Protest Na i Ffair Arfau Caerdydd: Mawrth 28ain

Wythnos nesaf bydd ffair arfau “DPRTE” yn dychwelyd i’r Motorpoint Arena yng Nghaerdydd. Bydd diwrnod o brotest yn eu herbyn, rhwng 8 y bore a 5.30 y prynhawn, gan gwrdd tu allan i’w drysau.

Cyfarfod o gwmnïau mawr a’r Ministry of Defence sydd yn cynhyrchu, gwerthu a defnyddio offer milwrol yw’r DPRTE. Mae’r dechnoleg hon yn lladd miloedd dros y byd yn rhyfeloedd imperialaidd. Maent yn creu elw trwy lofruddio pobl gyffredin.

Man hysbysebu gorsaf bws a fachwyd gan brotestwyr llynedd

Gyrrwyd ffair arfau DPRTE allan o Fryste gan brotestiadau llwyddiannus. Llynedd cafwyd protestiadau mawr yn eu herbyn yng Nghaerdydd, er gwaetha trais yr heddlu oedd yn amddiffyn y masnachwyr. Nid oes croeso i’w masnach angau yng Nghymru. Dewch i’w hatal!

“Pan mae’r cyfoethog yn ryfela, y tlawd sy’n marw.

Ar y 28ed o Fawrth mae un o ffeiriau arfau mwyaf Gwledydd Prydain yn dod i Gaerdydd.

Rydym ni am eu herlid o ‘ma.”


Gwybodaeth pellach:

Dolen digwyddiad facebook

Tudalen riseup Na i Ffair Arfau Caerdydd
Blog Campaign Against the Arms Trade
Blog Winter Oak

2 o sylwadau am “Protest Na i Ffair Arfau Caerdydd: Mawrth 28ain

    1. Gyrrwyd ffair arfau “DPRTE” allan o Fryste gan brotestiadau llwyddiannus, ond ie, pam dewiswyd Caerdydd? Nagw i’n gwbod. Ma tipyn o fuddsoddiad mewn diwydiannau milwrol yn digwydd yng Nghasnewydd gerllaw (gan gynnwys y Brifysgol fyna) – oedd yn gysylltiedig yn eu tro i’r cynhadledd NATO yn 2014…

      Ma gan CAAT map o sawl gwmni milwrol a thebyg fan hyn: https://www.caat.org.uk/resources/mapping

      Ma cynhadleddau a chyfarfodydd tebyg i ffair arfau DPRTE dros yr ynysoedd oll, megis DSEI Llundain. Mae eraill yn fwy cyfrinachol.

      Ma hefyd gan CAAT mwy o adnoddau ar ffeiriau fan hyn: https://www.caat.org.uk/issues/arms-fairs

      Hoffwyd gan 1 person

Gadael sylw