 351151

Facebook: Prifysgol Bangor

Twitter: @prifysgolbangor

SU email: undeb@undebbangor.com

E-bost Gwasanethau Myfyrwyr: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk

E-bost yr Is-Ganghellor: john.hughes@bangor.ac.uk

 

Bydd yr awyren sy’n allgludo Shiromini yn hedfan o faes awyr Manceinion. Gofynnwch i faes awyr Manceinion i beidio bod yn rhan o’r allgludiad hiliol a chreulon yma:

Gwasanaethau cwsmeriaid: 0800 042 0213

Facebook: Manchester Airport

Twitter: @manairport

 

Rhif hediad Shiromini yw QR024. Yr unig hediad o Fanceinion i Doha gyda’r rhif yna ar ddydd Mawrth yw hediad QR24 Qatar Airways am 9.00pm. Cyfeiriwch at rif hediad Shiromini mewn unrhyw ohebiaeth gewch chi gyda Qatar a Manceinion, a gofynnwch iddynt gynnwys y peilot mewn unrhyw ohebiaeth dros e-bost: dywedwn wrth Qatar Airways, cwmni sy’n ymwybodol iawn o’i ddelwedd, bod dewis ganddynt i beidio â hedfan yr awyren yma:

Gwasanaeth Qatar Airways Manceinion: 033 0024 0125

Facebook: Qatar Airways

Twitter: @qatarairways

Cysylltwch â’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd:

Facebook: https://www.facebook.com/amberruddmp/?fref=ts

Twitter: @AmberRudd_MP

E-bost: amber.rudd.mp@parliament.uk

privateoffice.external@homeoffice.gsi.gov.uk

 

Cysylltwch â’r Swyddfa Gartref:

Twitter: @ukhomeoffice

E-bost: public.enquiries@homeoffice.gsi.gov.uk

Trydarwch gyda’r hashnodau #AchubShiromini #WomenInEngineering #WeWantShiromini

 

Erthyglau i’w rhannu: http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/255475-cyhuddor-swyddfa-gartref-o-ddifaterwch-creulon

http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/39092598

RHANNWCH!

Difrod i fega-garchar HMP Berwyn, Wrecsam

Ar yr 20fed o Chwefror, 2017, datganodd grŵp dienw eu bod wedi achosi difrod sylweddol i garchar HMP Berwyn, Wrecsam. Dyma gyfieithiad anarchwaethus o’r communiqué gwreiddiol:

“Difrod i HMP Berwyn yn ystod adeiladwaith – Carchar yn strwythurol fregus

Mae’n bwysig datgan un wythnos cyn agored HMP Berwyn bod dau o’r blociau-tai yn y carchar yn strwythurol fregus o ganlyniad i ddifrod yn 2015.

Gan ddilyn ein gweithred ym mis Mai 2015 lle ddifrodwyd peiriannau, gwyddem y bydde ymgais i ymosod yn gyson ar y carchar yn amhosib o ganlyniad i’r muriau carchar a adeiladwyd o gwmpas y safle. Ar ôl ymchwil dwys, daeth yn gyflym amlwg y gellid cael effaith dramatig heb fawr o ymdrech.

Yn Fehefin 2015, arllwyswyd pwder asidaidd gryf i mewn i gloddiau slabiau llawr gwaelod dau o flociau-tai y carchar. O ganlyniad gwnaethpwyd dau o’r adeiladau hyn yn strwythurol fregus – yn y pen draw bydd eu seiliau yn chwalu a gall yr adeiladau dymchwel dros amser.

O wybod bod cryfder y slabiau hyn wedi’u lleihau cryn dipyn, mae ymchwiliadau ymwthiol ac ail-adeiladwaith llawn o’r blociau-tai hyn yn angenrheidiol cyn ceisio cloi pobl yn yr adeiladau.

Ymroddwyd y weithred hon i bob person a bu farw yn y system garchar ar law’r Wladwriaeth.”


Carwn nodi mai cyfieithiad Cymraeg arall o “sabotage” (difrod) yng nghydestun cynlluniau yw “tanseilio”.

cynllunhmpberwyn
Cynllun o HMP Berwyn. Bwriadir ei agor ar y 27ain o Chwefror.

Ers y datganiad, mae’r CAPE Campaign a No Prisons Manchester wedi galw am:

“…ataliad agoriad y carchar ar unwaith, a gynllunnir ar hyn o bryd am Ddydd Llun y 27ain o Chwefror, tan i’r ymchwiliadau strwythurol angenrheidiol cael eu cwblhau. …. O wybod y wybodaeth hon, mi fydde hi’n foesol a gwleidyddol anghyfrifol i’r carchar agor fel y cynllunnir.”

Mae’r mega-garchar, un o’r sawl a fwriada’r wladwriaeth agor dros y blynyddoedd nesaf, wedi wynebu cryn dipyn o brotestiadau a gwrthwynebiad cymunedol.

Bydd protest yn erbyn y carchar tu allan i brif giatiau HMP Berwyn, Wrecsam am 12yh ar ddydd Llun y 27ain o Chwefror.

Chwalwch bob caets!

Tri phrotest cyn hir: Na i garchardai! & Na i orthrymder anifeiliaid!

Ma rhai protestiadau ar y gorwel:

Protest Na i Garchardai!

Cwrdd tu allan i brif giatiau HMP Berwyn, Wrecsam am 12yh ar ddydd Llun y 27ain o Chwefror.

Mae No Prisons Manchester, Community Action on Prison Expansion, ac yr Incarcerated Workers’ Organising Committee yr IWW yn galw am weithredu yn erbyn y diwydiant carchar a mega-garchar newydd Wrecsam yng Ngogledd Cymru.

Mega-garchar Newydd HMP Berwyn
Mega-garchar newydd HMP Berwyn, Wrecsam

“Ym mis Chwefror ar y 27ain bydd ail garchar mwyaf Ewrop yn yn cael ei hagor yn Wrecsam, Gogledd Cymru. Bu pobl lleol yn lobio yn ei herbyn am pum mlynedd a fe wnaeth ymgyrchwyr weithredu yn erbyn adeiladu y carchar sawl gwaith gan flocio y deunyddiau adeiladu rhad dod i’r safle a creu stwr yn rhai o ddigwyddiadau ricriwtio’r carchar.

Gyda chalon drom rydym yn tystio’r cawell ar y fath raddfa ddiwydiannol hon gael ei hagor. Byddwn yno y dydd caiff ei hagor yn dangos ein gwrthwynebiad i holl garchardai a caiff eu hadeiadu a’r tyfiant o’r cyd-berthynas diwydiannol carchar.

…”

Dolen digwyddiad ar wefan CAPE Campaign

Dolen digwyddiad facebook

Chwalwch bob caets!


Cardiff Animal Save Gwylfa (“Vigil“) Lladd-Dy St Merryn, Merthyr

10yb tan 12, Dydd Mercher y 22ain o Chwefror.

Dolen digwyddiad facebook

Dolen trydar Cardiff Animal Save


Cardiff Vegan Action Protest Gwrth-ffwr

Tu allan i Michael Kors, Flannels, Coco Blush, Stondinau’r Farchnad, 12yh tan 3, Dydd Sadwrn, 25ain o Chwefror.

Dolen digwyddiad facebook

Dolen trydar Cardiff Vegan Action

Chwalwch orthymder anifeiliaid!


Os hoffech anarchwaethus tynnu sylw at brotest neu ddigwyddiad lled radical yng Nghymru, rhowch wybod i ni!