“Caru Llawer”

carullawer3

Anaml y clywn, yn ein hiaith Barchus, cân-werin yn clodfori “caru llawer”. Anaml iawn y cawn glywed cân-werin sy’n clodfori menyw a “gâr llawer” yn agored.[1]

Mae digon (neu ormod) o Hen Benillion lle cawn Gymro yn brolio fod ef ei hun yn caru sawl fenyw a hynny heb iddynt wybod.[2] Ond gwahanol yw “Caru Llawer”. Walle taw ddyn sydd yn canu unwaith eto fanyn, ond ei “Gwenno fach annwyl” sydd yn caru sawl un arall.[3] (a “Nid rhan ‘mod i’n brolio”, medde fe.) Dengys eiriau ei hun ei fod yn gwybod am gariadon ei gariad – “a chroeso bob rhai”. Nid oes twyll. (Dydi e ddim yn ymhelaethu os yw ei chariadon eraill yn gwybod hyn yn ogystal, ond rhaid cyfaddef mae tipyn o gamp fydde cuddio “pedwar ar ddeg” o gariadon!) Yn ogystal, mae caru llawer ei bartner, yn ôl y golwg, yn dod o’i hewyllys ei hun, gan fod y cantor yn hwyrach yn dymuno iddi newid ei meddwl.

Dyma Gymraes, felly, sydd yn caru sawl gariad, yn agored am hyn (mae’n debyg) gyda’i phartneriaid, ac yn ei gwneud o’i gwirfodd. Erbyn heddiw, dyma ddiffiniad y term “polyamory“.

Nid yw “caru llawer” cariad y cantor yn achosi casineb, feirniadaeth foesol na chosbi patriarchaidd: “er hynny ‘dwy’n caru’r hen gariad dim llai”. Ond mae’r “er hynny” pwysig hyn yn dynodi holl bwysau moesol eu hoes – ac mewn ffyrdd gwahanol, ein hoes ni. Rhaid iddo egluro ei hun. Nid yw’r ffaith ei fod yn ei charu “dim llai” yn amlwg, nac yn arferol. Yn hytrach, fe gosbwyd yn llym gan drefn y dydd.

Oes y Gân, Cân ei hoes?

Wrth i gân draddodiadol byw ac ail-fyw, marw ac atgyfodi eto, daw’n perthyn i enau sawl oes. Ond ym mha gyfnod mae gwraidd y gân hon? Cawn awgrymiad o nodiadau Phyllis Kinney a Meredydd Evans yn “Canu’r Cymry“:

“Codwyd yr alaw gan Meredydd Evans o ganu Elizabeth J. Evans, yn 1967. Roedd hi’n byw ar y pryd yn Y Friog ym Meirionnydd ond treuliodd y rhan helaethaf o’i hoes yn ardaloedd Ffestiniog a’r Bala. Dysgodd hi’r gân oddi wrth ei thad, John Thomas Maes y Fedw, Bala, canwr gwerin gyda’r gorau a glywyd yng Nghymru’r ganrif hon…”

johnthomas
John Thomas Maes y Fedw, Bala [4]

Cafodd Meredydd Evans y gân o Elizabeth J. Evans yn ystod oes “Chwyldro Rhywiol” y 60au, cyfnod o drawsnewid ym moeseg rywiol y Gorllewin. Genid John Thomas i Gymru arall, can mlynedd yng nghynt, yn 1865.[4] Gellid disgwyl i’r gân deillio o ran olaf y 19eg ganrif felly, os nad cynt – ar y hwyraf daw o ran gyntaf yr 20fed. Daw’r rhestr o alwedigaethau artisanaidd y cariadon (“melinydd a gwŷdd / A ‘go ac ysgalter…”) o gyn-fyd gwerinol ei naws, byd a oedd yn diflannu yn sgil y chwyldro diwydiannol.

“Anlladrwydd”

Ni chlodforwyd y weithred o garu llawer gan brif-foeseg yr hen Gymru hon. Daw “anlladrwydd anniwair” a “thrythyll chwantus” dan holl feirniadaeth a damnedigaeth y Capeli Piwritanaidd – a’r Eglwys Anglicanaidd ‘fyd. Bu Geffyl Pren y werin a llysoedd y brenin hefyd yn cosbi’r fath “anfoesoldeb”. Monogami a phriodas un dyn i un fenyw, oedd y drefn swyddogol, ac fe gosbwyd tramgwydd, yn enwedig tramgwydd menyw. Cofia Meic Stevens yn “Hunangofiant y Brawd Houdini” “…Solfach yn y dyddie pan oedd y capeli’n rheoli popeth.”

*Rhybudd Cynnwys am y ddau baragraff nesaf*

“Os oedd merch yn cael plentyn llwyn a pherth [tu allan i briodas], fe fydde hi, fel arfer, yn cael ei diarddel o’r capel trwy orchymyn y diaconied a’r gweinidog. Ychydig iawn o ddewis fydde ‘da hi, a, chan amlaf, fe fydde’n cael ei hala mas o’r ffordd i ryw fferm i fod yn forwyn fach rhyw hen ŵr gweddw, ac, yn ôl pob tebyg, i rannu’i wely fe. Neu fe fydde’n rhaid iddi fynd ymhell bell lan y lein – i Gaerdydd neu i Lunden. Gwnaeth rhai merched y gwn i amdanyn nhw yr un peth â fy hen Anti Edith a gafodd ei threisio gan was fferm, sef eu lladd eu hunen.”

Mae rhagrith y gosb – anfon y forwyn i wely hen ŵr – yn dilyn rhagrith moeseg y system batriarchaidd. Roedd nifer o’r dynion mawr, gan gynnwys Gweinidogion, yn cael rhyw neu yn treisio tu allan i briodasau ond yn aml yn osgoi unrhyw fath o gosb neu ddiarddeliad. (Ni adnabuwyd trais priodasol yn gyfreithlon tan 1991.)

“…want of chastity is the giant sin of Wales.”
Brad y Llyfrau Gleision“, neu “Reports of the commissioners of enquiry into the state of education in Wales

Cyhoeddwyd y “Llyfrau Gleision” gan arbenigwyr Prydeinig (trwy enau Parchedigion Anglicanaidd) yn 1847. Ynddi cawn feirniadaeth swyddogol, wladwriaethol o (“ddiffyg”) moesoldeb rhywiol menywod Cymry. Dengys Jane Aaron (ymysg eraill) bod rhaid deall disgyblaeth y Capeli o fenywod yng nghyd-destun yr adroddiad hwn, ac felly yng nghyd-destun ein gwladychiad fel cenedl.[5] Yn dilyn yr adroddiad, aeth rhai o ddynion parchus Gwalia ati i brofi yn ystadegol bod merched Lloegr yr un mor “anfoesol” (!). Ar yr un trywydd, ymateb y Capeli oedd i brofi’r adroddwyr yn anghywir trwy gosbi eu menywod yn llymach rhag iddynt “siomi” Cymru fach a’i hanghydffurfiaeth. Er bod yr enwadau a’r llywodraeth eisoes wedi ceisio rheoli bywydau rhywiol, rhaid deall bod y “canlyn cywely” hyn yn ymarfer weddol ganiataol yng Nghymru ac yn Lloegr cyn yr Oes Fictorianaidd. Daeth tro ar fyd.

Dynwared Gwrthdrawiadau

Walle dynwared sefyllfa o “garu llawer” oedd pwrpas y gân, a gor-weud ydym. Peth dwlu dros ben llestri – dyna’i gyd. Ond mynna anarchwaethus os felly mae’n anghyson, ac nid dyna’r unig “wirionedd” na’r unig ffordd i’w dehongli na’i chanu. Mynnwn weld gwrthdrawiadau’r oes – moesoldeb a rhagrith, patriarchaeth a rhyddid, yn y gân “Caru Llawer”. (Mae dynwared, ta beth, yn ffordd gref o ddal gwrthdrawiadau ynghyd.) Yn y pennill cyntaf mae’r cantwr yn sicr o’u cariad a’r ffaith “ca’i gusan cyn gynted â neb”. Yn yr ail bennill mae’r cantwr yn croesawu cariadon a rhywioldeb ei gariad. Ond yn y trydydd, mae’n datgan (yn aneglur, neu yn amwys?) “y sawl a gâr lawer geiff fod heb yr un”. Yn y chweched, nid yw’n croesawu mwy ei chariadon eraill, ond yn bwriadu ei phriodi! I gloi, yn y pennill olaf amheua ei fod yn gwybod y gallai caru o gwbl.

Gellid ceisio esbonio gwrthddweud y gân trwy gyfeirio at natur grwydrol penillion a llinellau yn ein dull canu gwerin.[6] Fath o “bricolage” ar y cyd, o greu ac ail-ddefnyddio, distriwio a chyfuno yw’r grefft gymunedol yn y bôn. Ond eto, bydde cyfuniad o benillion unigol, estron, yn yr un gân mond yn pwysleisio gwrthgyferbyniadau’r gymdeithas anfodlon. Mae ffurf y gân ei hun, hynny yw, y ffaith ei fod yn gân werin, Gymraeg, hefyd yn rhan o wrthdrawiadau’r oes, pan damneiddiwyd caneuon gwerin oll fel gwaith y diafol gan y Capeli (heb sôn am ganeuon â chynnwys “amharchus”), a phan odd yr iaith ar drai. Hyd yn oed pe casglwyd, yn aml fersiwn sensoredig oedd y cynnyrch gorffenedig.[7]

Ond er gwaetha hyn oll, er gwaetha’r biwritaniaeth a’r batriarchaeth, dyma alaw hyfryd am Gymraes sy’n mynnu neud fel arall. Wrth ddeall hyn oll, gwelwn taw dyst anhygoel yw “Caru Llawer” i fyd o awydd ac angerdd anystywallt.

Caru Llawer Heddiw

Mae perthynas y pethe a gelwyd heddiw yn “polyamory” a “free love” i anarchiaeth a ffeminyddiaeth heddiw yn un cymhleth (ac mae arnom ofn ein bod wedi hen “teipio llawer”)[8]. Ers 1847 – ac ers 1969, mae Cymry wedi newid tipyn. Daeth tair ton ffeminyddol i lannau ein gwlad, ond eto erys gormes fel carreg gadarn. Mae hetero-batriarchaeth yn dal i deyrnasu trwy safonau o “barchusrwydd” a monogami – ac yn dal i farnu a disgyblu chwant pawb nad yw’n ddynion untu, heterorywiol.

Cofiaf heddwas lleol (y cachwr), ar lwyfan ein hysgol, yn rhybuddio merched rhag bod yn “beic y pentref”. Cofiaf ein haddysg rhywioldeb yn dweud bod caru “gormod” yn eich strwa fel person. Mewn sawl ffordd, roedd SlutWalk Caerdydd yn 2011 yn gwrthwynebu yr un egwyddorion gormesol ag oedd “Gwenno fach” ein halaw. Heb os, dydi ni heb gyrraedd pen y taith.

slutwalkcardiff
SlutWalk Cardiff [dolen facebook], Haf 2011

“Polyamory” yn Gymraeg

Dydi anarchwaethus heb ffindo geiriau Cymraeg tebyg i “free love” na “polyamory“, ac mae’r geiriau am “promiscuity” oll yn feirniadol fyd.

Yn dilyn y gân, hoffwn gynnig “caru llawer” am “polyamory“.

Rhowch sylwad isod os gwyddoch am eiriau eraill, neu os oes gennych fathiad eich hun.

Nodiadau

1 O’r Hen Benillion, mae gennym:

442
Bum yn caru dau’r un enw,
Un yn lan a’r llall yn salw ;
Gyda’r salw y mae’r moddion,
Bachgen glan a gaiff fy nghalon.

(Cawn enghreifftiau eraill tebyg, ond yn sôn am garu menywod (441 yn debyg iawn, a hefyd 592 lle cawn fenyw salw ag arian yn lle moddion))

515
Och a fi na lwfiai’r gyfraith
Im briodi dau ar unwaith
‘R wyf yn caru dau’r un enw,
Siôn ŵr ifanc, Siôn ŵr gweddw.

(Eto, yn 516 cawn yr un pennill ond yn sôn am ddwy Siân lle ddau Siôn)

Mae 442 yn wahanol i “Garu Llawer”: mae’n amlwg mae o reidrwydd mae’r fenyw yn caru’r un a’r moddion. Mae 515 yn wahanol eto, ac yn ddiddorol iawn, gan ei fod yn ymosod ar drefn y gyfraith (ac yn cyfateb i alwadau “Free Love” felly). Ond rhaid bod yn garcus o fod yn or-ddifrifol yn ein dehongli: rhoddodd T. H. Parry-Williams 515 yng nghategori “Ffraethineb”. Ar y trywydd hwn, cawn,

547
Mae gennyf bedwar o gariada
Af i’w gwerthu i ffair y Bala,
Un am ddim a’r llall am ddima,
A’r ddau eraill am geinioga.

Os oes gennych esiamplau eraill, hoffwn ei weld!

2 Cymerwch, er enghraifft,

597
‘R wy’ ‘n caru tair yn ffyddlon
 chelwydd drwy lythyron ;
Ond pan fwy’ ‘n gorfod mynd i ffair,
Mae un o’r tair yn digon.

Neu,

586
Paid â meddwl, Fenws dirion,
Ar dy ôl y torra’ i ‘nghalon.
‘D wyt ti ond un o ddwy ar bymtheg.
Os pelli di, mi dreiaf chwaneg.

Ond i rain oll, mai gennym ateb berffaith o’n chwiorydd yng Nghymru gynt:

332
Ffals a choeglyd ydyw’r meibion,
Tyngu a gwenieithio’n greulon ;
Gwneud i’r merched druain goelio
Peth na wnânt byth ei gywiro.

Cawn Hen Benillion fwy cadarnhaol am garu sawl fenyw (hynny yw, nid ydynt yn frolio nac yn sôn am dwyll amlwg), er i T. H. Parry-Williams eu rhoi yng nghategori “Ffraethineb”. Gwelwch 615: “Nani, Siani, Lowri, Sioned…” a 617: “Pedair merch ‘r wyf i’n eu caru…”.

3 Ni ellid dweud â hollol sicrwydd taw ddyn yw’r cantor “gwreiddiol” fel petai. Heb os, ni fydde moeseg yr oes cynt o blaid unrhywbeth arall, ond ni ellid rhagdybio bod rhaid i gynnwys y gân dilyn hyn felly (nid yw menyw sy’n “Caru Llawer” yn dilyn moeseg yr oes chwaith!). Ond mae rhai awgrymiadau o’i rywedd yn y geiriau: ei fod yn un “o bedwar ar ddeg” o gariadon; bod y cariadon eraill yn cynnwys swyddi a oedd gan amlaf yn wrywaidd yn yr oes; ac yn olaf a phwysicaf, ei ddymuniad i “wneuthur y fargen a’i chloi” – hynny yw, siŵr o fod, ei ddymuniad i’w phriodi hi.

Wrth gwrs, nid oes rhaid i rywedd y cantor/es yng ngeiriau cân-werin cyfateb i’w “gwir awdur” gwreiddiol, os oes (cymerwch “Ffarwel i Langyfelach Lon“, a briodolir i Siencyn Twrbil), ac nid oes rhaid i’r pethau hyn cyfateb i rywedd y cantor sydd yn eu canu chwaith. Cawn yn ein caneuon gwerin roliau rhywedd traddodiadol a phenodol i’r rhan fwyaf, ond cawn hefyd elfen (caniataol?) o drawsnewid rhyngddynt felly – o drawswisgo fel petai, megis Cadi haf y fedwen Fai. Gall hyn atgyfnerthu neu eto ansefydlogi trefn hetero-patriarchaidd cymdeithas.

4 http://www.folktrax-archive.org/menus/cassprogs/051.htm a http://www.folktrax-archive.org/menus/cassprogs/005.htm

5 “Finding a voice in two tongues: gender and colonization“, gan Jane Aaron, yn “Our Sister’s Land“.

6 Yn wir, mae’r pedwerydd pennill yn adlais amlwg o’r gân boblogaidd, “Mae ‘nghariad i’n fenws“.

Ac yn y Hen Benillion gwelwn, yn debyg iawn i drydydd pennill “Caru Llawer”:

355
Mae ‘nghariad i ‘leni fel gwynt o flaen glaw,
Yn caru’r ffordd yma a charu’r ffordd draw.
Ni châr cywir galon yn gariad ond un ;
Y sawl a gâr lawer gaiff fod heb yr un.

Ac am y chweched pennill:

591
Pe cawn fy hen gariad ‘r un feddwl â mi,
Ni fyddwn yn weddw am ddiwrnod ond tri,
Un i gael caru, a’r llall i bar’toi,
A’r trydydd i wneuthur y fargen a’i chloi.

(Unwaith eto, mae T. H. Parry-Williams yn rhoi hwn dan benawd “Ffraethineb”).

Am ddarllen pellach ar bennillion crwydrol yn gyffredinol, gwelwch y pennawd “Y Traddodiad Llafar” yn llyfr “Diwylliant Gwerin Morgannwg”, Allan Janes.

7 Ar y Capeli yn tagu traddodiadau’r werin a sensoriaeth yn y broses o gasglu a chyhoeddi llên gwerin, gwelwch “Diwylliant Gwerin Morgannwg”, Allan James.

8 Yng nghymunedau iwtopaidd, gwagleoedd anarchaidd a pherthnasau personol cawn ddigon o hanesion o (gam)ddefnydd “polyamory” a/neu “free love” fel moeseg niweidiol newydd yr oedd yn gweithio tuag at ddibenion patriarchaidd. (Gwelwch free love” y Saint-Seimoniaid dan Enfantin, y rhan ar “the free love ideal” yn “No Escape from Patriarchy, Male Dominance on Site“, neu efallai perthynas Mary a Percy Shelley am dair enghraifft briodol.) Yn ogystal nid yw gormes wedi diflannu gyda thranc y Capeli – ac nid yw ymddangosiad “absenoldeb” ymyrryd llywodraethol (egwyddor wreiddiol “free love“) wedi profi’n ateb syml chwaith. Yn olaf, rhaid pwysleisio bod cyfeiriadedd anrhywiol hefyd yn ddioddef dan ein trefn hetero-batriarchaidd.

Am ddarllen pellach ar dras y fath syniadau, awgrymwn yr erthygl wych (er diobaith braidd)Undoing Sex: Against Sexual Optimism“, yn y LIES Journal.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s