Beth yw “intersectionality” yn Gymraeg?

cynheidre
Meddiant Glofa Cynheidre yn ystod Streic y Glowyr gan grwpiau cefnogi menywod lleol

Gormes

Ma sawl fath o ormes yn y byd mawr. Ac ma sawl fath o ormes yng Ngwalia fach. Tenantiaid yn cal eu bwrw allan o’u cartrefu, ffoaduriaid yn cal eu carcharu. Tranc ein hiaith.

Gair eang yw gormes. Ond ma hefyd sawl enw i’r mathau cyffredinol o ormes. Hiliaeth; patriarchaeth; y system ddosbarth (a chyfalafiaeth); gorthrwm pobl anabl (“ableism“); dominyddu anifeiliaid arall; strwa’r amgylchedd – dyma mond rhai ohonynt.

Nid Noson Lawen o bell ffordd. Ond ma wrth gwrs sawl frwydr yn erbyn gormes ‘fyd. Cawn wrthsefyll troadau allan, gwrthwynebu’r “UKBA”, brwydr yr iaith. Cawn gwrth-hiliaeth, gwrth-gyfalafiaeth, ffeminyddiaeth.

Intersectionality

Ystyr y term Saesneg “intersectionality” yw bod y mathau gwahanol o ormes, dominyddu a gwahaniaethu yn ymgroesi ei gilydd. Maent yn intersecto. Nid ydynt yn cwbl annibynnol o’i gilydd na chwaith yn cau ei gilydd allan fel petai. Mae menyw Ddu yn cael profiad o rywiaeth (“sexism“) ac o hiliaeth. Ond nid yn unig profi’r ddwy ormes arwahan wnaiff hi, ond profi’r un wedi plethu trwy’r llall fel petai – hiliaeth rywiaethol a rhywiaeth hiliol. Bathodd Kimberlé Williams Crenshaw y term intersectionality er mwyn ddadansoddi a mynnu newid i brofiadau menywod Du. Yn ei phapur academaidd esboniai “…gan fod y profiad intersectional yn fwy na swm hiliaeth a rhywiaeth, dydi dadansoddiad nad yw’n cyfrifo am intersectionality methu gafaelyn fodlonus a’r modd penodol darostyngir menywod Du.”[1] Ers anerchiad Crenshaw yn 1989, defnyddir y term i ddadansoddi (a brwydro yn erbyn!) groes-toriad sawl fath o ormes.

Nid am brofiadau unigolion yn unig y defnyddir y gair intersectional, ond hefyd wrth siarad am y systemau neu’r strwythurau sydd yn gormesu a’r ffyrdd maent yn rhyngblethu a chyfuno. Ys wetos bell hooks: “Patriarchaeth gyfalafol gwyn-oruchafol imperialaidd”.[2][3]

Gwelir gwreiddiau’r term intersectionality yn natganiad y “Combahee River Collective” yn 1974. Datganant fod “y prif systemau o ormes yn gydgloadol [“interlocking“]. Cyfuniad y gorthrymderau hyn sy’n creu cyflyrau ein bywydau.”[4][5] Dyma oedd cyfundeb o ffeminyddion lesbiaidd Du, a’u dadansoddiad yn ynghlwm i’w brwydr yn erbyn gormes ar sail hîl, rhywedd (“gender“), rhywioldeb (“sexuality“) a dosbarth. Fel Crenshaw, ysgrifennant o’u hunaniaeth fel Americanesau-Affricanaidd. Siaradant am “simultaneity” gormes (ei “chyd-ddigwyddiad”), rhagflaenydd i intersectionality Crenshaw. Mynnant beidio uwchraddio neu ddarostwng un fath o ormes i fath arall. Ni chredant, yn wahanol i nifer o’r ffeminyddion gwyn yr oeddent yn beirniadu, mai rhywedd oedd y gormes “allweddol”, “bwysicaf”.

Nid Crenshaw na’r Combahee River Collective oedd y cyntaf i siarad am gyfuniad sawl fath o ormes wrth gwrs. Mae pobl eisoes wedi anerchu yn erbyn – ac ymladd yn erbyn – gormes cyfunol. Ond nhw oedd ymysg y cyntaf i ddechrau rhoi termau penodol i’r cyflwr hwn. Wrth ddefnyddio intersectionality fel arf yn erbyn gormes rhaid parchu gwreiddiau’r gair ym mrwydrau menywod Du.

combahee-river-collective
Aelodau o’r Combahee River Collective yn protestio yn erbyn ymosodiadau rhywiol a llofruddiaeth 12 menyw Du yn ardal Boston, 1979.

Intersectionality a Chymru

“Rhan annatod o ymgyrchoedd y Gymdeithas [yr Iaith Gymraeg] yw ymladd yn erbyn y drefn Brydeinig gan gynnwys y drefn gyfalafol sydd wedi arwain at leihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ac wedi dinistrio cymaint o gymunedau Cymraeg eu hiaith … Dyna pam roedd cefnogaeth y CYIG i lowyr Cymru yn ystrod eu streic yn rhywbeth mor naturiol a hawdd i’w rhoi.”

Y Grym Di-Drais, Nodion Ffred Ffransis, 1986

“Gall ffeminyddiaeth Gymreig newydd … fod yn gymorth nid yn unig wrth adeiladu Cymru lai rhywiaethus ond hefyd Cymru sydd â mwy o ryddid rhag effeithiau hirdymor gwladychu diwylliannol.”

Finding a voice in two tongues: gender and colonization (yn Our Sister’s Land), Jane Aaron, 1994 [6]

Arf gref yw intersectionality wrth geisio chwalu gormes yng Nghymru heddiw. Mae tranc yr iaith ynghlwm i Brydeindod a chyfalafiaeth, fel noda Ffred Ffransis uchod. Roedd streic y glowyr (1984-5), ymdrech mawr yn erbyn cyfalaf, hefyd yn adeg fawr i’r frwydr ffeminyddol (fel mae’r llun uchod yn tystio). Mae Jane Aaron yn ei thestun yn dangos bod hanes ein patriarchaeth ynghlwm i wladychu Brad y Llyfrau Gleision. Mae gobeithion gwrth-batriarchaidd yn wrth-wladychol felly.

Yn aml ddathlir y ffaith bod brwydr yn intersectional. Mae cwffio gormes cydblethiedig heb os yn rhywbeth i ddathlu. Ond mae rhyngblethiad gormes yn rhywbeth anodd a rhwystredig, yn ein bywydau ac yn ystod ein brwydrau. Ac wrth gydnabod bod sawl math o ormes yn y byd, a’u bod nhw mewn perthynas cymhleth gyda’i gilydd, rhaid sylweddoli bod hi’n bosib i grŵp sydd yn honni eu bod yn ymladd math benodol o ormes ail-greu math arall. Dyma oedd sbardun y Combahee River Collective: eu bod yn bosib i ffeminyddion (a oedd yn wyn a dosbarth canol) fod yn hiliol a gwrth-ddosbarth gweithiol. Dyma gymhlethdod ein byd. Cawn gwrth-gyfalafwyr batriarchaidd, cawn ffeminyddion trawsffobaidd, ac yn y blaen. Siwd ma menyw yn ymwneud ag undeb llafur sydd â thueddiadau patriarchaidd felly? Siwd ma menyw-draws yn ymwneud â grŵp ffeminyddol sydd ag aelodau trawsffobaidd? Gormod o weithie ma rhaid ymladd y frwydr “tu fewn” i’r frwydr fel petai, cwffio sawl fwystfil gormesol heb ysbaid.

paulrobesonproudvalley
David Goliath, cymeriad Paul Robeson, yn ymateb i hiliaeth rhai o’i gyd-glowyr yn y ffilm “Proud Valley” (1940). [7]

Fel man ymadael mae intersectionality yn cwnnu sawl cwestiwn strategol anodd felly.

Pryd dylwn ni ymdrefnu arwahan (er enghraifft, grŵp i bobl traws yn unig) neu ar y cyd? Os ffocysir ar un frwydr benodol, siwd ma gwneud hyn heb anwybyddu ac ail-greu gorthrymderau gwahanol? Beth yw rôl person nad yw’n dioddef, neu sy’n rhan o achosi, y gormes dan gwestiwn (rôl dynion syth ac untu (“cis“) wrth chwalu patriarchaeth er enghraifft)?

Siwd i frwydro dros yr iaith heb gymathu i gomersialeiddio cyfalafiaeth a buddion y crachach parchus? Siwd i ddelio a thueddiad hanesyddol y mudiad llafur i Seisnigeiddio yng Nghymru? Siwd i ddatblethu Cymreictod a goruchafiaeth-wen? Siwd i chwalu patriarchaeth Gymreig a chwalu ein gwladychiad gan Loegr?

Intersectionality yw dechreuad, nid diweddglo, brwydr fawr a chymhleth.

Intersectionality yn Gymraeg

Mae’n hen bryd ceisio cyfieithiad, neu fathu gair tebyg newydd, am intersectionality.

Cynnig anarchwaethus yw “rhyngblethu”.

Mae sawl ormes yn plethu, yn ymnyddu, ac yn ffurfio hen anghenfil newydd. Mae’n bosib dilyn llinyn un ormes, ond yn rhywle mae’n dechre gwau, yn igam-ogam, yn drefnus fanyn ac yn gymhleth ac anniben fan arall, gan glymu â sawl llinyn arall i greu gorthrwm ein byd, “cyflwr ein bywydau”.

Cadwyn megis cwlwm Celtaidd yw gormes ein gwlad – rhaid ei datblethu’n ara deg, a’i dorri’n reit gloi.

Darllen Pellach

Demarginalizing the Intersection of Race and Sex: A Black Feminist Critique of Antidiscrimination Doctrine, Feminist Theory and Antiracist Politics”. Kimberlé Williams Crenshaw

The Combahee River Collective Statement”. Combahee River Collective

Atodiad: Gormes neu Ecsbloetio

Wrth i’r Combahee River Collective ymdrin â chymhlethdod gormes mi roedd y ffeminyddion “Autonomia” (awtonomaidd neu “autonomist“) a’r mudiad “Cyflogau am Waith-Tŷ” (“Wages for Housework“) yn ymdrin â chymhlethdod ecsbloetio. I siarad yn fras, ddatblygodd theori’r cyntaf trwy feirniadaeth o’r mudiad ffeminyddol (a welant yn cynrychioli buddion menywod gwyn, syth a dosbarth-canol), lle ddatblygodd theori’r ail trwy feirniadaeth o fudiad y gweithwyr a mudiadau gwrth-gyfalafol (a welant yn cynrychioli buddion gweithwyr gwrywaidd).

Anodd yw rhannu’r ddau gysyniad – math o ormes yw ecsbloetio mewn ffordd, eto mae ecsbloetio yn dibynnu ar ormes yn ogystal. Ond pwyslais ecsbloetio fan yma yw meddiant llafur – bod cynnyrch a gwerth gwaith unigolyn, neu grŵp o unigolion (y gweithwyr), yn cael ei fachu oddi wrthynt er budd unigolyn neu grŵp arall (y cyfalafwyr – y meistri a’r perchnogion), neu at ryw bwrpas arall (cyfalaf). Pwyslais y ffeminyddion awtonomaidd, ac eraill, megis Angela Davies a Selma James oedd ecsbloetio gwaith menywod dosbarth gweithiol (gan gynnwys gwaith di-dâl yn y cartref) gan ddynion a chyfalafiaeth. Ar drywydd tebyg, mae nifer yn y traddodiad radical Du – fel W. E. B. Du Bois, C. L. R. James, Selma James ac Angela Davies unwaith eto, wedi pwysleisio ecsbloetio llafur pobl Du (o gaethwasiaeth i garchardai).

Cynt roedd y rhan helaeth o anarchyddion a Marcswyr traddodiadol ac Ewropeaidd wedi uwchraddio dosbarth a’r frwydr rhwng llafur (gwrywaidd, cyflogedig) a chyfalaf fel y categorïau pwysicaf. Mi wnaeth y theorïau a’r brwydrau newydd hyn pwysleisio rhan hanfodol a chanolig gorthrwm menywod a phobl Du i weithrediad cyfalafiaeth a bodolaeth dosbarth. Nid gweddillion oes cyn cyfalafiaeth, na chwaith gormes eilradd a fydd yn diflannu “ar ôl” y chwyldro gwrth-gyfalafol yw hiliaeth a phatriarchaeth, ond elfen hanfodol o ecsbloetio cyfalafiaeth a’r frwydr yn ei herbyn.

Enghreifftiau da (er weddol ddwys) o theori diweddarach o’r ongl “materiaethol” hon yw:

Nifer o’r testunau yn y LIES Journal

Y pennawdau ar hîl a rhywedd yn Endnotes #3

Caliban and the Witch Silvia” Silvia Frederici

Nodiadau

1 “Because the intersectional experience is greater than the sum of racism and sexism, any analysis that does not take intersectionality into account cannot sufficiently address the particular manner in which Black women are subordinated.” “Demarginalizing the Intersection of Race and Sex: A Black Feminist Critique of Antidiscrimination Doctrine, Feminist Theory and Antiracist Politics”. Kimberlé Williams Crenshaw

2Imperialist white supremacist capitalist patriarchy”. Ma bell hooks yn esbonio’r brawddeg (heb yr “imperialist”) yn y fideo Cultural Criticism & Transformation, bell hooks

3 Kyriarchy” yw’r enw mae rhai, yn dilyn Elisabeth Schüssler Fiorenza yn 1992, yn rhoi am system cyfuniadol o ormes.

4The most general statement of our politics at the present time would be that we are actively committed to struggling against racial, sexual, heterosexual, and class oppression, and see as our particular task the development of integrated analysis and practice based upon the fact that the major systems of oppression are interlocking. The synthesis of these oppressions creates the conditions of our lives.” “The Combahee River Collective Statement”. Combahee River Collective

5 Nid barnau rhagfarnllyd a ddigwyddir nawr ac yn y man yw gormes i Crenshaw na’r Combahee River Collective. Maent yn pwysleisio mae rhywbeth beunyddiol a phersonol, yw gormes, ond hefyd rhywbeth strwythurol. Nid opiniwn unigolyn hiliol mewn gwagle yw hiliaeth er enghraifft, ond system bwer sydd yn cynnwys unigolion hiliol argyhoeddedig ond hefyd hanes strwythurol goruchafiaeth wen, o gaethwasiaeth i’r system garchardai. Mae Andrea Smith yn pwysleisio’r pwynt bwysig hyn (ymysg trafod sawl peth arall) yn ei thestun “The Problem with “Privilege”“:

“That is, the undoing of privilege occurs not by individuals confessing their privileges or trying to think themselves into a new subject position, but through the creation of collective structures that dismantle the systems that enable these privileges”

6 “A new Welsh feminism, following a parallel route, may not only aid in the construction of a less sexist Wales but also of one more free from the long-term effects of cultural colonization.”

7 Fe wetodd Robeson am Gymru mai yno ddeallodd “am y tro cyntaf brwydrau [dosbarth gweithiol] pobl gwyn  a Du llaw yn llaw – pan es i lawr glofa yng Nghwm Rhondda, a byw yn eu mysg nhw”. Welsh miners’ hero Paul Robeson’s life to be turned into a film by 12 Years a Slave director, Wales Online.

Wyddoch chi am gynigion eraill am intersectionality yn Gymraeg, neu oes gyda chi cynnig eich hun?

4 o sylwadau am “Beth yw “intersectionality” yn Gymraeg?

  1. Wedi mwynhau y blog yn fawr. Wedi codi lot o gwestiynnau i mi ac yn edrych mlaen darllen ymhellach trwy’r dolenni allanol.
    Dwi’n teimlo fod rhyngblethiad yn derm rhy gyffredin ac ysgafn gyda sawl defnydd parod.
    O gymeryd y gair intersection a’i ystyr americanaidd o ‘groesffordd’, buaswn yn cynnig Croesfforddiaeth fel term unigryw gyda chydig mwy o gic gorthrymol tu cefn iddo.

    Hoffwyd gan 1 person

Gadael sylw